Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Ysgol Cae'r Felin

Ysgol Cae'r Felin, Cyngor Sir Caerfyrddin

💰 £54k - £62k 📍 Pencader Ar gau

Mae Ysgol Cae'r Felin, Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych am Bennaeth Ysgol Cae'r Felin

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dymuna’r llywodraethwyr benodi ymarferwr ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddgar i arwain, herio a pharhau i godi ein dyheadau a sicrhau cyfleoedd dysgu rhagorol i bob disgybl. 

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:

• Gweledigaeth glir am ragoriaeth addysgol ac yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau disgyblion;

• Gallu i adeiladu ar y cryfderau presennol a datblygu potensial disgyblion a staff ymhellach;

• Disgwyliadau uchel o ran cynnydd, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, gan sicrhau bod diddordebau a llesiant disgyblion wrth wraidd yr holl waith cynllunio;

• Egni i gynnal y cyfleoedd Cwricwlwm cyfoethog ac eang, wrth ymgorffori egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau profiadau dysgu perthnasol iawn i bob disgybl;

• Sicrhau cyfleoedd cyfartal, tegwch a rhagoriaeth i bawb;   • Yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu ymgysylltu'n effeithiol â phlant, rhieni, staff a llywodraethwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.   Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â:

Dylan Davies (Chair of Governors @ Cae’r Felin) on 01559 389151 / [email protected]

Aled Eynon (Chair of Governors @ Brynsaron) on 01559 370575 / [email protected]                                         Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Dyddiad Cau: Canol dydd ar dydd Mawrth, 8fed Tachwedd 2022

Llythyrau at Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer: Dydd Gwener, 11eg Tachwedd 2022

Profion Seicometreg Ar-lein: Erbyn dydd Llun, 21ain Tachwedd 2022

Canolfan Asesu: Dydd Gwener, 2il a Llun 5ed Rhagfyr 2022

Cyflog

💰 £53,646 - £62,237

Lleoliad

📍 Pencader

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau