Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Cyflogres a Buddion

💰 £43k - £52k 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Reolwr Cyflogres a Buddion

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Bydd y Rheolwr Cyflogres a Buddion yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni swyddogaeth cyflogres y gwasanaethau Adnoddau Dynol i’w holl gwsmeriaid. Byddwch yn gyfrifol am berfformiad y gwasanaeth cyflogres a sut mae’n cael ei redeg, byddwch yn sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cyd-fynd â gofynion statudol a deddfwriaethol, a byddwch yn rheoli'r tîm Cyflogres a Phensiynau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys tri aelod arall. Deiliad y swydd sy'n gyfrifol am dalu dros 2000 o weithwyr a phensiynwyr bob mis, ac am gydlynu â’r Adran Adnoddau Dynol ac adrannau eraill yn y Brifysgol. Byddwch yn gyfrifol am weinyddu Cynllun Pensiynau’r Prifysgolion (USS) Chynllun Pensiwn Prifysgol Aberystwyth (AUPP). 

I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Sharon Lilley, Pennaeth y Gwasanaethau Adnoddau Dynol [email protected]

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos ar ôl y dyddiad cau.  

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill. 

**Y Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau **

- Arwain a rheoli'r gyflogres i sicrhau ei bod yn cael ei rhedeg yn effeithiol, yn gywir ac yn amserol, lle gwneir cyn lleied o gamgymeriadau a gordaliadau â phosib.

- Sicrhau bod gwasanaeth cyflogres proffesiynol yn cael ei ddarparu sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid ac sy’n gost effeithiol, a berchir gan gwsmeriaid ac un sy’n arddel yr arferion gorau.

- Arwain tîm y gyflogres gan roi cyfarwyddyd, rheoli perfformiad a darparu cymorth priodol.

- Mynd ati’n rhagweithiol i ddod o hyd i ffyrdd o wella prosesau a sicrhau effeithlonrwydd gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu systemau, yn ôl y gofyn.

- Cynllunio a monitro llwyth gwaith y tîm a sut mae’r gwaith yn cael ei ddyrannu, gan sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi a'u datblygu er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac yn effeithlon a darparu gwasanaeth sy'n rhoi cwsmeriaid yn y canol.

- Sicrhau bod sianeli cyfathrebu effeithiol ar waith yn y tîm a chyda'r Brifysgol yn gyffredinol wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â’r gyflogres a phensiynau.

- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol â phartneriaid, sefydliadau allanol a chyrff.

- Datblygu a phrofi cynlluniau parhad busnes ac adfer yn sgil trychinebau, yn ogystal â gweithdrefnau cam wrth gam.

- Dehongli a throsglwyddo gwybodaeth gymhleth ac arbenigol i, ymhlith eraill, bobl nad ydynt yn arbenigwyr.

- Sicrhau y cydymffurfir â holl ofynion statudol y Cynllun Talu Wrth Ennill a chynlluniau pensiwn, a sicrhau bod adroddiadau gofynnol yn cael eu creu sy’n gywir ac yn amserol, megis Gwybodaeth Amser Real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a ffurflenni cynlluniau pensiwn.

- Datblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau ledled y Brifysgol sy'n gysylltiedig â'r gyflogres a phensiynau, cydlynu ag uwch reolwyr, archwilwyr ac adrannau eraill lle bo hynny'n briodol.

- Cynghori'r Brifysgol ar faterion 'statws cyflogaeth' yn unol â gofynion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

- Paratoi ar gyfer archwiliadau a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn modd amserol.

- Cysylltu â darparwyr Budd-daliadau/Pensiwn y Brifysgol ar faterion pensiwn a buddion gweithwyr, a rhannu gwybodaeth â rheolwyr a staff yn y Brifysgol. Cynorthwyo Gweithrediaeth ac Adran Adnoddau Dynol y Brifysgol pan fo staff yn ymddeol yn gynnar, megis mewn achosion diswyddo ac afiechyd, a rhoi cyngor ar y goblygiadau o ran pensiynau.

- Datblygu fframweithiau fel y gellir rhannu gwybodaeth am bensiynau a budd-daliadau yn effeithiol i holl staff y Brifysgol trwy ddulliau amrywiol.

- Sicrhau bod gan y tîm ganllaw cam wrth gam sydd wedi’i brofi ac sy'n galluogi'r Brifysgol i weithredu’r gyflogres mewn sefyllfaoedd argyfyngus pan fo staff yn absennol.

- Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn gweithgareddau adolygu perfformiad a gweithgareddau datblygu.

- Rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol ac ariannol perthnasol, a dylai wybod beth yw ei gyfrifoldebau yng nghyswllt gofynion cyfreithiol ei swydd.

- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd. 

- Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd. 

- Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff drwy ddefnyddio trefn Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol. 

- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill o fewn i raddfa'r swydd. 

Cyflog

💰 £43,414 - £51,805

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29k 📍 Ceredigion Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £42k - £44k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caerdydd📍 Bangor +1 Ar gau

💰 £21k 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £9.90/a 📍 Llanfairpwll Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth📍 Hybrid Ar gau

💰 £33k - £39k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £60k - £70k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth Ar gau