Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â'n tîm arbennig yma yn Ynys Môn a Llŷn. Ydych chi’n gyfathrebwr gwych â dealltwriaeth dda o dechnegau marchnata a llygad am stori dda? Os felly, gallai’r swydd hon fod yn berffaith i chi. Os ydych yn frwdfrydig dros rannu straeon a chreu cynnwys gwych, hoffem glywed gennych. 

Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rôl, cysylltwch â [email protected]

Sut brofiad yw gweithio yma

Mae Ynys Môn a Llŷn yn bortffolio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ffurfiwyd yn ddiweddar gan ddwyn y ddwy ardal ynghyd i ganolbwyntio’n well ar ein safleoedd arfordirol a’n cymunedau yng ngogledd orllewin Cymru. 

Fel portffolio mae ein gwaith yn ymwneud â gofalu am wledd o gynefinoedd arfordirol sy’n gyfoeth o fioamrywiaeth. Nid yw'n syndod felly y bydd llawer o'ch gwaith yn canolbwyntio ar ymgysylltu pobl â'r amgylchedd naturiol y gofalwn amdano. Gallai hyn fod drwy ysgrifennu datganiad i'r wasg i rannu hanes un o'n prosiectau cadwraeth niferus neu hyrwyddo digwyddiad, cyfle gwirfoddoli neu daith dywys i gynulleidfaoedd newydd drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan. 

Mae gennym hefyd lawer o draethau poblogaidd a mannau mynediad arfordirol dan ein gofal, yn ogystal â gerddi ac eiddo adeiledig. Mae Tŷ a Gardd Plas Newydd yn blasty godidog ac yn ardd restredig Gradd 1 ar lannau’r Fenai. Maenordy bychan yw Plas yn Rhiw sy’n swatio mewn gardd brydferth a choetir o’i amgylch ar arfordir de Pen Llŷn, ac mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr ddifyr yn Aberdaron a gynlluniwyd i ysbrydoli pobl i grwydro rhagor ym Mhen Llŷn. Mae’r holl eiddo yn wahanol iawn a byddwch yn gyfrifol am farchnata'r lleoedd arbennig hyn a'r gwaith a wnawn yma yn ddychmygus ac effeithiol gan wella cefnogaeth i'n hachos.

Beth fyddwch chi'n ei wneud

O ddydd i ddydd, byddwch yn datblygu ein cynllun marchnata blynyddol i helpu i gyflawni ein targedau uchelgeisiol, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Bydd hyn yn cynnwys diffinio gweithgareddau hysbysebu a chreu deunyddiau a chynnwys hyrwyddo ar draws y cyfryngau gwahanol - yn cynnwys ar y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu a dosbarthu datganiadau i'r wasg, cefnogi ymgyrchoedd, rheoli delweddau, a'n cynrychioli wrth ffilmio mewn lleoliadau ac ar y cyfryngau darlledu, pan fo angen. 

Rydym yn chwilio am rywun a all ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd mwy a mwy amrywiol ochr yn ochr â meithrin perthnasoedd gyda’n cymunedau a’n rhanddeiliaid lleol. Bydd gennych yr hyder, sgiliau cyfathrebu a chwilfrydedd i gysylltu'n rhagweithiol â chydweithwyr i ddysgu am yr hyn sy'n mynd ymlaen ym mhob cwr o'r portffolio. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i sicrhau ein bod yn rhannu'r straeon gorau posibl. Byddwch yn cynnal ymgyrchoedd marchnata i ddenu ymwelwyr i’n lleoedd, lledaenu’r neges am leoedd i ymweld â nhw yn yr awyr agored a chodi ymwybyddiaeth o’n gwaith cadwraeth. 

Bydd gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol yn bwysig, gan alinio negeseuon rhwng partneriaid lle bo'n briodol. Bydd cyfathrebu mewnol hefyd yn rhan o'ch rôl, gan wneud yn siŵr bod staff a gwirfoddolwyr o fewn portffolio mor eang yn ddaearyddol yn teimlo wedi'u cysylltu a'u hymgysylltu â'r hyn sy'n mynd ymlaen ar lawr gwlad yn y lleoliadau gwahanol. 

Er y byddwch wedi’ch lleol ym Mhlas Newydd yn bennaf, byddwch yn gweithio ar draws y portffolio cyfan yn eich swydd. Disgwylir y byddwch yn treulio o leiaf 60% o’ch amser ym Mhlas Newydd lle byddwch yn chwarae rhan weithredol yn y tîm gweithrediadau eiddo ac ar y rota rheolwr ar ddyletswydd yn rheolaidd. Byddwch yn treulio gweddill eich amser yn mynd allan gan ryngweithio â chydweithwyr ac ymweld ag eiddo eraill ar draws y portffolio.  

Gall fod gofyn ichi weithio gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Byddai trafnidiaeth eich hun yn fuddiol oherwydd lleoliadau amrywiol ein safleoedd ar draws y portffolio.  Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil swydd llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.

Am bwy rydyn ni'n chwilio

·   Dealltwriaeth dda o dechnegau marchnata a phrofiad o ddatblygu a chyflwyno cynlluniau cyfathrebu a marchnata yn ogystal â gwerthuso

·   Dealltwriaeth o bwysigrwydd presenoldeb ar-lein diddorol gyda phrofiad o reoli systemau rheoli cynnwys gwefannau

·   Sgiliau digidol ardderchog, gan gynnwys profiad o reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys o safon, gyda delweddau a fideo gwych

·   Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a geiriol rhagorol gyda phrofiad o ysgrifennu i'r wasg a'r sylw i fanylion i allu ysgrifennu copi a phrawf-ddarllen

·   Sgiliau TG Uwch (gan gynnwys Microsoft Office)

·   Sgiliau rhyngbersonol a rhwydweithio rhagorol

·   y gallu i siarad Cymraeg

Y pecyn

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.  

- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

- Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)

- Cynllun gofal plant di-dreth

- Cynllun benthyciad blaendal rhent

- Benthyciad tocyn tymor

- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema

- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol

- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl

- Rhaglen cynorthwyo cyflogai

- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

- Cyngor ariannol annibynnol 

Cyflog

💰 £25,662

Lleoliad

📍 Sir Fôn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

💰 £24,982 - £35,745 📍 Ffestiniog Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,396 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau

💰 £43,000 📍 Unrhyw le Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

💰 £20,043 - £20,444 📍 Llanrwst Ar gau

💰 £24,490 pro rata 📍 Llangefni Ar gau

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,000 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £25,013 - £29,793 📍 O gartref Ar gau

💰 £24,899 – £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £27,975 - £29,868 📍 Campws Nantgarw Ar gau

💰 £27,000 - £32,000 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau