Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg

Prifysgol Bangor

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Datblygu a Hyrwyddo’r Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gryfhau a datblygu ei safle fel y sefydliad addysg uwch arweiniol ym meysydd cynllunio iaith, gweinyddiaeth ddwyieithog a darpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg a chyfleoedd i’w defnyddio ar draws y Brifysgol a chynorthwyo i sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol a’i cholegau academaidd yn gweithredu Polisi iaith y Brifysgol a gwireddu amcanion Strategaeth y Gymraeg. Bydd hefyd yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd medrau dwyieithog ym maes cyflogaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd berthnasol ynghyd â dealltwriaeth dda o egwyddorion cynllunio iaith a’r modd y mae Safonau’r Gymraeg yn cael eu gweithredu o fewn sefydliadau. Bydd ganddo/i ddealltwriaeth gadarn hefyd o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg mewn addysg uwch ac yng nghyd-destun cyflogadwyedd.

Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol).

Trwy ein fframwaith Gweithio'n Ddeinamig, bydd opsiwn hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y DU) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith, a fydd yn cael ei drafod ymhellach gydag ymgeiswyr mewn cyfweliad.  

Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i gyflawni’r rôl hon ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at oriau llawn amser.

Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau ar y gwaith ym mis Mawrth neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol.

Mae hon yn swydd barhaol.

Gallwch wneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dr Lowri Hughes, Pennaeth Polisi a Datblygu (01248 388697; [email protected]).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 30 Ionawr 2023.

Sefydliad dwyieithog sy’n gweithredu Polisi Iaith cynhwysfawr ac sydd wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Cyflog

💰 £35,333 - £42,155

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau