Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prif Swyddog

💰 £31,512 - £33,000 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Brif Swyddog

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.

Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-

•   Ymateb a cydymffurfio ag anghenion corff rheoleiddio y Comisiwn Elusennol ac adrodd yn ôl fel yr angen.   •   Ymateb i anghenion a gweithdrefnau adrodd i Fwrdd Ymddiriedolwyr gan sicrhau bod gweithdrefnau’r Fenter yn cydfynd ac yn unol â Chyfansoddiad/Dogfen Lywoidraethu’r sefydliad.   •   Rheoli cyllideb a chyllid y Fenter ar y cyd â chwmni cyfrifon allanol i gadw cyfrifon cyfredol a chywir   •   Sicrhau arweinyddiaeth mewn cyflawni marc ansawdd Elusen Ddibynadwy i’r Fenter a'i wreiddio yng ngwaith ac ethos y Fenter.   •   Cydlynu a datblygu gwaith y Fenter drwy adnabod ffyrdd o hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn yr ardal trwy gynllunio gweithgareddau gyda phartneriaid lleol.   •   Codi proffil yr Iaith Gymraeg yn ardal y fenter a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sectorau.   •   Mewn cydweithrediad â Bwrdd Ymddiriedolwyr, datblygu Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer cyfnod 2023-2026 a Cynlluniau Gweithredu blynyddol Fenter er mwyn gosod cyfeiriad pendant, a sicrhau bod y Fenter yn cyrraedd nodau a thargedau’r Llywodraeth.   •   Rheoli a monitro staff y Fenter (staff cyflogedig, staff achlysurol ein clybiau plant a gwirfoddolwyr).   •   Cydweithio â Thrysorydd y Fenter er mwyn rheoli cyllideb a chyllid y Fenter a sicrhau taliadau tryloyw a phrydlon gan gynnwys cyflogau staff parhaol ac achlysurol   •   Rheoli gwaith marchnata y Fenter.   •   Llunio a chyflwyno ceisiadau ariannol blynyddol y Fenter i Lywodraeth Cymru ynghyd â pharatoi adroddiadau cynnydd chwarterol a chyflwyno’r wybodaeth fel bo’r galw i’r Llywodraeth.   •   Llunio a chyflwyno ceisiadau ariannol er mwyn denu nawdd o ffynonellau amrywiol   •   Creu partneriaethau cryf gyda chyrff eraill yn ardal y Fenter a chynrychioli’r Fenter ar bwyllgorau’r Partneriaid.   •   Cydlynu a sicrhau adroddiadau ar gynnyd amserol a chynhwysfawr I’r Llywodraeth yn ol y galw   •   Cydweithio ag asiantaethau perthnasol ynglyn a’i chynlluniau Iaith a’r Safonau.

Manyleb person

•   Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol   •   Dealltwriaeth o ddiwylliant, demograffeg ac anghenion ieithyddol y De ddwyrain a thair sir y Fenter yn benodol.   •   Profiad o arwain tîm bychan i ddatblygu sefydliad cynhaliol gyda systemau llywodraethu clir a chadarn.   •   Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau   •   Dealltwriaeth o sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio a Chynlluniau Grant yr Iaith Gymraeg.   •   Profiad o wella busnes parhaol   •   Profiad o gynllunio gwariant a rheoli cyllid sylweddol   •   Dealltwriaeth o’r maes gofal plant a phrosesau diogelu ac amddiffyn plant   •   Profiad o drefnu amryw o weithgareddau gan ystyried materion diogelu a casesiadau risg.   •   DBS cyfredol

•   Trwydded yrru gyfredol a char

Telerau’r Swydd

Cyflog: £31,152 - £33,000 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)

Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol 

Costau Teithio

Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM

Oriau Gwaith

37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser. Bydd cyfle i weithio o gartref yn achlysurol.

Gwyliau

28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)

Hyd y Cytundeb

Parhaol

Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.

**Strwythur Rheoli **

Byddwch yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i’r Cadeirydd/Ymddiriedolwr o ran rheolwr llinell.

Lleoliad swyddfa’r Fenter

Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C Llawr Cyntaf Gogledd Ystad Parc Mamhilad Park Pontypŵl  NP4 0HZ

Dyddiad Cau: 17 Hydref 2022

Cyswllt: Thomas Hughes

[email protected]

Dychwelwch y ffurflen drwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 9am, Dydd Llun, 17 Hydref 2022

Cyflog

💰 £31,512 - £33,000

Lleoliad

📍 Pont-y-pŵl

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25,860 - £29,430 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £20,852 - £22,129 📍 Bae Colwyn Ar gau

💰 £29,174 - £30,984 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37,474 – £43,414 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Cwmbrân Ar gau

💰 £42,828 - £47,483 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £53,646 - £62,237 📍 Pencader Ar gau

💰 £42,828 - £47,483 📍 Pentre Ifan Ar gau

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £27,126 - £29,942 📍 Abergwili Ar gau

💰 £28,000-£30,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £40,000 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau