Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Bennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn lle gwych i weithio – dewch i ymuno â'r tîm!

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a'ch ymroddiad rydym yn cynnig telerau ac amodau deniadol. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am y cyfle unigryw a chyffrous hwn i ddod yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd. Mewn partneriaeth â rhieni a'r gymuned, nod Ysgol Gymraeg Casnewydd yw cynnig amgylchedd dysgu Cymraeg ysbrydoledig sy'n gwerthfawrogi ac yn datblygu pawb. Rydym yn falch iawn bod Ysgol Gymraeg Casnewydd yn Arloeswr Dysgu Proffesiynol / Cwricwlwm ers mis Ebrill 2016 ac hefyd yn Ysgol Fraenaru ar gyfer y Cwricwlwm ers 2019. Yn ogystal, rydym yn ysgol arweiniol ar gyfer Partneriaeth Prifysgol De Cymru. 

Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd wedi'i lleoli'n gyfleus ar gyrion dwyreiniol y ddinas, llai na 2 filltir o gyffordd 24 yr M4 ac ond 12 milltir o Gaerdydd. 

Mae gennym gyfleusterau ysgol rhagorol wedi'u lleoli mewn mannau gwyrdd a chymuned ysgol groesawgar. Anogir darpar ymgeiswyr i ymweld a gweld hyn drostynt eu hunain! Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â [email protected] i drefnu.

Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Ein datganiad o genhadaeth yw: ‘Meithrin meddyliau yfory gyda’n gilydd’. Ein nôd yw meithrin disgyblion i gyrraedd safonau uchaf posib ac i’w datblygu i feddwl yn ddwys am eu byd a’u rhan o fewn y byd ehangach. 

Am fwy o wybodaeth amdanom, gweler ein cyfrif Trydar: @YsgolGCasnewydd a’n gwefan:

https://www.ysgolgymraegcasnewydd.com/ 

Mae'r Corff Llywodraethu wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sy’n:

·    Arweinydd ysbrydoledig sydd â gweledigaeth glir ar gyfer ein hysgol, gan gynnal a datblygu ethos addysg Gymraeg

·    Meddu ar ddyhead am ragoriaeth ac am feithrin a datblygu ein disgyblion i gyflawni eu llawn botensial

·    Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a rhyngbersonol amlwg i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol

·    Dangos ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad.

·    Gallu meithrin perthynas o barch cyffredin gyda'r plant, y rhieni, y gymuned, y staff, a’r Corff Llywodraethu.

·    Ceisio datblygu trefniadau cydweithio cryf gyda'r holl bartneriaid a sefydliadau sy'n cefnogi'r ysgol.

Bydd llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol er mwyn sicrhau parhad a gwelliant yr ysgol lwyddiannus iawn hon.

**Dyddiadau Allweddol **

Dyddiad Cau : 18/10/22

Llunio rhestr fer: 19/10/22

Dyddiad cyfweld arfaethedig: 27/10/22

Dyddiad Cychwyn: 01/01/2023

Rhaid i ni ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi gyflwyno dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.

Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a chynhelir proses sgrinio gynhwysfawr ar gyfer pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cyflog

💰 £65,266 - £74,847

Lleoliad

📍 Casnewydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 Cyflog Byw yn Wirfoddol 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg Ar gau

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth📍 Hybrid Ar gau

💰 £27k - £30k 📍 O gartref Ar gau

💰 £21k - £24k 📍 Penygroes📍 O gartref Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23k - £26k 📍 Hybrid📍 Glannau Dyfrdwy Ar gau

💰 £32k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Gogledd Orllewin Cymru Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £49k - £54k 📍 Bae Caerdydd📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hybrid📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25k - £28k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

💰 I'w drafod 📍 De a Gorllewin Ar gau