Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +3 Ar gau

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymgymryd â rôl newydd, gyffrous sy’n cynnwys –

  • cydlynu a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon

  • hyrwyddo a marchnata cyfleoedd i hyfforddi fel athrawon

  • cydlynu trefniadau cymedroli ar gyfer y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg cenedlaethol

Mae sicrhau gweithlu addysg gyda sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg, darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg nod y Llywodraeth ydy annog mwy o ddarpar athrawon i hyfforddi, ac i gefnogi ymdrechion i sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel pwnc, neu gyflwyno’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. 

Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi elfennau o ‘Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau fod pawb sydd yn hyfforddi ac yn cymhwyso yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel rhan o’u hyfforddiant, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym myd addysg yng Nghymru.

Cyflog

💰 £27,116 – £33,309

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau