Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn chwilio am Gyfieithydd.

Llawn amser (37.5 awr yr wythnos) /Rhan amser (unai 22.5 neu 30 awr yr wythnos) parhaol.

Mae swydd llawn amser parhaol gyda ni. Gallwn hefyd ystyried ceisiadau gan unigolion sydd yn edrych am waith cyfieithu yn rhan-amser neu i rannu swydd.

Rydym yn dymuno recriwtio cyfieithwyr i ymuno â Thîm Cyfieithu o fewn yr Uned Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Rydym yn dîm o ieithyddion a chyfieithwyr sy'n tyfu, er mwyn cefnogi Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a sefydliadau eraill GIG Cymru gyda gwasanaethau cyfieithu. Bydd y gwaith yn amrywiol ac yn ddiddorol, wrth i ni gyfieithu ystod eang o gynnwys yn amrywio o gynnwys tudalennau gwe, taflenni gwybodaeth i gleifion, ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, swydd-ddisgrifiadau, polisïau, rhyngwynebau ar gyfer systemau a chymwysiadau a llawer mwy. Rhaid bod gennych brofiad sylweddol mewn cyfieithu a phrawfddarllen o'r Saesneg i'r Gymraeg ac i'r gwrthwyneb, yn ddelfrydol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid bod gennych feistrolaeth ardderchog ar ramadeg yn y ddwy iaith a bydd gennych radd yn y Gymraeg neu ieithoedd eraill a/neu ieithyddiaeth. Rydym yn cynnig cyfraddau cyflog rhagorol, ac i'r ymgeisydd iawn sy'n gallu dangos bod ganddo'r cymwysterau, sgiliau a phrofiad perthnasol rydym yn gallu cynnig cyflog teg i adlewyrchu'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad hynny. Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu a chronfeydd termau, a byddwch yn gallu cyfieithu rhwng 2,500 a 3,500 o eiriau o leiaf mewn diwrnod gwaith, yn dibynnu ar gymhlethdod y dogfennau hynny. Mae gennym swyddfeydd ym Mhont-y-pwl, Caerdydd, Nantgarw, Abertawe, Caerfyrddin, Dinbych a Llanelwy. Rydym hefyd yn cynnig gweithio hybrid. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu cyfieithiadau ar ffurf ysgrifenedig o wahanol ddogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a'r Gymraeg i'r Saesneg, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Microsoft Word, PowerPoint, Excel, Outlook, In-design, gan ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu fel Memsource. Fel aelod o'r tîm, bydd y cyfieithydd yn cyfieithu ystod eang o ddogfennau diddorol, cymhleth, technegol, cyfrinachol a sensitif. Bydd y cyfieithydd hefyd yn gyfrifol am gyfieithu cyhoeddiadau, adroddiadau, polisïau, agendâu, cofnodion, papurau bwrdd, datganiadau i'r wasg, llythyrau, ffurflenni, papurau recriwtio a chynnwys gwe/cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Cyfieithu gwybodaeth, dogfennau a ffurflenni ar gyfer cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd yn gyffredinol sy'n gofyn am gywirdeb a'r defnydd o'r iaith, terminoleg, arddull a chystrawen fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r derbynwyr.

Prawf-ddarllen eich gwaith eich hun a gwaith aelodau eraill o'r tîm. Sicrhau bod cyfieithiadau'n bodloni ansawdd golygyddol. Dilyn y protocolau a'r gweithdrefnau sydd ar waith yn Uned y Gymraeg i ddarparu gwasanaethau cyfieithu prydlon a chywir o ansawdd uchel i'n cleientiaid o fewn GIG Cymru.

Paratoi pob dogfen cyn ei chyfieithu, gan sicrhau bod y ddogfen yn ramadegol gywir. Bydd hyn yn golygu cyfathrebu ag awdur y ddogfen er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r pwnc, e.e. polisïau a gweithdrefnau.

Os oes diddordeb gyda chi, cysylltwch gydag Oliver Owen (Rheolwr Cyfieithu) am fwy o wybodaeth: [email protected] 

Cyflog

💰 £27,055 - £32,934

Lleoliad

📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ysgol Cae'r Felin, Cyngor Sir Caerfyrddin

💰 £53,646 - £62,237 📍 Pencader Ar gau

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

💰 £21,630 - £23,71 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £42,828 - £47,483 📍 Pentre Ifan Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

GwE

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Esgobaeth Tyddewi

💰 £27,126 - £29,942 📍 Abergwili Ar gau

Rhieni Dros Addysg Gymraeg

💰 £28,000-£30,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Undeb Amaethwyr Cymru

💰 £40,000 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Uchelgais Gogledd Cymru

💰 £28,226 - £30,095 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs

💰 £27,741 - £28,226 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

RSPB Cymru

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Cymuned Llandwrog

💰 £27,514 pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau