Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Newyddiadurwr Digidol (Materion Cyfoes Cymraeg)

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Newyddiadurwr Digidol (Materion Cyfoes Cymraeg)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae ITV Cymru Wales yn chwilio am newyddiadurwr brwdfrydig sy’n angerddol am greu cynnwys digidol.

Fel Newyddiadurwr Digidol byddwch yn cefnogi’r adran Rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru Wales gan sicrhau bod y cynnwys yn uchelgeisiol, yn greadigol ac yn gywir.

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio cynnwys digidol y tîm ac am gydlynu cynnwys newyddion dyddiol i wasanaeth newyddion digidol S4C. Byddwch yn cael y cyfle i fynd ar leoliad i gasglu a ffilmio cynnwys unigryw ar gyfer y platfformau digidol ac yn cynhyrchu cynnwys amrywiol i ddenu cynulleidfaoedd newydd. Byddwch hefyd yn arsylwi gwaith dau newyddiadurwr dan hyfforddiant ac yn golygu eu cynnwys i Newyddion S4C.

Bydd gennych farn olygyddol gadarn a phrofiad ymarferol o gydymffurfiaeth yn ogystal â gwybodaeth eang o faterion cyfoes Cymru a’r Byd. 

Os ydych chi’n newyddiadurwr sydd â syniadau a gweledigaeth uchelgeisiol ar sut i ddatblygu cynnwys digidol Cymraeg i’r dyfodol, gall y rôl yma fod yn gyfle gwych i chi.

Swydd llawn amser. 

Cytundeb 3 blynedd

Sgiliau Allweddol

-   Profiad perthnasol o gynhyrchu cynnwys digidol newyddiadurol.

-   Barn olygyddol gref, gyda gwybodaeth eang o gydymffurfiaeth a’r gyfraith. 

-   Dealltwriaeth wych o blatfformau a chynulleidfaoedd digidol a sut i’w cyrraedd yn ddigidol. 

-   Sgiliau ieithyddol a Chymraeg cywir 

Nodweddion y rôl - 

-   Y gallu i weithio dan bwysau ac ar draws brandiau gwahanol. 

-   Cyfathrebwr da gyda phrofiad o weithio mewn tim.

-   Yn angerddol dros Gymru a phwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiad o fewn ein cynnwys.

Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses). 

Cyflog

💰 Yn ôl profiad

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21k - £24k 📍 Aberystwyth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £19k 📍 Wrecsam Ar gau

Portal

💰 £26k - £27k+ 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £20k pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £20k - £25k pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £37k - £46k pro rata 📍 O gartref📍 Swyddfeydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Hyblyg Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Adra

💰 £36k - £39k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Senedd Cymru

💰 £23k - £34k pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Gŵyr Abertawe

💰 £9.90 - £10.97 yr awr 📍 Abertawe Ar gau

CCW

💰 £45k 📍 Caerdydd📍 Birmingham +2 Ar gau

CCW

💰 £22k 📍 Caerdydd📍 Birmingham Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Bangor Ar gau

Dyfodol i'r Iaith

💰 £28k - £33k pro rata 📍 Talybont Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £23k - £24k 📍 Nantgarw Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £9k - £18k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Gwynedd Ar gau