Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Adnoddau Dynol

S4C

💰 £30k - £38k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Mae S4C yn edrych am Reolwr Adnoddau Dynol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Pwrpas S4C yw gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.    Mae S4C yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol profiadol i ymuno a’r tîm. Mi fyddwch yn darparu gwasanaeth AD i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, reoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.

Mae’r rôl yn atebol i Bennaeth Adnoddau Dynol.

Os hoffech sgwrs am y rôl, plîs cysylltwch â [email protected] sef Pennaeth Adnoddau Dynol.

Manylion Eraill

Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid hefyd.

Cyflog:  £30,000 - £38,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.

Cytundeb:   Parhaol

Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.    Ceisiadau 

Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i [email protected] neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Iau 30 Mehefin 2022.

Nid ydym yn derbyn CV

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **

 Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.

Cyflog

💰 £30,000 - £38,000

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Mudiad Meithrin

💰 £21k pro rata 📍 Sir y Fflint📍 Wrecsam Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £27k 📍 Llanelwy Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Llangrannog Ar gau

Elin Jones AS

💰 £21k - £29k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £29k 📍 Bangor Ar gau

Coleg Gŵyr Abertawe

💰 £22k - £42k 📍 Gorseinon Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £28k 📍 Morgannwg Ganol Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £28k 📍 Maelgwyn Ar gau

Y Dref Werdd

💰 £23k 📍 Blaenau Ffestiniog Ar gau

Menter a Busnes

💰 £34k - £36k 📍 Aberystwyth Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £42k - £45k 📍 Llangynnwr Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 Gradd 7 (i’w gadarnhau) 📍 Rhuthun Ar gau

Coleg Gŵyr Abertawe

💰 £45k 📍 Abertawe Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £27k - £34k 📍 Glangwili Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £42k - £45k 📍 Llangynnwr Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £31k - £34k 📍 Glangwili Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £26k - £29k 📍 Llangefni Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

💰 £4.81 yr awr 📍 Glangwili Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £21k - £23k 📍 Bangor Ar gau