Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Prosiectau Cefnogi Economi Leol

Partneriaeth Ogwen

💰 £30,000 pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Reolwr Prosiectau Cefnogi Economi Leol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai. Mae’r Bartneriaeth yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Canolfan Cefnfaes, siopau ac unedau preswyl. Mae’r Bartneriaeth hefyd yn datblygu prosiectau adfywio cymunedol ac amgylcheddol ac mae ystod ein gwaith yn eang – o ddatblygu cynlluniau cludiant cymunedol, cynlluniau atal tlodi a chynlluniau i gefnogi’r economi leol. 

Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect profiadol i ymuno a thîm rheoli’r Bartneriaeth i ddatblygu prosiectau sy’n cefnogi’r economi sylfaenol, cylchol a lleol yn ein cymuned. Bydd y prosiectau hyn yn cynnwys – 

-     Datblygu cynlluniau i gefnogi’r economi fwyd a diod yn Nyffryn Ogwen

-     Datblygu defnydd o adnoddau cymunedol newydd Canolfan Cefnfaes yn cynnwys y cyfleusterau cydweithio (co-working a Gofod Gwneud a Thrwsio)

-     Cefnogi datblygiad Siop Ogwen 

Bydd y Rheolwr yn gweithio o swyddfeydd y Bartneriaeth a Chanolfan Cefnfaes Bethesda.    Oriau Gwaith

Cyflogir y Rheolwr Prosiectau am 15 awr yr wythnos.

Lleoliad Swydd

Swyddfa Partneriaeth Ogwen, 26- 27 Stryd Fawr a Chanolfan Cefnfaes Bethesda.

Prif Ddyletswyddau

Bwyd a Diod

1.   Arwain datblgiadau sy’n cefnogi’r economi fwyd a diod yn Nyffryn Ogwen gyda ffocws ar ddatblygu hwb bwyd Cadwyn Ogwen yn Llaethdy Gwyn, Bethesda. 

2.   Sefydlu a goruchwylio trefn staffio i hwb bwyd Cadwyn Ogwen yn Llaethdy Gwyn a systemau effeithiol i redeg siop o’r safle a sefydlu digwyddiadau i farchnata cynnyrch lleol yn Nyffryn Ogwen. 

3.   Rheoli staff a gwirfoddolwyr Cadwyn Ogwen a darparu cefnogaeth. 

4.   Ymgeisio am grantiau i ddatblygu cynllun Cadwyn Ogwen, cefnogi’r gadwyn gyflenwi leol a helpu i feithrin busnesau bwyd a diod newydd yn Nyffryn Ogwen. 

5.   Gweithio gyda busnesau bwyd a diod ac asiantaethau cefnogi perthnasol i helpu’r sector bwyd a diod i dyfu yn lleol. 

Cefnfaes

1.   Arwain ar hyrwyddo defnydd o ofod cymunedol Canolfan Cefnfaes gan gydweithio gyda staff prosiect perthnasol Partneriaeth Ogwen. 

2.   Datblygu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau yng Nghanolfan Cefnfaes. 

3.   Mewn cydweithrediad a thîm gweinyddol Partneriaeth Ogwen, sicrhau systemau cynnal a chadw a llogi i Ganolfan Cefnfaes. 

4.   Sefydlu gofod cyd-weithio (co-working) yn un o ystafelloedd Canolfan Cefnfaes gan arwain ar farchnata a hyrwyddo’r adnodd newydd. 

5.  Arwain ar hyrwyddo cyfleusterau Gofod Gwneud a thrwsio gan greu cysylltiadau gyda rhwydweithiau o ddefnyddwyr newydd gan hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd lleol.

6.  Cydweithio efo crefftwyr lleol a’u helpu i ddatblygu cynnyrch i’w werthu yn Siop Ogwen ac ar blatfform Cadwyn Ogwen. 

7.  Paratoi ceisiadau grant perthnasol i ddatblygu Canolfan Cefnfaes. 

Prosiectau Eraill

Adnabod ffynonellau cyllid ac ymgeisio am grantiau ar gyfer prosiectau sy’n datblygu a chefnogi’r economi leol. 

Cyffredinol

1. Cefnogi’r Prif Swyddog a staff eraill Partneriaeth Ogwen gyda gweithredu prosiectau Partneriaeth Ogwen. 

2. Rheoli staff a gwirfoddolwyr yn deg ac effeithiol. 

3. Ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu prosiectau.

4. Goruchwylio gwariant a gweinyddiaeth grantiau perthnasol gyda chefnogaeth Tîm Gweinyddol Partneriaeth Ogwen. 

5. Paratoi adroddiadau cynnydd er sylw’r Prif Swyddog a/neu gyllidwyr yn ôl y galw. 

**Nodweddion Personol a Sgiliau Angenrheidiol **

Nodir y nodweddion personol gofynnol yn y Fanyleb Person ond byddwn yn chwilio am berson gyda sgiliau a phrofiad o reoli prosiectau a phrofiad o baratoi ceisiadau grant. Byddwn yn chwilio am unigolyn sy’n gallu gweithio’n annibynnol i ddatblygu prosiectau ond sy’n gwneud hynny mewn cydweithrediad â staff Partneriaeth Ogwen a holl randdeiliaid allweddol Dyffryn Ogwen. 

**Cefnogaeth Weinyddol **

Darperir offer cyfrifiadurol addas i alluogi’r swyddog i weithredu gofynion y swydd yn llawn. Mae rhywfaint o gefnogaeth weinyddol ar gyfer agweddau o’r swydd yn cynnwys amser gofalwr eiddo a swyddog eiddo Partneriaeth Ogwen. 

**Staffio ac Atebolrwydd **

Bydd y Rheolwr yn atebol i Brif Swyddog Partneriaeth Ogwen ac yn aelod o dîm rheolwyr Partneriaeth Ogwen. Bydd y Rheolwr yn reolwr llinell ar Gydlynydd Cadwyn Ogwen.

Cyflog

💰 £30,000 pro rata

Lleoliad

📍 Bethesda

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

Cyngor Tref Ffestiniog

💰 £24,982 - £35,745 📍 Ffestiniog Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £42,155 - £47,423 📍 Campws Llandaf Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £26,396 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau

Money and Pensions Service

💰 £43,000 📍 Unrhyw le Ar gau

Menter a Busnes

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM)

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £21,197 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £20,043 - £20,444 📍 Llanrwst Ar gau

Medrwn Môn

💰 £24,490 pro rata 📍 Llangefni Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

Odgers Berndtson

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

National Theatre Wales

💰 £28,000 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

Cwmpas

💰 £25,013 - £29,793 📍 O gartref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 – £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £27,975 - £29,868 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Portal

💰 £27,000 - £32,000 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27,929 - £31,411 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £44,737 – £51,805 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Cronfa Mullany

💰 £23000 - £25000 📍 Abertawe Ar gau