Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prentis Cyfieithu Cymraeg

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

💰 £20,758 - £21,318 📍 Nantgarw Ar gau

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn edrych am Brentis Cyfieithu Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae rôl gyffrous wedi codi (yn sgil dyrchafiad mewnol) yn AaGIC i ddatblygu fel cyfieithydd ac i ennill cymhwyster Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn dehongli a chyfieithu Cymraeg.

Disgrifiad:

Sefydlwyd ar 1 Hydref 2018, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r unig Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Rydym yn eistedd wrth ochr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o safon uchel i bobl Cymru.

Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:

• Gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, a chynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal yn diwallu anghenion y GIG a phobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol;

• Bod yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy am weithlu iechyd a Gofal Cymru;

• Comisiynu, dylunio a darparu addysg a hyfforddiant gwerth am arian o ansawdd uchel, yn unol â'r safonau;

• Defnyddio addysg, hyfforddiant a datblygiad i annog a hwyluso datblygiad gyrfaol;

• Cefnogi addysg, hyfforddiant a rheoleiddio gwasanaethau drwy chwarae rôl allweddol wrth gynrychioli Cymru, a gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr;

• Datblygu arweinwyr gofal iechyd heddiw a'r dyfodol;

• Darparu cyfleoedd i'r gweithlu iechyd a gofal ddatblygu sgiliau newydd;

• Hyrwyddo gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru, a Chymru fel lle i fyw ynddo;

• Cefnogi proffesiwn datblygu'r gweithlu a'r sefydliad proffesiynol gyda Chymru;

• Gwella'n barhaus yr hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud.

Am ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod ei cyfle am gyflogaeth gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost a gofrestrir ar y ffurflen gais.

Mae'r sefydliad hefyd yn cadw'r hawl i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw adeg o'r broses, er mwyn adleoli staff mewnol i rolau addas.

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

MAE'R SWYDD HON DAN GONTRACT CYFNOD PENODOL AM 2 FLYNEDD YN SGIL NATUR YR HYFFORDDIANT.

Mae rôl gyffrous wedi codi (yn sgil dyrchafiad mewnol) yn AaGIC i ddatblygu fel cyfieithydd ac i ennill cymhwyster Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn dehongli a chyfieithu Cymraeg.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae galw cynyddol am gyfieithu gwahanol ddeunyddiau i'r Gymraeg. Fel aelod o'r tîm, byddwch yn delio â'r galw hwn yn ogystal â derbyn arweiniad, cymorth a mentoriaeth gan Dîm Gwasanaethau Cymraeg AaGIC. Bydd hyn er budd darparu gwasanaeth cyfieithu arbenigol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o’r Gymraeg i'r Saesneg. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda gwaith gweithredol y tîm o ddydd i ddydd a fydd yn cynnwys cysylltu â staff ar draws AaGIC. Bydd hefyd gyfle i ddatblygu sgiliau arbenigol fel Cyfieithydd ar y Pryd, os dymunwch. Y nod yw y byddwch yn datblygu eich sgiliau dros y cyfnod i allu ceisio am Swydd Cyfieithydd Band 5 oddi mewn i’r gyfundrefn. Does dim angen profiad blaenorol o gyfieithu arnoch, dim ond sgiliau safonol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â brwdfrydedd dros gyfieithu, angerdd am eiriau a chymhelliant cadarn.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd yn unol â Safonau'r Gymraeg.

Cynhelir un diwrnod yr wythnos gan Goleg Gŵyr Abertawe (ar-lein neu wyneb yn wyneb) a fydd yn gyfrifol am y cymhwyster. Cewch gymorth gan gydweithwyr eraill sydd eisoes yn dilyn y cwrs, yn ogystal â chael hyfforddiant gan y Coleg a chan y tîm yn AaGIC. Mae nifer o’n Prentisiaid eisoes wedi cael eu dyrchafu, a byddant yn hapus i rannu eu profiadau gyda chi.

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff strategol ar gyfer gweithlu GIG Cymru. Ymhlith ei swyddogaethau statudol mae addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, cynllunio arweinyddiaeth ac olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein pwrpas yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion / defnyddwyr gwasanaethau a hybu iechyd poblogaethau. Awdurdod Iechyd Arbennig ydym ni sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchiad o’n meddyliaeth, ein teimladau a'n credoau o ran ein hymarweddiad a’n triniaeth o eraill:

– Parch at Bawb – ym mhob cyswllt a gawn ag eraill,

– Syniadau sy’n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, arfarnu a gwella'n barhaus,

– Gyda’n Gilydd fel Tîm: Gweithio gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru a chyda sefydliadau partner.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu cyflawniad ystyrlon, sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i ddylanwadu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ar fywydau a lles pobl Cymru.

Cyflog

💰 £20,758 - £21,318

Lleoliad

📍 Nantgarw

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ysgol Cae'r Felin, Cyngor Sir Caerfyrddin

💰 £53,646 - £62,237 📍 Pencader Ar gau

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

💰 £21,630 - £23,71 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £42,828 - £47,483 📍 Pentre Ifan Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

GwE

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Esgobaeth Tyddewi

💰 £27,126 - £29,942 📍 Abergwili Ar gau

Rhieni Dros Addysg Gymraeg

💰 £28,000-£30,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Undeb Amaethwyr Cymru

💰 £40,000 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Uchelgais Gogledd Cymru

💰 £28,226 - £30,095 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs

💰 £27,741 - £28,226 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

RSPB Cymru

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Cymuned Llandwrog

💰 £27,514 pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau