Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Prifysgol Bangor

💰 £61 - £53k 📍 Bangor Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Gwasanaethau Llywodraethu ym Mhrifysgol Bangor yn awyddus i benodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ar sail barhaol, llawn amser a fydd yn gweithio fel rhan o dîm y Gwasanaethau Llywodraethu. Mae hon yn swydd uwch arweinydd sy'n darparu cyngor cyfreithiol i'r Brifysgol a'i his-gwmnïau a rheoli cyfarwyddiadau i gynghorwyr cyfreithiol allanol y Brifysgol. Gan weithio'n agos gyda Gwasanaethau Proffesiynol eraill, yn enwedig y Gwasanaeth Cymorth Effaith ac Ymchwil Integredig (IRIS), byddai deiliad y swydd yn rheoli tîm o arbenigwyr contractau ac arbenigwyr cydymffurfio cyfreithiol.

Bydd y swydd cyfreithiwr masnachol fewnol hon yn gweld deiliad y swydd yn ymdrin ag amrywiaeth ddiddorol o waith, gan gynnwys contractau masnachol, materion myfyrwyr, eiddo a llywodraethu ar gyfer y Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn chwilio am gyfreithiwr masnachol sefydledig sy'n gallu darparu cyngor cyflawn. Mae sefydlu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid allweddol yn y Brifysgol yn ogystal ag ymgynghorwyr allanol yn hanfodol, ac mae peth profiad o weithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch yn ddymunol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Gyfreithiwr cymwysedig yng Nghymru a Lloegr gyda thystysgrif ymarfer gyfredol gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, gydag o leiaf 4/5 mlynedd brofiad PQE. Bydd gan ddeiliad y rôl brofiad o ddarparu cyngor arbenigol ar ystod o faterion. Bydd yn ddarparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol effeithlon a phragmatig, sy'n seiliedig ar risg, i'r Pwyllgor Gweithredu, uwch reolwyr a staff ar draws y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain a datblygu’r maes gwasanaethau cyfreithiol gan sicrhau bod partneriaethau cryf yn cael eu sefydlu a’u cynnal gyda Cholegau ac adrannau Gwasanaethau Proffesiynol, a chreu cysylltiadau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol. Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyfarwyddo ymgynghorwyr cyfreithiol allanol fel y bo'n briodol. 

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted ag sydd yn rhesymol bosib. Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy fframwaith Gweithio Deinamig y brifysgol, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.

Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu swydd.

I gael manylion pellach a sgwrs anffurfiol am y swydd, anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu â Gwenan Hine, Dirprwy Ysgrifennydd a Phennaeth y Gwasanaethau Llywodraethu, (01248 382413, [email protected])

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865

Dyddiad cau ceisiadau: 4 Hydref 2022.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £53,353 - £61,82

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau