Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Iaith Cynorthwyol

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Iaith Cynorthwyol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Pwrpas y Swydd

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd iaith a Chraffu, a’r Ymgynghorydd Iaith i:

 - cyfrannu at ddatblygu diwylliant Gymraeg y Cyngor drwy ysbrydoli eraill a’u hannog i gydnabod a gwerthfawrogi’r fraint o gael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 - datblygu a sicrhau trefniadau’r Cyngor i gwrdd â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan adrodd i Gomisiynydd y Gymraeg.

 - cefnogi ymchwiliadau’r Pwyllgor Iaith.

 - cefnogi datblygu sgiliau cynllunio ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith i staff a Chynghorwyr.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer.

Prif Ddyletswyddau

Safonau’r Gymraeg

• Cynorthwyo i sicrhau cymdymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg ar draws y Cyngor er mwyn cyd-fynd â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a darparu cyngor i eraill

• Cefnogi gwaith adrannau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a’u cynghori ar gydymffurfiaeth a’r Safonau

• Cynorthwyo gydag ymchwilio ac ymateb i gwynion iaith

• Sicrhau trefniadau monitro cynhwysfawr, gan gydlynu data angenrheidiol ar gyfer adrodd ar ddangosyddion a llunio Adroddiad Blynyddol y Cyngor i Gomisiynydd y Gymraeg

• Annog y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â monitro’r defnydd a’r galw

• Datblygu dealltwriaeth y gweithlu o gynllunio ieithyddol ac ymwybyddiaeth iaith ar draws y Cyngor

• Cyfrannu at ddatblygu diwylliant Gymraeg y Cyngor drwy ysbrydoli eraill a’u hannog i gydnabod a gwerthfawrogi’r fraint o gael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd

• Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu, adolygu, monitro a chyhoeddi Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd (strategaeth iaith y Cyngor)

• Cydweithio gyda phenaethiaid adrannau a gwasanaethau i ddatblygu cynlluniau, ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a threfniadau gwaith sydd yn hybu’r Gymraeg yn unol â’r gofyn statudol ar y Cyngor

Asesiadau effaith iaith

• Sicrhau mewnbwn priodol i warchod buddiannau’r iaith Gymraeg mewn asesiadau effaith cydraddoldeb o gynlluniau, polisiau a gweithgareddau’r Cyngor

• Cyflwyno sylwadau ar ddatganiadau ac asesiadau iaith a gyflwynir gyda cheisiadau cynllunio ar ran yr Uned Iaith a monitro unrhyw effaith

• Cynnig a darparu cyngor ieithyddol ar gyfer ymgeiswyr sy’n dymuno derbyn cyngor cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio. Polisi iaith y Cyngor

• Cynorthwyo i adolygu a datblygu’r Polisi Iaith i sicrhau ei fod yn gyfredol ac addas

• Cyfathrebu, monitro a hyrwyddo’r Polisi Iaith gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi gan swyddogion Gwynedd

• Cynorthwyo i lunio canllawiau a pholisiau atodol eraill sy’n gysylltiedig gyda’r Polisi Iaith er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth adrannau a gwasanaethau gyda gofynion y Polisi Iaith a’r Safonau

Prosiectau yng Nghynllun y Cyngor

• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a’r Ymgynghorydd Iaith gyda phrosiectau blaenoriaeth sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a datblygu’r diwylliant yng Ngwynedd

Pwyllgor Iaith

• Cyfrannu tuag at sicrhau mewnbwn priodol i adolygiadau o bolisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol, gan gyfrannu at ymatebion gan  y Cyngor i’r adolygiadau hynny

• Cefnogi’r ymchwiliadau a gomisiynir gan y Pwyllgor Iaith, gan lunio rhaglen waith, casglu data, cynllunio a chynnal cyfweliadau, drafftio    adroddiad a llunio argymhellion

• Ymchwilio i gwynion iaith a chanfod datrysiadau iddynt gan adrodd arnynt i’r Pwyllgor Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg

• Cynorthwyo’r Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu i lunio rhaglen waith y Pwyllgor a llunio adroddiadau

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor

• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael  ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau  ôl-troed carbon y Cyngor

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

• Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

• Bydd disgwyl gweithio oriau hyblyg ac oriau anghymdeithasol yn achlysurol

Cyflog

💰 £22,571 - £24,920

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £29k 📍 Ceredigion Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £42k - £44k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Caerdydd📍 Bangor +1 Ar gau

💰 £43k - £52k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £21k 📍 Casnewydd Ar gau

💰 £9.90/a 📍 Llanfairpwll Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £28k - £32k 📍 Penrhyndeudraeth📍 Hybrid Ar gau

💰 £33k - £39k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £27k - £33k 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £60k - £70k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30k - £35k 📍 Aberystwyth Ar gau