Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Derbynnydd

Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM)

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yn edrych am Dderbynnydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi un neu ddau unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon yn ystod gyda’r nosau a boreau Sadwrn (tymor ysgol yn unig).

Croesawir ceisiadau gan unigolion sydd a diddordeb mewn gweithio 1, 2 neu 3 shift   Cais trwy lythyr a CV gan enwi dau ganolwr. Cyfeiriwch eich cais at Gwydion Davies ([email protected]) CGWM, Galeri Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SQ.

Dyddiad Cau: 5pm dydd Llun y 10fed o Hydref 

Disgrifiad:

Swydd ddisgrifiad Derbynnydd CGWM

Swydd ran amser, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol,tua 39 wythnos y flwyddyn, yn atebol i’r Cyfarwyddwr.

Oriau arferol (gall amrywio): shifftiau 4.5 - 5 awr fydd yn cychwyn a gorffen rhwng 3.30 a 9.30pm ar nosweithiau’r wythnos a 9am – 2pm ar ddyddiau Sadwrn. 

Cyflog: £9.50 yr awr

Lleoliad: CGWM, Galeri Caernarfon. 

I gychwyn cyn gynted a phosibl.

Dyletswyddau

Croesawu’r tiwtoriaid / myfyrwyr / rhieni i’r gangen a delio efo ymholiadau.

Paratoi’r ystafelloedd ymarfer ar gyfer y gwersi a sicrhau eu bod yn cael eu gadael yn daclus a threfnus wrth adael y lleoliad. Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i ddisgyblion, rhieni a thiwtoriaid tra ar shifft gan weithio yn annibynnol yn swyddfa’r Ganolfan.

Delio gydag ymholiadau / negeseuon sy’n codi.

Trosglwyddo negeseuon yn effeithiol i Weinyddydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan.

Trefnu amserlenni tiwtoriaid a gweithgareddau grwp CGWM. Cydweithio gyda derbynwyr eraill i sicrhau rhediad esmwyth gweithgareddau.

Delio gyda thaliadau a pharatoi biliau am wersi gan ddefnyddio systemau gweinyddol y Ganolfan. 

Goruchwylio gweithdai a dosbarthiadau fel bo’r angen 

Paratoi ffurflenni cofrestru a phosteri ar gyfer gweithgareddau. Cadw cofrestrau gwersi.

Gweithredu o fewn gofynion holl bolisiau a Chôd Ymddygiad CGWM.

· Bydd disgwyl i’r unigolyn llwyddiannus gyflawni cyrsiau hyfforddiant perthnasol ar-lein (yn ystod oriau gwaith) - Diogelu plant ac oedolion, Diogelwch Tân, ‘manual handling’, GDPR a mynychu cwrs undydd Cymorth Cyntaf brys a bod yn barod i ddarparu Cymorth Cyntaf petai angen.

Parodrwydd i gynorthwyo’r gydag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol eraill yn ộl y galw mewn trafodaeth gyda’r Gweinyddydd a’r Cyfarwyddwr.   Manyldeb personol

Hanfodol

· Sgiliau rhyngbersonol ardderchog.

· Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

· Sgiliau llythrenedd, rhifyddeg a Thechnoleg Gwybodaeth cryf (yn cynnwys defnydd o Excel, Word a’r cyfryngau cymdeithasol).

· Y gallu i weithio’n hyblyg, annibynnol ac fel rhan o dim.

Dymunol

profiad blaenorol o weithio gyda’r cyhoedd yn ddymunol.   Gan fod y swydd yn ymwneud â gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed gwneir cais am ddatgeliad manwl gan y DBS (Disclosure and Barring Service) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus ac mae’r cynnig swydd yn ddibynnol ar wiriad boddhaol.    Rydym yn gweithredu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae copi ar gael ar ein gwefan sy’n amlinellu ein hymrwymiad i brosesau recriwtio teg : 

Polisïau | Canolfan Gerdd William Mathias (cgwm.org.uk) 

Mae ceisiadau gan unigolion diwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a'u croesawu'n gynnes. 

Os oes gennych anabledd, nodwch yn eich llythyr os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau penodol arnoch ar gyfer cyfweliad. 

Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cydraddoldeb, trwy ddilyn y linc isod. I bwrpas monitro cydraddoldeb yn unig y defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen. 

https://forms.cgwm.org.uk/cgwm/form/MonitroCyfleCyfartalYmgeisyddSwydd/formperma/f2eYNYRYf-jRtJKLdZhI3wvTBbVDTz24zphN1YE5eRI  

Gwarchod Data

·    Byddwn yn trin y data personol a rennir gyda ni gan ymgeiswyr am swydd gyda pharch. Bydd yn ofynnol i ni brosesu data personol ymgeiswyr am swyddi er mwyn ein galluogi i ddilyn y broses recriwtio. Byddwn yn storio’r data personol a ddarperir gan ymgeiswyr am gyfnod o o leiaf 6 mis, neu, os ydy’r gyfraith yn mynnu, am gyn hired ag sydd angen. Ceir rhagor o fanylion am ein ymdriniaeth o ddata personol yn ein polisi preifatrwydd ar ein gwefan. www.cgwm.org.uk/polisiau

·    Nid yw’r rhybudd preifatrwydd hwn yn ffurfio unrhyw gynnig cyflogaeth na chytundeb rhyngom. Os byddwn yn cynnig swydd i chi, byddwn yn rhoi gwybodaeth bellach am ymodd yr ydym yn ymdrin â data personol cyflogai. 

Cyflog

💰 £9.50 yr awr

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

💰 £25,913 - £28,049 ynghyd â lwfans tŷ, lwfans car, costau, a chyfle i ymuno â Chynllun Pensiwn EBC 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Prifysgol Caerdydd

💰 £22,847 - £27,116 📍 Caerdydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21,453 - £25,017 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

RSPB Cymru

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hyblyg Ar gau

Menter a Busnes

💰 £34,198 - £36,335 📍 Meifod📍 O gartref Ar gau

Menter Môn

💰 £61,497 - £69,028 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Môn

💰 £41,667 - £53,966 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Môn

💰 £41,667 - £53,966 📍 Llangefni Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £36,382 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34,304 - £40,927 📍 Bangor Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28,860 - £33,482 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28,235 - £30,854 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28,235 - £30,854 📍 O gartref📍 Pwllheli Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £22,635 - £24,321 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £18,712 - £20,092 pro rata 📍 Bangor Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27,116 – £33,309 📍 Hybrid Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22,234 pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 Hyblyg Ar gau

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

💰 £23,880 📍 Casnewydd📍 Hybrid Ar gau

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

💰 £36,838 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau