Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £32k - £35k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol dwyieithog i chwarae rhan ganolog mewn cefnogi ein cydweithwyr Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau a Digwyddiadau i gyflawni gweithgarwch allanol a mewnol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i adeiladu ymgyrchoedd wedi'u halinio ar gyfer y gwahanol sianeli, gan sicrhau bod cynnwys yn cael ei deilwra i fodloni gofynion allweddol y gynulleidfa er mwyn cynyddu ymgysylltiad a chodi enw da Met Caerdydd. Agwedd hanfodol o’r rôl fydd i reoli gwybodaeth gyhoeddus y Brifysgol, cysylltiadau â'r cyfryngau ac anghenion ysgrifennu copi yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Yn ogystal, fel ein Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol byddwch hefyd yn:

- Sicrhau bod negeseuon allanol yn gyson ac yn gywir gan cynnwys cydlynu cynnwys dwyieithog (Cymraeg/Saesneg).

- Rheoli'r cynnwys cysylltiedig corfforaethol ar sianeli Cyfryngau Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd a gweithio'n agos gyda'r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol i alinio cynnwys â'r cynlluniau cyffredinol a grëwyd gan y tîm Brand a Chynnwys.

- Sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyflwyno mewn tôn llais cyson a phroffesiynol.

- Gweithio'n agos gyda staff ar draws y Brifysgol i nodi straeon newyddion posibl a negeseuon cyfathrebu beirniadol ac ysgrifennu a dosbarthu straeon newyddion, postiadau cyfryngau cymdeithasol, blogiau, darnau barn ac ati.

- Cefnogi'r tîm Rhanddeiliaid i reoli cyfathrebiadau staff a myfyrwyr gan gynnwys cynhyrchu ac ysgrifennu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer cylchlythyrau e-bost, llwyfannau ar-lein, cyfryngau cymdeithasol ac arddangosfeydd ar y campws.

- Cefnogi'r tîm Digwyddiadau Corfforaethol yn enwedig wrth greu, golygu, adolygu'r holl gyfathrebu cysylltiedig.

- Cydweithio â Swyddogion Marchnata Ysgolion i gefnogi cynlluniau marchnata a chynorthwyo recriwtio myfyrwyr.   **Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu **

- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r allu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

- Profiad profedig wrth reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol.

- Profiad helaeth o ddatblygu, ysgrifennu a golygu cyfathrebiadau deniadol o ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd a sianeli.

- Profiad o feithrin perthnasoedd rhanddeiliaid effeithiol gyda gallu profedig i drafod, darbwyllo a dylanwadu'n effeithiol er mwyn cyflawni amcanion strategol.

- Gallu datblygu a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu rhagweithiol a weithio yn unol â chanllawiau brand.

- Y gallu i greu cynnwys amlgyfrwng gyda sgiliau TG cryf gan gynnwys yn benodol y defnydd o Microsoft Teams, rheoli cynnwys, prosesu geiriau, taenlenni, e-bost, a golygu delweddau.

- Y gallu i drin gwybodaeth sensitif gyda phwyll a thringarwch ac i gysylltu'n hyderus â chydweithwyr ar bob lefel y tu mewn a'r tu allan i'r brifysgol.

- Wedi cymhwyso i lefel gradd neu gyfwerth mewn maes sy’n gysylltiedig â chyfathrebu/cysylltiadau cyhoeddus/marchnata.   Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.

Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydyn ni'n falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydyn ni'n cefnogi ein gilydd, yn garedig i'n gilydd, ac yn un tîm; ni yw Met Caerdydd. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.

Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:

- Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn.

- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.

- Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.

- Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd.

- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â therapi cyflenwol.

- Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.

- Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.

- Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Brown, Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro ar [email protected].

Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.

Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.

Cyflog

💰 £32,348 - £35,333

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Tref Ffestiniog

💰 £24,982 - £35,745 📍 Ffestiniog Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £42,155 - £47,423 📍 Campws Llandaf Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £65,266 - £74,847 📍 Casnewydd Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £26,396 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau

Money and Pensions Service

💰 £43,000 📍 Unrhyw le Ar gau

Menter a Busnes

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM)

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £21,197 pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £20,043 - £20,444 📍 Llanrwst Ar gau

Medrwn Môn

💰 £24,490 pro rata 📍 Llangefni Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £25,667 - £28,887 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

Odgers Berndtson

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

National Theatre Wales

💰 £28,000 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caernarfon Ar gau

Cwmpas

💰 £25,013 - £29,793 📍 O gartref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 – £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £27,975 - £29,868 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Portal

💰 £27,000 - £32,000 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £27,929 - £31,411 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £44,737 – £51,805 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Cronfa Mullany

💰 £23000 - £25000 📍 Abertawe Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £31,512 - £33,000 📍 Pont-y-pŵl Ar gau