Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Llyfrgellydd: Ymgysylltu Oedolion

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Lyfrgellydd: Ymgysylltu Oedolion

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Pwrpas Cyffredinol y Swydd

Rheoli, datblygu a hyrwyddo’r ystod lawn o Wasanaethau Llyfrgell i Oedolion. Annog yr ystod ehangaf bosib o ddefnyddwyr i ddefnyddio llyfrgelloedd, i sicrhau bod gan holl feysydd gwasanaeth yr awdurdod ystod gynhwysfawr o stoc ac i hyrwyddo gwasanaethau llyfrgell i gynulleidfa eang. Darparu mewnbwn proffesiynol ar gyfer gweithgareddau Datblygu Darllenwyr o fewn y gwasanaeth.

  • Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell i sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni ac yn cynnal lefel y gofynion o ran gwasanaeth a amlinellir yn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, er mwyn cydymffurfio â Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.

  • Cymryd cyfrifoldeb fel rheolwr llinell dros grŵp o bwyntiau gwasanaeth, cynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgell gyda'r recriwtio, hyfforddi, datblygu ac ysgogi staff, gan eu hyfforddi a’u mentora i berfformio hyd eithaf eu gallu. Yn unol â hynny, gweithredu’r holl bolisïau a gweithdrefnau AD.

  • Cynorthwyo’r Rheolwr y Gwasanaeth Llyfrgell trwy gyfrannu tuag at gynllunio strategol, datblygu polisïau, cydlynu a rheoli’r gwasanaeth fel aelod o’r tîm rheoli llyfrgell proffesiynol.

  • Cyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at brosesau Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth, gan gynnwys asesu effeithiolrwydd ac effaith y gwasanaeth, ynghyd â dadansoddi anghenion cwsmeriaid. Cyfrannu tuag at gynllunio’r gyllideb, cynorthwyo i ddrafftio Cynlluniau Gweithredol Blynyddol sy’n adlewyrchu blaenoriaethau corfforaethol ac yn ymgorffori dangosyddion a thargedau perfformiad a gytunwyd.

  • Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws yr Awdurdod a’r Rhanbarth, datblygu a chynnalpartneriaethau i hybu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arloesi wrth ddiogelu buddiannau ac uniondeb y gwasanaeth llyfrgell.

  • Dirprwyo ar ran y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell lle bo angen ac yn berthnasol.

**Cyffredinol: **Cydym_ffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a’r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae’r polisi hwnnw’n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu â gwerthoeddcraidd yr Awdurdod sy’n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ac iach._

Prif Ddyletswyddau / Cyfrifoldebau

  • Arwain ar ddatblygu’r gynulleidfa drwy drefnu, hyrwyddo a marchnata digwyddiadau, gwasanaethau dysgu a gweithgareddau ar gyfer oedolion, ledled y Sir. Sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau’n cael digon o gyhoeddusrwydd i annog cyfranogiad. Cysylltu â grwpiau targed ar gyfer hyrwyddo’r gwasanaethau’n gyffredinol a datblygu mentrau a phrosiectau penodol.

  • Hyrwyddo a datblygu’r hyn a gynigir o ran hyrwyddo Iechyd a Llesiant o fewn y Gwasanaeth Llyfrgell.

  • Arwain ar bob agwedd ar y gwasanaeth mewn perthynas â rheoli, dethol a hyrwyddo’r stoc ar gyfer Oedolion, gan gynnwys hyfforddi staff. Bod yn gyfrifol am ddethol stoc (categorïau penodol), a chyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at ddatblygu a rheoli stoc y llyfrgelloedd cangen ynghyd â’r casgliadau wrth gefn.

  • Arwain ar y gwaith o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau rhithwir gan gynnwys e-lyfrau, adnoddau ar-lein, offerynnau canfod adnoddau, cynorthwyo gyda’r gwaith o ddiweddaru a datblygu’r catalog llyfrgell ar-lein.

  • Bod yn gyfrifol am reolaeth gyllidebol o feysydd penodol, e.e. categorïau o fewn y gronfa lyfrau, eiddo, prosiectau. Rheoli a monitro’r cyllidebau, er mwyn cyflawni Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â stoc.

  • Hyrwyddo darllen fel cyfrwng i hybu twf personol ac iechyd a llesiant o fewn y gwasanaeth llyfrgell a’r gymuned.

  • Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws yr Awdurdod a’r Rhanbarth, datblygu a chynnalpartneriaethau i hybu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arloesi wrth ddiogelu buddiannau ac uniondeb y gwasanaeth llyfrgell.

  • Ymgymryd â gwaith ar draws awdurdodau neu ar lefel genedlaethol i gefnogi cydweithrediad, ef enghraifft, yng nghyswllt System Rheoli Llyfrgell ar y Cyd i Gymru.

  • Arwain ar gyflwyno a datblygiad parhaus agweddau / prosiectau penodol o fewn portffolio’rGwasanaeth o wasanaethau cyhoeddus.

  • Arwain ar ddatblygu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gan sicrhau lefelau uchel o fodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid drwy gyflenwi gwasanaethau sy’n ymateb i anghenion y cwsmer.

  • Bod yn Gydlynydd Gwirfoddolwyr ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell i recriwtio gwirfoddolwyr a chyflenwi rhaglen hyfforddi gwirfoddolwyr pan fo’n briodol.

  • Darparu, ar adegau, gwasanaeth uniongyrchol mewn mannau gwasanaeth, pan fo lefelau staffio yn isel ac nid yw staff wrth law ar gael. (anaml).

Cyflog

💰 £32,020 - £35,411

Lleoliad

📍 Ynys Môn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ysgol Cae'r Felin, Cyngor Sir Caerfyrddin

💰 £53,646 - £62,237 📍 Pencader Ar gau

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

💰 £21,630 - £23,71 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £42,828 - £47,483 📍 Pentre Ifan Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

GwE

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Esgobaeth Tyddewi

💰 £27,126 - £29,942 📍 Abergwili Ar gau

Rhieni Dros Addysg Gymraeg

💰 £28,000-£30,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Undeb Amaethwyr Cymru

💰 £40,000 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Uchelgais Gogledd Cymru

💰 £28,226 - £30,095 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs

💰 £27,741 - £28,226 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

RSPB Cymru

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Cymuned Llandwrog

💰 £27,514 pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau