Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Bro Morgannwg (Swydd yn cael ei ariannu gan Awdurdod Lleol Bro Morgannwg) - AIL HYSBYSEB

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.

Dyletswyddau’r Swydd

Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.

  • Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn 3 cylch Ti a Fi yn yr ardaloedd dynodedig ym Mro Morgannwg (gweitho gweithio yn unol â chyfyngiadau Cofid-19).

  • Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.

  • Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.

  • Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin.

  • Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd sy'n byw yn yr ardaloedd perthnasol.

  • Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Addysg ayyb i sicrhau bod Ti a Fi yn cael ei hyrwyddo'n weithredol.

  • Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.

  • Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.

  • Casglu a darparu gwybodaeth ystadegol a diweddariadau rheolaidd fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i Lywodraeth Cymru / Mudiad Meithrin, yn unol â gofynion y grant.

  • Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.

  • Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

  • Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog.

  • Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.

  • Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.

  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £19,138 pro rata

Lleoliad

📍 Bro Morgannwg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28.72 - £31.48 yr awr 📍 Abertawe📍 Castell-nedd Port Talbot +1 Ar gau

💰 £31,411 - £35,333 📍 Abertawe Ar gau

💰 £31,411 📍 Abertawe📍 Ar-lein +1 Ar gau

💰 £33,036 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £19,876 - £24,202 📍 Caernarfon Ar gau

💰 I'w drafod 📍 I'w drafod Ar gau

💰 £27,000 - £32,000 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

💰 £21,630 - £23,715 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30,000 📍 Hybrid Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Aberystwyth📍 Bangor Ar gau

💰 £20,043 - £22,129 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £34,304 - £40,927 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,486 - £44,625 📍 Hybrid Ar gau

💰 £44,625 - £48,876 📍 Hybrid Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £15,000 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +1 Ar gau

💰 I'w drafod yn unol a phrofiad 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

💰 £30,984 - £32,798 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,730 - £23,177 📍 O gartref Ar gau

💰 £30,000 📍 Llanfairpwll Ar gau