Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Di-sgript (Unscripted)

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae S4C yn edrych am Bennaeth Di-sgript (Unscripted)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Fel un o dîm Cynnwys byddwch yn cydweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cynnwys aml-lwyfan ar gyfer S4C.

Byddwch yn cyflwyno a chomisiynu ystod eang o gynnwys amrywiol ac arloesol gan gyflenwyr. Yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â'r weledigaeth ar gyfer S4C.

Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol ac adeiladol gyda'r sector gynhyrchu annibynnol drwy gydweithio, creu a meithrin syniadau ar y cyd er mwyn adnabod a meithrin cynnwys o'r safon uchaf.

Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.

Manylion Eraill

Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin

Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: 3 mlynedd

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £32,960 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £5,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £52,302 - £60,624 📍 Aberaeron Ar gau

💰 £25,612 - £28,756 pro rata 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £30,014 - £32,843 📍 Caerffili Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £28.72 - £31.48 yr awr 📍 Abertawe📍 Castell-nedd Port Talbot +1 Ar gau

💰 £31,411 - £35,333 📍 Abertawe Ar gau

💰 £31,411 📍 Abertawe📍 Ar-lein +1 Ar gau

💰 £33,036 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £19,876 - £24,202 📍 Caernarfon Ar gau

💰 I'w drafod 📍 I'w drafod Ar gau

💰 £27,000 - £32,000 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

💰 £21,630 - £23,715 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £30,000 📍 Hybrid Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Aberystwyth📍 Bangor Ar gau

💰 £20,043 - £22,129 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £34,304 - £40,927 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,486 - £44,625 📍 Hybrid Ar gau

💰 £44,625 - £48,876 📍 Hybrid Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau