Cydlynydd Corfforaethol
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Corfforaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Corfforaethol i ymuno â'r tîm.
Cyfle i gynorthwyo timoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol, ynghyd â gweinyddu trefniadau cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a’r Cyngor, a rheoli swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd, gan ateb y ffôn, ymateb i ymholiadau a chroesawu ymwelwyr i’r swyddfa, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Cynnig gwasanaeth cefnogol effeithiol i dimoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol.
- Gweinyddu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor a’r Bwrdd gan gynnwys anghenion teithio a llety fel bo angen.
- Ymateb fel bo’n briodol i e-byst cyffredinol [email protected], i ymwelwyr i’r swyddfa, a galwadau ffôn allanol.
- Rheoli’r swyddfa o ddydd i ddydd gan gynnwys ateb y ffôn, ymdrin â’r post ac e-byst, croesawu ymwelwyr a dyletswyddau clerigol eraill gan gynnwys goruchwylio’r cyflenwad offer swyddfa, llungopïo a sganio.
- Cyfrifoldeb dros restr llety staff a gwirfoddolwyr blynyddol.
- Cyd-lynu’r trefniadau ar gyfer byrbryd noddwyr blynyddol yr Eisteddfod yn ystod yr ŵyl.
- Sicrhau bod cyfleusterau/lluniaeth yn eu lle, boed hynny yn y swyddfa neu mewn canolfannau eraill.
- Trefnu a chynnal ffeiliau electroneg ar gyfer prosiectau penodol.
- Cadw cofnodion mewn cyfarfodydd amrywiol.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £23,000 - £24,411
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Artistig
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Artistig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Artistig i ymuno â'r tîm.
Cyfle i gynorthwyo Adran Artistig yr Eisteddfod, gan gynnig cefnogaeth weinyddol, paratoi contractau, gwybodaeth i’w gyhoeddi yn y Rhaglen a’r platfformau digidol, a rheoli gweinyddiaeth prosiectau arbennig fel Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chynorthwyo gyda’r elfen gystadlu drwy gydol y flwyddyn, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Artistig, y Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig a’r Rheolwr Cystadlu.
- Gweinyddu cytundebau artistiaid, beirniaid a chyfeilyddion.
- Trefnu bywgraffiadau a lluniau’r artistiaid a chystadleuwyr buddugol.
- Trefnu a gweinyddu cyfarfodydd pwyllgorau gwaith a phanelau lleol a chanolog.
- Gweinyddu amserlen Cymdeithasau gan gydlynu trefniadau a gwybodaeth gyda sefydliadau perthnasol a pharatoi’r cynnwys ar gyfer y Rhaglen a phlatfformau amrywiol yr Eisteddfod.
- Cynorthwyo i gysylltu gydag artistiaid a chystadleuwyr yn ystod yr ŵyl, gan gyd-gordio rhwng cystadleuwyr, beirniaid a stiwardiaid; gweinyddu beirniadaethau a rhagbrofion.
- Gweinyddu'r broses o ddewis Cyflwynwyr yr Orsedd a’r ddawns flodau a gweinyddu ceisiadau i’r Panel Urddau.
- Cynnal a diweddaru bas-data o gystadleuwyr, beirniaid a rhanddeiliaid.
- Gweinyddu prosiectau arbennig, e.e. côr yr Eisteddfod a’r côr plant.
- Trefnu a chofnodi cyfarfodydd y tîm artistig.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £23,000 - £24,411
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Technegol
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Technegol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Technegol i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar drafodaethau cytundebol, paratoi’r cynlluniau a’r polisïau ar gyfer adeiladu a dymchwel y Maes, ynghyd â chynllunio’r Maes a’i adnoddau, iechyd a diogelwch, y cynllun trafnidiaeth, rheoli contractwyr ar y Maes, cynaliadwyedd a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Arwain, cynghori a chynrychioli’r Eisteddfod yn weithredol mewn trafodaethau, gan gynnwys trafodaethau cytundebol, gyda rhanddeiliaid a phartneriaid perthnasol allanol gan sicrhau fod yr holl brosesau cyfreithiol a chydymffurfiaeth perthnasol yn cael eu dilyn. Hyn yn cynnwys asiantaethau allanol megis y BBC a chwmnïau darlledu eraill.
- Arwain trafodaethau a chynghori rhanddeiliaid perthnasol er mwyn paratoi dogfennau cynllunio a pholisïau e.e. cynlluniau trafnidiaeth, polisi llygredd, cynlluniau argyfwng ayyb.
- Paratoi a chyflwyno ceisiadau am y trwyddedau angenrheidiol.
Cynhyrchu, rheoli, a diwygio’r Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau (CRhA) fel bo’r angen.
- Paratoi dogfennau cydymffurfiaeth gan rannu gwybodaeth perthnasol gyda chyd-weithwyr.
- Paratoi, a rheoli’r broses o sicrhau cytundebau ffafriol gyda’r holl gwmnïau sy’n darparu adnoddau technegol i’r Eisteddfod.
- Paratoi ac arwain ar adolygu cynlluniau holl feysydd yr ŵyl gan sicrhau gwasanaethau addas priodol.
- Rheoli iechyd a diogelwch yr ŵyl gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda rheolau CDM.
- Rheoli cynllun trafnidiaeth yr ŵyl.
- Paratoi, adolygu a rheoli amserlen paratoi a dymchwel y Maes.
- Sicrhau bod yr holl drefniadau technegol yn gweithredu’n llyfn ac yn effeithiol yn ystod yr ŵyl.
- Paratoi cynllun ac arolygu’r drefn stiwardio.
- Rheoli contractwyr ar y maes fel bo’n berthnasol e.e. timau diogelwch, glanhau, ayyb.
- Rheoli prosiectau cynllunio a gweithredu holl feysydd yr ŵyl gan gynnwys materion cytundebol, staffio, hyfforddi, rhanddeiliaid, cwsmeriaid a chyllidebau.
- Arwain ar Gynlluniau Cynaliadwyedd y corff.
- Goruchwylio Amserlenni Cynhyrchu Digwyddiadau.
- Rheoli a datblygu staff y storfa.
- Cydgordio a goruchwylio’r cyfundrefnau amrywiol ar Faes yr Eisteddfod e.e. hygyrchedd, rheoli cerbydau.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £41,800 - £44,365. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £41,800 - £44,365
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cystadlu
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cystadlu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Cystadlu i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Arwain ar gynllun hyrwyddo’r cystadlu gan gydweithio gydag ystod o rhanddeiliaid e.e. prifysgolion, grwpiau ieuenctid, i ddenu cystadleuwyr newydd mewn cydweithrediad gyda’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.
- Paratoi cynnwys, prawf ddarllen a threfnu’r Rhestr Testunau a’r elfen gystadlu ar gyfer y Rhaglen.
- Gweinyddu cytundebau’r beirniaid, y cyfeilyddion a’r cystadleuwyr.
- Creu, cynnal a diweddaru system gystadlu, beirniaid a rhanddeiliaid.
- Gweinyddu'r cystadlaethau cyfansoddi a chydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Artistig i baratoi'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.
- Gweinyddu'r cystadlaethau llwyfan a gohebu gyda chystadleuwyr, arweinyddion, beirniaid, cyfeilyddion, clercod rhagbrofion ayyb yn unigol ar faterion sy’n ymwneud ag amserlenni, testunau cystadlu, mynediad a thocynnau bwyd, beirniadaethau ayyb fel bo’n briodol.
- Gweinyddu a chynghori’r Panelau Canolog a’r Pwyllgor Diwylliannol.
- Gweinyddu amserlenni cystadlaethau a threfnu amser ymarferiadau.
- Rheoli’r llyfrgell gerdd ac arwain ar ddigideiddio’r cynnwys.
- Gweinyddu’r broses sy’n ymwneud â darnau prawf a hunan ddewisiad, gan gynnwys prynu a chofnodi, ffeilio, cyfieithiadau, cyd-gysylltu gyda golygyddion, trwyddedu, hawlfraint, gosod geiriau, paratoi gwybodaeth i gystadleuwyr a chynorthwyo gyda phecynnau i’r beirniaid.
- Paratoi cylchlythyrau ar gyfer cystadleuwyr yn rhannu dyddiadau pwysig a chyfleoedd posibl mewn cydweithrediad gyda’r -Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.
- Goruchwylio elfen gystadlu Y Lle Celf gan gydweithio gyda’r swyddogion celf.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £34,250 - £36,352
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol
Mae Grŵp Deddf, Mentrau Iaith a Llywodraeth Cymru yn edrych am Bencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Grŵp Deddf am benodi Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ar draws rhanbarth De-Ddwyrain Cymru i amrywiaeth o gynulleidfaoedd (rhieni, disgyblion, cynghorwyr ac eraill), er mwyn rhannu newyddion a gwybodaeth dros y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau confensiynol am faterion cysylltiedig (megis ymgynghori ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, dosbarthiadau oedolion, digwyddiadau cymunedol ac ati) a darparu adroddiadau chwarterol ar weithgareddau, a fydd yn cael eu dosbarthu i'r sefydliadau partner.
Bydd yr adroddiadau hyn hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi a monitro cynnydd yr awdurdodau lleol partner yn erbyn targedau perthnasol y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAu) a’r Strategaethau Cymraeg 5 mlynedd.
Bydd y swydd wedi'i lleoli o fewn Menter Caerffili at ddibenion llywodraethu, rheoli perfformiad uniongyrchol, gofod swyddfa, cyflogres ac ati. Yn weithredol, bydd y swydd yn cael ei chynnal drwy gyfuniad o waith swyddfa a gweithio gartref, gyda rhai cyfarfodydd ar draws y rhanbarth drwy Zoom/Teams neu wyneb yn wyneb.
Mae nifer o brosiectau ymchwil ac adnoddau eisoes ar y gweill, i ddarparu offer parod i'r ymgeisydd llwyddiannus er mwyn iddynt ymgymryd â'r rôl. Byddant hefyd yn cael cefnogaeth a phrofiad y swyddogion cyswllt o bob un o'r sefydliadau partner.
Mae'r swydd yn cael ei hariannu i ddechrau tan 31.03.24 gyda'r posibilrwydd o ymestyn y rôl, ac mae'r partneriaid yn agored i ystyried secondiad i'r rôl yn ogystal ag apwyntiad ffurfiol.
Mae manylion llawn y rôl i'w gweld yn y ddogfen Disgrifiad Swydd atodol.
Rhaid cyflwyno ceisiadau i Lowri Jones, Prif Swyddog Menter Caerffili, dros e-bost:
Neu drwy'r post: Lowri Jones (parthed: Rôl y Pencampwr Hyrwyddo), Menter Caerffili, Ystafell 1, Parc St Margaret, Pengam Road, Aberbargod, CF81 9FW.
Rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 5:00pm ddydd Gwener 10fed Chwefror 2023.
Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio’r wythnos ganlynol a hysbysir yr ymgeiswyr cyn gynted â phosibl wedi hynny. Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 27ain Chwefror 2023. Cynhelir cyfweliadau ar-lein oherwydd yr amrywiaeth o bartneriaid dan sylw a rhoddir y manylion i ymgeiswyr pan gânt eu gwahodd i gyfweliad. Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol neu benodol ar gyfer y cyfweliad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Cyflog
💰 £44,624 pro rata
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy.
Prif Ddyletswyddau - Llunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu a marchnata’r Eisteddfod yn ganolog ac ar gyfer pob Eisteddfod unigol.
- Rheoli, hybu a pharatoi arweinyddiaeth greadigol gan ddatblygu adnoddau a systemau i hybu gweithgareddau, a monitro, datblygu a chodi proffil yr Eisteddfod yn y wasg a’r cyfryngau.
- Comisiynu a rheoli ymchwil yn ôl yr angen a chreu, coladu a llunio arolygon er mwyn paratoi gwybodaeth ystadegol i hysbysu penderfyniadau’r Tîm Rheoli a’r Bwrdd.
- Rheoli prosesau ymgyrchoedd hysbysebu’r Eisteddfod ynghyd â hybu ac amddiffyn y brand a’r ddelwedd gorfforaethol drwy reoli enw da'r Eisteddfod yn gyhoeddus.
- Monitro ffynonellau gwybodaeth a gynhyrchir gan sefydliadau allanol perthnasol a chynghori'r Tîm Rheoli a’r Bwrdd ar ymateb corfforaethol.
- Cyfathrebu gwybodaeth gorfforaethol berthnasol yn rheolaidd i gyd-weithwyr.
- Arwain ar greu a chyhoeddi llenyddiaeth swyddogol yr Eisteddfod mewn print ac ar-lein.
- Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod.
- Cynllunio a gweithredu anghenion cyhoeddusrwydd noddwyr.
- Rheoli, datblygu a diweddaru gwefan a phlatfformau digidol yr Eisteddfod, gan gynnwys paratoi a golygu clipiau fideo drwy gydol y flwyddyn.
- Paratoi cylchlythyrau electronig ar gyfer ymgysylltu gwleidyddol, a chadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr a chwsmeriaid.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £34,250 - £36,352
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth
Mae Darwin Gray yn edrych am Gyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i gyfreithiwr ymuno â thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray; tîm a enillodd gwobr Tîm Cyfraith Cyflogaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2022. Cyfle i gefnogi'r criw profiadol o gyfreithwyr cyflogaeth sydd eisioes yn rhan o'r tîm.
Lleoliad: Dewis o Swyddfa Caerdydd (9 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA) NEU Swyddfa Bangor (Unit F12, InTec, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG) gyda pheth gweithio o adref os y dymunir.
Oriau: 37.5 awr yr wythnos. Dydd Llun – Gwener, 9.00yb – 5.30yh gyda 1 awr i ginio, ond yn gorffen am 4yh ar ddydd Gwener.
Cyflog: £i’w gadarnhau yn ddibynnol ar brofiad.
Buddion: 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal â’r gwyliau banc statudol / Yswiriant meddygol preifat / 3% cyfraniad pensiwn / Yswiriant marwolaeth mewn gwasanaeth.
Pwrpas y Rôl: I weithio gyda thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray ac i ddarparu cefnogaeth effeithiol i’r tîm pan ddaw i gynghori cleientiaid ar faterion cyfraith cyflogaeth.
Tasgiau allweddol: I ddarparu cefnogaeth i’r tîm cyfraith cyflogaeth ar y materion canlynol:
· Achosion Tribiwnlys Cyflogaeth;
· Materion disgyblu a chwyno;
· Anffafriaeth;
· Diswyddiadau, diswyddo gorfodol ac ailstrwythuro;
· Cytundebau cyflogaeth a llawlyfrau staff;
· Cytundebau hunan-gyflogedig;
· Cytundebau setliad;
· Trosglwyddiadau TUPE;
· Helpu gyda hyfforddi cleientiaid;
· Materion cyflogaeth ynghlwm â phrynu a gwerthu busnesau;
· Chwythu’r chiban; a
· Archwiliadau yn y gweithle.
Gallu technegol:
Hanfodol_: _
· O gwmpas 2 flynedd o gyflogaeth ôl-gymhwyso mewn cyfraith cyflogaeth
· Gallu technegol ardderchog
· Gallu i ddefnyddio MS Word ac Outlook
Dymunol_: _
· Profiad o ddefnyddio basdata rheoli achosion Manyleb:
· Gallu cyfathrebu cryf. Cymraeg yn ddymunol
· Yn gweithio'n gyson i lefel uchel o gywirdeb a manylder
· Gallu gweithio'n annibynnol ond hefyd fel rhan o dîm ar brosiectau mwy
· Gallu defnyddio menter ei hun
· Yn drefnus ac yn medru gweithio o dan bwysau
· Yn cwblhau tasgau
· Yn hyblyg ac yn barod i helpu aelodau eraill o’r tîm fel sydd angen Cysylltwch â Owen John ([email protected] / 02920 829 118) i gyflwyno cais neu am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd, Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyflogres a Buddion
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Reolwr Cyflogres a Buddion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Rheolwr Cyflogres a Buddion yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni swyddogaeth cyflogres y gwasanaethau Adnoddau Dynol i’w holl gwsmeriaid. Byddwch yn gyfrifol am berfformiad y gwasanaeth cyflogres a sut mae’n cael ei redeg, byddwch yn sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cyd-fynd â gofynion statudol a deddfwriaethol, a byddwch yn rheoli'r tîm Cyflogres a Phensiynau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys tri aelod arall. Deiliad y swydd sy'n gyfrifol am dalu dros 2000 o weithwyr a phensiynwyr bob mis, ac am gydlynu â’r Adran Adnoddau Dynol ac adrannau eraill yn y Brifysgol. Byddwch yn gyfrifol am weinyddu Cynllun Pensiynau’r Prifysgolion (USS) Chynllun Pensiwn Prifysgol Aberystwyth (AUPP).
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Sharon Lilley, Pennaeth y Gwasanaethau Adnoddau Dynol [email protected].
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos ar ôl y dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
**Y Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau **
- Arwain a rheoli'r gyflogres i sicrhau ei bod yn cael ei rhedeg yn effeithiol, yn gywir ac yn amserol, lle gwneir cyn lleied o gamgymeriadau a gordaliadau â phosib.
- Sicrhau bod gwasanaeth cyflogres proffesiynol yn cael ei ddarparu sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid ac sy’n gost effeithiol, a berchir gan gwsmeriaid ac un sy’n arddel yr arferion gorau.
- Arwain tîm y gyflogres gan roi cyfarwyddyd, rheoli perfformiad a darparu cymorth priodol.
- Mynd ati’n rhagweithiol i ddod o hyd i ffyrdd o wella prosesau a sicrhau effeithlonrwydd gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu systemau, yn ôl y gofyn.
- Cynllunio a monitro llwyth gwaith y tîm a sut mae’r gwaith yn cael ei ddyrannu, gan sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi a'u datblygu er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac yn effeithlon a darparu gwasanaeth sy'n rhoi cwsmeriaid yn y canol.
- Sicrhau bod sianeli cyfathrebu effeithiol ar waith yn y tîm a chyda'r Brifysgol yn gyffredinol wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â’r gyflogres a phensiynau.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol â phartneriaid, sefydliadau allanol a chyrff.
- Datblygu a phrofi cynlluniau parhad busnes ac adfer yn sgil trychinebau, yn ogystal â gweithdrefnau cam wrth gam.
- Dehongli a throsglwyddo gwybodaeth gymhleth ac arbenigol i, ymhlith eraill, bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
- Sicrhau y cydymffurfir â holl ofynion statudol y Cynllun Talu Wrth Ennill a chynlluniau pensiwn, a sicrhau bod adroddiadau gofynnol yn cael eu creu sy’n gywir ac yn amserol, megis Gwybodaeth Amser Real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a ffurflenni cynlluniau pensiwn.
- Datblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau ledled y Brifysgol sy'n gysylltiedig â'r gyflogres a phensiynau, cydlynu ag uwch reolwyr, archwilwyr ac adrannau eraill lle bo hynny'n briodol.
- Cynghori'r Brifysgol ar faterion 'statws cyflogaeth' yn unol â gofynion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
- Paratoi ar gyfer archwiliadau a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn modd amserol.
- Cysylltu â darparwyr Budd-daliadau/Pensiwn y Brifysgol ar faterion pensiwn a buddion gweithwyr, a rhannu gwybodaeth â rheolwyr a staff yn y Brifysgol. Cynorthwyo Gweithrediaeth ac Adran Adnoddau Dynol y Brifysgol pan fo staff yn ymddeol yn gynnar, megis mewn achosion diswyddo ac afiechyd, a rhoi cyngor ar y goblygiadau o ran pensiynau.
- Datblygu fframweithiau fel y gellir rhannu gwybodaeth am bensiynau a budd-daliadau yn effeithiol i holl staff y Brifysgol trwy ddulliau amrywiol.
- Sicrhau bod gan y tîm ganllaw cam wrth gam sydd wedi’i brofi ac sy'n galluogi'r Brifysgol i weithredu’r gyflogres mewn sefyllfaoedd argyfyngus pan fo staff yn absennol.
- Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn gweithgareddau adolygu perfformiad a gweithgareddau datblygu.
- Rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol ac ariannol perthnasol, a dylai wybod beth yw ei gyfrifoldebau yng nghyswllt gofynion cyfreithiol ei swydd.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
- Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd.
- Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff drwy ddefnyddio trefn Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill o fewn i raddfa'r swydd.
Cyflog
💰 £43,414 - £51,805
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Weithiwr Chwarae
Mae Menter Iaith Casnewydd yn edrych am Uwch Weithiwr Chwarae
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn chwilio am Uwch-Weithiwr Chwarae i weithio yn ei Clybiau Sbort a Sbri.
Pwrpas y swydd:
• Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol
• Goruchwylio cynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
• Goruchwylio systemau rheoli budd risg sy’n effeithiol
• Sicrhau cydymffurfiad â’r rheoliadau ar ofal dydd, gan gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
**Prif ddyletswyddau **
• Sicrhau’r ddarpariaeth o amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol, lle gall y plant chwarae’n rhydd yn ôl yr hyn a ddarperir.
• Cydlynu a sicrhau y cesglir y plant o'r ysgol/ion.
• Goruchwylio cynllunio a pharatoi’r gweithgareddau chwarae, paratoi’r ardal chwarae a’r adnoddau, a fydd yn ateb eu hanghenion chwarae unigol.
• Meithrin perthnasoedd effeithiol ac onest gyda phlant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr.
• Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal, a lle bo’n briodol yn cynnwys ymgymryd ag asesiadau risg: budd ar chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi staff yn y broses hon.
• Creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach er mwyn rhoi amryw o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a chefnogi’r dealltwriaeth o hawl plant i chwarae.
• Dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau ar Ddiogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.
• Dilyn ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys, a chyfrinachedd fel y cymeradwyir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.
• Sicrhau bod staff yn dilyn, ac yn ymgysylltu â’r polisïau a’r gweithdrefnau, a’u hadolygu.
• Sicrhau y goruchwylir y plant a’r bobl ifanc yn briodol drwy gydol y sesiynau.
• Gweinyddu Cymorth Cyntaf fel y bo’n gymwys.
• Sicrhau y cesglir y plant a’r bobl ifanc gan rieni/gofalwyr yn gweithio o fewn y canllawiau polisi.
• Sicrhau y darperir ystod o opsiynau bwyd a diod yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau.
• Unrhyw ddyletswydd arall perthynol i’r swydd ar gais y pwyllgor/perchennog/rheolwr.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol dielw sydd â’r nod o gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd ac i alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.
Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol. Cysylltwch gyda [email protected] am fanylion pellach
Cyflog
💰 £21,000 pro rata
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth (x2 Swydd)
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth (x2 Swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn gweithio mewn awyrgylch prysur fel rhan o dîm brwdfrydig, mae’r swydd hon fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth yn chwarae rhan ganolog wrth gynnig gwasanaeth cwsmer rhagorol.
Mae'r swydd hon yn seiliedig ar oriau blynyddol, lle gall faint o oriau rydych chi'n eu gweithio bob mis amrywio, ond bydd eich cyflog yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad cyfartal dros y flwyddyn.
Sut brofiad yw gweithio yma?
Plasty a gerddi cain yw Plas Newydd, gyda golygfeydd syfrdanol ar draws y Fenai tuag at fynyddoedd Eryri. Daw ymwelwyr o bob rhan o’r byd i Blas Newydd ac mae’r tim yn croesawu pobl gyfeillgar, groesawgar sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol i ymuno â nhw. Mae’n debygol y bydd angen ichi fod â’ch trafnidiaeth eich hun i gyrraedd yma, fodd bynnag, mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio o fewn eiddo bywiog mewn lleoliad gwirioneddol ryfeddol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian fel ein bod yn gallu parhau i ofalu am dreftadaeth ein hymddiriedolaeth. Mae ymwelwyr yn rhan allweddol o’r hyn rydym yn ei wneud, felly byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn cynnig gwasanaeth rhagorol i’n holl ymwelwyr, bob dydd. Fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, eich gwaith chi yw sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael croeso perffaith fydd yn eu paratoi am brofiad arbennig am weddill y diwrnod.
Byddwch yn gyfrifol am ateb ymholiadau, a sicrhau bod ymwelwyr yn gallu dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnynt yn ystod eu hymweliad. Mae deall pam a sut rydym yn ymgysylltu â’n cefnogwyr yn allweddol. Wrth weithio gyda’n hymdeimlad o le, byddwch yn gweithio gyda’r tîm croesawu ymwelwyr i gysylltu popeth rydym yn ei wneud yn ôl i’n hachos a’r gwaith parhaus rydym yn ei wneud. Byddwch yn cyflwyno i safon uchel yn yr eiddo, ac yn sicrhau eich bod yn cyfathrebu’n glir a chyson gyda’n hymwelwyr, o’r clic cyntaf ar y wefan, i’r posteri a’r arwyddion o amgylch yr eiddo.
Am bwy ydym yn chwilio?
Hoffem glywed gennych, os ydy hyn yn swnio fel chi:
A ydych chi'n gallu siarad Cymraeg?
Gallu gweithio mewn tîm - yn hyblyg ac yn addasadwy
Trefnus a’r gallu i weithio heb fawr o oruchwyliaeth
Defnyddiol a Chyfeillgar
Yn canolbwyntio ar y cwsmer gydag agwedd gadarnhaol
Brwdfrydig ac yn barod i ddysgu
Dealltwriaeth o bwysigrwydd gwasanaeth gwych
Y Pecyn
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
Cynllun gofal plant di-dreth.
Cynllun benthyciad blaendal rhent.
Benthyciad tocyn tymor.
Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema.
Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl.
Rhaglen cynorthwyo cyflogai.
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau.
Cyngor ariannol annibynnol.
Cyflog
💰 £9.90 yr awr
Lleoliad
📍 Llanfairpwll
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth Dros Dro
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth Dros Dro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cyfrannu at waith y tïm sydd yn darparu cefnogaeth broffesiynol i holl Gynghorwyr y Cyngor trwy’r gyfundrefn bwyllgorau ac unrhyw gymorth arall fel bo’r Cynghorwyr yn gallu cyflawni yn eu dyletswyddu a’u gwahanol rolau.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth] (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sioned Mai Jones ar 01286 679665
Swydd dros dro am gyfnod o flwyddyn.
Ystyried secondiad/rhannu swydd ar gyfer y swydd yma.
Cynnal cyfweliadau 9fed neu 10fed Chwefror, 2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 02/02/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £27,344 - £29,439
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Rydym nawr yn chwilio am Gynghorydd Adnoddau Dynol i ymuno â'n tîm yn barhaol, llawn amser, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £27,852 - £32,020 y flwyddyn
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Mae hwn yn gyfle eithriadol i weithiwr AD proffesiynol dawnus gamu i rôl amrywiol gyda Pharc Cenedlaethol mwyaf Cymru.
Y Rôl
Fel Cynghorydd Adnoddau Dynol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o ganllawiau, cyngor a chefnogaeth AD, yn ogystal ag ymdrin ag elfennau o'r gyflogres.
Gan oruchwylio pob agwedd ar weinyddu’r gyflogres, byddwch yn gweithio gyda’r Adran Gyllid i sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud yn gywir ac ar amser. Byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth am y gyflogres yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a bod y data’n gywir.
Wrth weinyddu ein prosesau recriwtio, byddwch yn cefnogi rheolwyr i baratoi disgrifiadau swydd a hysbysebion, trefnu cyfweliadau a pharatoi contractau. Byddwch yn cynghori mewn paneli cyfweld, yn goruchwylio prosesau sefydlu staff ac yn cefnogi gweithrediad y cynllun gwerthuso a datblygu staff.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cyfrannu at gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal
- Gweithredu fel Swyddog Gweinyddol Iechyd a Diogelwch, gan ddarparu arferion gweithio diogel ac iach i staff
- Goruchwylio gweinyddiad ein polisïau
- Cynhyrchu adroddiadau a phrosesu anfonebau
- Sicrhau bod yr holl ddata a dogfennaeth yn gyfredol ac yn gywir
- Cynghori a gweinyddu'r broses rheoli amser ac absenoldeb
Amdanoch chi
I gael eich ystyried yn Gynghorydd Adnoddau Dynol, bydd angen:
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol, yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o weithio ym maes AD
- Profiad gweinyddol
- Profiad o drin data cyfrinachol a sensitif
- Profiad o ddefnyddio systemau data
- Gwybodaeth dda o brosesau AD
- Dealltwriaeth o sut i ddatrys atgyfeiriadau ymholiadau uwch
- Hyfedredd TG
- Meddu ar, neu fod yn gweithio tuag at, CIPD Lefel 3
- O leiaf, TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth)
- Trwydded yrru lawn, ddilys
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 5 Chwefror 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynghorydd AD, Cynghorydd AD Cyffredinol, Cydgysylltydd AD, Cynghorydd Pobl, Cydgysylltydd Adnoddau Dynol, neu Gynghorydd Cysylltiadau Gweithwyr.
Felly, i ddatblygu'ch gyrfa gyda'n sefydliad gwych fel Cynghorydd AD, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £27,852 - £32,020
Lleoliad
📍 Penrhyndeudraeth, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Dadansoddi Data
Mae Archwilio Cymru yn edrych am Swyddog Dadansoddi Data
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Archwilio Cymru am recriwtio Swyddog Dadansoddi Data.
Ydych chi'n brofiadol ym myd gwyddor data a dadansoddi data? Oes gennych chi angerdd am raglenni ac arloesi? Rydym yn chwilio am rywun sy’n uwch eu cymhelliant i fod yn rhan o'n tîm Dadansoddi Data egnïol a gwydn sy'n defnyddio dulliau a arweinir gan ddata i drawsnewid y ffordd rydym yn ymgymryd â'n gwaith archwilio.
Bydd eich hyfedredd mewn rhaglennu R/Python yn disgleirio wrth i chi ymgolli yn natblygiad iteraidd ein prosiectau. Bydd gennych y cymhelliant a'r penderfyniad i weithio'n annibynnol, o fewn y tîm a gyda'n cwsmeriaid i gyflawni yn unol â therfynau amser.
Mae gwir ddeall anghenion ein cydweithwyr fel cwsmeriaid yn allweddol i lwyddiant ein prosiectau data, felly bydd angen i chi gael sgiliau holi a gwrando rhagorol er mwyn cysylltu â chydweithwyr a chleientiaid o lefelau amrywiol o uwch-dra, mewn cyfarfodydd personol, gweithdai a hwylusir, sesiynau hyfforddi a chyflwyniadau.
Mae delweddu data yn allweddol er mwyn deall y mewnwelediad o fewn ein data felly mae angen rhywun medrus wrth adrodd y stori o fewn y data, a rhywun a all ein helpu i ymestyn cyrhaeddiad gwaith trwy gynhyrchu offer data ar gyfer y cyhoedd.
Canfuwch fwy
I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Steve Lisle ar 07791 007147 neu Helen Goddard ar 02920 320642.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hanner nos ar 12 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 £33,280 - £39,474
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am gyfieithydd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i staff ac i'r gwahanol adrannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a hefyd o'r Gymraeg i'r Saesneg o bryd i'w gilydd. Yn ogystal, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo'r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gyhoeddi deunydd yn y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y rôl hon yn cyfrannu at sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â rheoliadau Mesur y Gymraeg (2011), a thrwy wneud hynny bydd yn sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu cynnig i gleifion yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg cynhwysfawr, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Safonau'r Gymraeg.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda rheolwyr gwasanaethau i wella gwasanaethau a sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog yn holl fusnes y Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu'r canlynol:
Deunydd gofal iechyd fel taflenni gwybodaeth i gleifion, llythyrau i gleifion a chyfarwyddiadau meddygol o wahanol feysydd, o Ffisiotherapi i Faeth
Deunydd ar wefan y Bwrdd Iechyd
Llythyrau i'r cyhoedd ac oddi wrth y cyhoedd, ac unrhyw fathau eraill o ohebiaeth a dderbynnir
Deunydd cyfryngau cymdeithasol fel pyst Facebook a negeseuon Twitter
Posteri ac arwyddion.
Adroddiadau fel adroddiad blynyddol y Bwrdd Iechyd.
Unrhyw destunau eraill a ystyrir yn briodol gan Swyddog y Gymraeg neu'r Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg
Cyfieithu dogfennau/llythyron a gohebiaeth (e.e. llythyron cwyno, llythyron oddi wrth Aelodau'r Cynulliad, datganiadau i'r wasg ac ati) ar ran Swyddfa'r Prif Weithredwr lle bydd dyddiadau dychwelyd tyn a lle bydd y wybodaeth yn aml yn gymhleth/sensitif, megis y gofal a'r driniaeth a roddir i glaf/cleifion, asesiadau cymhleth, cofnodion meddygol ac ati
Gweithio'n agos ac ar y cyd â thîm cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwybodaeth ddwyieithog i'w chyhoeddi drwy'r rhyngrwyd/y fewnrwyd a chyfryngau cymdeithasol y sefydliad
Amdanom ni
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o deulu GIG Cymru. Mae ein Bwrdd Iechyd yn darparu gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a chymunedol ynghyd â gwasanaethau lles i tua 450,000 o bobl sy'n byw mewn tair sir: Pen-y-bont ar Ogwr, Merthur Tydful a Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni'n byw yn ôl ein gwerthoedd craidd:
Rydyn ni'n gwrando, yn dysgu ac yn gwella
Rydyn ni'n trin pawb â pharch
Rydyn ni i gyd yn gweithio fel un tîm
Rydyn ni'n gyflogwr lleol balch; mae tua 80% o'n gweithlu o 15,000 yn byw o fewn ein rhanbarth. O ganlyniad, nid enaid y sefydliad yn unig y mae ein staff yn ei gynrychioli, ond y cymunedau amrywiol rydyn ni'n eu gwasanaethu.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Pontypridd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu
Mae Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn edrych am Gyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu i ymuno â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Mae’r swydd allweddol hon yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer unigolyn deinamig y mae iddo/iddi hygrededd cydnabyddedig o reoli ar lefel strategol. Y Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu fydd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli cynlluniau a phrosiectau strategol, yn arbennig y rheiny sy’n newydd i’r Ganolfan yn ail gam ei ddatblygiad. Bydd hefyd yn arwain ar ddatblygiadau digidol, ynghyd â datblygu a rheoli pob agwedd ar wasanaethau cefnogi corfforaethol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan gynnwys systemau rheoli perfformiad, data, cyllid a sicrhau ansawdd.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu, bydd arnoch angen y canlynol:
- Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)
- Profiad a hygrededd cydnabyddedig fel rheolwr lefel uwch
- Dealltwriaeth o ofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol cyfredol yn ymwneud â’r Gymraeg
- Profiad o ddelio â sefyllfaoedd anodd a rheoli newid
- Profiad o gynllunio a datblygu chynlluniau strategol a gweithredol gan gynnwys cyllidebau o werth uchel
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i ysbrydoli cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- Y gallu i sefydlu partneriaethau strategol amrywiol
- Y gallu i arwain tîm o gydweithwyr
- Y gallu i flaenoriaethu gwaith, gwneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio’ch blaengaredd eich hun
- Yn medru ac yn barod i deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen
- Meddu ar y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Cymhwyster neu hyfforddiant benodol mewn caffael iaith
- Ymwybyddiaeth o faes Dysgu Cymraeg
- Ymwybyddiaeth o’r sector Addysg Statudol neu Anstatudol
- Profiad o arwain meysydd gwasanaethau corfforaethol e.e ansawdd, systemau
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Cyflog
💰 £60,000 - £70,000
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Cynnwys Digidol
Mae S4C yn edrych am Olygydd Cynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Olygydd Cynnwys Digidol i ymuno a’r Adran Cyhoeddi. Gyda phlatfformau digidol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.
Mae’r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi’n ymateb i’r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi wrth lunio a gweithredu strategaeth S4C ar blatfformau digidol. Byddwch yn gyfrifol am ddadansoddi, cwestiynu ac addasu strategaethau cynnwys digidol, a llif gwaith digidol (organig a phartneriaethau), yn fewnol yn S4C ac yn allanol ar draws yr holl gwmnïau cynhyrchu annibynnol yr ydym yn comisiynu cynnwys ganddynt.
Byddwch yn arwain tîm digidol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith ac allbwn creadigol y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon digidol cyfresi S4C, yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i’r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.
Gan weithio’n agos gyda’r tîm digidol, yn ogystal ag aelodau allweddol eraill o fewn S4C (y Prif Swyddog Cynnwys, y timau comisiynu, y wasg, newyddion a marchnata) a’r cwmnïau cynhyrchu, byddwch yn arwain, datblygu a sefydlu llais S4C ar y platfformau digidol - yn perchnogi’r cyfrifon trwy fod yn chwareus, creu sŵn, a neidio ar “trends” ehangach (o fewn Cymru, Prydain ac yn fyd-eang).
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, goruchwylio a hwyluso ffrydio cynnwys byw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen, a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon uchel gyda staff ag eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin/S4C Caerdydd/S4C Caernarfon. Mae S4C yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 16.45 ar ddydd Gwener 27 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg
Mae Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i siaradwr Cymraeg rhugl ymuno â Thîm Addysg yr Ysgol Deintyddiaeth. Bydd yn cefnogi’r Ysgol i weithredu a gwerthuso rhaglen waith sydd â’r nod o gynyddu ceisiadau i’r rhaglenni israddedig gan ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith, a chynyddu nifer ac amrywiaeth y cyfleoedd i fyfyrwyr gyflawni eu hyfforddiant meddygol israddedig mewn sefydliad cyfrwng Cymraeg.
Wedi ei hariannu gan y Coleg Cymraeg, bydd y swydd cyfnod penodol o dair blynedd hon ar gael ar sail ran-amser (21 awr yr wythnos). Mae’r Ysgol yn hyblyg o ran y patrwm gwaith.
Rydym yn chwilio am gyfathrebwr rhagorol sy’n gallu cyflwyno gwybodaeth fanwl a chymhleth yn ddwyieithog mewn modd effeithiol, proffesiynol a deniadol i ystod eang o gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a brwdfrydig gyda chofnod diamheuol o gyflwyno portffolio o weithgareddau marchnata a chyfathrebu, a gallu gweithredol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant a datblygiad.
Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol ynghylch y rôl at Reolwr yr Ysgol, Riah-Jayne Jones [email protected]
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 29 Ionawr 2023.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymroi i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan greu awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o sawl cefndir gwahanol a hoffai greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei dyletswydd gymdeithasol, diwylliannol ac economaidd dros Gaerdydd, Cymru a’r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £28,762 - £33,31
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cymorth E-ddysgu
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Cymorth E-ddysgu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan aelodau presennol o staff sy'n dymuno gwneud cais fel cyfle secondiad.
Mae'r swydd a hysbysebir yn rhan o'r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu o fewn y Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae'r Uned yn adrodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth ac mae’n gweithio'n eang ar draws y Brifysgol yn cynorthwyo staff sy'n datblygu dysgu ac addysgu. Un o feysydd gwaith yr Uned yw datblygu a darparu cymorth e-ddysgu.
Prif nod y swydd 0.5 CALl hon yw cynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n defnyddio'r technolegau dysgu a gynigir gan y Brifysgol, gan gynnwys Blackboard, Turnitin a Panopto. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus roi cymorth i ddefnyddwyr dros Teams, dros y ffôn a thrwy'r ebost, yn ogystal â darparu sesiynau hyfforddiant i staff a myfyrwyr. Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan wrth gefnogi arholiadau ar-lein yn y brifysgol a chynnal yr Arolwg Mewnwelediadau Profiad Digidol blynyddol.
Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfarwydd â defnyddio'r offer hyn ac yn gallu helpu staff y Brifysgol i'w defnyddio.
Gellir rhannu'r prif ddyletswyddau fel hyn:
Rhoi cymorth i staff a myfyrwyr dros y ffôn, drwy'r ebost ac yn bersonol.
Darparu hyfforddiant i grwpiau ac ymgynghoriadau i grwpiau bach neu i aelodau unigol o'r staff.
Cynnig cymorth ar gyfer yr arholiadau ar-lein a gynhelir yn ystod cyfnod yr arholiadau yn ogystal â'r arholiadau canol-semester.
Cynnal yr Arolwg Mewnwelediadau Profiad Digidol blynyddol Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i Reolwr yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu.
Swydd ran-amser yw hon – bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio 4 diwrnod yr wythnos, yn ddelfrydol yn y boreau. Serch hynny, mae rhywfaint o hyblygrwydd o ran yr oriau a’r dyddiau y byddwch yn gweithio.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Ms Kate Wright, Rheolwr yr Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu ([email protected])
Cyflog
💰 £29,619 - £35,333 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Caffi Garth Olwg
Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn edrych am Reolwr Caffi Garth Olwg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf wedi ennill tendr i redeg y Caffi yng Nghanolfan Gydol Oes Garth Olwg.
Mae’r Ganolfan ar safle’r Ysgol 3 – 18 oed ac yno lyfrgell gyhoeddus, gwersi a grwpiau cymunedol yn cwrdd yn wythnosol a’r theatr, felly mae’n ganolfan brysur iawn a chynulleidfa gref.
Mi fyddai agor y caffi yn gwneud gwahaniaeth mawr Fenter, yn ganolfan gymdeithasol i bobl gael clywed a defnyddio’r Gymraeg yn y Sir.
Bydd y caffi yn fan cymdeithasol sy’n cynnig gwasanaeth i’r gymdeithas i ymlacio a’n bwriad yw gallu cynnig cyfleoedd i bobl wirfoddoli drwy’r Gymraeg gan gynnig profiadau byd gwaith i fyfyrwyr, i bobl di-freintiedig neu sydd ag anableddau dysgu.
Byddai’r caffi yn rhoi llwyfan i allu hyrwyddo’r Gymraeg, boed trwy ddigwyddiadau, dosbarthiadau, cynnyrch Cymreig – yn hwb Gymraeg ei iaith i bobl cael cyfle i glywed a defnyddio’r iaith.
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r sir yn 2024, mae’n siŵr bydd Canolfan Garth Olwg yn ganolog iawn i nifer o ddigwyddiadau a byddai cael caffi Cymraeg wrth galon y ganolfan yn gam cyntaf wrth feddwl am waddol i’r brifwyl.
Dyma gyfle cyffroes i unigolyn gael cyfle i rhoi stamp ei hunan ar brosiect newydd!
Hanfodol
· Dangos ymrwymiad brwd i’r iaith Gymraeg
Rydym yn chwilio am reolwr caffi i arwain pob agwedd ar ein busnes. Byddwch yn darparu bwydlen o ansawdd uchel ac anrhegion o ansawdd uchel ac yn cymell ein staff i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen sgiliau a phrofiad rheoli arnoch chi. Byddwch yn goruchwylio'r ystafell fwyta, yn mewngofnodi gyda'r cwsmeriaid ac yn cydbwyso capasiti’r seddi.
Mae profiad rheoli cefn tŷ yn hanfodol, gan y byddwch yn llogi staff a gwirfoddowlyr cymwys, yn gosod amserlenni gwaith, yn goruchwylio paratoi bwyd, ac yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch bwytai.
Cyfrifoldebau
· Darparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau a sicrhau boddhad cwsmeriaid i'r eithaf
· Hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac anog y defnydd o'r Gymraeg yn y caffi
· Ymateb yn effeithlon ac yn gywir i gwynion cwsmeriaid
· Adolygu ansawdd cynnyrch yn rheolaidd ac ymchwilio i werthwyr newydd
· Trefnu a goruchwylio sifftiau
· Gwerthuso perfformiad staff a rhoi adborth i wella cynhyrchiant
· Amcangyfrif anghenion nwyddau, offer cegin a chynhyrchion glanhau yn y dyfodol
· Cyfrifoldeb am Asesiadau Risg a’u bod wedi eu diweddaru
· Sicrhau cydymffurfiad â rheoliadau glanweithdra a diogelwch
· Rheoli Delwedd dda ac awgrymu ffyrdd o'i wella
· Rheoli costau gweithredol a nodi mesurau i dorri gwastraff
· Creu adroddiadau manwl ar refeniw a threuliau wythnosol / misol, a blynyddol
· Hyrwyddo'r brand yn y gymuned leol ar lafar a thrwy ddigwyddiadau bwyty
· Argymell ffyrdd o gyrraedd cynulleidfa ehangach (e.e. gostyngiadau a hysbysebion cyfryngau cymdeithasol)
· Yn atebol am stoc / colli stoc / cymryd stoc
· Hyfforddi gweithwyr a gwirfoddolwyr newydd a chyfredol ar arferion gwasanaeth cwsmeriaid cywir
· Gweithredu polisïau a gweithdrefnau a fydd yn cynnal gweithrediadau busnes yn y dyfodol
· Cyd-weithio gyda Tim Rheoli Canolfan Gydol-Oes Garth Olwg
Gofynion
· Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg
· Profiad gwaith profedig fel Rheolwr Bwyty, Rheolwr Lletygarwch, Rheolwr Siop, neu rôl debyg
· Profiad gwasanaeth cwsmer profedig fel rheolwr
· Gwybodaeth am fwyd a diod , gyda'r gallu i gofio a dwyn i gof gynhwysion a seigiau i hysbysu cwsmeriaid a staff sy’n gweini
· Sgiliau arwain, ysgogol a phobl cryf
· Sgiliau rheoli ariannol acíwt
· Yn gallu gweithio oriau hyblyg
· Mynychu cyfarfodydd Bwrdd Rheoli Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Cyflog
💰 £23,500
Lleoliad
📍 Rhondda Cynon Taf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyllid
Mae Estyn yn edrych am Swyddog Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n angerddol ynghylch Cyllid a Gwasanaeth Cwsmeriaid i ymuno â ni fel Swyddog Cyllid. Byddwch yn cefnogi datblygu a chynnal ein cofnodion ariannol, yn darparu cymorth technegol i’n deiliaid cyllideb ac uwch reolwyr ac yn helpu cynorthwyo’r Tîm Cyllid ehangach.
Fel Swyddog Cyllid, bydd gennych chi rôl bwysig mewn rheoli a chyflawni’r prosesau ariannol sy’n darparu ar gyfer monitro cyllidebau, adrodd a chreu ein cyfrifon adnoddau blynyddol. Byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Ariannol i ddatblygu a chynnal systemau, polisïau a gweithdrefnau cyllid. Byddwch yn rheolwr llinell ar 3 swyddog gweinyddol. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.
Meini prawf yn benodol i’r swydd
Mae’n hanfodol eich bod:
· yn meddu ar gymhwyster cyllid (o leiaf AAT lefel 3 neu gyfwerth)
· yn meddu ar brofiad mewn cynnal cofnodion manwl a chywir, e.e. cofnodion cyllid neu asedau a stocrestrau
· yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a TG da (gan gynnwys Microsoft Office)
· yn drefnus ac yn meddu ar alluoedd da o ran rheoli amser ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytunedig
· yn unigolyn hawdd mynd atoch ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol
· yn deall sut i gyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid da
· yn gallu nodi tueddiadau a materion mewn data er mwyn cyfleu a chyflwyno gwybodaeth dechnegol / arbenigol mewn ffordd y gall pobl eraill (gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr) ei deall
· yn gallu canfod a datrys problemau yn gyflym, gan ddilyn prosesau sefydledig
· yn gallu gweithio’n gywir gan roi sylw i fanylder
· yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio’ch blaengaredd, tra byddwch chi hefyd yn cydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad
· yn gallu canolbwyntio a chyflwyno mewn amgylchedd gweithio hybrid
Mae’n fanteisiol eich bod:
yn meddu ar ymwybyddiaeth o weithgarwch a mentrau twyll cyfredol a nodwyd ac ystyried yr effaith ar sefydliadau
yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
Ymddygiadau allweddol
· Gweld y darlun mawr
· Newid a gwella
· Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
· Cyflawni ar gyflymdra
· Gweithio gyda’n gilydd
Cyflog - £26,900 - £30,610 y flwyddyn
Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio breaks. Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser/oriau llai, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.
Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr.
Mae manylion ar sut i wneud cais ar gael o www.estyn.llyw.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10:00am, Ddydd Llun, 6 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 £26,900 - £30,610
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch ymchwilydd – Practis Cymru
Mae Odgers Berndtson yn edrych am Uwch ymchwilydd – Practis Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Uwch ymchwilydd – Practis Cymru
Rôl hybrid – yng Nghaerdydd am ran o’r wythnos
Cyflog cystadleuol a phecyn buddion a bonws yn ôl disgresiwn Rydym yn chwilio am Ymchwilydd i ymuno â’n Practis llwyddiannus yng Nghymru i weithio ar aseiniadau chwilio am uwch swyddogion ar draws y sectorau Preifat, Cyhoeddus ac Nid er Elw.
Odgers Berndtson yw prif gwmni chwilio am uwch swyddogion y DU, gyda’r tîm mwyaf o Ymchwilwyr arbenigol yn y DU ar draws ein rhwydwaith o 8 swyddfa ranbarthol.
Ni yw’r unig gwmni rhyngwladol o’r radd flaenaf sy’n gweithredu yng Nghymru sy’n ymwneud â chwilio am uwch swyddogion ac rydym yn ffodus i gyflawni aseiniadau â’r proffil uchaf. Dyma gyfle unigryw i wneud cyfraniad gwych at ddyfodol Cymru trwy benodi gweithwyr proffesiynol dawnus. Mae ein penodiadau’n cynnwys rhai o’r prif rolau ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Dŵr Cymru, Admiral Financial Services a Chanolfan Mileniwm Cymru.
**Y rôl **
Rôl Ymchwilydd yw nodi, cysylltu ac ymhél â phenodiadau newydd posibl i’n cleientiaid. I wneud hyn yn effeithiol, rydym yn deall anghenion y cleient-sefydliad cyn nodi unigolion mewn cwmnïau perthnasol a chysylltu â nhw, gan asesu eu diddordeb yn y rôl a’u haddasrwydd ar ei chyfer. Mae’n rôl feichus sy’n mynnu dyfalbarhad, atebolrwydd personol a chreadigrwydd. Mae’n cynnig profiad o weithio gyda phrif gwmni chwilio am uwch swyddogion y DU a, hefyd, dod i gysylltiad ag amrywiaeth enfawr o sefydliadau, sectorau a swyddogaethau, a dysgu ohonynt.
Dyma’r gofynion hanfodol:
Gweithio’n dda o dan bwysig a chyflwyno ymchwil o ansawdd uchel
Sgiliau cyfathrebu eithriadol
Bod yn drefnus a gallu talu sylw rhagorol i fanylder
Bod yn ddygn, yn greadigol a dangos atebolrwydd personol
Bod yn wirioneddol angerddol tuag at faterion cyfoes yn gysylltiedig â busnes
Mae’r gallu i siarad Cymraeg ar unrhyw lefel yn fantais
Cais
Os byddai gwneud cais o ddiddordeb i chi, e-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn esbonio pam y byddech chi’n addas ar gyfer y rôl, at Jemma Terry, Partner Rheoli, Practis Cymru, trwy [email protected] neu ffoniwch 029 2078 3050.
Cyflog
💰 Cyflog cystadleuol
Lleoliad
📍 Hybrid, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Marchnata
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn edrych am Reolwr Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Cymru trwy ddatblygiad parhaus a gweithrediad strategaethau marchnata a rheoli brand CBDC.
Gan weithio a chysylltu â thimau CBDC ar draws y cymysgedd marchnata llawn byddwch yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn flaengar ac o safon fyd-eang yn ein dull marchnata yn unol â’n nod strategol cyffredinol o greu cenedl bêl-droed flaenllaw.
Cyflog
💰 £30,000 - £35,000
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Mae Gweinyddiaeth Cyfiawnder yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r cyfieithydd yn chwarae rôl hanfodol o ran galluogi GLlTEF a phartneriaid eraill o fewn y Weinyddiaeth Cyfiawnder i gyflawni’r goblygiadau yn eu Cynlluniau Iaith Gymraeg unigol. Bydd angen i’r deiliad swydd fod â sgiliau ieithyddol o’r safon uchaf yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn gallu cyfieithu’n gywir a rhoi’r sylw priodol i ramadeg a chystrawen y ddwy iaith. Disgrifiad Swydd **Prif gyfrifoldebau: ** Cyfieithu pob math o waith e.e. agendâu, adroddiadau, cofnodion, llythyrau, e-byst i sicrhau bod GLlTEF ac aelodau o deulu ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cydymffurfio â'u Cynlluniau Iaith Gymraeg.
Wrth i WLlTEM barhau i ddigideiddio nifer o’i wasanaethau, i gynorthwyo gyda chyfieithu’r cynnwys, treialu’r cynnwys gyda siaradwyr Cymraeg a gwirio bod y cynnwys Cymraeg yn ymddangos yn gywir ar y platfform Cymraeg. Prawf ddarllen gwaith eich hun a gwaith cyfieithwyr eraill yn y tîm.
Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd a maes o law mewn achosion llys neu dribiwnlys.
Helpu i gynnal cyfryngau cymdeithasol Cymraeg GLlTEF trwy drydar yn y Gymraeg neu gyfieithu is-deitlau. Cyflwyno gwaith wedi’i gyfieithu mewn fformat dwyieithog os yw’n ofynnol. Bydd hyn yn golygu bod yn gyfarwydd â dylunio dwyieithog. Bod â’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â datblygiadau ym maes terminoleg Cymraeg a chymorth technegol i gyfieithwyr. Cynorthwyo i ddiweddaru banc terminoleg Uned yr Iaith Gymraeg. Cyfrannu i waith yr Uned Gymraeg yn ehangach a bod yn barod i helpu i wella ffyrdd o weithio trwy ddefnyddio technegau gwelliant parhaus.
Sgiliau a Chymwysterau Gradd yn y Gymraeg, cymhwyster cydnabyddedig ym maes Cyfieithu h.y. Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu, neu brofiad yn gweithio fel cyfieithydd cymwys. Gallu i weithio gyda rhaglenni Microsoft megis Word, Outlook a chof cyfieithu fel TRADOS. Cyflog, Trefniadau Gweithio a Gwybodaeth Bellach Cyflog cychwynnol
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar waelod yr ystod cyflog. Math o Gontract
Tymor Penodol Oriau gweithio hyblyg
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig system gweithio hyblyg mewn llawer o swyddfeydd. Mae’r Uned Iaith Gymraeg yn gweithio mewn modd ‘hybrid’ sy’n cynnwys cyfuniad o weithio mewn swyddfa ac o gartref h.y 3 diwrnod yr wythnos o gartref a 2 o’r swyddfa. Buddion Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder amrediad o fuddion: Gwyliau Blynyddol
Lwfans hael ar gyfer gwyliau â thâl, yn dechrau ar 25 diwrnod y flwyddyn ac yn cynyddu i 30 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd. Ceir hefyd gynllun sy’n caniatáu i staff brynu neu werthu hyd at dri diwrnod o wyliau y flwyddyn. Amser ychwanegol i ffwrdd, gyda thâl, ar gyfer gwyliau cyhoeddus a 2.5 diwrnod braint. Cyfrifir gwyliau ar gyfer swyddi rhan amser a swyddi a rennir ar sail pro-rata. Pensiwn
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis o gynlluniau pensiwn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y pensiwn gorau i chi. Hyfforddiant
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymroddedig i ddatblygu staff ac mae'n cynnig amrediad o gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Cefnogaeth
· Amrediad o bolisïau ystyriol o deuluoedd, megis cyfleoedd i weithio llai o oriau neu rannu swydd.
· Hawl i fuddion hyblyg, megis trefniadau aberthu cyflog am dalebau gofal plant, a buddion gwirfoddol megis talebau siopa a disgownt ar amrediad o nwyddau a gwasanaethau.
· Absenoldeb tadolaeth, mabwysiadu a mamolaeth gyda thâl.
· Prawf llygaid am ddim i weithwyr sy'n defnyddio sgrîn cyfrifiadur. Rhwydweithiau
Y cyfle i ymuno â rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan weithwyr, sydd wedi’u sefydlu i roi cyngor a chefnogaeth ac er mwyn gallu mynegi barn gweithwyr o grwpiau lleiafrifol yn uniongyrchol i uwch reolwyr. Ar hyn o bryd, ceir rhwydweithiau ar gyfer gweithwyr o darddiad ethnig lleiafrifol, gweithwyr sydd ag anableddau, gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, gweithwyr sy’n ferched, a gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Cod y Gwasanaeth Sifil
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1996, yn gosod gwerthoedd craidd y Gwasanaeth Sifil a safon yr ymddygiad a ddisgwylir gan bawb sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Sifil er mwyn cynnal y gwerthoedd hyn. · Uniondeb – gosod rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw eich buddiannau personol.
· Gonestrwydd – bod yn onest ac yn ddidwyll.
· Gwrthrychedd - seilio eich cyngor a’ch penderfyniadau ar ddadansoddiad trwyadl o’r dystiolaeth.
· Didueddrwydd – gweithredu yn unol â rhinweddau’r achos yn unig a gwasanaethu llywodraethau o wahanol bleidiau gwleidyddol yn gyfartal. I weld Cod y Gwasanaeth Sifil, ewch i: http://www.civilservice.gov.uk/about/values Pwy sy'n gymwys
Rhaid recriwtio staff a benodir yn barhaol drwy gystadleuaeth deg ac agored.
Cyflog
💰 £31,265 - £34,446
Lleoliad
📍 Hybrid, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Cyllid dan hyfforddiant
Mae Rondo yn edrych am Gynorthwy-ydd Cyllid dan hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rondo yn edrych am unigolyn brwdfrydig gyda phrofiad yn y maes cyllid neu ddiddordeb mawr i hyfforddi yn y maes hwn.
Cyfle i ymuno a’r tîm bach sy’n cydlynu cyllid cynyrchiadau megis Rownd a Rownd, Sgorio, Cynefin, Pen Petrol a llu o rai eraill. Mae’n agoriad gwych i ddatblygu gyrfa mewn diwydiant cyffrous gan weithio ar bob math o gynnwys. Byddwch yn cydweithio ar bob cam o’r broses gynhyrchu rhaglenni, o greu cyllideb, gweinyddu’r gyllideb i baratoi adroddiadau yn ôl y galw.
Prif Ddyletswyddau:
> Mewnbynnu anfonebion ar ran Rondo, Yeti ac Aria Studios.
> aliadau ac ymholiadau cyflenwyr
> Cysoni cyfrifon banc
> Delio gydag arian parod a chardiau credyd y cwmni
> Paratoi adroddiadau a chyfrifoldebau eraill yn ôl y galw
> Bydd pecyn hyfforddi yn cael ei gynnig i’r unigolyn llwyddiannus
Dylid dychwelyd y ffurflen gais ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!