Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hyblyg Ar gau

Mae RSPB Cymru yn edrych am Bennaeth Codi Arian a Chyfathrebu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi eisiau chwarae rhan yn y mudiad i achub byd natur? Rydyn ni’n recriwtio swyddog codi arian a chyfathrebwr eithriadol i weithio’n agos gyda Chyfarwyddwr RSPB Cymru ac i arwain y tîm Codi Arian a Chyfathrebu.

Bydd y swydd gyffrous hon yn addas ar gyfer swyddog codi arian a chyfathrebydd profiadol sy’n gallu cyflwyno a dylanwadu ar lefel uwch gyda staff mewnol a rhanddeiliaid allanol. Bydd yr unigolyn hwn yn darparu arweinyddiaeth strategol ac yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaethau a rhaglenni’r RSPB, a hynny drwy arwain adran arbenigol a darparu cefnogaeth broffesiynol i dimau gweithredol. Mae hon yn rôl amlwg iawn lle gallwch benderfynu sut mae’r RSPB yn cael ei weld a’i gefnogi yng Nghymru.

Beth yw’r rôl?

Rydyn ni’n chwilio am arweinydd dylanwadol a thrawsnewidiol ym maes cyfathrebu a chodi arian i ymuno â’n Tîm Arweinyddiaeth Gwlad yn RSPB Cymru. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chymheiriaid yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Phencadlys yr RSPB i ddatblygu cynlluniau i ymgysylltu â phobl ledled y DU a’u grymuso, gan addasu dulliau gweithredu i gyd-fynd â chyd-destun Cymru. 

Mae’r swydd hon yn ddelfrydol i rywun sy’n mwynhau creu strategaethau, gan ddatblygu pobl, timau a phartneriaethau ac sydd eisiau adeiladu cefnogaeth ar gyfer adferiad natur a’r RSPB. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd profiadol sydd â hanes llwyddiannus o weithio ar y cyd i helpu i lywio cyfeiriad strategol RSPB o ran codi arian a chyfathrebu. Byddwch yn gallu ysbrydoli cyd-weithwyr i gyrraedd targedau uchelgeisiol o ran codi arian, cyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynrychioli brand enwog y mae ein haelodau a’n cefnogwyr yn ymddiried ynddo.

Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Sgiliau arwain a rheoli pobl amlwg, gallu datblygu sgiliau aelodau’r tîm ar gyfer sicrhau perfformiad uchel a meithrin diwylliant cadarnhaol

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur i gyflwyno, dylanwadu a chynrychioli’r sefydliad

  • Sgiliau cydweithio i feithrin perthnasoedd, llywio gwleidyddiaeth a rheoli gwrthdaro

  • Sgiliau rheoli busnes er mwyn deall strategaeth, swyddogaethau busnes a gwneud penderfyniadau

  • Craffter ariannol i reoli cyllidebau, mynd i’r afael â rhagolygon ariannol, deall datganiadau ariannol a defnyddio metrigau busnes

  • Gallu amlwg i weithredu ar strategaethau, datblygu rhaglenni, blaenoriaethu ac arwain newid

  • Gwybodaeth am yr RSPB a’i genhadaeth

  • Dealltwriaeth o Fframwaith Rheoli Prosiectau

  • Sgiliau rheoli a datblygu tîm

   

Sgiliau dymunol

  • Sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn ddymunol. (Cyfeiriwch at y matrics iaith Gymraeg sydd ynghlwm a nodwch eich lefelau cyfredol yn eich cais) 

  • Cymwysterau proffesiynol ym maes cyfathrebu neu godi arian ac aelodaeth o gyrff proffesiynol perthnasol

  • Profiad o eirioli a dylanwadu ar lefel uwch 

  • Profiad neu ddealltwriaeth o fodelau cyflwyno/gweithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc 

  • Profiad o nawdd masnachol neu bartneriaethau corfforaethol

Mae hon yn swydd Amser Llawn, Parhaol am 37.5 awr yr wythnos. Mae hon yn rôl hybrid a gallwch fod yn unrhyw le yng Nghymru. Disgwylir i chi deithio.

Rydym yn edrych i gynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar 11 Awst 2022. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda [email protected]

Fel rhan o’r broses ymgeisio hon, gofynnir i chi ddarparu copi o’ch CV a llenwi ffurflen gais gan gynnwys tystiolaeth ynghylch sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad a restrir uchod. Mae gofyn i chi hefyd gynnwys eich lefelau sgiliau yn unol â’r Matrics Galluogrwydd Iaith Gymraeg yn eich cais.

Mae’r RSPB yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn berthnasol i’r rôl hon.

Rydyn ni’n argymell eich bod yn darllen y nodiadau canllaw i ymgeiswyr sydd ynghlwm wrth frig yr hysbyseb hwn. Caiff y rôl hon ei chyfieithu i’r Saesneg a’i hatodi hefyd.

Cyflog

💰 £52,000 - £57,688

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

💰 Dibynnol ar brofiad 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Bethesda Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £25k 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Cymru📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24k - £28k 📍 Hyblyg📍 Castell Brychan Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 O gartref📍 Teithio ledled Cymru Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 Yn unol a phrofiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,344 - £30,151 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau