Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd Sgorio

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Mae Rondo yn edrych am Ymchwilydd Sgorio

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Rondo yn chwilio am berson sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed i weithio ar raglenni Sgorio mewn cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru.

Bydd yr ymchwilydd llwyddiannus yn gweithio ar gemau byw llinol a digidol, ar raglenni uchafbwyntiau ac hefyd yn ymchwilio a chreu cynnwys i gyfryngau cymdeithasol Sgorio.

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu profiadol ac yn cynnig syniadau am eitemau, dod o hyd i gyfranwyr, paratoi nodiadau cynhwysfawr i sylwebwyr, logio manylion mewn basau data, gan hefyd dderbyn hyfforddiant mewn nifer o roliau’r tîm cynhyrchu’n ystod gemau byw.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno ag adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. Er bod profiad blaenorol yn fanteisiol, nid yw profiad yn hanfodol ar gyfer y rôl hon – rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros bêl-droed a pharodrwydd i ddysgu. 

Hanfodol 

Person brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd â gwir ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.

Y gallu i gyfathrebu’n glir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bod yn barod i gyflawni pob math o dasgau a hynny ar brydiau o fewn terfynau amser tynn Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol.   Sgiliau TG sylfaenol.

Manteisiol 

Trwydded yrru lawn.

Profiad o ymchwilio neu gymhwyster mewn darlledu. 

Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. 

Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.

Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected] 

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £34,304 - £40,927 📍 Bangor Ar gau

💰 £28,860 - £33,482 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £28,235 - £30,854 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

💰 £28,235 - £30,854 📍 O gartref📍 Pwllheli Ar gau

💰 £22,635 - £24,321 📍 Campws Nantgarw Ar gau

💰 £18,712 - £20,092 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £27,116 – £33,309 📍 Hybrid Ar gau

💰 £22,234 pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 Hyblyg Ar gau

💰 £23,880 📍 Casnewydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £36,838 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £27,000 - £ 30,000 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

💰 £26,000 - £ 27,000 + 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

💰 £21,684 📍 Beddgelert Ar gau

💰 £50,000 – £55,000 📍 Waunfawr📍 Caernarfon Ar gau

💰 £19,138 pro rata 📍 O gartref📍 Wrecsam Ar gau

💰 £30,095 - £33,486 📍 Llangefni Ar gau

💰 £27,433 - £30,205 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

💰 £20,800 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £12,185.67 - £15,289.72 📍 O gartref📍 Llanberis Ar gau

💰 £27,514 - £30,095 📍 O gartref📍 Sir Ddinbych Ar gau

💰 £34,304 - £40,927 📍 Bangor Ar gau

💰 £65,000 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £21,032 - £24,526 pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau