Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd TG

💰 £24,657 - £27,433 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd TG

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau.    Yn unol â'n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy'n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy'n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau.   Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau.    Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes i gefnogi ein cynlluniau twf parhaus.   Mae'r tîm TG yn gyfrifol am:

·   reoli gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;

·   ddarparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff   Nod y Swydd

Bydd y Cydlynydd TG yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr TG mewnol a darparwyr gwasanaethau allanol i ddarparu'r gwasanaeth TG, drwy sicrhau cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, sicrhau cynnal systemau a datrysiad problemau i safon uchel, a gweithio ar ddatblygiadau'r Adran TG, gyda chyfrifoldeb dros elfennau mwy cymhleth a thechnegol a'u llwyddiant.   Prif Gyfrifoldebau   ·   Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel

·   Darparu cymorth cynhwysfawr i staff o bell a/neu wyneb i wyneb, trwy ymateb yn broffesiynol i ymholiadau, eu datrys yn effeithiol ac effeithlon, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon

·   Bod yn drydydd bwynt cyswllt i ymholiadau ar y ddesg gymorth, gan gynnig cefnogaeth a hyfforddiant i gyd-weithwyr TG, rhannu gwybodaeth, helpu datrys ymholiadau, ac esgoli ticedi ble fod angen

·   Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, trefnu a/neu ddarparu hyfforddiant lefel uwch, a throsglwyddo gwybodaeth yn ôl y gofyn

·   Cefnogi'r Uwch-gynorthwyydd TG gydag adnabod gofynion, ymchwilio, caffael ac archebu caledwedd, meddalwedd, a gwasanaethau TG, gan sicrhau manylebau a nodweddion addas, gwariant priodol a gwerth am arian

·   Bod yn rhagweithiol i ymchwilio a datrys achosion a phroblemau, gweinyddu systemau a sicrhau parhad gweithrediadau, gan dderbyn achosion wedi'u hesgoli

·   Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal isadeiledd TG y cwmni drwy'r Cylchred Bywyd cyfan (cyfrifiaduron, dyfeisiau symudol, systemau ffôn, fideo-gynadledda, argraffyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, gweinyddion, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad diwifr)

·   Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal systemau craidd a meddalwedd y cwmni (System e-bost a chynhyrchiant, datrysiad cadw data a chydweithio, system gwrth-feirws a diogelwch, system wrthgefn, system rheoli a monitro o bell, system rheoli diweddariadau, system rheoli dyfeisiau symudol, system rheoli cynnwys, system rheoli cleientiaid, a nifer o ddatrysiadau meddalwedd-fel-gwasanaeth)

·   Cyfrannu'n weithredol at ddatblygiadau a phrosiectau TG, derbyn tasgau wedi'u hesgoli, arwain ar nifer o dasgau a rhaglenni gwaith cymhleth neu dechnegol, a sicrhau cwblhad o fewn amserlenni

·   Cefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau TG gyda chyllidebau TG prosiectau, trwy gynllunio adfywio caledwedd, cydlynu efo rheolwyr i gytuno gwariant addas i'w gofynion, a sicrhau gwerth am arian

·   Cefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau TG drwy ofalu am a chydlynu cytundebau cyflenwyr amrywiol, ac awdurdodi anfonebau a gwariant rhagweladwy/cyffredin

·   Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol

·   Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys

·   Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddiogelu data'r cwmni, gan weithio i leihau'r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data, a bod yn rhagweithiol wrth adnabod ac asesu bygythiadau

·   Cyfrannu at ddatblygu polisïau a dogfennau TG dwyieithog yn unol â deddfwriaeth, safonau ac arfer da perthnasol, a chynghori a helpu staff ar ddehongli a gweithredu’r rhain yn gywir, gan gynnwys creu deunydd hyfforddi hawdd eu deall, ac adrodd ar achosion o doriad polisi

·   Gweithio'n agos efo'r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni'n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol, a bod yn rhagweithiol am yr elfennau sydd o fewn eu cyfrifoldebau   **Arall **

·   Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol

·   Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni

·   Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen   Sgiliau a Phrofiad

Cymwysterau / Profiad

Hanfodol

Gradd sylfaen neu HNC, neu gyfwerth, a/neu brofiad amlwg mewn maes perthnasol

Profiad amlwg o weithio a llwyddo mewn rôl TG gyda chyfrifoldebau technegol

Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer mewn amgylchedd TG, a defnyddio system Desg Gymorth

Profiad amlwg o osod, cynnal a chadw caledwedd, meddalwedd, isadeiledd a systemau TG, a darparu cefnogaeth TG mewn amgylchedd busnes

Dymunol

Cymhwyster proffesiynol TG

Profiad technegol mewn seilwaith rhwydweithio a TG, gyda’r gallu i fod yn ymarferol yn ôl y gofyn   Gwybodaeth / Sgiliau

Hanfodol

Gwybodaeth a sgiliau cryf ar nifer o’r canlynol:

– Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android, ChromeOS, Linux, CentOS

– Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, ffôn ddesg, fideo-gynadledda, argraffyddion

– Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office), Rheoli Tasgau a Phrosiectau, Amlgyfrwng, Meddalwedd Cyllid (Sage), System rheoli cynnwys (CMS), System rheoli cleientiaid (CRM)

– Isadeiledd: Technoleg cwmwl, gweinyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad diwifr, NAS, VPN

– Systemau TG: Swît cynhyrchiant (ee Google Workspace), Datrysiadau cynnwys a chydweithio, Diogelwch a gwrth-feirws, System wrthgefn, System ffôn VoIP, Rheoli a monitro (RMM), Rheoli diweddariadau, Rheoli dyfeisiau symudol (EMM, MDM, MAM)

Gwybodaeth gref am dechnolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu, a sut y gellir eu defnyddio at ddibenion busnes penodol

Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Seiberddiogelwch, Cyber Essentials, GDPR, ac arferion gorau’r diwydiant TG   Nodweddion Personol

Hanfodol

Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gyda’r gallu i fod yn ddiplomyddol wrth ddelio ag ymholiadau gan staff

Gallu ymchwilio a datrys problemau, gan gynnwys rhai mwy cymhleth a sylweddol, drwy gymryd ymagwedd wahanol, a gallu cyfleu manteision, anfanteision a risgiau gwahanol ddatrysiadau

Gallu gweithio’n annibynnol mewn modd strwythurol a dadansoddol, yn ogystal â chefnogi eraill fel rhan o dîm

Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig

Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser

Sgiliau cyflwyno clir, diddorol ac ymgysylltiol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol

Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig

Dymunol

Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)   Arall

Hanfodol

Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes   Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs.     Cyfweliadau   Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 5 Medi. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.    Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, 15 Awst

Cyflog

💰 £24,657 - £27,433

Lleoliad

📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29k 📍 Ceredigion Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £42k - £44k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caerdydd📍 Bangor +1 Ar gau

💰 £43k - £52k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £21k 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £9.90/a 📍 Llanfairpwll Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth📍 Hybrid Ar gau

💰 £33k - £39k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £60k - £70k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth Ar gau