Gweinyddwr Gwasanaethau i Fyfyrwyr
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Weinyddwr Gwasanaethau i Fyfyrwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth am lenwi swydd newydd yn nhîm y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, gan helpu i’w weinyddu, rhoi cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr ac ateb eu hymholiadau. Yn y swydd hon, byddwch chi’n cynnig cymorth gweinyddol proffesiynol i addysgwyr a myfyrwyr yr ysgol, gan roi cymorth a chyngor penodol ynghylch presenoldeb myfyrwyr, amgylchiadau esgusodol, a phrosesau apeliadau academaidd. Bydd angen profiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol, yn ddelfrydol o fewn swydd yn ymwneud ag addysg neu â gwaith Cofrestrfa.
Mae’r swydd hon yn un amser llawn (35 awr yr wythnos) a pharhaol.
Dyddiad cau: Dydd Sul, 24 Gorffennaf 2022
Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Mae Prifysgol Caerdydd am gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb, gan gynnig awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth o staff o sawl cefndir. Felly, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned heb ystyried rhyw, tras, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau o garfanau nad oes llawer o’u haelodau ymhlith gweithlu’r Brifysgol, megis y rhai sy’n uniaethu ag LGBT+, pobl o dras groenddu neu leiafrifol a phobl anabl. Wrth helpu ein gweithwyr i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn ni’n ystyried cynigion ar gyfer gweithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Cyflog
💰 £22,847 - £27,116
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Ceredigion hyd at 31/03/23
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Ceredigion hyd at 31/03/23
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru. Yn arferol cynhelir y sesiynau tu mewn.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Benfro
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Benfro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rieni a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o gylchoedd. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod a phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad I’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin (Sir Gaerfyrddin)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin (Sir Gaerfyrddin)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru. Yn arferol cynhelir y sesiynau tu mewn.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref, Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x 2 (lleoliad hyblyg)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x 2 (lleoliad hyblyg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar gynllun penodol sef sefydlu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardal ddaearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill.
Dyletswyddau’r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: Sefydlu a Symud Ymlaen:
· Gwireddu cynllun sydd eisoes mewn lle i ddatblygu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardaloedd ddaearyddol benodol trwy: · Ehangu gofod trwy gynllun cyfalaf y llywodraeth a neu gyfuno gwasanaeth allanol a Chylch Meithrin er mwyn sicrhau bo mwy o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin
· Adnabod a hwyluso i sefydlu pwyllgor rheoli gwirfoddol yn lleol a threfnu cyfarfodydd sefydlu pwyllgor rheoli
· Cefnogi’r pwyllgor rheoli i sefydlu strwythurau busnes cadarn i’r Cylch Meithrin/Ti a Fi
· Adnabod lleoliad posibl
· Adnabod staff ac arwain proses recriwtio a phenodi
· Cefnogi ac arwain y pwyllgor rheoli drwy’r broses gofrestru AGC
· Cydweithio gyda thîm ehangach Mudiad Meithrin i wireddu’r cynllun
· Cydweithio a chydlynu gyda’r Cyngor Sir
· Cydweithio gyda’r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol a’r gymuned ehangach
· Trefnu hyfforddiant perthnasol i bwyllgorau newydd a staff mewn partneriaeth â’r tîm taleithiol
· Adnabod ffynonellau nawdd a grant a chefnogi ac arwain y pwyllgor ar brosesau ymgeisio ble’n addas a threfnu digwyddiadau codi arian
· Hybu a hyrwyddo'r Cylch Meithrin/Ti a Fi newydd
· Ar ôl sicrhau bod y Cylch Meithrin/ Ti a Fi’n sefydlog, cyflwyno’r Cylch Meithrin/ Ti a Fi newydd i Swyddog Cefnogi penodedig o fewn tîm Mudiad Meithrin Gwaith Cyffredinol:
· Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
· Datblygu ac ehangu darpariaethau o fewn yr ardal
· Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth
· Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant
· Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol e.e. rhieni/gwarchodwyr, ysgolion ayyb
· Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
· Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol ar gyfer hyrwyddo’r gwaith o sefydlu Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi newydd mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cymraeg i Blant e.e. sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen
· Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu
Mae RSPB Cymru yn edrych am Bennaeth Codi Arian a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi eisiau chwarae rhan yn y mudiad i achub byd natur? Rydyn ni’n recriwtio swyddog codi arian a chyfathrebwr eithriadol i weithio’n agos gyda Chyfarwyddwr RSPB Cymru ac i arwain y tîm Codi Arian a Chyfathrebu.
Bydd y swydd gyffrous hon yn addas ar gyfer swyddog codi arian a chyfathrebydd profiadol sy’n gallu cyflwyno a dylanwadu ar lefel uwch gyda staff mewnol a rhanddeiliaid allanol. Bydd yr unigolyn hwn yn darparu arweinyddiaeth strategol ac yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaethau a rhaglenni’r RSPB, a hynny drwy arwain adran arbenigol a darparu cefnogaeth broffesiynol i dimau gweithredol. Mae hon yn rôl amlwg iawn lle gallwch benderfynu sut mae’r RSPB yn cael ei weld a’i gefnogi yng Nghymru.
Beth yw’r rôl?
Rydyn ni’n chwilio am arweinydd dylanwadol a thrawsnewidiol ym maes cyfathrebu a chodi arian i ymuno â’n Tîm Arweinyddiaeth Gwlad yn RSPB Cymru. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chymheiriaid yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Phencadlys yr RSPB i ddatblygu cynlluniau i ymgysylltu â phobl ledled y DU a’u grymuso, gan addasu dulliau gweithredu i gyd-fynd â chyd-destun Cymru.
Mae’r swydd hon yn ddelfrydol i rywun sy’n mwynhau creu strategaethau, gan ddatblygu pobl, timau a phartneriaethau ac sydd eisiau adeiladu cefnogaeth ar gyfer adferiad natur a’r RSPB. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd profiadol sydd â hanes llwyddiannus o weithio ar y cyd i helpu i lywio cyfeiriad strategol RSPB o ran codi arian a chyfathrebu. Byddwch yn gallu ysbrydoli cyd-weithwyr i gyrraedd targedau uchelgeisiol o ran codi arian, cyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynrychioli brand enwog y mae ein haelodau a’n cefnogwyr yn ymddiried ynddo.
Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Sgiliau arwain a rheoli pobl amlwg, gallu datblygu sgiliau aelodau’r tîm ar gyfer sicrhau perfformiad uchel a meithrin diwylliant cadarnhaol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur i gyflwyno, dylanwadu a chynrychioli’r sefydliad
Sgiliau cydweithio i feithrin perthnasoedd, llywio gwleidyddiaeth a rheoli gwrthdaro
Sgiliau rheoli busnes er mwyn deall strategaeth, swyddogaethau busnes a gwneud penderfyniadau
Craffter ariannol i reoli cyllidebau, mynd i’r afael â rhagolygon ariannol, deall datganiadau ariannol a defnyddio metrigau busnes
Gallu amlwg i weithredu ar strategaethau, datblygu rhaglenni, blaenoriaethu ac arwain newid
Gwybodaeth am yr RSPB a’i genhadaeth
Dealltwriaeth o Fframwaith Rheoli Prosiectau
Sgiliau rheoli a datblygu tîm
Sgiliau dymunol
Sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn ddymunol. (Cyfeiriwch at y matrics iaith Gymraeg sydd ynghlwm a nodwch eich lefelau cyfredol yn eich cais)
Cymwysterau proffesiynol ym maes cyfathrebu neu godi arian ac aelodaeth o gyrff proffesiynol perthnasol
Profiad o eirioli a dylanwadu ar lefel uwch
Profiad neu ddealltwriaeth o fodelau cyflwyno/gweithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc
Profiad o nawdd masnachol neu bartneriaethau corfforaethol
Mae hon yn swydd Amser Llawn, Parhaol am 37.5 awr yr wythnos. Mae hon yn rôl hybrid a gallwch fod yn unrhyw le yng Nghymru. Disgwylir i chi deithio.
Rydym yn edrych i gynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar 11 Awst 2022. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda [email protected]
Fel rhan o’r broses ymgeisio hon, gofynnir i chi ddarparu copi o’ch CV a llenwi ffurflen gais gan gynnwys tystiolaeth ynghylch sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad a restrir uchod. Mae gofyn i chi hefyd gynnwys eich lefelau sgiliau yn unol â’r Matrics Galluogrwydd Iaith Gymraeg yn eich cais.
Mae’r RSPB yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn berthnasol i’r rôl hon.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn darllen y nodiadau canllaw i ymgeiswyr sydd ynghlwm wrth frig yr hysbyseb hwn. Caiff y rôl hon ei chyfieithu i’r Saesneg a’i hatodi hefyd.
Cyflog
💰 £52,000 - £57,688
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Prawf Fasnachu
Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Datblygu Prawf Fasnachu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru. O ganlyniad i gynnydd mewn galw am gefnogaeth y prosiect, mae Cywain yn chwilio am unigolyn i weithio ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig i gynnig cyfleoedd prawf fasnachu amrywiol a chyffrous i fusnesau.
Cefndir Prosiect Cywain Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Mehefin 2023 Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill. Mae tri prif ffrwd i’r prosiect:
- Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
- Cefnogaeth Diagnostig
- Clystyru a Chydweithio rhwng busnesau i hybu twf busnes ac effeithlonrwydd **Prif Gyfrifoldebau ** Darpariaeth Gwasanaethau
· Arwain ar elfen prawf fasnachu Cywain ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig sy’n cynnwys sioeau masnach a phrynu o wahanol faint
· Adnabod a chydlynu presenoldeb mewn amrediad eang o ddigwyddiadau addas a fydd yn cynorthwyo busnesau i gael mynediad at farchnadoedd newydd
· Rhoi llwyfan i fusnesau i brawf fasnachu mewn digwyddiadau masnach a chyhoeddus fel ffordd o dderbyn adborth ar gynnyrch/ brand a meithrin hyder wrth werthu cynnyrch
· Cynllunio a gweithredu pob digwyddiad fel prif drefnydd, gan gynnwys anghenion rheoleiddio a threfniant i sicrhau diogelwch bwyd, ac arwain ar gyfathrebu cydlynol gydag aelodau perthnasol o’r tîm
· Gweithio gyda’r tîm i ddarparu cyfres o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr (Rhithiol, hybrid a go iawn)
· Trefnu a chynnal storfeydd digwyddiadau Menter a Busnes · Cydweithio’n rhagweithiol gyda’r Rheolwyr Datblygu a Rheolwyr Clwstwr perthnasol i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo a’u hanelu at y gynulleidfa darged mewn modd effeithiol ac amserol
· Rheoli cyllideb benodol ar gyfer trefnu a mynychu digwyddiadau prawf fasnachu a darparu adborth ar ôl y digwyddiadau i’r Rheolwr Prosiect a’r tîm ehangach
· Adolygu a datblygu y meini prawf a’r canllawiau i fusnesau sydd am brawf fasnachu, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cytundebol y prosiect ac yn bodloni gofynion archwilio perthnasol
· Adnabod, ymchwilio a chael mynediad at ddata deallusrwydd y farchnad benodol sy'n berthnasol ac yn addas ar gyfer anghenion y buddiolwyr targed mewn modd rhagweithiol
· Creu cysylltiadau da gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch newydd, datblygu marchnadoedd newydd a dosbarthu er mwyn hwyluso twf busnesau
· Darparu gwasanaeth integredig trwy weithio’n agos gyda Rheolwyr Datblygu Rhanbarthol a’r Rheolwr Prosiect yn ogystal â phartneriaid prosiect, gan gydweithio a mynychu digwyddiadau ar y cyd lle’n bosib
· Trefnu a darparu gweithdai pwrpasol ar themâu penodol i feithrin hyder a sgiliau busnesau sydd am fanteisio ar gyfleoedd prawf fasnachu **Monitro a Gwerthuso **
· Cadw cofnodion manwl o bob gweithgaredd a gwaith papur er mwyn sicrhau monitro a chyflawni targedau prosiect i gydymffurfio gyda systemau adrodd a monitro'r prosiect a Llywodraeth Cymru
· Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd pecynnau gwaith, a fydd yn adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a ddarparwyd
· Monitro, adolygu a chynhyrchu adroddiadau ar dargedau, deilliannau, gwariant a pherfformiad pob digwyddiad prawf fasnachu i’r Rheolwr Prosiect yn unol â gofynion cytundeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys creu, cynnal a chadw systemau rheolaeth effeithiol er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol
· Cydymffurfio gyda gofynion ariannol a gwariant y prosiect gan lynu at ganllawiau pwrcasu’r rhaglen **Arall **
· Cyrraedd safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chynnig mewnbwn i aseiniadau bwyd cysylltiedig a gwblheir gan Menter a Busnes yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth, neu brofiad perthnasol ym maes datblygiad bwyd, marchnata, trefnu digwyddiadau neu bwnc perthnasol
● Dealltwriaeth drylwyr o’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu marchnadoedd newydd
● Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat
● Sgiliau trefnu, rheoli a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad dangosadwy o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth
● Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd gan roi ystyriaeth i anghenion y cwsmer
● Gallu bod yn rhagweithiol a gyda'r brwdfrydedd i yrru pethau ymlaen yn effeithiol, boed hynny’n annibynnol neu fel rhan o dîm ● Ymwybyddiaeth o safonau diogelwch bwyd a gofynion rheoleiddio’r diwydiant
● Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau technoleg gwybodaeth o safon uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)
● Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol Dymunol
● Ymwybyddiaeth eang o ddatblygiad polisi bwyd-amaeth, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru
● Gallu gwneud penderfyniadau anodd ac amserol er budd y busnes a/neu’r gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon addas yn ymwneud â darpariaeth y gwasanaeth, cyllidebau ac isgontractwyr mewn modd proffesiynol a gwrthrychol Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Rolant Tomos ar 07964 354 660 Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar ddydd Mercher, 27 Gorffennaf 2022. Os nad yw'r dyddiad yma yn gyfleus, plis nodwch ar y ffurflen gais. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 yb, dydd Iau 21ain o Orffennaf 2022 **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £34,198 - £36,335
Lleoliad
📍 Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Rhanddeiliaid
Mae Menter Môn yn edrych am Gyfarwyddwr Rhanddeiliaid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bod yn gyfrifol am ddatblygai cyffredinol ymgysylltiad rhanddeiliaid a rheoli cynllun strategol ar gyfer datblygu ymgysylltiadau.
Rheoli staff: Cefnogi’r timau yn unol â systemau’r cwmni, datblygu gweithdrefnau a phrosesau presennol a dyfeisio Dangosyddion Perfformiad Allweddol a rheoli perfformiad y tîm er mwyn sicrhau bod unigolion a thimau'n cyflawni o fewn eu rolau ac yn cyfrannu at nodau ac amcanion ehangach Menter Môn.
Cyflwyniad: Cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am reoli cysylltiadau â rhanddeiliaid ar gyfer y cwmni. Bydd hyn yn cynnwys datblygu'r strategaeth rhanddeiliaid ar lefel strategol ar gyfer y prosiect, gan gynnwys;
- Datblygwyr
- Hyfforddiant a Sgiliau
- Diwydiannau twristiaeth a hamdden
- Cadwyn Gyflenwi
- Datblygwyr Ffrwd Llanw
Adrodd: Paratoi a chyflwyno adroddiadau i'r bwrdd ac eraill ar wahanol agweddau ar gyfrifoldebau'r swyddi.
Datblygu prosiectau: Cefnogi'r Cyfarwyddwyr a'r rheolwyr eraill a rhannu profiad a gwybodaeth i gefnogi eu rolau yn ôl yr angen.
Llywodraethu corfforaethol: Chwarae rôl weithredol fel Cyfarwyddwr er mwyn cyfrannu at gyfeiriad strategol y Cwmni. Sicrhau bod archwiliadau masnachol a thechnegol yn cael eu cynnal a rhoi cynlluniau gwella ar waith.
Cynrychioli'r cwmni: Mabwysiadu dull gweithredu rhagweithiol i ddatblygu perthnasoedd â rhanddeiliaid allanol er mwyn hyrwyddo'r cwmni a datblygu ei enw da yn lleol a rhyngwladol.
Iechyd a Diogelwch: Cymryd cyfrifoldeb dros Iechyd a Diogelwch eu hunain ac eraill wrth gyflawni'r rôl.
Cyflog
💰 £61,497 - £69,028 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Gweithrediadau
Mae Menter Môn yn edrych am Arweinydd Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Sicrhau bod y gwaith o adeiladu'r isadeiledd wedi'i gwblhau'n brydlon ac yn bodloni gofynion O&M cyflwyno a chost y cam gweithredol, gan gynnwys adnabod a manylu ar gyfleoedd estyniad, datblygu gweithdrefnau ffurfiol at ddibenion O&M diogel a sicrhau cydymffurfiaeth â threfniadau'r rhanddeiliaid, gan gynnwys prydlesi a chytundebau eraill.
Rheoli staff:
Cefnogi’r tîm yn unol â systemau’r cwmni, datblygu gweithdrefnau a phrosesau presennol a dyfeisio Dangosyddion Perfformiad Allweddol a rheoli perfformiad y tîm er mwyn sicrhau bod unigolion a thimau'n cyflawni o fewn eu rolau ac yn cyfrannu at nodau ac amcanion ehangach Menter Môn.
Rhe**oli a monitro: **
Arwain y swyddogaeth Gweithrediadau drwy gydol yr adeiladu a chomisiynu ac i mewn i'r cyfnod gweithredol. Gweithio'n agos â staff contract a mewnol, gan sicrhau bod adnoddau'n bodloni anghenion busnes. Llunio cynlluniau datblygiad personol a hyfforddiant staff.
Cyf**lwyniad: **
Bod yn berchen ar y prosiect adeiladu gan sicrhau rheolaeth dros ddiogelwch, adnoddau, staff, costau, rhaglen a gwerth. Sicrhau bod dogfennau fel System Ddogfennau Ffurfiol, yn barod ymlaen llaw ac yn cydymffurfio â'r gyfraith. Datblygu system rheoli cynnal a chadw gyfrifiadurol sy'n addas ar gyfer Menter Môn. Sicrhau bod amodau prydles yn cael eu bodloni'n brydlon.
Adrodd:
Paratoi a chyflwyno adrannau i fwydo i'r adroddiadau bwrdd yn ôl y gofyn. Fel argaeledd, effeithlonrwydd, costau O&M. Cyflwyno papurau cyfiawnhad economaidd ar gyfer cynlluniau O&M.
Datblygiad:
Cefnogi'r rheolwyr eraill gan rannu profiad a gwybodaeth er mwyn cefnogi eu rolau yn ôl yr angen. Sicrhau bod y tîm wedi cytuno ar gynllun datblygiad personol ac wedi gosod targedau realistig y cytunwyd arnynt.
L**lywodraethu corfforaethol: **
Sicrhau bod cyfrifoldebau gweithredol deiliaid swyddi'n bodloni gofynion cydymffurfio. Pan fo methiannau, datblygu a gweithrefu cynlluniau i wella.
Cynrychioli'r cwmni:
Mabwysiadu dull gweithredu rhagweithiol i ddatblygu cysylltiadau gyda rhanddeiliaid allanol er mwyn hyrwyddo'r cwmni a datblygu ei enw da yn lleol ac yn rhyngwladol. Gweithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol i ddatblygu cyfleoedd o fewn y sector ynni morol.
Iechyd a Diogelwch:
Bod yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch, o fewn y prosiect isadeiledd ac O&M parhaus. Meddu ar gymhwyster H&S a gydnabyddir yn genedlaethol neu ymrwymo i ennill cymhwyster o'r fath.
Cyflog
💰 £41,667 - £53,966
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Masnachol
Mae Menter Môn yn edrych am Arweinydd Masnachol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cefnogi’r tîm yn unol â systemau’r cwmni, datblygu gweithdrefnau a phrosesau presennol a dyfeisio Dangosyddion Perfformiad Allweddol a rheoli perfformiad y tîm er mwyn sicrhau bod unigolion a thimau'n cyflawni o fewn eu rolau ac yn cyfrannu at nodau ac amcanion ehangach Menter Môn.
Rheoli a monitro: Bydd disgwyl i'r rôl arwain y canlynol; Cyflwyniad: Bydd disgwyl i'r rôl arwain ar holl faterion masnachol sy'n ymwneud â datblygiad y prosiect. Bydd y rhain yn cynnwys:
- Ymgysylltiad Datblygwr Ffrwd Llanw, gan gynnwys mesur a rheoli contract
- Cadw ar flaen holl fecanweithiau cymorth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer y diwydiant
- Cefnogi Datblygwyr Morlais gyda cheisiadau am gyllid, cymorthdaliadau, grantiau neu eraill gan y Llywodraeth
- Cefnogi Datblygwyr Morlais i ail-leoli ac adeiladu eu safle yng ngogledd-orllewin Cymru
- Hyrwyddo parth Morlais i ddatblygwyr newydd
- Hyrwyddo'r parth a'i ddatblygwyr i fuddsoddwyr preifat
- Cefnogi ac arwain y gwaith o gyflwyno ceisiadau am gyllid ar gyfer y parth
- Arwain ar bob cytundeb masnachol yn y dyfodol
Adrodd: Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gyflwyno:
- adroddiadau diweddar ar statws presennol y diwydiant i'r Prif Swyddog Gweithredol ac aelodau o'r Bwrdd
- cynlluniau ar gyfer y dyfodol a chyfleoedd masnachol ar gyfer y parth
Datblygiad: Cefnogi'r rheolwyr eraill gan rannu profiad a gwybodaeth er mwyn cefnogi eu rolau yn ôl yr angen. Sicrhau bod y tîm wedi cytuno ar gynllun datblygiad personol ac wedi gosod targedau realistig y cytunwyd arnynt.
Llywodraethu corfforaethol: Sicrhau bod cyfrifoldebau gweithredol deiliaid swyddi'n bodloni gofynion cydymffurfio. Pan fo methiannau, datblygu a gweithredu cynlluniau i wella.
Cyflog
💰 £41,667 - £53,966
Lleoliad
📍 Llangefni
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd Cyflogadwyedd Cymraeg
Mae Prifysgol De Cymru yn edrych am Ddarlithydd Cyflogadwyedd Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol De Cymru yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig, trefnus ac egnïol i ymuno â'r tîm Cynllun Cyflogadwyedd. Fel un o'r darparwyr addysg uwch mwyaf yng Nghymru, mae'r Brifysgol yn lleoliad delfrydol i unigolion ddatblygu eu gyrfaoedd, meithrin eu talent a gwneud gwahaniaeth.
Wedi’ch lleoli yng nghyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol ar ein campws yng Nghaerdydd byddwch hefyd yn gweithio ar draws pob campws er mwyn darparu’r modiwl cyflogadwyedd Cymraeg i’n myfyrwyr. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch chi’n chwarae rhan weithredol wrth gyfrannu at gynllunio, dylunio a datblygu’r ddarpariaeth o fewn y modiwl Cyflogadwyedd Cymraeg ac yn ehangach o fewn modiwlau priodol eraill ar draws y Brifysgol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r grŵp prosiect i ddatblygu’r ddarpariaeth cyflogadwyedd i’w lawn botensial er mwyn iddo gynnig profiadau dysgu proffesiynol a chyfoes i’n myfyrwyr.
Byddwch yn cynorthwyo i baratoi adnoddau dysgu ar-lein ac yn y dosbarth i ddatblygu sgiliau Cymraeg addas i’r gweithle. Bydd y rôl hon hefyd yn golygu cydweithio gydag adrannau corfforaethol y Brifysgol wrth gynllunio, datblygu, hyrwyddo a marchnata’r ddarpariaeth modiwl cyflogadwyedd Cymraeg.
Mae’r cytundeb tymor penodol ar gyfer cyfnod mamolaeth o hyd at 12 mis.
Ar hyn o bryd mae'r brifysgol yn gweithredu model hybrid o weithio. Fodd bynnag, byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y campws am ran o'r wythnos.
Mae'r buddion sydd ar gael yn cynnwys 35 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â gwyliau banc a diwrnodau cau, polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a chynllun pensiwn hael.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â [email protected]
Cyflog
💰 £36,382
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Iaith Cynorthwyol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Iaith Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd iaith a Chraffu, a’r Ymgynghorydd Iaith i:
- cyfrannu at ddatblygu diwylliant Gymraeg y Cyngor drwy ysbrydoli eraill a’u hannog i gydnabod a gwerthfawrogi’r fraint o gael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
- datblygu a sicrhau trefniadau’r Cyngor i gwrdd â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan adrodd i Gomisiynydd y Gymraeg.
- cefnogi ymchwiliadau’r Pwyllgor Iaith.
- cefnogi datblygu sgiliau cynllunio ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith i staff a Chynghorwyr.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer.
Prif Ddyletswyddau
Safonau’r Gymraeg
• Cynorthwyo i sicrhau cymdymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg ar draws y Cyngor er mwyn cyd-fynd â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a darparu cyngor i eraill
• Cefnogi gwaith adrannau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a’u cynghori ar gydymffurfiaeth a’r Safonau
• Cynorthwyo gydag ymchwilio ac ymateb i gwynion iaith
• Sicrhau trefniadau monitro cynhwysfawr, gan gydlynu data angenrheidiol ar gyfer adrodd ar ddangosyddion a llunio Adroddiad Blynyddol y Cyngor i Gomisiynydd y Gymraeg
• Annog y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â monitro’r defnydd a’r galw
• Datblygu dealltwriaeth y gweithlu o gynllunio ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith ar draws y Cyngor
• Cyfrannu at ddatblygu diwylliant Gymraeg y Cyngor drwy ysbrydoli eraill a’u hannog i gydnabod a gwerthfawrogi’r fraint o gael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg
Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd
• Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu, adolygu, monitro a chyhoeddi Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd (strategaeth iaith y Cyngor)
• Cydweithio gyda phenaethiaid adrannau a gwasanaethau i ddatblygu cynlluniau, ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a threfniadau gwaith sydd yn hybu’r Gymraeg yn unol â’r gofyn statudol ar y Cyngor
Asesiadau effaith iaith
• Sicrhau mewnbwn priodol i warchod buddiannau’r iaith Gymraeg mewn asesiadau effaith cydraddoldeb o gynlluniau, polisiau a gweithgareddau’r Cyngor
• Cyflwyno sylwadau ar ddatganiadau ac asesiadau iaith a gyflwynir gyda cheisiadau cynllunio ar ran yr Uned Iaith a monitro unrhyw effaith
• Cynnig a darparu cyngor ieithyddol ar gyfer ymgeiswyr sy’n dymuno derbyn cyngor cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio. Polisi iaith y Cyngor
• Cynorthwyo i adolygu a datblygu’r Polisi Iaith i sicrhau ei fod yn gyfredol ac addas
• Cyfathrebu, monitro a hyrwyddo’r Polisi Iaith gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi gan swyddogion Gwynedd
• Cynorthwyo i lunio canllawiau a pholisiau atodol eraill sy’n gysylltiedig gyda’r Polisi Iaith er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth adrannau a gwasanaethau gyda gofynion y Polisi Iaith a’r Safonau
Prosiectau yng Nghynllun y Cyngor
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a’r Ymgynghorydd Iaith gyda phrosiectau blaenoriaeth sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a datblygu’r diwylliant yng Ngwynedd
Pwyllgor Iaith
• Cyfrannu tuag at sicrhau mewnbwn priodol i adolygiadau o bolisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol, gan gyfrannu at ymatebion gan y Cyngor i’r adolygiadau hynny
• Cefnogi’r ymchwiliadau a gomisiynir gan y Pwyllgor Iaith, gan lunio rhaglen waith, casglu data, cynllunio a chynnal cyfweliadau, drafftio adroddiad a llunio argymhellion
• Ymchwilio i gwynion iaith a chanfod datrysiadau iddynt gan adrodd arnynt i’r Pwyllgor Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg
• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu i lunio rhaglen waith y Pwyllgor a llunio adroddiadau
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
• Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd disgwyl gweithio oriau hyblyg ac oriau anghymdeithasol yn achlysurol
Cyflog
💰 £22,571 - £24,920
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn Treftadaeth
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Ddarlithydd mewn Treftadaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys addysgu modiwlau Treftadaeth yn bennaf ar lefel israddedig ac ôl-radd. Dylai ymgeiswyr fod â PhD mewn maes pwnc perthnasol.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser barhaol uchod fel Darlithydd mewn Treftadaeth yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.
Mae gan yr Ysgol MA newydd mewn Treftadaeth Fyd-eang a gradd israddedig sydd eisoes wedi ei sefydlu mewn Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth. Mae gan Ogledd Cymru dreftadaeth hanesyddol gyfoethog, a danlinellir gan benderfyniad diweddar UNESCO i roi statws Treftadaeth y Byd i ardal y chwareli, sef yr ail ddyfarniad o’r fath i'r rhanbarth. Rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau â chyflogwyr a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys addysgu modiwlau Treftadaeth yn bennaf ar lefel israddedig ac ôl-radd. Dylai ymgeiswyr fod â PhD mewn maes pwnc perthnasol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar 1 Medi, 2022.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 20 Gorffennaf 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £34,304 - £40,927
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tenantiaethau Cynaliadwy
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tenantiaethau Cynaliadwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau yn llwyddiannus. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o fewn ein cymunedau.
Disgrifiad:
Cyfrifoldebau'r Swydd
1. Gweithredu’n briodol i sicrhau cyflawni Strategaeth Cynhwysiad Ariannol, y cynllun gweithredu a gweithdrefnau tai eraill Grŵp Cynefin yn effeithiol.
2. Ymchwilio, rhannu a throsglwyddo ymarfer da drwy fod yn bencampwr prosesau LEAN i’r timoedd tai a lles.
3. Hyrwyddo a gweithio gyda chyd-weithwyr ar draws y Gymdeithas i sicrhau bod ein darpariaeth yn addas, yn datblygu a ffynnu.
4. Chwilio am gyfleoedd ariannol i deilwra gwasanaethau er budd ein tenantiaid.
5. Datblygu ymgyrchoedd, fel darganfod grantiau, drwy gydweithio â partneriaid perthnasol er budd ein tenantiaid.
6. Arwain staff i sicrhau ein bod yn teilwra gwasanaethau a ffocysu ar wytnwch (resilience).
7. Arwain i sicrhau bod tenantiaethau yn gynaliadwy.
8. Arwain i ddefnyddio ystadegau proffilio ein tenantiaid, paratoi adroddiadau a cynllun gweithredu sy’n cyfarch anghenion y busnes i’r dyfodol.
9. Casglu a dadansoddi ystadegau ariannol tenantiaid i flaenoriaethu gwasanaethau ataliol.
10. Rheoli’r tîm lles a monitro achosion.
11. Rhagweld a chyflwyno newidiadau yn effeithiol gan annog gwelliant parhaus, yn arbennig drwy ddulliau cyfoes a digidol.
12. Sicrhau perthynas weithio dda â rhanddeiliaid perthnasol megis rhwng staff yr Adran Dai a’r Adran Gwaith a Phensiynau, awdurdodau lleol, undebau credyd, CAB a mudiadau lles eraill, a’r trydydd sector er mwyn cefnogi tenantiaid bregus.
13. Sicrhau bod gwybodaeth gyfredol i gefnogi tenantiaid yn cael eu hybu, gan gynnwys ar wefan y Gymdeithas, Calon a’r cyfryngau cymdeithasol.
14. Arwain yr adran i ystyried Gwerth am Arian ym mhob agwedd o'n gwaith, mesur llwyddiant hynny a pharatoi adroddiadau .
15. Dirprwyo yr Arweinydd Tîm Casglu Incwm pan fod angen, gan arwain y tîm a sicrhau bod uchafu incwm Grŵp Cynefin yn cael blaenoriaeth.
Cyflog
💰 £28,860 - £33,482
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Iechyd a Diogelwch
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Swyddog Iechyd a Diogelwch
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn egnîol i gefnogi'r Rheolwr i addysgu a galluogi cydweithwyr yn neddfwriaeth a rheoliadau Iechyd a Diogelwch Grŵp Cynefin.
Cyfrifoldebau'r Swydd
Iechyd a Diogelwch
1. Cynghori cydweithwyr ar bob agwedd o iechyd a diogelwch, sy’n effeithio ar weithgareddau Grŵp Cynefin a’u gwaith.
2. Cynorthwyo’r Rheolwr i ddatblygu a sicrhau cydymffurfiaeth hefo gweithdrefnau HSMS a HASD yn unol a safonau diwydiant ISO9001, ISO14001, ISO 45001.
3. Cynorthwyo’r Rheolwr i gynnal y gofrestr risg a sicrhau fod y rheolaethau a’r gweithredoedd yn cael eu gweithredu.
4. Hyfforddi cydweithwyr ar y safle i sicrhau cydymffurfiaeth a pholisïau a gweithdrefnau’r cwmni.
5. Codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch a sicrhau gwelliant parhaus o ddiwylliant y cwmni.
6. Amlygu unrhyw dueddiadau diogelwch andwyol a sicrhau bod ymgyrchoedd digonol yn cael eu gweithredu i’w lliniaru.
7. Cynorthwyo’r Rheolwr i sicrhau bod Grŵp Cynefin bob amser yn cadw at ddeddfwriaeth a rheoliadau y DU.
8. Cynnal asesiadau risg mewnol, archwiliadau. 9. Monitro gwiriadau/arolygiadau diogelwch a system monitro diogelwch Grŵp Cynefin.
10. Cynorthwyo’r Rheolwr i gadw gweithleoedd yn ddiogel, gan sicrhau bod gwasanaeth, cynnal a chadw ac archwiliadau yn cael eu cynnal yn unol â gofynion rheoliadol.
11. Cynorthwyo’r Rheolwr i sicrhau bod gan gyfleusterau swyddfa wastraff, gwasanaethau a darpariaethau lles boddhaol.
Rheoli Cyfleusterau
Sicrhau bod systemau tân, panig, rheoli diogelwch eraill Grŵp Cynefin yn cael eu cynnal a’u profi.
Cynorthwyo’r Rheolwr i reoli gwaith cynnal a chadw mannau gweithio Grŵp Cynefin, gan weithio’n agos gyda’r Tim Cynnal a Chadw o ran trefnu gwaith a sicrhau bod y mannau gweithio yn cael eu cynnal i safion briodol.
Cyflog
💰 £25,667 - £28,887
Lleoliad
📍 Hyblyg, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tîm Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atal digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
Cyfrifoldebau Allweddol
1. Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o gam-drin domestig, gan gynnwys yr effaith ar ddioddefwyr a'u plant, a'r datrysiadau cyfreithiol ac ymarferol sydd ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth hyn.
2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn y gymuned yn cael eu diwallu'n effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n arwain at annibyniaeth a bywyd di-drais.
3. Goruchwylio'n annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithwyr cymorth y gwasanaeth.
4. Cyflwyno a darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol i bob aelod o staff, gan gynnwys cyflwyno a gweithredu adolygiadau achos a llwyth gwaith arferol yn seiliedig ar adolygu risgiau, anghenion a cham-drin.
5. Nodi a chynllunio rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr cymorth, yn ogystal â bod yn rhan o'r prosesau recriwtio, rheoli perfformiad a disgyblu.
6. Gweithredu'n annibynnol o fewn ffiniau'r rôl, gan benderfynu pryd y mae'n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth i gael arweiniad.
7. Cyfrifoldeb am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i reoli a monitro risgiau, gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risgiau yn hyderus ac yn effeithiol.
8. Cyfrifoldeb am ymateb yn gadarn a gweithredu ar unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed, gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth gywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
9. Arwain mewn sefyllfaoedd o argyfwng a darparu arweiniad clir i'r tîm a chynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol.
10. Arwain ar ddeddfwriaeth budd-daliadau lles / materion diwygio lles er mwyn cynghori'r tîm yn hyderus.
11. Bod yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r broses gymorth yn unol â gofynion statudol, deddfwriaeth amddiffyn a chytundebau lefel gwasanaeth cyllidwyr.
12. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a gweithredu cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau, gan ymateb i ganlyniadau, ystadegau a gofynion cyllidwyr.
13. Paratoi adroddiadau o ansawdd uchel bob chwarter ar gyfer adolygiadau monitro cyllidwyr (e.e. Grant Cymorth Tai, Cymorth i Ferched Cymru), gan gynnwys mynychu cyfarfodydd monitro chwarterol.
14. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth gyda datblygu gwasanaeth ac unrhyw gynlluniau newydd.
15. Bod yn rhan o baratoi a darparu adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai a gweithredu'r argymhellion.
16. Cynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaeth i baratoi hunanasesiad blynyddol y gwasanaethau.
17. Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt, gan gynnal perthynas â landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog, Llangefni, Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tîm Atal Digartrefedd
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Atal Digartrefedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfrifoldebau Allweddol
1. Sicrhau dealltwriaeth clir o ddarpariaeth cefnogaeth yn y maes atal digartrefedd gan ymateb i anghenion staff a defnyddwyr gwasanaeth fel bod Gorwel yn ffynnu.
2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth, yn y llety ac yn y gymuned yn cael eu hateb yn effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth cefnogaeth holistig a pherson ganolig sy’n arwain at annibyniaeth.
3. Trefnu rotas i sicrhau fod y prosiectau yn darparu cymorth uniongyrchol i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ôl galw’r cytundeb gwasanaeth.
4. Yn annibynnol, goruchwylio gan gymryd cyfrifoldeb o drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithiwyr cefnogi a mentoriaid y gwasanaeth.
5. Adnabod a chynllunio’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o broses recriwtio, medrusrwydd a disgyblu.
6. Gweithredu’n annibynnol o fewn ffiniau’r swydd, gan benderfynu pryd mae’n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth am arweiniad.
7. Cyfrifoldeb i sicrhau bod trefniadau priodol i reoli a monitro risg gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risg yn hyderus ac yn effeithiol.
8. Ymateb yn gadarn gan weithredu ar unrhyw bryderon Amddiffyn Plant neu Amddiffyn Oedolion Bregus gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth cywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
9. Rhoi arweiniad clir i weithwyr cefnogi drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynlluniau cefnogi. 10. Arwain ar faterion deddfwriaeth budd-daliadau lles / diwygio lles er mwyn cynghori’r tîm yn hyderus.
11. Sicrhau gweithdrefnau monitro a rheoli ar gyfer anghydfod budd-daliadau a thaliadau rhent defnyddwyr gwasanaeth (gan gynnwys ôl ddyledion) 12. Yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r drefn cefnogi yn unol â gofynion statudol, deddf gwarchod a chytundeb gwasanaeth arianwyr.
13. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau, ystadegau a gofynion arianwyr.
14. Paratoi adroddiadau o safon uchel yn chwarterol ar gyfer adolygiadau monitro arianwyr (e.e. Cefnogi Pobl) gan gynnwys mynychu cyfarfodydd chwarterol monitro.
15. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i ddatblygu’r gwasanaethau ac unrhyw gynlluniau newydd. 16. Yn rhan o baratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai gan weithredu ar argymhellion.
17. Cynorthwyo’r Gwasanaeth i baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.
18. Yn gweithredu fel prif gyswllt, gan gynnal perthynas gyda landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo i’r defnyddwyr gwasanaeth. 19. Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth a thrais yn y cartref.
20. Ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaeth cymryd rhan flaenllaw o adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi.
21. Arwain wrth hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar gyfer y cynlluniau.
22. Gwybodaeth eang am deddfwriaeth sy’n berthnasol i digartrefedd, trais yn y cartref a chefnogaeth.
23. Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 O gartref, Pwllheli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd
Mae Coleg y Cymoedd yn edrych am Swyddog Datblygu Dwyieithrwydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
I sefydlu cangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Ngholeg y Cymoedd ac i greu cyfleoedd i ddysgwyr gaffael, datblygu a chadw eu sgiliau Cymraeg yn ystod eu hamser yn y coleg.
**Dyletswyddau Allweddol **
**Cyffredinol **
· Hyrwyddo a chyflenwi gweledigaeth, gwerthoedd ac arferion corfforaethol y Coleg
· Hyrwyddo cynllun strategol y Coleg a'i werthoedd ac i arwain a gyrru newid a menter yn eu blaen
· Ymfalchïo yng Ngholeg y Cymoedd a chwarae rôl gweithredol yn yr hinsawdd “Un Coleg” sy’n ffocysu ar wneud y cymoedd yn gryfach drwy addysg, sgiliau a hyfforddiant ardderchog
· Lansio ‘cangen’ Coleg y Cymoedd o’r y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
**Dysgwyr **
· Cydlynu prosiectau a ariennir gan Grant Hyrwyddo’r Gymraeg, yn cynnwys recriwtio a goruchwylio Llysgenhadon Dysgwyr y Gymraeg
· Cydweithio gyda Hyfforddwyr Addysgu a Dysgu i ddatblygu adnoddau ar gyfer dysgwyr ar gyfer delio ag ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, y dimensiwn a’r diwylliant Cymreig perthnasol i feysydd â blaenoriaeth i’w rannu drwy ‘r Hwb Tiwtorial
· Creu cyfleoedd anffurfiol er mwyn i ddysgwyr gaffael, datblygu a chadw ei sgiliau Cymraeg yn y coleg h.y. clybiau, teithiau ayb.
· Hyrwyddo adnoddau, rhwydweithiau ac ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ymhlith dysgwyr
· Gweithio yn nhîm Cymraeg y Coleg er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymru a hawliau’r iaith Gymraeg ymhlith dysgwyr
· Gweithio gyda phartneriaid allanol megis Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Menter Iaith Caerffili a’r Urdd er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer dysgwyr i wirfoddoli ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog
Staff
· Gweithio gyda Rheolwr y Gymraeg er mwyn nodi cyfleoedd hyfforddi i staff a datblygu eu sgiliau Cymraeg
· Arwain ar hybu cynllun Gwreiddio y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer staff , gan sicrhau bod gwybodaeth am adnoddau, rhwydweithio a chyfleoedd hyfforddiant yn cael ei rhannu’n effeithiol
· Mynychu cyfarfodydd a drefnir gan y Coleg Cymraeg, yn cynnwys paneli pwnc a gweithredu ar unrhyw bwyntiau gweithredu a allai godi
Darpariaeth
· Gweithio gyda Rheolwr Y Gymraeg a Phenaethiaid Ysgol i gefnogi a chynorthwyo gwaith darlithwyr dwyieithog a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dyletswyddau Allweddol
· Cynrychioli tîm Cymraeg y Coleg mewn digwyddiadau agored
· Cydlynu i lunio astudiaethau achos sy’n cynnig enghreifftiau o arferion gorau y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a gynigir a choladu unrhyw dystiolaeth arall sy’n amlygu llwyddiant prosiectau a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cymwysterau
· Gweithio gyda Gwasanaethau Arholiadau a Gwybodaeth Rheoli i fonitro’r ddarpariaeth asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg/ yn ddwyieithog
· Gweithredu fel man cyswllt ar gyfer ymholiadau am arholiadau ac asesiadau sydd ar gael drwy gyfrwng Gymraeg ac i riportio problemau i'r Coleg Cymraeg ac i Gymwysterau Cymru
Cyflogwyr
· Gweithio gyda thîm Dysgu Seiliedig ar Waith i nodi anghenion cyflogwyr lleol o ran y Gymraeg a recriwtio yn y meysydd â blaenoriaeth
· Datblygu a chynnal cysylltiadau gyda sefydliadau allanol, yn cynnwys cyflogwyr, allai gynnig lleoliadau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr
Dyletswyddau Ychwanegol
· Gweithredu i gydymffurfio â Pholisi’r Coleg ar Gyfleoedd Cyfartal
· Cymryd rhan ym mhroses Rheoli ac Adolygu Perfformiad y Coleg ac i gyfrannu at y broses honno
· Bydd gan yr holl staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd gyfrifoldeb am ddiogelu a hyrwyddo llesiant y myfyrwyr
· Bydd gan yr holl staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd gyfrifoldeb am ddiogelu a hyrwyddo llesiant y myfyrwyr
· Ymgymryd â dyletswyddau sy’n rhesymol ofynnol gan y Coleg naill ai yn eich prif leoliad gwaith neu yn adeiladau eraill y Coleg, y dyletswyddau hynny sy’n gymesur â graddfa a chyfrifoldeb y swydd
**Gwybodaeth Bellach **
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Cyflog
💰 £22,635 - £24,321
Lleoliad
📍 Campws Nantgarw
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwywr Gwasanaethau Cwsmeriaid (Rhan Amser)
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gynorthwywr Gwasanaethau Cwsmeriaid (Rhan Amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am Gynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid parhaol rhan amser (18.13 awr yr wythnos) i ymuno â'r tîm Blaen Tŷ.
Mae staff gwasanaethau cwsmeriaid yn gweithio ar draws amrywiol leoliadau yn y brifysgol ac mae ganddynt ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y brifysgol yn gweithredu’n ddi-drafferth ac maent yn ateb amrywiaeth o ymholiadau wyneb yn wyneb ac ar y ffôn.
Bydd gan ddeiliad y swydd o leiaf bedwar TGAU gyda graddau A* - D yn gynnwys Saesneg a Mathemateg neu NVQ Lefel 1 mewn pwnc perthnasol (neu gymhwyster cyfwerth) a gorau oll os oes gennych rywfaint o brofiad mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer (manwerthu, lletygarwch neu debyg). Byddwch hefyd yn gyfarwydd â gweithio mewn derbynfa brysur.
Mae'r gallu i ddefnyddio man gwerthu cyfrifiadurol yn rhan hanfodol o'r rôl yn ogystal ag ymdrin yn effeithlon â thrafodion ac ymholiadau, a gweithredu gydag uniondeb, disgresiwn a pharodrwydd i helpu cwsmeriaid.
Byddai diddordeb personol mewn yn y Celfyddydau a/neu Chwaraeon yn fanteisiol oherwydd lleoliad dwy o’r derbynfeydd prysuraf ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi.
Wrth ddechrau eu hyfforddiant yn Pontio, dylai deiliad y swydd ddisgwyl cael ei ddefnyddio ar draws holl fannau blaen tŷ’r brifysgol a bydd hynny’n cynnwys sifftiau gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Mae gallu siarad Cymraeg yn hyderus i gyflawni rhai tasgau yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, e.e. siarad â staff a myfyrwyr, ateb galwadau ffôn, delio ag ymholiadau brys yn Gymraeg.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 18 Gorffennaf 2022
Wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.
Cyflog
💰 £18,712 - £20,092 pro rata
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Pynciau
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Cefnogi Pynciau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau penodol i roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo amrywiaeth o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion. Mae’r rôl yn cynnwys datblygu ymgyrchoedd i hyrwyddo pynciau penodol a sicrhau presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor Ôl 16 - Ysgolion y Strade, Bro Myrddin a Maes y Gwendraeth
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Diwtor Ôl 16 - Ysgolion y Strade, Bro Myrddin a Maes y Gwendraeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson sydd wedi cymhwyso fel asesydd ac yn unol â gofynion CBAC / City and Guilds i ddysgu’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP). Os na fydd cymhwyster asesu gan yr unigolyn, byddwn yn ystyried rhoi’r unigolyn ar gwrs asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam Wrth Gam i gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cyflwyno’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 o fewn amser penodedig i ddisgyblion mewn ysgol/ion uwchradd
Cyflwyno elfennau theori’r cwrs yn yr ysgol pan yn berthnasol
Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs Lefel 2 craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol
Asesu gwaith y dysgwyr yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios
Dylid bod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn medru darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal
Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs
Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan ystyried anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith
Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad
Defnyddio dull asesu dilys, teg, dibynadwy a diogel
Nodi a chasglu tystiolaeth sy’n ddilys, cywir a digonol
Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol
Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith wrth ymweld, ac o bell
Sicrhau bod gwaith portffolio pob dysgwr yn cael ei gwblhau yn brydlon
Gosod gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Valid-8
Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol sy’n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol
Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser
Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni
Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith
Mynychu cyfarfodydd safoni
Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)
Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £22,234 pro rata
Lleoliad
📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i gefnogi swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu gweithgareddau Cymraeg, a chynorthwyo cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
Swydd ddisgrifiad
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun. Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
• Cefnogi adolygiad o Gynllun Iaith Gymraeg yr SYG, a helpu i'w roi ar waith, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chynwysoldeb.
• Monitro gallu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg.
• Cynorthwyo rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig.
• Helpu i redeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol.
• Monitro cyfieithiadau Cymraeg, prawf-ddarllen gwaith allanol i sicrhau safonau uchel.
Manyleb Person
1. Yn meddu ar brofiad o ddatblygu, gweithredu neu werthuso polisi.
2. Yn gallu ymgysylltu â nifer fawr o randdeiliaid ar draws y sefydliad a chynnal rhwydwaith o gydberthnasau gwaith.
3. Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i fonitro ac adrodd ar gynnydd, a sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.
4. Yn meddu ar y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon.
5. Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Cydweithio
Cyfathrebu a Dylanwadu
Sgiliau technegol
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol.
Cyflog
💰 £23,880
Lleoliad
📍 Casnewydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle newydd a chyffrous i sefydlu swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu a hybu gweithgareddau Cymraeg, ac adeiladu cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.
Beth fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei wneud?
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun.
Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.
Cyfrifoldebau
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
· Sbarduno trawsnewid yn y Gymraeg ar draws y swyddfa, gan ddylanwadu'n effeithiol ar y rhanddeiliaid a defnyddio ystod eang o ddulliau.
· Adolygu Cynllun Iaith Gymraeg presennol yr SYG gyda'r nod o foderneiddio a darparu ffocws clir o fewn yr SYG, gan gydlynu'r broses weithredu ar draws y busnes.
· Cynnal archwiliad o allu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg i ddeall y sefyllfa bresennol a datblygu dull o ddiwallu anghenion y dyfodol.
· Datblygu ac arwain rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig, gan gefnogi twf y Gymraeg.
· Sefydlu a rhedeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol gyda'r nod o rannu a hybu’r arferion gorau yn yr SYG.
· Darparu a rheoli pob agwedd ar gyfieithiadau Cymraeg, gan gynnwys caffael gwasanaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn uchel ei safon ac yn brydlon.
· Sefydlu a rheoli tîm bach i gyflawni'r uchod.
Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gweddill yr is-adran, gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd ar gael mewn strategaeth, llywodraethu, y gyfraith a busnes y Senedd i ategu’ch arbenigedd chi’ch hun.
Manyleb Person
1. Yn meddu ar hanes llwyddiannus o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi; a dealltwriaeth gadarn o'r prosesau sy'n arwain at gyflawni canlyniadau llwyddiannus yn y naill gyd-destun neu'r llall.
2. Yn gallu ymgysylltu'n llwyddiannus â nifer fawr o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr uwch, a meithrin cydberthnasau gwaith yn effeithiol ar draws y sefydliad.
3. Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i gydlynu ffrydiau gwaith, monitro ac adrodd ar gynnydd, a datrys materion i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.
4. Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth a'r effaith fwyaf posibl.
5. Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.
Cyflog
💰 £36,838
Lleoliad
📍 Hyblyg, O gartref, Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Dwyieithog
Mae Portal yn edrych am Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Dwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n arweinydd / rheolwr profiadol sy'n angerddol am ddatblygiad eraill? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig cymwysterau rheoli i unigolion gan reoli eich dyddiadur eich hun? Os felly, rydym am glywed wrthych!
Rydym yn recriwtio ar gyfer asesydd wedi ei leoli yn ne ddwyrain a de orllewin Cymru I gynnal grŵp o ddysgwyr.
Mae rôl yr Asesydd yn cynnwys asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaeth Uwch Lefel 4/5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio o fewn rôl arwain a / neu reoli, bydd ganddynt agwedd wych a bydd ganddynt y parodrwydd i addasu a datblygu eu hunain ymhellach. Nid yw cymhwyster mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu ymarfer asesu (cymhwyster Asesydd) yn hanfodol, fodd bynnag, mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £27,000 i £ 30,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £ 500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: Gorffennaf 29ain
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais isod ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £27,000 - £ 30,000
Lleoliad
📍 O gartref, Allan yn y maes
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!