Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol - Castell Penrhyn

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £25,662 📍 Bangor Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol - Castell Penrhyn

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Am gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Penrhyn, ac am rôl bwysig yn ein portffolio; rôl a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n dyfodol. Yn gyfrifol am hyrwyddo gwirfoddoli a chreu cyfleoedd i gyd-greu gyda chymunedau, byddwch yn gweithio gydag eraill i gyflwyno cyfleoedd cyfranogi perthnasol a chyffrous.

Bydd y rôl yn ceisio rhannu stori lawn Penrhyn ac yn dygymod â gwirionedd hanes sy’n seiliedig ar ecsbloetiaeth ddynol yn Jamaica, yn ogystal ag yma ar garreg y drws y castell ym Methesda.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog, a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho gyda’ch CV. Ar gyfer y swydd hon mae angen cymhwysedd Gwrando a Deall, Siarad, Darllen ac Ysgrifennu ar o leiaf lefel 3-4. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg wneud cais, a gellir darparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau Cymraeg.

Dylech hefyd gynnwys llythyr eglurhaol yn nodi pam eich bod yn gwneud cais a pha sgiliau unigryw y credwch y gallwch eu cyflwyno i'r rôl. 

Dyddiadau cyfweld: 22 a 23 Medi.    Sut brofiad yw gweithio yma?

Wrth gyflwyno profiad yr ymwelwyr, byddwch yn ymuno â thîm gweithredol brwdfrydig ac ymroddgar o staff a gwirfoddolwyr, yn gweithio ochr yn ochr â thîm arwain yr eiddo. 

Mae Penrhyn yn dŷ Fictoraidd wedi'i guddio fel castell neo-Sioraidd anferth ger Bangor, gyda gardd restredig Gradd II ffurfiol, a thir parc gyda golygfeydd anhygoel o Eryri ac arfordir gogledd Cymru. Mae'n lle cymhleth; mae ymdeimlad hwyliog, rhydd a thawel yr ardd yn gyferbyniad llwyr i'r cefndir gothig o orthrwm ac ecsbloetiaeth sydd wedi talu am fawredd a godidowgrwydd Fictoraidd ar raddfa mor eang. 

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cynllun strategol y portffolio hwn ar gyfer gwirfoddoli a chymunedau, ochr yn ochr â thîm arwain yr eiddo. Yn rheoli ac ymgorffori newid wrth ehangu ac ymestyn ein perthynas â chynulleidfaoedd hen a newydd. Cydweithio â phartneriaid er mwyn rhannu stori lawn Castell Penrhyn mewn modd gonest ac agored, wrth ddygymod â'r hyn yr oedd yn ei gynrychioli ar un adeg, a'i effaith a'i ddylanwad, yn lleol ac yn fyd-eang. Ynghyd â'n rheolwyr gwirfoddolwyr, byddwch yn gyfrifol am greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer ein gwirfoddolwyr a chymunedau, wrth gadw amcan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bod Croeso i Bawb, yn y cof. Byddwch hefyd yn magu hyder a gallu eraill wrth gyd-greu amgylchedd cydweithredol, hyblyg a chynhwysol ar gyfer partneriaid, cymunedau a gwirfoddolwyr hen a newydd. 

Am bwy ydym yn chwilio?

Rhywun sy'n meddu ar y canlynol:

- dealltwriaeth o arfer da mewn perthynas â chyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol, yn ogystal â gwaith partner a chyfranogiad ehangach

- y gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol o fewn cymuned

- dealltwriaeth o arfer da o safbwynt rheoli gwirfoddolwyr

- profiad llwyddiannus ac ymarferol o ddatblygu a gweithredu agweddau a chynnyrch newydd sy'n ymwneud â gwirfoddoli

- sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol 

- y gallu i hyfforddi a chefnogi rheolwyr gwirfoddolwyr

- sgiliau cyfathrebu cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg.    Y Pecyn

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd

- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)

- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

Cyflog

💰 £25,662

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

Cyngor Tref Ffestiniog

💰 £24,982 - £35,745 📍 Ffestiniog Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £42,155 - £47,423 📍 Campws Llandaf Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £26,396 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau

Money and Pensions Service

💰 £43,000 📍 Unrhyw le Ar gau

Menter a Busnes

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM)

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £21,197 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £20,043 - £20,444 📍 Llanrwst Ar gau

Medrwn Môn

💰 £24,490 pro rata 📍 Llangefni Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

Odgers Berndtson

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

National Theatre Wales

💰 £28,000 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

Cwmpas

💰 £25,013 - £29,793 📍 O gartref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 – £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £27,975 - £29,868 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Portal

💰 £27,000 - £32,000 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27,929 - £31,411 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £44,737 – £51,805 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Cronfa Mullany

💰 £23000 - £25000 📍 Abertawe Ar gau