Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Cynllun Hafod y Gest

Grŵp Cynefin

💰 £25,667 pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Reolwr Cynllun Hafod y Gest

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Hoffech chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ein Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Hafod y Gest, Porthmadog?

Disgrifiad:

  1. Darparu cefnogaeth briodol i drigolion i’w galluogi i gynnal eu tenantiaeth yn llwyddiannus ac i fyw mor annibynnol â phosib. Llunio a diweddaru asesiad o anghenion yr unigolyn, datblygu Cynllun Cefnogaeth Unigol ac asesiadau risg. Bydd y gefnogaeth yn cyd-fynd â deilliannau rhaglen Cefnogi Pobl, sef cefnogi unigolion i:-
    1. Deimlo’n ddiogel
    2. Cyfrannu at ddiogelwch a lles eu hunain ac eraill
    3. Rheoli llety
    4. Ysgogi perthynas iach
    5. Teimlo’n rhan o’r gymuned
    6. Rheoli arian a chyllideb
    7. Cymryd rhan mewn addysg a dysgu
    8. Ymchwilio i gyfleon gwaith a gwirfoddoli
    9. Hybu iechyd a lles
    10. Iechyd meddwl
    11. Ysgogi ffordd o fyw iach
  2. Mynychu cyfarfodydd achos fel fo’n briodol. Cyfeirio ymlaen/arwyddbostio at asiantaethau neu wasanaethau proffesiynol neu arbenigol fel fo’n briodol ac adrodd ar ddeilliannau i gomisiynwyr Cefnogi Pobl fel bo angen.
  3. Cysylltu’n rheolaidd gyda’r tenantiaid gan sicrhau cyswllt dyddiol gyda rhai unigolion yn unol â’u asesiad anghenion. Delio gydag unrhyw ymholiad yn brydlon ac effeithiol.
  4. Datblygu perthynas waith effeithiol gyda’r tîm gofal ar safle a hefyd gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill er mwyn hyrwyddo lles a chwrdd ag anghenion cymorth y tenantiaid e. gweithwyr cymdeithasol, darparwyr gofal/cefnogaeth, gweithwyr maes iechyd, asiantaethau gwirfoddol a chydweithwyr o fewn Grŵp Cynefin.
  5. Gweithredu trefniadau dyrannu a gosod y cynllun yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas. Delio ag ymholiadau am lety ac ymweld â darpar denantiaid yn eu cartref gan ddilyn polisïau perthnasol e.e. iechyd a diogelwch. Sicrhau bod trosiant eiddo gwag yn cyrraedd targed gweithredu’r Gymdeithas.
  6. Hyrwyddo cynhwysedd ariannol a chefnogi’r tenantiaid i gael gwybodaeth briodol am eu hawliau, budd-daliadau lles, cyllido ayb i leihau’r risg iddynt fynd i ddyled rhent. Cyfeirio at wasanaethau arbenigol fel fo angen.
  7. Gweinyddu prosesau cyfrifon rhent a gwasanaethau (utilities) yn gywir a chadw gwybodaeth yn gyfredol, gan gynnwys agor tenantiaethau newydd, cau cyfrifon yn amserol ac uchafu incwm rhent y Gymdeithas trwy reoli ôl-ddyledion rhent yn effeithiol.
  8. Cysylltu’n rheolaidd gyda’r Adran Budd-daliadau Tai i sicrhau bod rhenti’n cael eu talu’n brydlon, i reoli achosion o ordalu ac i drafod apeliadau. Cysylltu gyda’r Adran Cefnogi Pobl ynglŷn â thaliadau Grant Rhaglen Cefnogi Pobl.
  9. Ymateb yn brydlon ac effeithiol i achosion o anghydfod cymdogion neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Trafod achosion difrifol gyda’r Arweinydd Tim.
  10. Sicrhau fod systemau gwybodaeth y cynllun yn gywir a chyfredol, gan sicrhau cydymffurfiad â gofynion Diogelu Data.
  11. Cydweithio gyda darparwyr arlwyo a glanhau er mwyn sicrhau gwasanaeth safonol.
  12. Bod yn gyfrifol am hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ym mhob agwedd o weithgareddau’r cynllun. Cydweithio gyda’r Arweinydd Tîm i ymgynghori a mesur bodlonrwydd tenantiaid ac ymateb i adborth am wasanaethau er mwyn hybu gwelliant parhaus.
  13. Sicrhau rhaglen amrywiol o weithgareddau cymdeithasol a hwyluso defnydd o’r cyfleusterau cymunedol. Annog a chefnogi trigolion i gymryd rhan ac i drefnu a chynnal gweithgareddau eu hunain. Cynnal asesiadau risg fel bo’n berthnasol.
  14. Cyd-weithio’n agos gyda’r Tîm Cynnal a Chadw i gynnal safonau a chyflwr eiddo’r Gymdeithas; adrodd am waith trwsio yn amserol a sicrhau mynediad i weithwyr gyflawni’r gwaith angenrheidiol. Monitro safon gwaith contractwyr ar safle e.e. glanhau neu arddio.
  15. Mewn cydweithrediad â’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, gwirio materion iechyd a diogelwch y cynllun yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas, gan gynnwys asesiadau risg, profi system tân, CCTV a theleofal. Sicrhau bod y trigolion yn ymwybodol o’r trefniadau argyfwng a sicrhau bod proses PEEPS y Gymdeithas (Personal Emergency Evacuation Plans) yn cael ei gweithredu. Cadw cofrestr o ddodrefn ac offer cymunedol a sicrhau eu bod mewn cyflwr safonol a diogel. Cydweithio i sicrhau bod y tîm gofal ar-safle, ymgymerwyr allanol ayb yn ymwybodol o drefniadau argyfwng y cynllun. Cadw cofrestr o ddodrefn ac offer cymunedol a sicrhau eu bod mewn cyflwr safonol a diogel. 
  16. Sicrhau bod y ddarpariaeth llinell gofal yn cael ei drosglwyddo yn ystod cyfnodau pan nad oes staff ar safle. Bod yn gyfrifol am wirio bod y ddarpariaeth llinell gofal yn gweithio. Sicrhau fod y darparwr llinell gofal yn derbyn gwybodaeth gywir a chyfredol am y tenantiaid.
  17. Rheoli defnydd yr ystafell ymwelwyr.
  18. Rheoli a monitro unrhyw fân incwm a gwariant yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas.
  19. Creu cysylltiadau cadarnhaol gyda’r gymuned ehangach er budd y tenantiaid a sicrhau fod y cynllun yn adnodd defnyddiol i’r gymuned leol. Cydweithio gyda’r Uwch Swyddog i farchnata’r cynllun yn effeithiol.
  20. Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i adrodd am ddeilliannau neu ddangosyddion perfformiad fel bo angen.
  21. Cyd-weithio’n agos gyda chynllun tai gwarchod Maes y Mor (a bod ar gael i gynorthwyo yno ar adegau o wyliau a salwch y staff).

 

Cyflog

💰 £25,667 pro rata

Lleoliad

📍 Porthmadog

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Theatr Genedlaethol Cymru

💰 £33,036 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg +1 Ar gau

Amgueddfa Lechi Cymru

💰 £19,876 - £24,202 📍 Caernarfon Ar gau

Golwg Cyf.

💰 I'w drafod 📍 I'w drafod Ar gau

Portal

💰 £27,000 - £32,000 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £21,630 - £23,715 pro rata 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £25,927 - £29,174 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Partneriaeth Awyr Agored

💰 £30,000 📍 Hybrid Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £35,333 - £42,155 📍 Aberystwyth📍 Bangor Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £20,043 - £22,129 📍 Caerdydd Ar gau

Prifysgol Caerdydd

💰 £34,304 - £40,927 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

💰 £33,486 - £44,625 📍 Hybrid Ar gau

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

💰 £44,625 - £48,876 📍 Hybrid Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 £15,000 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +1 Ar gau

Gwasg y Bwthyn

💰 I'w drafod yn unol a phrofiad 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £30,984 - £32,798 📍 Caernarfon Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £21,730 - £23,177 📍 O gartref Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £30,000 📍 Llanfairpwll Ar gau

Y Groes Goch Brydeinig

💰 £21,914 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

Cwmni Ymchwil Arad

💰 £23,625 - £27,825 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau