Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Asesydd dan Hyfforddiant - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.5.2024

Mudiad Meithrin

💰 £22k pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 O gartref Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Asesydd dan Hyfforddiant - Cytundeb o'r 1.9.2022 hyd at 31.5.2024

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson addas i hyfforddi fel aseswyr i gyflwyno hyfforddiant ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol, a gofynnion y Cyrff Dyfarnu CBAC / City and Guilds. Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.

Dyletswyddau’r Swydd:   Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Reolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:   Mynychu hyfforddiant i ennill cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol TAQA o fewn 18 mis o ddyddiad cychwyn y swydd drwy gwblhau:

· (Uned 301) uned theori gychwynnol (cyfanswm o 16 awr) o bell drwy Zoom/Google Meet.

· Unedau ymarferol dilynol drwy sesiynau 1 i 1 gyda’r asesydd TAQA yn fisol wedi’r sesiynau cyflwyno, a chasglu a chyflwyno portffolio o dystiolaeth briodol.

· Cyflwyno’r cymhwyster Diploma Lefel 2/3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP) o fewn amser penodedig.

· Dylai’r asesydd o dan hyfforddiant fod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal o dan arweiniad y mentor.

· Mae’n gyfrifoldeb ar yr asesydd o dan hyfforddiant i drefnu ymweliadau, arwain trafodaethau ac i gyfathrebu’n broffesiynol gyda’r dysgwyr, arweinyddion y Cylch, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad.

· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith, o dan arweiniad y mentor.

· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith, wrth ymweld ac o bell, o dan arweiniad y mentor.

· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser.

· Gosod gwaith y dysgwyr ar system electroneg Valid-8.

· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol ar bob penderfyniad asesu.

· Cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddi ar gyfer y cymhwyster Lefel 2 Craidd mewn GChDDP.

· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni.

· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith.

· Mynychu Cyfarfodydd Safoni unwaith bob tymor.

· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.

· Paratoi adnoddau mewn cydweithrediad ag eraill yn ôl yr angen.

· Mynychu Seremoni Wobrwyo flynyddol.

· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.   Cyfweliadau: Wythnos dechrau 25.7.2022 dros Teams

Cyflog

💰 £22,234 pro rata

Lleoliad

📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau