Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Ymchwilio a Gorfodi

💰 £31,210 - £38,160 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Ymchwilio a Gorfodi

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Contract: Tymor penodol neu secondiad am 6 mis yn gychwynnol gyda’r posibilrwydd o ymestyn gan ddibynnu ar amgylchiadau ar y pryd.

Oriau Gwaith: 22 awr yr wythnos (3 diwrnod)

Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn (pro rata)

Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun

Cyfweliadau: 26 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)

Dyletswyddau penodol

** YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Â SAFONAU **

  • Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail amheuaeth o fethiant a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd.

  • Bod yn gyfrifol am wneud cynigion ynghylch argymhellion neu gamau gorfodi neu gosbau sifil priodol i’w gosod yn eu lle yn unol â gofynion deddfwriaeth iaith. Diweddaru gwybodaeth ynghylch gweithrediad unrhyw gamau neu argymhellion a osodir.

  • Bod yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i’w osod yng nghofrestr camau gorfodi Comisiynydd y Gymraeg.

 

CYTUNDEBAU SETLO

  • Bod yn gyfrifol am wneud cytundebau setlo a diweddaru gwybodaeth am eu gweithrediad lle bo hynny’n briodol.

    DIFFYG CYDYMFFURFIO Â SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU A EFFEITHIR ARNYNT

  • Bod yn gyfrifol am ymdrin â chwynion yn unol â chanllawiau a pholisïau Comisiynydd y Gymraeg gan eu datrys yn syth lle fo’r mater yn rhwydd i’w ddatrys.

  • Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail tystiolaeth ddibynadwy a gwirio cwynion dilys a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd.

  • Bod yn gyfrifol am roi sylw i gwynion gan sicrhau bod ymatebion amserol yn cael eu hanfon at ohebwyr yn unol â chanllawiau gohebu’r Comisiynydd. Rhannu gwybodaeth allweddol er mwyn cyflawni dibenion gwaith a sicrhau mynediad i swyddogion perthnasol at wybodaeth gan warchod cyfrinachedd.

  • Bod yn gyfrifol am ymwneud gydag achwynwyr a sefydliadau mewn modd cwrtais a phriodol gan eu diweddaru ar achosion yn gyson.

 

RHYDDID I DDEFNYDDIO’R GYMRAEG

  • Ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn unol â gweithdrefnau a pholisi’r Comisiynydd gan lunio adroddiadau y gall y Comisiynydd ddyfarnu ar eu sail.

     CYNGOR A CHYMORTH CYFREITHIOL

  • Yn unol ag adrannau 8 – 10 Mesur y Gymraeg bod yn barod i ystyried ceisiadau am gymorth a chyngor cyfreithiol yn ogystal â chynorthwyo’r uwch swyddog i ystyried dwyn achosion neu ymyrryd mewn achosion cyfreithiol.

     **TRIBIWNLYS Y GYMRAEG **

  • Paratoi gwaith papur ar gyfer achosion Tribiwnlys y Gymraeg a chyfrannu at lunio datganiadau achos a darparu tystiolaeth i gwmnïau cyfreithiol fel bo angen. Rhoi barn ar ddrafftiau o ddatganiadau achos a chadw cyswllt gydag uwch swyddogion pan fo angen.

         **DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL **

  • Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.

  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.

              Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid.  Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw. 

Cyflog

💰 £31,210 - £38,160 pro rata

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29,439 - £32,020 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £19,020 - £20,994 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £26,386 - £31,411 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £18,737 - £21,707 pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £26,900 - £30,610 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £31,210 - £38,160 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,745 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

💰 £42,768 - £47,446 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £54,516 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,909 - £38,296 pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £26,565 - £29,331 📍 Rhydaman Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £43,516 - £45,495 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30,957 📍 Caerdydd📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24,528 📍 Hybrid Ar gau

💰 £18,000 📍 Cenedlaethol Ar gau