Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau

Senedd Cymru

💰 £55,240 - £66,234 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Senedd Cymru yn edrych am Bennaeth Cyswllt â’r Aelodau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am arweinydd cryf sy’n gallu ysgogi ei hun ac sy’n rhoi pwyslais cryf ar wasanaethau cwsmeriaid, sy’n barod i gymryd y camau cyntaf i ddatrys problemau, ac sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle mae pawb yn gweithio dan gryn bwysau.

Byddwch yn arwain y tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen dysgu a datblygu berthnasol ac amserol, o safon uchel, a’i chyflwyno i’r Aelodau a’u staff. Mae'r tîm yn rheoli'r gyllideb ac yn datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu hyfforddiant ledled Cymru sy'n berthnasol i bob agwedd ar waith yr Aelodau. Mae hefyd yn gyfrifol am fewnrwyd yr Aelodau ac arolwg bodlonrwydd yr Aelodau.

Gan ddefnyddio ffyrdd cynhyrchiol o ymgysylltu â’r Aelodau i gasglu adborth er mwyn nodi a deall anghenion yr Aelodau, byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr a Bwrdd Gweithredol y Comisiwn i wneud penderfyniadau effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr Aelodau gan godi ymwybyddiaeth a chryfhau dealltwriaeth o'r anghenion hynny.

Bydd angen ichi ddangos barn sicr ac ennyn ymddiriedaeth a hyder yr Aelodau a chydweithwyr ac ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol. Bydd angen ichi ddatblygu a meithrin perthynas ag eraill, cael pobl i ddeall safbwyntiau pobl eraill, a deall rôl y Senedd a’r Comisiwn.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch yn gallu cynhyrchu gwybodaeth sy’n glir a chywir, a chynnig cyngor diduedd, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Rhaid ichi fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser.

Yn fwy cyffredinol, bydd angen ichi ddangos ymrwymiad personol i werthoedd Comisiwn y Senedd, gan arwain newid i hybu amcanion strategol Comisiwn y Senedd.

Cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â ni.

Cyflog

💰 £55,240 - £66,234

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21,000 - £24,000 📍 Aberystwyth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £19,305 📍 Wrecsam Ar gau

Portal

💰 £26,000 - £27,000 + 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £19,650 - £20,043 pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 Lefel 2 £19,650 - £20,043 yf pro-rata / Lefel 3 - £22,571 - £24,920 📍 Casnewydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £36,918 – £46,335 pro rata 📍 O gartref📍 Swyddfeydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hyblyg Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £28,505 - £31,757 📍 Hyblyg Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Adra

💰 £35,760 - £39,082 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Senedd Cymru

💰 £23,440 - £34,357 pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Gŵyr Abertawe

💰 £9.90 - £10.97 yr awr 📍 Abertawe Ar gau

CCW

💰 £45,450 📍 Caerdydd📍 Birmingham +2 Ar gau

CCW

💰 £21,879 📍 Caerdydd📍 Birmingham Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32,000 - £36,000 📍 Bangor Ar gau

Dyfodol i'r Iaith

💰 £28,000 - £33,000 pro rata 📍 Talybont Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caerdydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £29,614 – £32,375 📍 De Ddwyrain Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £22,635 – £24,321 📍 Nantgarw Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £9,279 - £18,328 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25,419 - £27,514 📍 Gwynedd Ar gau