Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Hyfforddeion Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge

💰 £19,760 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn edrych am Hyfforddeion Dehongliad Rheilffordd a Boston Lodge

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector treftadaeth?

Ydych chi’n chwilio am ffordd o gael profiad?

Mae gan Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri dair swydd i hyfforddeion fel rhan o Brosiect Dehongli’r Rheilffyrdd a Boston Lodge a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd dwy swydd, ym maes dehongli a rheoli prosiectau, yn addas i raddedigion sy’n chwilio am brofiad yn y sector treftadaeth a bydd un swydd arall yn addas i rywun sy’n chwilio am brofiad o weinyddu mewn amgylchedd peirianneg.

Mae tair prif elfen i’r prosiect: dehongliadau ar draws y rheilffyrdd, datblygu sgiliau, a diogelu adeiladau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous gyda’r cyhoeddiad diweddar am ddynodi Tirweddau Llechi Gogledd Cymru yn Safle Treftadaeth Byd. Mae gan y prosiect gysylltiadau agos â’r ardaloedd llechi ac mae’n rhannu’r un uchelgais i gael effaith gadarnhaol yn yr ardal.

Mae’r swyddi dan hyfforddiant yn rhai llawn-amser, am 2 flynedd, yn dechrau ym mis Medi ac yn denu’r cyflog byw. Maent yn rhan o elfen sgiliau’r prosiect ac mae hwn yn gyfle gwych i’r unigolion iawn ddatblygu sgiliau mewn amgylchedd treftadaeth lle ddim oes llawer o gyrsiau ffurfiol. 

Er y byddem yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU, rydym yn awyddus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, a datblygu sgiliau treftadaeth yng Nghymru felly byddem yn annog ceisiadau gan y rheini sy’n siarad neu’n dysgu’r iaith, a’r rheini sy’n dod o Gymru a/neu sydd wedi’u hyfforddi yng Nghymru ac sy’n chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau yn y sector treftadaeth yng Nghymru. 

Cyflog

💰 £19,760

Lleoliad

📍 Penrhyndeudraeth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29k 📍 Ceredigion Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £42k - £44k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caerdydd📍 Bangor +1 Ar gau

💰 £43k - £52k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £21k 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £9.90/a 📍 Llanfairpwll Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth📍 Hybrid Ar gau

💰 £33k - £39k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £60k - £70k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau