Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd cymdeithasol (x 2 swydd)

💰 £23,625 - £27,825 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Cwmni Ymchwil Arad yn edrych am Ymchwilydd cymdeithasol (x 2 swydd)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cwmni ymchwil wedi ei leoli yng Nghaerdydd yw Arad. Mae Arad yn darparu gwasanaethau ymchwil, gwerthuso ac ymgynghori o’r safon uchaf ar ran cleientiaid yng Nghymru a gweddill y DU. Ymhlith ein cleientiaid presennol mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Mae gan ein tîm arbenigeddau ym meysydd addysg a sgiliau; datblygiad economaidd; diwylliant a threftadaeth; polisi plant a phobl ifanc; cyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol. 

Y swydd

Mae ein hymchwilwyr yn cyfrannu at gyflawni prosiectau ymchwil a gwerthuso ansoddol a meintiol. Mae hyn yn cynnwys dylunio offer ymchwil data, cynnal cyfweliadau ansoddol â grwpiau ffocws; cefnogi'r gwaith o gynllunio a gweithredu arolygon; drafftio cynigion ymchwil, ysgrifennu adroddiadau a chysylltu'n broffesiynol â chleientiaid allanol.

Rydym yn bwriadu penodi ar lefel ymchwilydd, gyda dilyniant i lefel uwch ymchwilydd. Mae uwch ymchwilwyr yn rheoli astudiaethau ymchwil gyda goruchwyliaeth, cysylltu â chleientiaid, adolygu cyfleoedd tendro; arwain ar ysgrifennu tendrau; cydlynu gwaith maes; drafftio adroddiadau ymchwil ac ymgymryd â chyflwyniadau. 

Sgiliau a Phrofiad

**Angenrheidiol **

Bydd gan yr ymgeisydd:

·   brofiad o gwblhau gwaith maes (e.e. cyfweliadau, grwpiau ffocws) dadansoddi ac adrodd;

·   y gallu i ddadansoddi a chrynhoi gwybodaeth gymhleth;

·   y gallu i fod yn flaengar a gweithio’n annibynnol; 

·   gymhwyster lefel gradd; 

·   sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i weithio yn uniongyrchol gyda chleientiaid; 

·   sgiliau TGCh da a phrofiad o ddefnyddio pecynnau Office.

Manteisiol

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd:

·    sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog yn y Gymraeg;

·    brofiad fel ymchwilydd neu swyddog polisi; 

·    gymhwyster ôl-radd neu brofiad mewn gwyddorau cymdeithasol / economeg / dulliau ymchwil;

·    brofiad o ysgrifennu adroddiadau;

·    ddealltwriaeth o’r cyd-destun polisi yng Nghymru;

·    brofiad o ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol neu ansoddol.   **SUT I WNEUD CAIS **

I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cyflwyno at Sioned Lewis at [email protected]. Cysylltwch ar yr e-bost hwnnw hefyd os ydych am drefnu sgwrs anffurfiol am y swyddi hyn.

Cyflog

💰 £23,625 - £27,825

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

💰 Dibynnol ar brofiad 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 I'w drafod 📍 Bethesda Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £25k 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

💰 £30k - £32k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21k - £25k 📍 Cymru📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £24k - £28k 📍 Hyblyg📍 Castell Brychan Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 O gartref📍 Teithio ledled Cymru Ar gau

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 Yn unol a phrofiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,344 - £30,151 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau