Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Brif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, gweithgar a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd uchod a bod yn rhan o ddatblygiadau cynllun cyffrous Croesi’r Bont. Dylai’r person feddu ar bersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chydweithio’n agos gyda staff y cynllun. Mae’n hanfodol i fod â’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm. Rydym angen person sydd yn frwd dros y Gymraeg ac yn deall hanfodion rheoli pobl.  Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person arwain a chefnogi gwaith cenedlaethol y cynllun yn un o’r meysydd canlynol: Ansawdd, Datblygu, Asesu a Hyfforddiant. 

Dyletswyddau’r Swydd:

Bod yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Llunio a gweithredu Cynllun Strategol ar y cyd â Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont i sicrhau isadeiledd cryf o ran cydweithio rhwng Swyddogion Croesi’r Bont a staff ein Cylchoedd.

  • Llunio a gweithredu Cynllun Taleithiol ar y cyd â’r Rheolwr Talaith i adnabod Cylchoedd a sicrhau cefnogaeth effeithiol a chydweithio agos gyda’r Swyddogion Cefnogi er budd Cylchoedd y dalaith.

  • Gweithredu fel rheolwr llinell i Swyddogion Croesi’r Bont a Swyddogion Clebran yn y dalaith.

  • Cynllunio gweithgareddau a threfnu adnoddau addas ar gyfer swyddogion Croesi’r Bont a Clebran.

  • Sicrhau ansawdd a safon y cynllun ar draws y dalaith ac yn genedlaethol gan fonitro a gwirio cyson ac effeithiol.

  • Creu perthynas a chreu cyfleoedd i gydweithio gydag ystod o bartneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr o’r siroedd.

  • Cydweithio gyda Phrif Swyddog y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu cynllun Croesi’r Bont ochr yn ochr â’r Cwricwlwm newydd.

  • Cynnal cyflwyniadau ar gyfer sefydliadau’r sir e.e. staff Cylchoedd, tîm Blynyddoedd Cynnar, staff yr ysgolion a fwydir gan gynnwys penaethiaid, penaethiaid Cyfnod Sylfaen, athrawon a staff y dosbarthiadau meithrin, Dechrau’n Deg, ac mewn rhai achosion, cynrychiolaeth o’r consortia lleol.

  • Ymweld â’r Cylchoedd yn unol â’r amserlen weithredu er mwyn arsylwi, sicrhau cysondeb a safonau’r asesiadau yn lleol ac yn genedlaethol.

  • Paratoi adroddiadau rheolaidd yn ôl y gofyn i fesur llwyddiant y sesiynau yn erbyn y targedau, a chyfrannu at adroddiadau cynnydd a monitro ar gyfer gwerthusiad annibynnol mewnol o’r cynllun.

  • Cydweithio gyda’r adran farchnata i hyrwyddo’r cynllun a chodi ymwybyddiaeth o ddulliau rhannu arfer dda ieithyddol rhwng y Cylch a’r cartref.

  • Adnabod cyfleodd ac ymchwilio mewn i ddatblygu’r cynllun yn ehangach.

  • Arolygu asesu llawr gwlad gan sicrhau cysondeb a safon genedlaethol i gamau datblygu Croesi’r Bont.

  • Cydweithio gyda Chydlynwyr Hyfforddiant Iaith Camau Mudiad Meithrin er mwyn adnabod cyfleoedd ar gyfer cyrsiau Cymraeg pellach i staff mewn lleoliadau.

  • Hyrwyddo, hysbysebu a marchnata’r cynllun pan yn briodol, a bod yn barod i baratoi deunydd ysgrifenedig i wefannau, i’r wasg a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.

  • Goruchwylio a chynnal tudalennau Facebook caeedig ar gyfer ysgogi a rhannu arfer dda.

  • Cydweithio a chynnal cyfarfodydd gyda chysylltiadau a phartneriaid o’r awdurdod lleol.

  • Parhau i ddatblygu cynnwys a goruchwylio cynhyrchu’r pecynnau (ffeiliau/CDs/Llyfrau Canu)

  • Arwain cyfarfodydd tîm Croesi’r Bont yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.

  • Mynychu cyfarfodydd Timau Taleithiol yn rheolaidd.

  • Trefnu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda i’r tîm o Swyddogion Croesi’r Bont ar y cyd â Rheolwr Croesi’r Bont.

  • Adnabod cyfleoedd i gyfrannu at gyrsiau hyfforddiant Trochi Iaith drwy Academi

  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Croesi’r Bont_ _yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Bennaeth yr Adran Hyfforddiant.

  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Dyddiad Cyfweliadau: 7.6.2022 dros Teams

Cyflog

💰 £29,614 – £32,375

Lleoliad

📍 De Ddwyrain

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25,860 - £29,430 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £20,852 - £22,129 📍 Bae Colwyn Ar gau

💰 £29,174 - £30,984 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37,474 – £43,414 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Cwmbrân Ar gau

💰 £42,828 - £47,483 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £53,646 - £62,237 📍 Pencader Ar gau

💰 £42,828 - £47,483 📍 Pentre Ifan Ar gau

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £27,126 - £29,942 📍 Abergwili Ar gau

💰 £28,000-£30,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £40,000 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau