Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Weithiwr Cefnogi Lloches Ynys Môn

💰 £24,895 - £27,201 📍 Ynys Môn Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Uwch Weithiwr Cefnogi Lloches Ynys Môn

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atadl digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.

(Mae’r swydd wedi ei heithrio o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 – merched yn unig fydd yn cael eu hystyried) 

Disgrifiad:

  1. Cefnogi a darparu gwasanaeth rheng flaen rhagweithiol o ansawdd uchel i unigolion a theuluoedd sy'n profi cam-drin domestig; darparu llwybr cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch ac amddiffyn gan weithio ar draws pob lefel o risg.
  2. Dealltwriaeth am wybodaeth ddamcaniaethol, ymarferol a gweithdrefnol o safbwynt datrysiadau cyfiawnder sifil a throseddol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig a'u plant.
  3. Cynnal perthynas gadarnhaol a therapiwtig â defnyddwyr gwasanaeth gan ddangos dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â thrawma, anhwylder personoliaeth ac ymlyniad.
  4. Rheoli mentoriaid yn annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am oruchwyliaeth, rheoli achosion ac adolygiadau blynyddol.
  5. Trefnu rotas i sicrhau bod y cynlluniau’n darparu cefnogaeth uniongyrchol i ddefnyddwyr gwasanaeth yn unol â gofynion y cytundeb gwasanaeth.
  6. Esbonio cynnwys cytundeb trwydded, gan nodi hawliau defnyddwyr gwasanaeth a'u cyfrifoldebau mewn eiddo tai â chymorth.
  7. Cyfrifoldeb am gwblhau'r broses at gyfeirio ac asesu ar gyfer darpar ddefnyddwyr gwasanaeth, a chwblhau asesiad anghenion / risg yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r prosiect.
  8. Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ysgogi defnyddwyr gwasanaeth i ragori yng nghanlyniadau'r Grant Cymorth Tai: -
    1. Teimlo'n ddiogel
    2. Cyfrannu at eu diogelwch a’u lles eu hunain, ac eraill
    3. Rheoli Llety
    4. Annog perthynas iach
    5. Teimlo'n rhan o'r gymuned
    6. Rheoli Arian a Chyllideb
    7. Cymryd rhan mewn addysg a dysgu
    8. Ymchwil i gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli
    9. Iechyd a lles
    10. Iechyd meddwl
    11. Annog ffordd iach o fyw
  9. Arwain a gweithredu i fonitro a chwblhau cynllun cymorth unigol gyda defnyddwyr gwasanaeth yn rheolaidd gan gymryd cyfrifoldeb am drafod lefel yr angen, yr amcanion, y canlyniadau, y dewisiadau a'r cynnydd sy'n cyd-fynd â chanllawiau'r Rhaglen Grant Cymorth Tai.
  10. Asesu risg a phenderfynu ar lefel risg a chymryd cyfrifoldeb i gynllunio cynllun rheoli risg sy'n ymateb i anghenion defnyddwyr gwasanaeth.
  11. Cynnal ffeiliau defnyddwyr gwasanaeth yn unol â gofynion statudol, cyfraith diogelu data gyda chofnodion ansawdd clir a chryno, gan wneud defnydd llawn o'r system rheoli achosion Discovery.
  12. Cyfrifoldeb am ddarparu adroddiadau ansawdd penodol ar faterion perthnasol e.e. adroddiadau llys, atgyfeiriadau MARAC, cyfarfodydd achos ac astudiaethau achos rheolaidd.
  13. Ymateb a gweithredu'n brydlon a hysbysu'r Arweinydd Tîm am unrhyw achosion Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed gan cwblhau atgyfeiriadau cywir a ffeithiol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.
  14. Cefnogi defnyddwyr gwasanaethau i eirioli gyda chyfreithwyr, yr Heddlu, y Llys, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Tai, Asiantaethau Hawliau Lles, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd ac asiantaethau perthnasol eraill a'u cefnogi trwy'r broses.
  15. Rhoi gwybodaeth i'r unigolion am faterion perthnasol gan gynnwys tai, hawliau lles, amddiffyniad cyfreithiol, gwasanaethau cymdeithasol, sefydliadau addysg ac ati a'u cynorthwyo i lenwi ffurflenni perthnasol.
  16. Trefnu gwasanaethau perthnasol ac arbenigol sydd eu hangen ar ddefnyddwyr gwasanaeth gan eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol yn ôl yr angen. Gan gynnwys mynychu cynadleddau achos neu gyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol (e.e. Tîm Iechyd Meddwl, Tîm Camddefnyddio Sylweddau, Swyddfa Cyngor ar Bopeth.)
  17. Rhoi cyngor i ddelio â materion budd-dal lles gan ystyried effaith diwygio lles ar ddefnyddwyr gwasanaeth, hyrwyddo cynhwysiant ariannol a chynnal profion fforddiadwyedd.
  18. Monitro a rheoli cyfrifon rhenti, gan gysylltu â'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn eu hawl lawn i Fudd-dal Tai ac i leihau gordaliadau Budd-dal Tai.
  19. Rheoli ac ymateb i anghydfodau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, casglu tystiolaeth a chwblhau adroddiadau manwl ar ddigwyddiadau difrifol i'r Arweinydd Tîm. 
  20. Cynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ag asiantaethau allanol gan gynnwys cynlluniau mewnol Gorwel. 
  21. Arwain i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i reoli cyllideb bersonol gan eu helpu i gwblhau ceisiadau grant i fynd i'r afael â thlodi.
  22. Cyfrifoldeb am gefnogi ac annog defnyddwyr gwasanaeth yn y prosiect i sefydlu perthnasoedd cadarnhaol â'u perthnasau (os yw'n ddiogel gwneud hynny).
  23. Annog defnyddwyr gwasanaeth i fanteisio'n llawn ar gyfleoedd hyfforddi, gwirfoddoli a chyflogaeth.
  24. Arwain a chefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan neu drefnu gweithgareddau cymunedol gyda phwyslais ar gyfleoedd gwirfoddoli sy'n arwain at gyflogaeth
  25. Cyfrannu at hyrwyddo cyfranogiad i sicrhau y gall defnyddwyr gwasanaeth ddylanwadu ar y gwasanaeth a ddarperir gan Gorwel.
  26. Meddu ar wybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i gam-drin domestig, digartrefedd a chefnogaeth.
  27. Cyfrifoldeb i fynd i'r afael â gwaith gweinyddol sy'n ymwneud â'r swydd trwy gadw a chasglu dadansoddiadau sy'n cynnwys canlyniadau'r Rhaglen Grant Cymorth Tai ac ystadegau Cymorth i Ferched.
  28. Hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron, Microsoft Office ac iPad.

Cyflog

💰 £24,895 - £27,201

Lleoliad

📍 Ynys Môn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

💰 Dibynnol ar brofiad 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Bethesda Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £25k 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Cymru📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24k - £28k 📍 Hyblyg📍 Castell Brychan Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 O gartref📍 Teithio ledled Cymru Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 Yn unol a phrofiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,344 - £30,151 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau