Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Datblygwr Gwe

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Hyblyg Ar gau

Mae S4C yn edrych am Ddatblygwr Gwe

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sy'n diddanu, cyffroi ac sy'n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i greu llwyfan ac ecosystem i ysgogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio at bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol.

Rydym yn chwilio am Ddatblygwr Gwe profiadol sy'n gallu addasu i dechnolegau newydd a'u dysgu. Pwrpas y rôl yw i ddatblygu darpariaethau digidol S4C, gwella profiad y defnyddiwr, a chyflwyno nodweddion newydd ynghyd â datblygu llwyfannau a gwasanaethau newydd. Bydd y Datblygwr Gwe yn gyfrifol am wneud gwaith datblygu fel rhan o strategaeth ddigidol S4C.

Byddwch yn gyfrifol am waith datblygu a chynnal a chadw, gan gynnwys rhaglenni gwe, rhaglenni symudol, llwyfannau a gwefannau. Mae'r rôl hon yn rhan o'n Hadran Ddigidol a Marchnata ac mae'n rhan o'r tîm Datblygu. Byddwch yn adrodd i'r Uwch Ddatblygwr.

Manylion Eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Cysylltwch â [email protected] os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: Parhaol

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 at [email protected] neu'r adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau