Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu

Llywodraeth Cymru

💰 £21k - £25k 📍 Cymru📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.

Disgrifiad:

Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu

Graddfa gyflog: TS - £21,300 - £24,630

Lleoliad: Cymru gyfan. Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.

2 x Parhaol, 1 x Cyfnod penodol 12 mis 

Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.

Uned Fusnes y Gwasanaeth Cyfieithu yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid, sef gweision sifil o bob rhan o Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd. Byddwch yn defnyddio systemau TG arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes a chyllid i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.

**PRIF GYFRIFOLDEBAU **

Cefnogi prosiectau cyfieithu (cyfieithu cyffredinol a deddfwriaethol, a chyfieithu ar y pryd)

1.  Bod yn gyfrifol am fonitro a blaenoriaethu ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.

2.  Ymateb yn brydlon i geisiadau, gan drafod â’r cwsmer yn ôl y galw er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol (ee dyddiadau dychwelyd a gofynion penodol) ar gyfer darparu gwasanaeth safonol ac amserol.

3.  Paratoi prosiectau cyfieithu yn seiliedig ar geisiadau gan gwsmeriaid - dadansoddi pob cais yn drylwyr, dehongli natur y cais yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a/neu’r Rheolau Sefydlog, a thrafod y gwaith ag arweinwyr y timau cyfieithu.

4.  Manteisio ar bob cyfle i baratoi'r gwaith mewn ffordd sy'n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd cyfieithu i ddadansoddi a pharatoi prosiectau cyfieithu.

5.  Dilyn prosesau sy'n gyson ag arferion ar draws yr Uned Fusnes wrth brosesu ceisiadau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac awgrymu gwelliannau i’r prosesau os oes angen.

6.  Defnyddio’r fframwaith cyfieithu allanol i gomisiynu gwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gyfieithwyr allanol. 

7.  Cymryd rhan yn rota gwaith yr Uned Fusnes i sicrhau gwasanaethau di-dor yn ystod oriau swyddfa (08:30 tan 16:30)

Cefnogi’r busnes

1.  Cyflawni tasgau amrywiol sy'n cael eu rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes, ee trefnu cyfarfodydd a chyflwyniadau, cadw cofnodion, casglu data ac ystadegau, archebu offer a nwyddau swyddfa, a helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.

2.  Datblygu a defnyddio sgiliau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i greu prosiectau, cysoni a dadansoddi dogfennau, a mewnforio ac allforio cofau cyfieithu a ddarperir ar gyfer cyfieithwyr allanol) a systemau corfforaethol.

3.  Cynorthwyo gydag unrhyw agwedd arall ar weinyddiaeth a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr llinell neu staff uwch.

Mae angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swyddi hyn – mae rhagor o wybodaeth yn yr hysbyseb ar wefan y Llywodraeth.

Dyddiad cau: 09/01/23 16:00

Cyflog

💰 £21,300 - £24,630

Lleoliad

📍 Cymru, Unrhyw un o’n swyddfeydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau