Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x 2 (lleoliad hyblyg)

💰 £21,453 - £25,017 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x 2 (lleoliad hyblyg)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar gynllun penodol sef sefydlu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardal ddaearyddol penodol. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill.

Dyletswyddau’r Swydd:   Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:   Sefydlu a Symud Ymlaen:

· Gwireddu cynllun sydd eisoes mewn lle i ddatblygu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardaloedd ddaearyddol benodol trwy:   · Ehangu gofod trwy gynllun cyfalaf y llywodraeth a neu gyfuno gwasanaeth allanol a Chylch Meithrin er mwyn sicrhau bo mwy o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin

· Adnabod a hwyluso i sefydlu pwyllgor rheoli gwirfoddol yn lleol a threfnu cyfarfodydd sefydlu pwyllgor rheoli

· Cefnogi’r pwyllgor rheoli i sefydlu strwythurau busnes cadarn i’r Cylch Meithrin/Ti a Fi

· Adnabod lleoliad posibl

· Adnabod staff ac arwain proses recriwtio a phenodi

· Cefnogi ac arwain y pwyllgor rheoli drwy’r broses gofrestru AGC

· Cydweithio gyda thîm ehangach Mudiad Meithrin i wireddu’r cynllun

· Cydweithio a chydlynu gyda’r Cyngor Sir

· Cydweithio gyda’r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol a’r gymuned ehangach

· Trefnu hyfforddiant perthnasol i bwyllgorau newydd a staff mewn partneriaeth â’r tîm taleithiol

· Adnabod ffynonellau nawdd a grant a chefnogi ac arwain y pwyllgor ar brosesau ymgeisio ble’n addas a threfnu digwyddiadau codi arian

· Hybu a hyrwyddo'r Cylch Meithrin/Ti a Fi newydd

· Ar ôl sicrhau bod y Cylch Meithrin/ Ti a Fi’n sefydlog, cyflwyno’r Cylch Meithrin/ Ti a Fi newydd i Swyddog Cefnogi penodedig o fewn tîm Mudiad Meithrin   Gwaith Cyffredinol:

· Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin

· Datblygu ac ehangu darpariaethau o fewn yr ardal

· Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth

· Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant

· Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol e.e. rhieni/gwarchodwyr, ysgolion ayyb

· Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol

· Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol ar gyfer hyrwyddo’r gwaith o sefydlu Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi newydd mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cymraeg i Blant e.e. sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen

· Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn

· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cyflog

💰 £21,453 - £25,017 pro rata

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £32,960 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £5,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £52,302 - £60,624 📍 Aberaeron Ar gau

💰 £25,612 - £28,756 pro rata 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £30,014 - £32,843 📍 Caerffili Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £28.72 - £31.48 yr awr 📍 Abertawe📍 Castell-nedd Port Talbot +1 Ar gau

💰 £31,411 - £35,333 📍 Abertawe Ar gau

💰 £31,411 📍 Abertawe📍 Ar-lein +1 Ar gau

💰 £33,036 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £19,876 - £24,202 📍 Caernarfon Ar gau

💰 I'w drafod 📍 I'w drafod Ar gau

💰 £27,000 - £32,000 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

💰 £21,630 - £23,715 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30,000 📍 Hybrid Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Aberystwyth📍 Bangor Ar gau

💰 £20,043 - £22,129 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £34,304 - £40,927 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,486 - £44,625 📍 Hybrid Ar gau

💰 £44,625 - £48,876 📍 Hybrid Ar gau