Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Ymgynghorydd Strategol

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Partneriaeth yn edrych am Uwch Ymgynghorydd Strategol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cafodd Partneriaeth ei ffurfio ym mis Ebrill 2022 yn dilyn darfodiad ERW. Mae'r consortiwm newydd yn wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol cwbl integredig, ac mae wedi'i gomisiynu gan dri awdurdod lleol – Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Dinas a Sir Abertawe.  Ei nod yw darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob arweinydd, athro ac aelod o staff cymorth i wella'r deilliannau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd Partneriaeth hefyd yn gweithio gyda chonsortia, partneriaethau ac Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, sefydliadau ymchwil, a Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi ledled y tri Awdurdodau Lleol.

Mae Partneriaeth yn ymdrechu i gyflenwi gwasanaeth gwella ysgolion cyson, un y mae ei ffocws ar strategaethau her a chymorth sy’n gwella addysgu a dysgu mewn ystafelloedd dosbarth. Rydym am benodi arweinydd profiadol, llwyddiannus sy'n meddu ar arbenigedd sylweddol mewn gwerthuso ac asesu effaith. Fel aelod o’r Uwch-dîm Arwain, bydd gennych y profiad a’r hygrededd i weithio’n effeithiol gydag uwch gyd-weithwyr yn yr Awdurdodau Lleol, arweinwyr ysgolion, Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau allanol. Bydd gennych ddealltwriaeth gref o waith rhanbarthol ac o weithio mewn sefydliad amlddisgyblaethol.  

Byddwch yn gyfathrebwr cryf, a byddwch yn gallu rheoli timau a rhwydweithiau, arwain prosiectau cymhleth a chyflenwi dysgu proffesiynol hynod o effeithiol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ofalu bod llinellau cyfathrebu effeithiol yn cael eu cynnal rhwng Partneriaeth a'r Awdurdodau Lleol, yn ogystal â sicrhau bod blaenoriaethau allweddol y Cynllun Busnes yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus. Yn gyfnewid am hyn, bydd deiliad y swydd yn gallu datblygu ei arbenigedd mewn amgylchedd gwella ysgolion sy'n esblygu'n barhaus. Darperir manylion llawn am y rôl yn y swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm. Os hoffech drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Ian Altman, Swyddog Arweiniol drwy e-bost: [email protected]

Ar gael ar secondiad tan 31 Awst 2025

Bydd opsiynau llawn-amser a rhan-amser/gweithio hyblyg yn cael eu hystyried (hyd at 1 FTE)

Dylai'r rheiny sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad gael cymeradwyaeth eu Corff Llywodraethu cyn gwneud cais. 

Dyddiad Dechrau – Cyn gynted â phosibl

I ymgeisio am y swydd hon, dylech anfon llythyr eglurhaol a chopi o’ch CV at Helen Lewis drwy e-bost: [email protected] 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Medi 2023.

Cyflog

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28,000 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £25,013 - £29,793 📍 O gartref Ar gau

💰 £24,899 – £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £27,975 - £29,868 📍 Campws Nantgarw Ar gau

💰 £27,000 - £32,000 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

💰 £44,737 – £51,805 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

💰 £23000 - £25000 📍 Abertawe Ar gau

💰 £31,512 - £33,000 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

💰 £55,000 – £70,000 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

💰 £53,353 - £61,82 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,000 📍 Bethesda Ar gau

💰 £32,348 - £36,386 📍 Campws Hyblyg Ar gau

💰 £23,088 pro rata 📍 Bethesda Ar gau

💰 Costau teithio a chynhaliaeth rhesymol 📍 Ar-lein Ar gau

💰 £30,000 – £35,000 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £40,000 - £45,000 📍 Llanelwedd📍 O gartref Ar gau

💰 £27,801 - £33,727 📍 Aberhonddu Ar gau

💰 £30,142 📍 Caerfyrddin📍 Bae Colwyn +2 Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau