Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Derbyn (x 3 Swydd)

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Swyddog Derbyn (x 3 Swydd)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn awyddus i benodi tri Swyddog Derbyn Myfyrwyr brwdfrydig i fod yn rhan o'n Tîm Derbyn Myfyrwyr canolog sy’n rheoli ymholiadau ynglŷn â chyrsiau a cheisiadau o Brydain ac yn rhyngwladol ar gyfer Prifysgol Aberystwyth.

Mae rôl Swyddog Derbyn Myfyrwyr yn hynod bwysig o ystyried mai chi yw’r pwynt cyswllt cyntaf yn aml iawn ar gyfer darpar fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Rydym yn chwilio felly am ymgeiswyr sydd ag agwedd gadarnhaol, frwdfrydig, sy'n gyfeillgar, ymroddedig, hyblyg ac sydd ag agwedd broffesiynol at eu gwaith. Rhaid i chi ddangos a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, gweithio'n dda fel rhan o dîm a gallu gweithio mewn amgylchedd prysur.

Bydd gofyn gweithio ar benwythnosau ac oriau ychwanegol yn achlysurol er mwyn cefnogi'r gwaith o dderbyn myfyrwyr. Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sydd â ffocws pendant ac sydd â rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y Brifysgol yn cyrraedd ei thargedau denu myfyrwyr ac yn dilyn gweithdrefnau a phrosesau cofnodedig ar yr un pryd.

Bydd disgwyl i chi weithio'n agos gyda chydweithwyr yn yr adran Marchnata a Denu Myfyrwyr ac adrannau eraill, gan gyfrannu at ystod o weithgareddau sy'n cefnogi denu a derbyn myfyrwyr israddedig, uwchraddedig, cartref a rhyngwladol.

I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â: Kylie Evans, Pennaeth Gweithrediadau Derbyn Myfyrwyr [email protected]

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.

Darparu profiad cwsmer o'r radd flaenaf i'r rhai sy'n gwneud ymholiadau ac yn gwneud ceisiadau i'r Brifysgol. Bydd disgwyl i chi ddarparu cyngor a gwybodaeth yn hyderus am y cyrsiau a gynigir yn Aberystwyth yn ogystal â rhoi cymorth i'r rhai sy'n gwneud ymholiadau â’r broses o ymgeisio a phrosesau cysylltiedig. Byddwch yn cynorthwyo ymgeiswyr (a'u cynghorwyr) gyda'u hymholiadau, gan sicrhau bod eu ceisiadau'n gyflawn, mynd ar ôl unrhyw ddogfennau sydd ar goll a phrosesu ceisiadau yn unol â'r meini prawf mynediad y cytunwyd arnynt.

•     Ymateb yn rhagweithiol i ymholiadau ynghylch astudio o ystod o ffynonellau a chefnogi'r gwaith o drosi’r rhai sy’n gwneud ymholiadau yn ymgeiswyr, ymgeiswyr yn dderbyniadau a derbyniadau yn fyfyrwyr cofrestredig.

•     Derbyn, adolygu a phrosesu ceisiadau yn erbyn y meini prawf dethol perthnasol ar lefel israddedig ac uwchraddedig gan ddarpar fyfyrwyr o Brydain a thu hwnt.

•     Asesu addasrwydd ymgeiswyr i astudio yn Aberystwyth a gwneud penderfyniadau ar geisiadau ar ôl ymgynghori â Thiwtoriaid Derbyn a/neu gydweithwyr eraill yn ôl yr angen.

•     Cefnogi prosesau a gwiriadau statudol i bennu addasrwydd a/neu gymhwysedd ymgeisydd i gofrestru yn y Brifysgol. Gall hyn gynnwys gofynion iaith Saesneg, gwiriadau ariannol, neu ofynion perthnasol eraill.

•     Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a wneir, a’r data a gesglir yn cydymffurfio â rheoliadau GDPR, y Swyddfa Gartref/Fisâu a Mewnfudo'r DU a’r Brifysgol.

•     Cydgysylltu â chydweithwyr mewn adrannau eraill sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr cartref a rhyngwladol a'u cynghorwyr. Gall hyn gynnwys, ymhlith eraill, Adran Cydymffurfiaeth UKVI a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol, Gwasanaethau’r Campws, y Gofrestrfa Academaidd, Cyllid a chydweithwyr eraill o fewn yr Adran.

•     Gydag arweiniad, datblygu a chynnal cysylltiad adeiladol gyda rhanddeiliaid allanol allweddol a all gynnwys, ymhlith eraill, partneriaid sefydliadol (cartref/rhyngwladol) ac asiantaethau allanol eraill.

•     Ymgysylltu â mentrau hyfforddi a datblygu i sicrhau bod gwybodaeth a lefelau arbenigedd yn cael eu cynnal.

•     Rhoi arweiniad a chefnogaeth i staff y Brifysgol ar faterion derbyn yn unol â chyfarwyddyd y Pennaeth Derbyn Myfyrwyr.

•     Rhoi lefel gyson uchel o wasanaeth bob amser i gwsmeriaid mewnol ac allanol a darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i gefnogi ymgeiswyr a'u cynrychiolwyr trwy'r broses ymgeisio.

•     Gwirio a diweddaru gwybodaeth/gofynion mynediad cyrsiau ar wefan y Brifysgol a gwefannau perthnasol eraill e.e. UCAS.

•     Cadw at y safonau ansawdd data a sefydlwyd o fewn y Tîm a chyfrannu at welliant parhaus y gwasanaeth derbyn myfyrwyr a ddarperir ar ran y Brifysgol.

•     Gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir gwella prosesau er mwyn cefnogi profiad yr ymgeisydd, a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu systemau ac arferion gwaith newydd er mwyn gwella gwasanaeth derbyn myfyrwyr y Brifysgol. 

•     Sicrhau bod canllawiau perthnasol ar gyfer prosesau busnes yn cael eu hadolygu a'u cynnal.

•     Cyfrannu at weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â denu myfyrwyr a chofrestru, gan gynnwys cefnogi gweithgareddau Cadarnhau a Chlirio, a chynorthwyo ymwelwyr ar Ddyddiau Agored a Dyddiau i Ymgeiswyr y Brifysgol.

•     Cydymffurfio bob amser gyda’r holl bolisïau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a lles a bod yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu lles a diogelwch pobl eraill.

•     Defnyddio Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol ym maes cyfrifoldeb y swydd ac yn eich ymddygiad cyffredinol.

•     Ymgymryd â dyletswyddau eraill, sy'n cyd-fynd â gradd y swydd, yn unol â chyfarwyddyd rhesymol eich rheolwr llinell.

•     Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.

•     Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.

•     Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.

•     Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

Hanfodol

1.    Addysg hyd at Safon Uwch (neu safon gyfatebol) neu brofiad proffesiynol perthnasol.

2.    Profiad o weithio mewn amgylchedd y cydnabyddir ei fod yn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

3.    Profiad o ddelio gyda chwsmeriaid yn broffesiynol ac yn brydlon.

4.    Profiad o ddangos synnwyr cyffredin a'r gallu i ddilyn polisïau a gweithdrefnau a'u defnyddio'n gywir, yn effeithiol ac amserol.

5.    Gwybodaeth amlwg o becynnau TG safonol a'r gallu i addasu i ddefnyddio ystod o systemau.

6.    Gwybodaeth a dealltwriaeth o sector addysg uwch y Deyrnas Unedig.

7.    Gallu wedi’i brofi i weithio'n effeithiol ac yn rhagweithiol fel rhan o dîm ac er mwyn cefnogi gwaith cydweithwyr.

8.    Sgiliau rhyngbersonol, trefnu a chyfathrebu rhagorol.

9.    Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith a pherfformio'n effeithiol ac effeithlon dan bwysau.

10.   Gallu rheoli gofynion cystadleuol, gan roi sylw agos i fanylion a chywirdeb.

11.   Agwedd broffesiynol at ragweld a datrys problemau, gan weithio o fewn polisïau a gweithdrefnau safonol.

12.   Gallu adnabod lle gellid cyflawni tasgau yn fwy effeithlon neu effeithiol.

13.   Gallu addasu'n dda i newid ac i welliannau a wneir i wasanaethau.

14.   Gallu cyfrannu at effeithlonrwydd y tîm trwy rannu gwybodaeth a chefnogi eraill mewn modd adeiladol.

15.   Gallu defnyddio TG i gyflawni ystod o dasgau gweinyddol gan gynnwys profiad o ddefnyddio cronfeydd data.

16.   Parodrwydd i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol er mwyn cefnogi gweithgareddau y tu allan i oriau gwaith arferol.

17.   Lefel Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig B2.*

•     Sylwch fod yna 3 Swydd Derbyn felly byddai'n ddymunol pe bai un neu ddau o'r rhai a benodir yn siaradwyr Cymraeg (i B2) ond nid yw hyn yn faen prawf hanfodol ar gyfer pob penodiad.

Dymunol

1.    Gradd anrhydedd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol.

2.    Profiad o weithio mewn prifysgol neu goleg gyda ffocws ar wasanaeth cwsmeriaid.

3.    Profiad o waith marchnata, denu myfyrwyr, a gweithgaredd derbyn myfyrwyr i brifysgol neu goleg.

4.    Profiad o ddefnyddio systemau CRM i reoli cyswllt â chwsmeriaid.

5.    Profiad o ddefnyddio systemau CMS a diweddaru gwefannau.

6.    Profiad o ymdrin â chwsmeriaid ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.

7.    Dealltwriaeth o wybodaeth am y broses a'r weithdrefn derbyn myfyrwyr addysg uwch ar gyfer myfyrwyr ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.

8.    Lefel Cymraeg Llafar (siarad) ac Ysgrifenedig C1.*

*Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/ 

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Buddion

•     Polisi gweithio hyblyg

•     36.5 – awr yr wythnos ar gyfer swyddi llawn amser

•     Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a diwrnodau caeedig Prifysgol

•     Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol

•     Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle

•     Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff

•     Cyfle i ddysgu ac i wella eich Cymraeg am ddim

•     Bwrsari adleoli staff

•     Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhiant a Mabwysiadu

•     Gostyngiad staff ar gyfer cyfleusterau campfa, lletygarwch a manwerthu ar y campws

**Darllenwch ymlaen **

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned ac yn arbennig, y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i ymgeiswyr DU, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr benywaidd.

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fisa Cyflogaeth:

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).

Cyflog

💰 £24,285 - £27,131

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28,000 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £25,013 - £29,793 📍 O gartref Ar gau

💰 £24,899 – £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £27,975 - £29,868 📍 Campws Nantgarw Ar gau

💰 £27,000 - £32,000 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £44,737 – £51,805 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

💰 £23000 - £25000 📍 Abertawe Ar gau

💰 £31,512 - £33,000 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

💰 £55,000 – £70,000 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

💰 £53,353 - £61,82 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,000 📍 Bethesda Ar gau

💰 £32,348 - £36,386 📍 Campws Hyblyg Ar gau

💰 £23,088 pro rata 📍 Bethesda Ar gau

💰 Costau teithio a chynhaliaeth rhesymol 📍 Ar-lein Ar gau

💰 £30,000 – £35,000 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £40,000 - £45,000 📍 Llanelwedd📍 O gartref Ar gau

💰 £27,801 - £33,727 📍 Aberhonddu Ar gau

💰 £30,142 📍 Caerfyrddin📍 Bae Colwyn +2 Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau