Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ceidwad - Beddgelert

💰 £21,684 📍 Beddgelert Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Geidwad - Beddgelert

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Llais ein tirluniau, hyrwyddwyr cadwraeth a’r rheiny sy’n caru popeth am yr awyr agored. Byddwch yn helpu i gadw cefn gwlad ac arfordir Prydain yn hardd. Gan weithio yn rhai o leoedd a mannau mwyaf godidog y wlad, waeth beth yw’r tywydd, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill a byddwch yn ymdrechu i sicrhau bod tirluniau’n cael eu harddangos ar eu gorau ac yn parhau i syfrdanu ymwelwyr.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Sut brofiad yw gweithio yma?

O ddydd i ddydd byddwch yn rhan o dîm Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghraflwyn (ger Beddgelert). Bydd eich prif ffocws ar rediad dydd i ddydd y feithrinfa goed, yn casglu a phrosesu hadau’n lleol i dyfu’r coed a fydd yn cefnogi ein targedau plannu coed uchelgeisiol. Darperir hyfforddiant a chymorth mewnol ond byddai profiad garddwriaethol blaenorol yn fanteisiol.

Pan na fyddwch yn y feithrinfa, bydd gofyn i chi helpu ar yr ystâd ehangach yn Eifionydd gyda thasgau ymarferol, o ffensio a chodi waliau cerrig sych i blannu coed a rheoli rhywogaethau ymledol. Byddwch yn gweithio'n agos â gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned leol; mae’r mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, felly mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Does dim amheuaeth y bydd yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi yn odidog, ond gall yr amodau ar y mynyddoedd fod yn arw. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored gydol y flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, yn meddu ar brofiad da o weithio yn yr awyr agored, a bod yn wydn ac yn barod i addasu’ch cynlluniau er mwyn gweithio gyda’r tywydd ar y diwrnod.

Eich gwaith

Gan ddilyn arweiniad Cynllun Busnes yr Eiddo, byddwch yn darparu rhaglen waith effeithiol a hyblyg gan gynnwys gwirfoddolwyr a’r gymuned leol lle bo’n bosib, wrth sicrhau cydymffurfiad â chanllawiau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch bob amser.

Gan ddefnyddio eich dealltwriaeth a phrofiad o rywogaethau coed a thechnegau lluosogi byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm bach o geidwaid, yn cydlynu dyddiau gwirfoddoli ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ymgysylltu cymunedol.

Bydd gennych ddealltwriaeth glir o sut mae eich gwaith yn cyfrannu at strategaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i leihau carbon, gwrthdroi gostyngiad mewn bioamrywiaeth a sicrhau bod croeso i bawb.

Gan weithio â’r Prif Geidwad a’r Rheolwr Cefn Gwlad byddwch yn cynllunio gweithgareddau ac allbwn blynyddol y feithrinfa, yn trefnu diwrnodau casglu hadau, yn cadw cofnodion manwl, yn cynorthwyo gyda phrosiectau plannu coed ac yn sicrhau rhediad effeithiol ac effeithlon y feithrinfa goed.

Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil rôl llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.

Am bwy ydyn ni’n chwilio?

Mae ein tîm o’r farn bod pobl yn haeddu mwy na ‘gwasanaeth da’ yn unig, sef profiad anhygoel fythgofiadwy, ac rydym yn chwilio am bobl o’r un anian i ymuno â ni.

Bydd angen i chi:

- Gyflawni gwaith cadwraeth ymarferol er mwyn diogelu ac atgyfnerthu statws cadwraeth yr eiddo ac arddangos brwdfrydedd am natur, treftadaeth a’r awyr agored

- Ymgysylltu ag ymwelwyr i sicrhau eu bod yn deall gwerth eich gwaith

- Helpu i greu lle gwych i weithio ynddo, gan rannu nodau cyffredinol, dangos brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu

- Gallu gweithio’n ddiogel, gydag asesiadau risg a chydymffurfio â gweithdrefnau diogelwch

- Bod â phrofiad o weithio mewn lleoliad rheoli tir, mynediad a chadwraeth

- Gallu defnyddio peiriannau ac offer yn ogystal â meddu ar y tystysgrifau perthnasol gofynnol

- Trwydded yrru lawn y DU

Y pecyn

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd

- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)

- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

Cyflog

💰 £21,684

Lleoliad

📍 Beddgelert

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

💰 £27,741 - £28,226 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,514 pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

💰 £24,982 - £35,745 📍 Ffestiniog Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,396 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau

💰 £43,000 📍 Unrhyw le Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

💰 £20,043 - £20,444 📍 Llanrwst Ar gau

💰 £24,490 pro rata 📍 Llangefni Ar gau

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau