Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Pentre Ifan

💰 £42,828 - £47,483 📍 Pentre Ifan Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Bennaeth Pentre Ifan

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach. 

Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.   Y Swydd

Rydym yn chwilio am berson ysbrydoledig i ymuno a thîm Gwersylloedd yr Urdd i sefydlu a rheoli Pentre Ifan sef, gwersyll amgylcheddol a lles cyntaf yr Urdd. 

Nod Pentre Ifan yw rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd, lles pobl ifanc a’r Gymraeg mewn un profiad preswyl sy’n ymgysylltu pobl ifanc â byd natur a’u grymuso i warchod yr amgylchedd naturiol, heddiw ac yn y dyfodol.

Rydym felly yn edrych a, Pennaeth ysbrydoledig i sicrhau fod y Gwersyll yn cyrraedd ei llawn potensial. Hyderwn fydd y Gwersyll yn barod i groesawu gwersyllwyr o Orffennaf 2023 ymlaen.     Am fwy o wybodaeth am wersyll amgylcheddol yr Urdd, ewch i’n gwefan : Datblygiadau Pentre Ifan (urdd.cymru) 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog ar [email protected] 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau –  27 Tachwedd 2022

Dyddiad Cyfweld – 7 Rhagfyr 2022   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol. 

Cyflog

💰 £42,828 - £47,483

Lleoliad

📍 Pentre Ifan

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25,860 - £29,430 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £20,852 - £22,129 📍 Bae Colwyn Ar gau

💰 £29,174 - £30,984 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37,474 – £43,414 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Cwmbrân Ar gau

💰 £42,828 - £47,483 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £53,646 - £62,237 📍 Pencader Ar gau

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

💰 £27,126 - £29,942 📍 Abergwili Ar gau

💰 £28,000-£30,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £40,000 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau