Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Gweinyddol Eisteddfod yr Urdd

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Gydlynydd Gweinyddol Eisteddfod yr Urdd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus ymgymryd a tasgau gweinyddol yr Adran.

Amdanom ni:

Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.

Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.

Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.   Y Swydd

Eisteddfod yr Urdd yw prif ŵyl gelfyddydol Ieuenctid Ewrop a rydym yn chwilio am unigolyn trefnus ymgymryd a tasgau gweinyddol yr Adran.

Mae’r rôl hon yn cefnogi holl waith yr adran gan gynnwys yr Eisteddfodau blynyddol a rhaglen flynyddol gelfyddydol i blant a phobl ifanc.    Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a Chelfyddydau ar 07778 968153 neu [email protected].

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau: 12pm ar y 6ed o Orffennaf

Cyfweliadau:  Wythnos yr 11eg i’r 15fed o Orffennaf   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol. 

Cyflog

💰 £22,295 - £24,952

Lleoliad

📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Menter a Busnes

Ar gau

Mudiad Meithrin

Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ar gau

Grŵp Cynefin

Ar gau

Prifysgol Bangor

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

Ar gau

Prifysgol De Cymru

Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

Ar gau