Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.

Rydym ni nawr yn edrych am Gydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau i ymuno â ni ar sail llawn amser, parhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -

Byddwch yn darparu cymorth i'r Rheolwr Cyffredinol i gyflawni rhaglen eang o ddigwyddiadau corfforaethol a phrosiectau creadigol. Byddwch yn gyfforddus mewn sgyrsiau creadigol a thechnegol a meddu ar brofiad o gytundebu, prisio ac anfonebu am waith. Byddwch yn ymgymryd â gwaith trefnu rhaglen Yr Egin, er enghraifft digwyddiadau byw, cynadleddau, sgyrsiau, dangos ffilmiau a gweithdai yn ogystal ag arwain ar y ddarpariaeth i gleientiaid allanol sy’n dymuno llogi gofod ac adnoddau.

Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.

- AMDANOCH CHI -

Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

-   Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn rheoli prosiectau, digwyddiadau byw neu’r diwydiannau creadigol.

-   Sgiliau Rheoli Prosiect gwych, gyda phrofiad o oruchwylio’r broses o gydlynu digwyddiadau byw: 

-   Sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i weithio’n annibynnol, fel aelod o dîm ac o dan bwysau.

-   Gallu blaenoriaethu gwaith, gan wneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio eich ysgogiad eich hun. 

-   Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i gefnogi ac annog eraill.

-   Profiad cyllidebu a datblygu incwm gan weithio i dargedau penodedig.

-   Profiad o gyflwyno adroddiadau a chasglu adborth.

-   Gwybodaeth a phrofiad o’r defnydd o dechnoleg angenrheidiol ar gyfer digwyddiadau a phrosiectau.

-   Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau ar-lein.

-   Ymrwymiad amlwg i gydweithio fel rhan o dîm.

-   Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth weithio.

-   Parodrwydd i weithio’n hyblyg er mwyn cyflawni gofynion y rôl.

-   Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol.

-   Siaradwr/aig Cymraeg rhugl a hyderus, gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. 

Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:

-   Gradd uwch 

-   Cymhwysterau corff proffesiynol

-   Profiad o raglennu artistig – naill ai rhaglennu gŵyl, neu leoliad celfyddydau, neu raglennu ardal ddigidol, ac wedi cael profiad felly o fodelau cynhyrchu gwahanol 

- BUDDION

- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol 

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

-    Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

-    Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu

-    Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl

-    Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach

-    Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

-    Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau

-    Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith

Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau , ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.

Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.

Dyddiad Cau: 20 Hydref 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £27,929 - £31,411

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau