Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynhyrchydd Promos

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Mae S4C yn edrych am Gynhyrchydd Promos

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio. 

Disgrifiad:

Cynhyrchydd Promos

Pwrpas S4C yw gwasanaethu‘r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.

Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio. Byddwch yn cyfarwyddo a chynhyrchu deunydd fideo o promos, teasers a showreels i hysbysebion digidol er mwyn codi ymwybyddiaeth am raglenni a denu gwylwyr i S4C - naill ai i wylio rhaglenni ar deledu, ar-lein, ar-alw neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ogystal â chynhyrchu a chyfarwyddo’r promos hyn ar gyfer amrediad eang o gynnwys S4C (drama, adloniant, dogfennau, digwyddiadau), byddwch hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu deunydd i hyrwyddo gwahanol elfennau o wasanaeth S4C mewn amrywiaeth o leoliadau ac ar amrediad o lwyfannau (teledu, cyfryngau cymdeithasol, sgriniau digidol ayyb).   Yn ddelfrydol byddwch â phrofiad o gyfarwyddo, golygu ac ôl-gynhyrchu ac o gyfarwyddo sesiynau trosleisio. Byddwch a barn olygyddol gref, gwybodaeth eang o dechnegau saethu/golygu, gwybodaeth am gerddoriaeth gyfoes Cymraeg a gwybodaeth eang am arlwy S4C ar draws y llwyfannau gwahanol. Y gallu i fras olygu gan ddefnyddio Avid yn ddymunol. Dyfeisgarwch ac egni’n angenrheidiol.

Manylion eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog Caerdydd. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro.

Cyflog: Yn unol â phrofiad 

Cytundeb: 12 mis

Oriau gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio ar rai penwythnosau a gwyliau banc ac mewn digwyddiadau gyda’r nos. Bydd y cyflog yn cymryd i ystyriaeth yr oriau ychwanegol y mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio.

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau.

Pensiwn: Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau 

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 yn y prynhawn ar ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022 i [email protected] neu’r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ. 

Ni dderbynnir CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr rhan neu lawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd o iaith (heblaw lle mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer swydd) neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae'n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod. 

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21k - £24k 📍 Aberystwyth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £19k 📍 Wrecsam Ar gau

Portal

💰 £26k - £27k+ 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £20k pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £20k - £25k pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £37k - £46k pro rata 📍 O gartref📍 Swyddfeydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Hyblyg Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Adra

💰 £36k - £39k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Senedd Cymru

💰 £23k - £34k pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Gŵyr Abertawe

💰 £9.90 - £10.97 yr awr 📍 Abertawe Ar gau

CCW

💰 £45k 📍 Caerdydd📍 Birmingham +2 Ar gau

CCW

💰 £22k 📍 Caerdydd📍 Birmingham Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Bangor Ar gau

Dyfodol i'r Iaith

💰 £28k - £33k pro rata 📍 Talybont Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £23k - £24k 📍 Nantgarw Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £9k - £18k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Gwynedd Ar gau