Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth

Darwin Gray

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd📍 Bangor +1 Ar gau

Mae Darwin Gray yn edrych am Gyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfle gwych i gyfreithiwr ymuno â thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray; tîm a enillodd gwobr Tîm Cyfraith Cyflogaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2022. Cyfle i gefnogi'r criw profiadol o gyfreithwyr cyflogaeth sydd eisioes yn rhan o'r tîm.

Lleoliad: Dewis o Swyddfa Caerdydd (9 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA) NEU Swyddfa Bangor (Unit F12, InTec, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG) gyda pheth gweithio o adref os y dymunir.

Oriau: 37.5 awr yr wythnos. Dydd Llun – Gwener, 9.00yb – 5.30yh gyda 1 awr i ginio, ond yn gorffen am 4yh ar ddydd Gwener.

Cyflog: £i’w gadarnhau yn ddibynnol ar brofiad.

Buddion: 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal â’r gwyliau banc statudol / Yswiriant meddygol preifat / 3% cyfraniad pensiwn / Yswiriant marwolaeth mewn gwasanaeth.

Pwrpas y Rôl: I weithio gyda thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray ac i ddarparu cefnogaeth effeithiol i’r tîm pan ddaw i gynghori cleientiaid ar faterion cyfraith cyflogaeth.

Tasgiau allweddol: I ddarparu cefnogaeth i’r tîm cyfraith cyflogaeth ar y materion canlynol:

· Achosion Tribiwnlys Cyflogaeth;

· Materion disgyblu a chwyno;

· Anffafriaeth;

· Diswyddiadau, diswyddo gorfodol ac ailstrwythuro;

· Cytundebau cyflogaeth a llawlyfrau staff;

· Cytundebau hunan-gyflogedig;

· Cytundebau setliad;

· Trosglwyddiadau TUPE;

· Helpu gyda hyfforddi cleientiaid;

· Materion cyflogaeth ynghlwm â phrynu a gwerthu busnesau;

· Chwythu’r chiban; a

· Archwiliadau yn y gweithle.

Gallu technegol:

Hanfodol_: _

· O gwmpas 2 flynedd o gyflogaeth ôl-gymhwyso mewn cyfraith cyflogaeth

· Gallu technegol ardderchog

· Gallu i ddefnyddio MS Word ac Outlook

Dymunol_: _

· Profiad o ddefnyddio basdata rheoli achosion Manyleb:

· Gallu cyfathrebu cryf. Cymraeg yn ddymunol

· Yn gweithio'n gyson i lefel uchel o gywirdeb a manylder

· Gallu gweithio'n annibynnol ond hefyd fel rhan o dîm ar brosiectau mwy

· Gallu defnyddio menter ei hun

· Yn drefnus ac yn medru gweithio o dan bwysau

· Yn cwblhau tasgau

· Yn hyblyg ac yn barod i helpu aelodau eraill o’r tîm fel sydd angen   Cysylltwch â Owen John ([email protected] / 02920 829 118) i gyflwyno cais neu am fwy o wybodaeth.

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Caerdydd, Bangor, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau