Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.   Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid.   Mae tair elfen i’r prosiect:    ·   Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro 

·   Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru 

·   Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd.    Nod Cyffredinol y Swydd   Nod y swydd hon yw i ddarparu cefnogaeth i dîm Cywain trwy:   ·   gydlynu a darparu cefnogaeth i dîm y prosiect, a fydd yn cynnwys darparu gwybodaeth, gweithredu a chofnodi gweithgareddau ar fasdata a systemau rheoli cwsmer

·   bod yn gyfrifol dros ddarparu gwybodaeth am y prosiect, megis data allbynnau, at ddefnydd mewnol yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol

·   sicrhau fod holl ddogfennaeth y prosiect yn gywir ac wedi cael ei archifo

·   cynnal a datblygu systemau gweinyddol y cynllun

·   bod yn rhyngweithiol a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth

·   bod yn gyfrifol am gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau   Prif Gyfrifoldebau   Darparu gwybodaeth a chefnogaeth swyddfa i dîm y prosiect   ·   Darparu cymorth gweinyddol dibynadwy ac effeithlon a chefnogaeth i dîm Cywain.

·   Trefnu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd (mewnol ac allanol)

·   Gweithio’n agos gyda thîm Cywain i baratoi a threfnu rhaglen o weithdai a digwyddiadau

·   Arwain ar gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys trefniadau gyda lleoliadau, hwyluswyr allanol a chleientiaid

·   Bod yn gyfrifol am restru a hyrwyddo gweithdai Cywain drwy amryw o sianeli

·   Cynrychioli Cywain fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mynychwyr gweithdai a digwyddiadau

·   Adolygu trefniadau a niferoedd ar gyfer pob digwyddiad er mwyn adnabod anghenion marchnata a hyrwyddo perthnasol

·   Cyfathrebu yn rheolaidd ac yn effeithiol gyda Swyddog Marchnata Cywain i sicrhau llwyddiant y rhaglen o weithdai a digwyddiadau

·   Teithio i leoliadau ledled Cymru i fynychu digwyddiadau, gweithdai a lansiadau prosiect ayyb

·   Sicrhau bod digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn a darparu gwerth i gwsmeriaid a gwesteion

·   Cwblhau proses parhaus o werthuso llwyddiannau gweithdai gan fewnbynnu a dadansoddi data ar systemau rheoli cwsmer y cwmni

·   Cyfathrebu gydag asiantaethau allanol perthnasol

·   Cydlynu a chrynhoi gweithgareddau misol aelodau’r tîm er mwyn cynhyrchu adroddiadau misol a chwarterol (meintiol ac ansoddol)

·   Casglu, cyflwyno a storio'r holl wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion cyllid a monitro’r cynllun

·   Sicrhau bod ffeiliau’r tîm yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol a chefnogi’r Rheolwr Prosiect i gynnal archwiliad rheolaidd

·   Datblygu a rheoli cronfa ddata cleientiaid a systemau ar gyfer casglu gwybodaeth a deilliannau’r prosiect

·   Cofnodi targedau’r tîm a’u gwirio yn erbyn dogfennau cymeradwyaeth

·   Sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth diogelu data priodol

·   Ymdrin ag ymholiadau ar lein a thros y ffôn a’u hanfon ar y swyddogion priodol mewn modd amserol a phroffesiynol

·   Cadw cofnodion yn effeithlon o fewn fframwaith cytûn i fodloni gofynion ariannol Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd allbynnau

·   Mynychu cyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect yn ôl y galw   **Ymchwil a Monitro **

·   Cefnogi'r Arweinydd Tim Marchnata a Digwyddiadau i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth cleientiaid

·   Mewnbynnu data’n gywir

·   Dadansoddi cyflawniad y prosiect o’i dargedau trwy sicrhau bod y data yn gyfredol

·   Cefnogi'r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol

·   Sicrhau bod system Rheoli Perthynas Cwsmer a chronfeydd data’rprosiect yn cael eu cynnal a'u bod yn gyfredol ac yn effeithlon

·   Cysylltu â chleientiaid, darparwyr a phartneriaid allanol i gydlynu gweithgareddau / digwyddiadau   **Arall **

·    Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu cyrraedd

·    Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw

·    Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw   Sgiliau a Phrofiad   Hanfodol

·   Cymhwyster CGC lefel 3 neu uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol

·   Brwdfrydedd dros waith yr adran

·   Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn

·   Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol ardderchog

·   Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol

·   Sgiliau prawf ddarllen da

·   Gallu asesu ac ymdrin ag ymholiadau’n effeithlon ac yn brydlon

·   Gallu cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd sy’n glir, cryno a chywir

·   Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd

·   Yn rhagweithiol ac yn gallu gyrru pethau ymlaen yn effeithlon

·   Gallu gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm

·   Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

·   Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod

·   Trwydded yrru lawn a defnydd o gar   Manteisiol

·   Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau amaeth, gwledig a bwyd yng Nghymru

·   Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau phroffil uchel

·   Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaethyddol neu fwyd yng Nghymru

·   Profiad o ddefnyddio systemau megis Salesforce, Mailchimp a Wordpress.   Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].   Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Ynyr Roberts ar 02920 467 404.   Cyfweliadau   Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 3ydd o Fawrth 2023. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.     Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, dydd Llun, 27 Chwefror 2023.   Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

Cyflog

💰 £21,979 - £23,749

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau