Clerc y Dref / Swyddog Ariannol Cyfrifol
Cyngor Tref Ffestiniog
Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn edrych am Glerc y Dref / Swyddog Ariannol Cyfrifol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Clerc y Cyngor / Swyddog Ariannol Cyfrifol yn gyfrifol am wasanaethau a chyfleusterau'r Cyngor o ddydd i ddydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth ardderchog a fyddai’n ei galluogi i weithio mewn partneriaeth a staff, Cynghorwyr, partneriaid allanol ar gymuned leol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda dealltwriaeth gyffredinol o lywodraeth leol gyda record ragorol mewn gweinyddiaeth, polisi a chyfathrebu. Bydd sgiliau TG uchel yn angenrheidiol ac fe fydd presenoldeb yng nghyfarfodydd nos y Cyngor yn orfodol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus Tystysgrif “Local Council Administration (CiLCA) neu yn barod i weithio tuag at y cymhwyster o fewn 12 mis o gychwyn y swydd.
Bydd y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol.
**DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL **
1. Llywodraethu a Gweinyddu
1.1 Gweinyddiaeth gyffredinol ar faterion y Cyngor Tref.
1.2 Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor Tref yn cael eu cynnal mewn perthynas â gweinyddiaeth ar faterion y Cyngor Tref.
1.3 Datblygu llywodraethu corfforaethol o fewn y Cyngor Tref.
1.4 Gweinyddiaeth y Cyngor, Pwyllgor a chyfarfodydd eraill gan gynnwys paratoi agendâu a chofnodion gan gynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd gyda’r nos sydd fel arfer yn cael eu cynnal ar yr 2il a 3ydd Nos Iau o bob mis ac eithrio mis Awst pan nad oes cyfarfodydd.
1.5 Ymgymryd â phob dyletswydd weinyddol arall i gefnogi gwaith y Cyngor Tref. 2. Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg Gwybodaeth
2.1 Sicrhau bod gan y Cyngor Tref bolisïau priodol er mwyn bodloni gofynion Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth a gofynion cysylltiedig y Comisiynydd Gwybodaeth.
2.2 Sicrhau bod yr holl ffeiliau a chofnodion yn cael eu cynnal mewn modd effeithiol a bod polisi’r Cyngor Tref ar gadw dogfennau yn cael ei weithredu’n llawn.
2.3 Sicrhau bod trefniadau effeithiol ac effeithlon wedi’u sefydlu i ddelio gyda diogelwch gwybodaeth a data a bod y cyngor yn cydymffurfio â chynllun adfer busnes. **3. Rheoli Ystadau a Chyfleusterau **
3.1 Rheoli, datblygu, gweinyddu a chynnal tir ac adeiladau sydd o dan reolaeth y Cyngor Tref gan gynnwys meysydd chwarae, Y Parc, llochesi bws, camerâu cylch cyfun a swyddfeydd a Siambr y Cyngor.
3.2 Trefnu ar gyfer rheoli a gweinyddu archebion ar gyfer eiddo o dan reolaeth y Cyngor.
4. Cyfathrebu
4.1 Paratoi datganiadau i’r wasg, Cylchlythyron a dogfennau cyhoeddusrwydd eraill.
4.2 Paratoi ymgyrchoedd marchnata fel sy’n ofynnol gan y Cyngor Tref sy’n cynnwys ffyrdd arloesol newydd o gyfathrebu negeseuon allweddol i randdeiliaid.
4.3 Gweithredu pob digwyddiad (gan gynnwys digwyddiadau dinesig, digwyddiadau trefeillio a mentrau ymgysylltu â’r gymuned) a gymeradwyir gan y Cyngor Tref gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflenwi o fewn cyllideb ac o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt.
4.4 Sicrhau bod gwefan y Cyngor Trefyn cael ei gweinyddu mewn ffordd arloesol
**5. Iechyd a Diogelwch **
5.1 Sicrhau bod rhwymedigaethau statudol y Cyngor Tref ar gyfer rheolaeth effeithiol ar iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni a bod polisi iechyd a diogelwch a phrosesau a gweithdrefnau ategol yn cael eu hadolygu ar gyfnodau priodol
5.2 Paratoi asesiadau risg mewn perthynas â’r holl wasanaethau, eiddo a digwyddiadau.
5.3 Gofalu am eich iechyd a diogelwch eich hun
6. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
6.1 Cefnogi’r Cyngor Tref wrth sicrhau bod darpariaethau’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu hadlewyrchu ym mhob agwedd ar ei waith.
**7. Rheoli Pobl **
7.1 Cymryd cyfrifoldebau rheoli pobl
**8. Datblygiad Personol **
8.1 Cyflawni, o fewn cyfnod a bennir mewn ymgynghoriad â’r Cyngor, cymhwyster Tystysgrif mewn Gweinyddu Cyngor Lleol (CiLCA Wales) (Ariennir hyn gan y Cyngor).
8.2 Datblygu’n broffesiynol trwy gadw’ch gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau yn gyfredol i sicrhau rheolaeth effeithlon ar faterion y Cyngor Tref.
8.3 Dod yn aelod o Gymdeithas Clercod Cyngor Lleol (Ffi flynyddol i’w hariannu gan y Cyngor Tref).
9. Arall
9.1 Ymgymryd â dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sy’n gymesur â lefel a gradd y swydd.
Cyflog
💰 £24,982 - £35,745
Lleoliad
📍 Ffestiniog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn Busnes, Cyfrwng Cymraeg
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd mewn Busnes, Cyfrwng Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os oes gennych chi hanes o gyflawniad sy’n dangos eich ymrwymiad, eich dawn a’ch brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu drwy addysgu rhagorol, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd, ynghyd â rhannu ein brwdfrydedd dros ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, rydyn ni’n edrych ymlaen i dderbyn eich cais. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a’u helpu i ddatblygu ein safle o ran ymchwil ac yn rhai a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.
Y cyfle
Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig o addysg busnes a rheoli. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn gwbl falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Mae'r Ysgol hefyd yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli gyda'n partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Busnes neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Economeg a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn cael eich cefnogi i gyfrannu at broffil ymchwil yr Ysgol.
Mae'r Ysgol yn cynnal amrywiaeth o raglenni arloesol mewn Twristiaeth, Marchnata, Strategaeth, Entrepreneuriaeth, Rheoli Gweithrediadau a'r Gyfraith ymhlith llawer o feysydd pwnc.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr rhagorol sydd â phrofiad addysgu meysydd sy'n gysylltiedig â Busnes a Rheoli drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys diddordebau ymchwil yn y meysydd perthnasol. Bydd cyfleoedd i oruchwylio myfyrwyr PhD lle bo'n briodol.
Cyflog
💰 £42,155 - £47,423
Lleoliad
📍 Campws Llandaf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Bennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn lle gwych i weithio – dewch i ymuno â'r tîm!
Yn gyfnewid am eich gwaith caled a'ch ymroddiad rydym yn cynnig telerau ac amodau deniadol. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am y cyfle unigryw a chyffrous hwn i ddod yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd. Mewn partneriaeth â rhieni a'r gymuned, nod Ysgol Gymraeg Casnewydd yw cynnig amgylchedd dysgu Cymraeg ysbrydoledig sy'n gwerthfawrogi ac yn datblygu pawb. Rydym yn falch iawn bod Ysgol Gymraeg Casnewydd yn Arloeswr Dysgu Proffesiynol / Cwricwlwm ers mis Ebrill 2016 ac hefyd yn Ysgol Fraenaru ar gyfer y Cwricwlwm ers 2019. Yn ogystal, rydym yn ysgol arweiniol ar gyfer Partneriaeth Prifysgol De Cymru.
Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd wedi'i lleoli'n gyfleus ar gyrion dwyreiniol y ddinas, llai na 2 filltir o gyffordd 24 yr M4 ac ond 12 milltir o Gaerdydd.
Mae gennym gyfleusterau ysgol rhagorol wedi'u lleoli mewn mannau gwyrdd a chymuned ysgol groesawgar. Anogir darpar ymgeiswyr i ymweld a gweld hyn drostynt eu hunain! Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â [email protected] i drefnu.
Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Ein datganiad o genhadaeth yw: ‘Meithrin meddyliau yfory gyda’n gilydd’. Ein nôd yw meithrin disgyblion i gyrraedd safonau uchaf posib ac i’w datblygu i feddwl yn ddwys am eu byd a’u rhan o fewn y byd ehangach.
Am fwy o wybodaeth amdanom, gweler ein cyfrif Trydar: @YsgolGCasnewydd a’n gwefan:
https://www.ysgolgymraegcasnewydd.com/
Mae'r Corff Llywodraethu wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sy’n:
· Arweinydd ysbrydoledig sydd â gweledigaeth glir ar gyfer ein hysgol, gan gynnal a datblygu ethos addysg Gymraeg
· Meddu ar ddyhead am ragoriaeth ac am feithrin a datblygu ein disgyblion i gyflawni eu llawn botensial
· Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a rhyngbersonol amlwg i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol
· Dangos ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad.
· Gallu meithrin perthynas o barch cyffredin gyda'r plant, y rhieni, y gymuned, y staff, a’r Corff Llywodraethu.
· Ceisio datblygu trefniadau cydweithio cryf gyda'r holl bartneriaid a sefydliadau sy'n cefnogi'r ysgol.
Bydd llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol er mwyn sicrhau parhad a gwelliant yr ysgol lwyddiannus iawn hon.
**Dyddiadau Allweddol **
Dyddiad Cau : 18/10/22
Llunio rhestr fer: 19/10/22
Dyddiad cyfweld arfaethedig: 27/10/22
Dyddiad Cychwyn: 01/01/2023
Rhaid i ni ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi gyflwyno dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a chynhelir proses sgrinio gynhwysfawr ar gyfer pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyflog
💰 £65,266 - £74,847
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Gydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau i ymuno â ni ar sail llawn amser, parhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Byddwch yn darparu cymorth i'r Rheolwr Cyffredinol i gyflawni rhaglen eang o ddigwyddiadau corfforaethol a phrosiectau creadigol. Byddwch yn gyfforddus mewn sgyrsiau creadigol a thechnegol a meddu ar brofiad o gytundebu, prisio ac anfonebu am waith. Byddwch yn ymgymryd â gwaith trefnu rhaglen Yr Egin, er enghraifft digwyddiadau byw, cynadleddau, sgyrsiau, dangos ffilmiau a gweithdai yn ogystal ag arwain ar y ddarpariaeth i gleientiaid allanol sy’n dymuno llogi gofod ac adnoddau.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn rheoli prosiectau, digwyddiadau byw neu’r diwydiannau creadigol.
- Sgiliau Rheoli Prosiect gwych, gyda phrofiad o oruchwylio’r broses o gydlynu digwyddiadau byw:
- Sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i weithio’n annibynnol, fel aelod o dîm ac o dan bwysau.
- Gallu blaenoriaethu gwaith, gan wneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio eich ysgogiad eich hun.
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i gefnogi ac annog eraill.
- Profiad cyllidebu a datblygu incwm gan weithio i dargedau penodedig.
- Profiad o gyflwyno adroddiadau a chasglu adborth.
- Gwybodaeth a phrofiad o’r defnydd o dechnoleg angenrheidiol ar gyfer digwyddiadau a phrosiectau.
- Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau ar-lein.
- Ymrwymiad amlwg i gydweithio fel rhan o dîm.
- Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth weithio.
- Parodrwydd i weithio’n hyblyg er mwyn cyflawni gofynion y rôl.
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol.
- Siaradwr/aig Cymraeg rhugl a hyderus, gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Gradd uwch
- Cymhwysterau corff proffesiynol
- Profiad o raglennu artistig – naill ai rhaglennu gŵyl, neu leoliad celfyddydau, neu raglennu ardal ddigidol, ac wedi cael profiad felly o fodelau cynhyrchu gwahanol
- BUDDION –
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau , ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 20 Hydref 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Cymorth Digidol (Dwyieithog - Cymraeg/Saesneg)
Prifysgol De Cymru
Mae Prifysgol De Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Cymorth Digidol (Dwyieithog - Cymraeg/Saesneg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ymgysylltu â myfyrwyr fel partneriaid trwy gynnig gwasanaeth cwsmer a chefnogaeth ragorol i fyfyrwyr.
Mae cyfathrebu effeithiol rhwng myfyrwyr a'r Brifysgol yn rhan anatod o gyflawni hyn.
Mae’r Tîm Cymorth Digidol o fewn Ardal Gynghori y Gwasanaethau Myfyrwyr yn gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw’r Parth Myfyrwyr - UniLife, sef system ddigidol y Brifysgol a’r System Rheoli Ymholiadau ar gyfer darparu cymorth i fyfyrwyr.
Mae’r Tîm Cymorth Digidol yn gweithio’n agos gyda staff ar hyd a lled y Brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth gyfredol ac amserol i’w cefnogi drwy gydol eu hastudiaethau.
Bydd y Cynorthwyydd Cymorth Digidol yn meddu ar sgiliau TG, digidol a chyfathrebu rhagorol, gyda gallu amlwg i flaenoriaethu gwaith, ymdrin a gofynion lu, a gweithio'n fanwl gywir o dan pwysau.
Disgrifiad: Mae'r brifysgol yn gweithredu model gweithio hybrid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar gampws Trefforest am ran o'r wythnos.
Mae hon yn swydd barhaol llawn amser.
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus, ac mai dyma’ch swydd gwasanaethau proffesiynol gyntaf o fewn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau. Os ydych chi'n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch chi'n parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Kelly Symonds, Uwch Swyddog Cymorth Digidol: [email protected].
Cyflog
💰 £26,396
Lleoliad
📍 Hybrid, Campws Trefforest, Pontypridd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Money and Pensions Service yn edrych am Arbenigwr Technegol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn helpu pobl - yn enwedig y rhai mwyaf anghenus - i wella eu lles ariannol ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Gan weithio ar y cyd ledled y DU, rydym yn sicrhau y gall cwsmeriaid gael mynediad at arweiniad arian a phensiynau o ansawdd uchel a chyngor ar ddyledion trwy gydol eu bywydau, sut a phryd y maent eu hangen arnynt.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod ar flaen y gad o ran helpu pobl â'u pensiynau trwy gyflenwi ein gwasanaeth newydd, gan godi ymwybyddiaeth o risgiau sgamiau pensiwn a buddsoddiad.
Disgwylir i chi dynnu ar eich profiad a'ch gwybodaeth pensiynau i ateb cwestiynau a phryderon pensiynau cwsmeriaid ar draws ein holl sianeli, yn ogystal â'n helpu i ddarparu nifer o wasanaethau apwyntiad pwrpasol sy'n anelu at ddelio â materion pensiwn penodol.
Llywio'r llinell rhwng arweiniad a chyngor - byddwch yn sicrhau ein bod bob amser yn darparu'r help gorau a mwyaf priodol i'r cwsmeriaid sy'n ein cyrraedd. Byddwch yn ymuno â thîm o arbenigwyr pensiynau â meddwl agored, rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, ag awydd am ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac ymrwymiad i wneud y gorau y gallwn i'r bobl sydd angen ein help.
Cyfrifoldebau allweddol:
Mae'r canlynol yn brif ddyletswyddau'r Arbenigwr Technegol:
1. Rhoi gwybodaeth ac arweiniad cywir i aelodau'r cyhoedd trwy'r llinell gymorth genedlaethol, y gwasanaeth gwe-sgwrs, a sianeli ysgrifenedig
2. Cynnal apwyntiadau ffôn unigol gyda'r cyhoedd ar faterion pensiwn penodol sy'n ymwneud â phensiynau ac ysgariad, sgamiau, a phobl hunangyflogedig
3. Darparu gwybodaeth ddilynol amserol a chywir sy'n ychwanegu gwerth at y gwasanaethau a ddarperir ac sy'n glir ac yn hawdd ei deall
4. Cyfrannu at rannu gwybodaeth dechnegol yn y swyddfa
5. Cyfrannu at welliant parhaus ein gwasanaeth trwy waith prosiect achlysurol
6. Ymgymryd â gwaith allgymorth mewn digwyddiadau diwydiant pensiwn neu ddigwyddiadau corfforaethol unigol i ddarparu arweiniad ar faterion pensiwn cyffredinol neu benodol
Mae ein tîm o arbenigwyr pensiwn yn darparu'r gwasanaethau uchod i'r cyhoedd rhwng 8.00am ac 8.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9.00am i 1.00pm ar ddydd Sadwrn. Fel cyflogwr hyblyg rydym yn agored i drafod pa batrymau gwaith sydd o fudd i'r ddwy ochr i ddiwallu ein hanghenion.
Profiad, gwybodaeth, a gofynion cymhwyster
Mae cymwysterau FPMI, APMI neu CII neu gyfwerth mewn meysydd cysylltiedig yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â gwybodaeth dechnegol eang o gyfraith ac ymarfer pensiynau ynghyd â'r gallu i gyfieithu gwybodaeth gymhleth i Saesneg clir. Ynghyd ag ethos gwasanaeth cryf, byddwch yn defnyddio'r galluoedd hyn i gynorthwyo aelodau'r cyhoedd trwy ddarparu'r gwasanaeth eithriadol a all wneud gwahaniaeth mawr.
Bydd eich ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn eich annog i ymgymryd â thasgau a hyfforddiant ychwanegol sy'n cefnogi'r tîm MaPs ehangach a'ch perfformiad yn y rôl.
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn cefnogi datblygiad personol parhaus a rhannu syniadau; rhaid i chi fod yn barod i fynychu cyfarfodydd, gweithdai a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'ch rôl.
Gweithio i MaPS;
Wrth wraidd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau mae ein gwerthoedd - gofalu, cysylltu a thrawsnewid, sy'n sylfaen i'n llwyddiant. Maent yn treiddio trwy bob maes o'n gwaith ac yn diffinio ein holl berthnasoedd busnes a'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Rydym nid yn unig yn chwilio am y bobl orau i ddod i weithio i ni, ond mae arnom angen pobl sy'n alinio eu hunain â'n gwerthoedd.
Gofalu. Rydym yn gofalu am ein cydweithwyr a'r bobl rydym yma i drawsnewid eu bywydau.
Cysylltu. Byddwn yn trawsnewid bywydau trwy ein gallu i wneud cysylltiadau cadarnhaol.
Trawsnewid. Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid bywydau a chael effaith gymdeithasol gadarnhaol.
Rydym yn helpu pobl - yn enwedig y rhai mwyaf anghenus - i wella eu lles ariannol ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Gan weithio ar y cyd ledled y DU, rydym yn sicrhau y gall cwsmeriaid gael gafael ar ganllawiau arian a phensiynau o ansawdd uchel a chyngor ar ddyledion trwy gydol eu bywydau, sut a phryd bynnag y maent eu hangen arnynt.
Trwy feithrin ein gwerthoedd, rydym yn falch iawn o'r amgylchedd gwaith cynhwysol yr ydym wedi'i greu. Rydym wedi ymrwymo i ddenu pobl o bob cefndir, rydym am i'n cydweithwyr adlewyrchu ein cwsmeriaid a'r bobl rydym yn eu cynorthwyo.
Yr hyn y gall y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ei gynnig i chi:
• Dilyniant a datblygiad gyrfa
• Cynllun pensiwn - cyfraniadau'n cyfateb 2 i 1 (hyd at 10% o'ch cyflog)
• Benthyciad di-log i'ch helpu i brynu tocynnau tymor ar gyfer bysiau a threnau
• Cynllun Beicio i'r Gwaith
• Prawf llygaid a phigiadau ffliw am ddim
• Cynllun yswiriant bywyd
• Cynllun rhoi wrth i chi ennill
• Rhaglen cymorth gweithwyr (EAP)
• Cynllun PAM Assist a PAM Life (Lles)
• Ychwanegiad at dâl teulu a salwch
• Gwirfoddoli â thâl (2 ddiwrnod y flwyddyn)
• Cynllun Cydnabod
• Porth gostyngiadau i nifer o fanwerthwyr
Cyflog
💰 £43,000
Lleoliad
📍 Unrhyw le
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd TG (x2 swydd)
Menter a Busnes
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd TG (x2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau.
Yn unol â'n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy'n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy'n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau.
Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau.
Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes i gefnogi ein cynlluniau twf parhaus.
Mae'r tîm TG yn gyfrifol am:
· reoli gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;
· ddarparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff
Nod y Swydd
Bydd y Cynorthwyydd TG yn cyd-weithio yn agos gyda chydweithwyr TG i ddarparu'r gwasanaeth TG, drwy gynnig cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, gosod a gofalu am gyfarpar a chyfrifon, a chefnogi cyd-weithwyr TG efo gwaith cynnal.
** Prif Gyfrifoldebau** · Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel
· Darparu cymorth cynhwysfawr i staff o bell a/neu wyneb i wyneb, trwy ymateb yn broffesiynol i ymholiadau, eu datrys yn effeithiol ac effeithlon, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau ar y ddesg gymorth, gan ddadansoddi, trefnu a blaenoriaethu ticedi yn addas, ac esgoli mewn da bryd ble fod angen
· Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, trefnu a/neu ddarparu hyfforddiant sylfaenol a throsglwyddo gwybodaeth yn ôl y gofyn
· Gwaith cysylltiedig â newidiadau staffio, gan gynnwys: paratoi at aelodau'n cychwyn a gadael, rheoli mynediad i gyfrifon ac adnoddau, gosod a threfnu dosbarthu neu gasglu cyfarpar o fewn amserlen benodol, anwytho a hyfforddi staff newydd ar offer a systemau TG
· Gofalu am holl asedion caledwedd TG drwy'r Cylchred Bywyd (caffael, gosod a ffurfweddu, dosbarthu, cynnal a datgomisiynu)
· Cynnal offer a chyfleusterau TG swyddfeydd (megis argraffwyr, llungopiwyr, ffônau a chyfarpar fideo-gynadledda), a chadw holl offer a storfeydd TG yn daclus a threfnus
· Perfformio gwaith cynnal sylfaenol rheolaidd, megis - Diweddaru systemau gweithredu, meddalwedd a chaledwedd; Monitro ac adolygu systemau craidd ac isadeiledd; Gweithredu copïau wrthgefn; Prosesu anfonebau a gwaith gweinyddol
· Cydweithio'n agos â'r tîm TG yn ôl yr angen i gynorthwyo ar ddatrys digwyddiadau, a datblygiadau/prosiectau TG
· Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol
· Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys
· Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddiogelu data'r cwmni, gan weithio i leihau'r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data
· Cynghori a chynorthwyo staff ar y dehongliad a gweithrediad cywir o bolisïau TG yn unol â deddfwriaeth a safonau perthnasol ac arfer da, ac adrodd ar achosion o doriad polisi
· Cynorthwyo'r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni'n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol
**Arall **
· Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen
Sgiliau a Phrofiad
Cymwysterau / Profiad
Hanfodol
Cymhwyster NVQ lefel 3 neu’n uwch, neu gyfatebol, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
Profiad dangosadwy o osod, cynnal a chadw caledwedd a meddalwedd TG, a rhoi cymorth i eraill efo’u gofynion TG
Dymunol
Cymhwyster proffesiynol TG
Profiad dangosadwy o weithio a llwyddo mewn rôl TG
Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer
Gwybodaeth / Sgiliau
Hanfodol
Gwybodaeth a sgiliau da efo nifer o’r canlynol:
– Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android
– Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, fideo-gynadledda, argraffyddion
– Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office), Rheoli Tasgau
Diddordeb cryf mewn technolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu
Ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein, diogelu data a GDPR
Nodweddion Personol
Hanfodol
Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu clir, gyda’r gallu i ddefnyddio diplomyddiaeth wrth ddelio ag ymholiadau staff
Gallu ymchwilio a datrys problemau drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau dewisiadau
Gallu ysgogi ei hun i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig
Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
Sgiliau cyflwyno clir a diddorol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol
Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig
Dymunol
Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). (Croesawir ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg) Arall
Hanfodol
Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes
Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs.
Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar naill ai dydd Mercher, 26 Hydref 2022 neu dydd Iau, 27 Hydref 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, 17 Hydref, 2022 Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £20,919 - £22,367
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ysgol Glan Clwyd yn edrych am Athro Saesneg (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd effeithiol gyda’r ymrwymiad a’r weledigaeth i gyfrannu fel athro/ athrawes yn y maes allweddol hwn yn Ysgol Glan Clwyd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ffynnu a datblygu fel aelod o dîm yr adran i fod yn rhan o’r symud cyffrous at y cwricwlwm newydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Saesneg i’r amrediad oedran a gallu llawn yn Ysgol Glan Clwyd. Rydym yn chwilio am berson egnïol a blaengar i sicrhau fod y maes hwn yn parhau i ffynnu yn Ysgol Glan Clwyd, ac i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol yn allgyrsiol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
• arbenigedd ym maes Saesneg.
• agwedd arloesol a ffres at ddysgu.
• agwedd sy’n croesawu heriau a datblygiadau newydd yn gyson.
• y gallu i ysbrydoli disgyblion a myfyrwyr.
• y gallu i gydweithio’n rhagorol fel aelod o dîm.
• y gallu i gynllunio ac arwain.
• Yr agwedd briodol sydd yn mynnu’r safonau uchaf bob amser – o ran cyflawniad personol a chyflawniad eraill.
Ydy’r wybodaeth hon wedi procio eich chwilfrydedd? Hoffech chi wybod mwy?
Os ydych yn rhannu gweledigaeth yr ysgol am yr addysg orau posib yn yr unfed ganrif ar hugain gyda’r byd digidol yng nghanol y dysgu hwnnw, ac yn awyddus i ddatblygu gyrfa mewn ysgol hapus ac arloesol, byddai’r Pennaeth Mewn Gofal, Mrs Siân Alwen yn croesawu ymholiadau pellach am y swydd a sgwrs anffurfiol.
Rhif y swydd: YYGC00296W1RDE
Telerau’r swydd: Graddfa Cyflog Athrawon
Parhaol ** Ystyrir lwfans recriwtio a chadw ar gyfer ymgeisydd priodol
Dyddiad Cychwyn: Ionawr, 2023
Sut i ymgeisio?
Manylion ar eteach neu drwy Rhian Davies, Swyddog AD Clwstwr Glan Clwyd ar:
Dyddiad cau'r swydd yw: Dydd Iau, 16/10/22.
Gellir cysylltu â Rhian Davies ar y manylion uchod os am drefnu sgwrs gyda’r Pennaeth, neu ofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Cyflog
💰 Graddfa Cyflog Athro
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yn edrych am Dderbynnydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi un neu ddau unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon yn ystod gyda’r nosau a boreau Sadwrn (tymor ysgol yn unig).
Croesawir ceisiadau gan unigolion sydd a diddordeb mewn gweithio 1, 2 neu 3 shift Cais trwy lythyr a CV gan enwi dau ganolwr. Cyfeiriwch eich cais at Gwydion Davies ([email protected]) CGWM, Galeri Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SQ.
Dyddiad Cau: 5pm dydd Llun y 10fed o Hydref
Disgrifiad:
Swydd ddisgrifiad Derbynnydd CGWM
Swydd ran amser, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol,tua 39 wythnos y flwyddyn, yn atebol i’r Cyfarwyddwr.
Oriau arferol (gall amrywio): shifftiau 4.5 - 5 awr fydd yn cychwyn a gorffen rhwng 3.30 a 9.30pm ar nosweithiau’r wythnos a 9am – 2pm ar ddyddiau Sadwrn.
Cyflog: £9.50 yr awr
Lleoliad: CGWM, Galeri Caernarfon.
I gychwyn cyn gynted a phosibl.
Dyletswyddau
Croesawu’r tiwtoriaid / myfyrwyr / rhieni i’r gangen a delio efo ymholiadau.
Paratoi’r ystafelloedd ymarfer ar gyfer y gwersi a sicrhau eu bod yn cael eu gadael yn daclus a threfnus wrth adael y lleoliad. Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i ddisgyblion, rhieni a thiwtoriaid tra ar shifft gan weithio yn annibynnol yn swyddfa’r Ganolfan.
Delio gydag ymholiadau / negeseuon sy’n codi.
Trosglwyddo negeseuon yn effeithiol i Weinyddydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan.
Trefnu amserlenni tiwtoriaid a gweithgareddau grwp CGWM. Cydweithio gyda derbynwyr eraill i sicrhau rhediad esmwyth gweithgareddau.
Delio gyda thaliadau a pharatoi biliau am wersi gan ddefnyddio systemau gweinyddol y Ganolfan.
Goruchwylio gweithdai a dosbarthiadau fel bo’r angen
Paratoi ffurflenni cofrestru a phosteri ar gyfer gweithgareddau. Cadw cofrestrau gwersi.
Gweithredu o fewn gofynion holl bolisiau a Chôd Ymddygiad CGWM.
· Bydd disgwyl i’r unigolyn llwyddiannus gyflawni cyrsiau hyfforddiant perthnasol ar-lein (yn ystod oriau gwaith) - Diogelu plant ac oedolion, Diogelwch Tân, ‘manual handling’, GDPR a mynychu cwrs undydd Cymorth Cyntaf brys a bod yn barod i ddarparu Cymorth Cyntaf petai angen.
Parodrwydd i gynorthwyo’r gydag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol eraill yn ộl y galw mewn trafodaeth gyda’r Gweinyddydd a’r Cyfarwyddwr. Manyldeb personol
Hanfodol
· Sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
· Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
· Sgiliau llythrenedd, rhifyddeg a Thechnoleg Gwybodaeth cryf (yn cynnwys defnydd o Excel, Word a’r cyfryngau cymdeithasol).
· Y gallu i weithio’n hyblyg, annibynnol ac fel rhan o dim.
Dymunol
profiad blaenorol o weithio gyda’r cyhoedd yn ddymunol. Gan fod y swydd yn ymwneud â gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed gwneir cais am ddatgeliad manwl gan y DBS (Disclosure and Barring Service) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus ac mae’r cynnig swydd yn ddibynnol ar wiriad boddhaol. Rydym yn gweithredu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae copi ar gael ar ein gwefan sy’n amlinellu ein hymrwymiad i brosesau recriwtio teg :
Polisïau | Canolfan Gerdd William Mathias (cgwm.org.uk)
Mae ceisiadau gan unigolion diwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a'u croesawu'n gynnes.
Os oes gennych anabledd, nodwch yn eich llythyr os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau penodol arnoch ar gyfer cyfweliad.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cydraddoldeb, trwy ddilyn y linc isod. I bwrpas monitro cydraddoldeb yn unig y defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen.
Gwarchod Data
· Byddwn yn trin y data personol a rennir gyda ni gan ymgeiswyr am swydd gyda pharch. Bydd yn ofynnol i ni brosesu data personol ymgeiswyr am swyddi er mwyn ein galluogi i ddilyn y broses recriwtio. Byddwn yn storio’r data personol a ddarperir gan ymgeiswyr am gyfnod o o leiaf 6 mis, neu, os ydy’r gyfraith yn mynnu, am gyn hired ag sydd angen. Ceir rhagor o fanylion am ein ymdriniaeth o ddata personol yn ein polisi preifatrwydd ar ein gwefan. www.cgwm.org.uk/polisiau
· Nid yw’r rhybudd preifatrwydd hwn yn ffurfio unrhyw gynnig cyflogaeth na chytundeb rhyngom. Os byddwn yn cynnig swydd i chi, byddwn yn rhoi gwybodaeth bellach am ymodd yr ydym yn ymdrin â data personol cyflogai.
Cyflog
💰 £9.50 yr awr
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Gwasanaeth (Cymraeg yn hanfodol)
Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Ymgynghorydd Gwasanaeth (Cymraeg yn hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tîm Llyfrgelloedd MyUni yn falch o gynnig cyfle prin i weithio ochr yn ochr â ni yn ein llyfrgelloedd ar Gampws y Bae a Champws Singleton. Mae amrywiaeth o gontractau dros dro am chwe mis ar gael, gan gynnwys oriau amser llawn a rhan-amser. Rydym yn cynnig hyblygrwydd o ran patrymau shifft sy'n cynnwys rhywfaint o waith gyda'r hwyr a thros y penwythnos, ynghyd â gwyliau banc.
Dylech gynnwys manylion o'ch argaeledd yn eich cais.
Mae'r swydd hon sy'n ymwneud â chwsmeriaid yn un brysur ac mae'r dyletswyddau'n amrywiol, o helpu rhywun i ganfod man astudio addas, defnyddio'r argraffwyr, cysylltu â'n Wi-Fi, i ddod o hyd i lyfr neu fenthyg gliniadur o un o'n loceri hunanwasanaeth. Ar adegau prysur, byddech yn cynorthwyo wrth reoli ciwiau wrth y Ddesg Wybodaeth. Ein pwyslais yw helpu myfyrwyr a defnyddwyr eraill llyfrgelloedd i fanteisio i'r eithaf ar ein cyfleusterau.
I gyflwyno cais am y swydd, cliciwch ar y ddolen: www.abertawe.ac.uk/swyddi
Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein, gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio.
Dylech gynnwys CV presennol ynghyd â'ch cais gorffenedig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd hon, a wnewch chi e-bostio'r Cydlynwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid canlynol:
Amber Arrowsmith – [email protected]
Chris Condon – [email protected]
Cydlynydd Gwasanaeth Cwsmeriaid Dros Dro:
Felicity Williams – [email protected]
Nod Prifysgol Abertawe yw darparu amgylchedd gwaith ac amgylchedd dysgu, heb wahaniaethu annheg, a fydd yn galluogi staff a myfyrwyr i gyflawni eu potensial personol.
Rydym yn croesawu ac yn dathlu'r amrywiaeth y mae ein staff a'n myfyrwyr yn ei chynnig i'r Brifysgol, gan ein hannog i feddwl yn wahanol a gweithredu'n wahanol.
Sylwer bod y swydd hon hefyd yn cael ei hysbysebu i gronfa o gydweithwyr mewnol fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i gyflogi pobl drwy adleoli. Os caiff y swydd hon ei llenwi drwy'r llwybr hwn, byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau hyn. Os nad ydych yn derbyn e-bost, dylech dybio bod eich cais yn dal i gael ei brosesu.
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Cyflog
💰 £21,197 pro rata
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Cynorthwyol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Weithiwr Cymorth i Deuluoedd Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi eisiau gyrfa fuddiol ac am wneud gwahaniaeth i Deuluoedd yng Nghonwy?
Os byddwch yn gweithio yn Sector Gofal Cymdeithasol, Lles Cymunedol Cyngor Conwy, gallwn gynnig mwy na dim ond swydd gofalu i chi. Gallwn roi cyfle i chi gael swydd ystyrlon bwrpasol, gyda chefnogaeth gan dîm cyfeillgar fydd yn eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
Mae'r Ganolfan Deulu yn cael effaith anferth ar fywydau’r bobl maent yn eu cefnogi. Gallwch ein helpu ni i wneud gwahaniaeth rŵan hyn. Mae’r swydd hon yn rhoi cyfle ar gyfer datblygu eich profiad ymhellach yn y maes hwn.
Rydym i gyd yn ymwybodol nad yw magu teulu yn hawdd, ac mae angen arnom gyngor a chymorth weithiau.
Rydym yn cefnogi teuluoedd gyda’u bywydau bob dydd gan ddarparu cyngor ymarferol a chefnogaeth i ymdopi â phroblemau a magu eu gallu i ymdrin â chyfnodau heriol.
Mae hynny’n golygu gwrando ar deuluoedd, eu deall a’u cefnogi i wneud penderfyniadau a dilyn bywyd iach a hapus.
Os ydych yn rhannu’r gwerthoedd hyn rydym am glywed gennych!
*Helpu pobl i fyw’r bywyd maent am ei fyw.
*Adeiladu perthynas yn seiliedig ar ymddiriedaeth, a diddordeb gwirioneddol mewn pobl eraill.
*Helpu eraill i deimlo’n dda.
*Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau.
*Rydych yn dda am ysgogi eraill. *Rydych yn parchu pobl eraill.
*Mae gennych synnwyr digrifwch da. *Dydych chi ddim yn mynd i banig ac rydych yn aros yn dawel mewn sefyllfaoedd anodd.
Am ragor o wybodaeth am y timoedd, ewch i www.conwy.gov.uk/bywydteuluol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd.
Cyflog
💰 £20,043 - £20,444
Lleoliad
📍 Llanrwst
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Medrwn Môn yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig, creadigol a brwdfrydig i weithio fel Swyddog Cyfathrebu. Mae’r rôl hon yn ganolog i sicrhau bod holl waith gwych Medrwn Môn yn cyrraedd y bobl iawn yn y ffordd gywir i gynyddu ein heffaith a’n hymgysylltiad.
Bydd y rôl yn cynllunio a chyflwyno cyfathrebiadau i gynulleidfaoedd Medrwn Môn ac yn datblygu a gweithredu rhaglen aelodaeth Medrwn Môn. Mae ein cynulleidfaoedd yn cynnwys mudiadau a grwpiau, ein tîm a'n Bwrdd, rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn gyfrifol am gynnal brand, gweledigaeth a chenhadaeth Medrwn Môn a’i negeseuon allweddol trwy gyfathrebu mewnol ac allanol.
SWYDD DDISGRIFIAD
Lleoliad: Swyddfeydd Medrwn Môn, Neuadd y Dref, Llangefni (Potensial ar gyfer gweithio hybrid)
Oriau: 30 awr yr wythnos. Cytundeb cychwynnol am 12 mis (parhaus yn amodol ar gyllid)
Cyflog: Graddfa Gyflog NJC SCP graddfa 5 pt 17 £24,490 (pro rata)
Yn atebol i: Prif Swyddog, Medrwn Môn
Lleoliad: Swydd swyddfa yw hon. Eich man gwaith fydd swyddfeydd Medrwn Môn, Neuadd y Dref, Sgwâr Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR.
Gwyliau Blynyddol: 25 diwrnod y flwyddyn o wyliau blynyddol gyda gwyliau banc yn ychwanegol, yn ogystal â 4 diwrnod ychwanegol
Teithio: Ffafrir defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus; pan nad yw hyn yn gyfleus gall staff ddefnyddio eu cerbydau eu hunain. Telir cyfradd safonol y filltir yn unol â'r cyfraddau a argymhellir gan Gyllid y Wlad
Ariennir y swydd hon gan: Lywodraeth Cymru drwy Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Pensiwn: Bydd cyfraniad o 18.8% o gyflog blynyddol y swydd yn cael ei dalu i mewn i gynllun pensiwn cymeradwy Medrwn Môn
Cyflog
💰 £24,490 pro rata
Lleoliad
📍 Llangefni
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Swyddog Gwella Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Grŵp Cynefin wrth i ni barhau ar daith drawsnewidiol tuag at ddiwylliant sy’n canolbwyntio’n ddiffuant ar y cwsmer a chanlyniadau.
Mae’r sector tai a’n cymunedau gwledig yn parhau i wynebu heriau mawr, yn arbennig datgarboneiddio a darparu mwy o dai fforddiadwy.
Rydym wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014, pan gawsom ein creu wrth i ddau Landlord Cymdeithasol Cofrestredig traddodiadol uno. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Mae ein cymunedau a nifer y cartrefi rydyn ni’n eu rheoli ar fin tyfu, rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Mae gennym uchelgeisiau mawr i adeiladu dros 350 o dai fforddiadwy newydd yn ystod y tair blynedd nesaf; 35 cartref arloesol arall i safon carbon isel / di-garbon a lleihau ein hol troed carbon o leiaf 4%.
Rydym yn ehangu ein cynnig Gofal Ychwanegol gyda dau ddatblygiad pellach, gan greu 107 cartref arall mewn dwy ardal newydd i fynd i’r afael a’r angen cynyddol, ond yn fwy na hynny byddwn yn helpu i greu lleoedd lle mae gan bobl ymdeimlad o gymuned ac yn gallu derbyn lefelau hyblyg o gefnogaeth fel y gallent barhau i fyw’n annibynnol mewn man y maent yn ei garu am gyfnod hirach.
Mae gennym uned fusnes, Gorwel, sy’n darparu gwasanaethau cefnogol ym meysydd camdriniaeth yn y cartref ac atal digartrefedd.
Mae dau is-gwmni hefyd yn weithredol o dan ambarêl Grŵp Cynefin: Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych sy’n gweithio i helpu pobl hŷn drwsio, addasu, cynnal a chadw eu cartrefi fel y gallent barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Mae Grŵp Cynefin yn sefydliad cryf yn ariannol gyda chyfleoedd cyffrous o’n blaenau, felly rydym yn chwilio am rywun i gynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad i gynnal systemau rheoli perfformiad a gwella gwasanaeth effeithiol sy’n cynnwys sicrhau cywirdeb data. Hefyd i weithio yn agos â’r Uwch Swyddog Llywodraethu gyda pob agwedd o faterion llywodraethu.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn awyrgylch Gymreig lle mae’r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i’r teulu.
Mwy na thai
Rydym eisoes yn adnabyddus am wneud mwy na rheoli a gosod tai yn unig. Rydym yn gweithredu fel Strwythur Grŵp, gydag arbenigedd ac adnoddau mewn byw’n annibynnol, addasiadau a gwasanaethau cymorth i bobl ifanc 16-24 oed, pobl hŷn a’r rhai sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn ein cymunedau yn ogystal a gwasanaethau cefnogol ar gyfer trais domestig ac atal digartrefedd. Mae ein cymunedau gwledig yn bwysig i ni ac felly hefyd yr amgylchedd, gyda phrosiect ein warden ynni gyda degawd o brofiad yn ein cymunedau.
Rydyn ni’n gwybod trwy ein prosiectau sydd wedi ennill sawl gwobr, megis Y Shed a HWB Dinbych, y gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn i unigolion a’u cymunedau ac rydyn ni’n dda am gael partneriaid i weithio gyda’i gilydd i gyflawni mwy nag y gallen ni yn unigol i adfywio cymunedau a chreu cyfleoedd.
Dyma ychydig mwy am beth ydym ni’n ei olygu pan fyddwn ni’n sôn am ‘Mwy na thai’.
Cartrefi addas o safon mewn llefydd y mae pobl yn falch ohonynt.
Bydd ein cartrefi yn y dyfodol yn ddiogel ac yn arloesol, yn cynnwys y dyluniadau diweddaraf lle gallwch chi weithio gartref. Byddant yn gartrefi am oes, gyda thechnoleg glyfar, yn rhatach i’w rhedeg, yn garbon isel ac yn lleoedd cysylltiedig a mannau gwyrdd hawdd eu cyrraedd lle gall ffrindiau, teuluoedd a phlant chwarae, tyfu a chyfarfod yn ddiogel.
Gwasanaethau a phrofiadau rhagorol i’n cwsmeriaid.
Rydym am i bobl fod eisiau byw yn ein cartrefi, cael ein hymatebion yn iawn y tro cyntaf ac i’n cwsmeriaid ddweud bod ein gwasanaethau’n rhagorol. Ac mae’n hawdd i’n tenantiaid gysylltu a ni pryd bynnag maen nhw eisiau neu angen.
Gwella bywydau
Byddwn yn gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles y bobl yn ein cymunedau. Bydd ein gwaith yn parhau i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi (tlodi bwyd, tlodi digidol a thlodi tanwydd) a’u lleihau, gan ddod o hyd i atebion a chyfleoedd sy’n newid bywydau sy’n galluogi pobl i godi allan o dlodi.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda phobl i’w galluogi i aros yn eu cartrefi yn ddiogel ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd, a pharhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi grwpiau bregus ac amrywiol o bobl, ac atal digartrefedd a chefnogi’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig.
Cynnal cymunedau
Bydd ein cymunedau’n ffynnu a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso a chefnogi hyn. Byddwn yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn ein cymunedau, gan fuddsoddi mewn gwella iechyd a lles ein cymunedau wrth weithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i adfywio cymunedau.
Yn ogystal ag adeiladu mewn ardaloedd trefol, bydd gennym hefyd ffocws gwirioneddol ar ein cymunedau gwledig lle mae ail gartrefi yn arwain at eithrio pobl ifanc lleol trwy beri iddynt gael eu prisio allan o’r farchnad.
Twf cadarn a chynaliadwy
Byddwn yn parhau i adeiladu tai diogel, fforddiadwy o ansawdd rhagorol, gan gynnig tai ar gyfer gwahanol ddeiliadaethau sy’n diwallu angen lleol, boed yn ddemograffig, yn gymdeithasol neu’n economaidd. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn adeiladu cartrefi i safon di-garbon ac yn chwilio am gyfleoedd i ddenu grantiau ar gyfer adeiladau newydd ac ôl-osod i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol.
Byddwn yn archwilio cyfleoedd i ddefnyddio ein harbenigedd i adeiladu tai ar gyfer eu gwerthu ar y farchnad er mwyn cynhyrchu cyfleoedd i fuddsoddi mewn tai rhent mwy fforddiadwy a pharhau i geisio cyfleoedd gweithio rhanbarthol a lleol trwy weithio mewn partneriaeth sy’n ychwanegu gwerth, yn cyfateb i’n gwerthoedd ac yn helpu i adeiladu mwy o gartrefi.
CYFRIFOLDEBAU’R SWYDD:
Rheoli Perfformiad
1. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad efo’r systemau rheoli perfformiad a gwella gwasanaeth y Gymdeithas, gan gynnwys casglu, dadansoddi cywirdeb ac adolygu data ar gyfer adroddiadau rheoli perfformiad.
2. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad i gynnal gwiriadau ar hap (deep dives) i feysydd gwasanaeth penodol er mwyn sicrhau cywirdeb data.
3. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad i gydlynu, casglu, dadansoddi ac adrodd ar berfformiad y Gymdeithas i gyrff allanol fel bo’r angen e.e. Uned Data Llywodraeth Cymru yn ôl yr amserlen ac o fewn canllawiau.
4. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad i fonitro perfformiad yn erbyn y safonau gwasanaeth, ynghyd â’r rhaglen flynyddol y Tenant Archwilwyr a Siopwyr Diogel. 5. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad gyda’r broses gwynion ffurfiol gan gynnwys cydnabod derbyn cwynion swyddogol, cyfathrebu cyson gyda’r achwynwyr, diweddaru Active H (meddalwedd rheolaeth tai) hefo’r wybodaeth berthnasol, cadw trosolwg bod cwynion yn cael eu trin yn amserol, cynnal trefn canfod barn bodlonrwydd yr achwynydd ar ddiwedd y broses.
Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad efo’r broses ‘dysgu gwersi o gwynion’ a thracio unrhyw argymhellion gwella.
6. Cynorthwyo i gadw’r Gofrestr Risg yn gyfredol lle’n berthnasol, ynghyd â threfnu a chofnodi cyfarfodydd monitro’r gofrestr.
7. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad trwy fod yn gyfrifol am dracio gweithrediad argymhellion archwilio mewnol, a chynorthwyo gyda’r ochr weinyddol o weithredu’r Cynllun Archwilio Mewnol e.e. trefnu dyddiadau archwilio mewnol, trefnu cyfarfodydd rhwng yr archwilwyr mewnol â’r swyddogion perthnasol, ayb.
8. Cynorthwyo i gadw’r Cofrestr Polisi Corfforaethol yn gyfredol, sy’n cynnwys atgoffa rheolwyr pryd mae’r Polisïau i’w hadolygu.
9. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Perfformiad gyda unrhyw dasgau perthnasol arall.
Llywodraethu
1. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu i weinyddu cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a’i Bwyllgorau, gan gynnwys drafftio agendau, dosbarthu adroddiadau, cadw cofnodion rhai cyfarfodydd a bod yn gyfrifol am dracio gweithredu penderfyniadau o gyfarfodydd.
2. Bod yn gyfrifol am sicrhau fod yr holl wybodaeth ar ‘Decision Time’ (meddalwedd llywodraethu) yn gyfredol gan gynnwys ffeilio cofnodion terfynol, cofrestrau presenoldeb a’r llyfrgell o bolisïau a dogfennau corfforaethol.
3. Bod yn gyfrifol am sicrhau fod Adroddiadau a Chofnodion holl gyfarfodydd y Bwrdd a’i Bwyllgorau yn gyfredol ar ‘Clic’ (mewnrwyd staff).
4. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu gyda threfniadau y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac unrhyw Gyfarfod Cyffredinol Arbennig.
5. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu i weinyddu proses arfarniadau blynyddol Byrddau’r Grŵp a’r Pwyllgorau.
6. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu i weithredu Cynllun Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau Bwrdd a bod yn gyfrifol am archebu cyrsiau hyfforddiant a chasglu adborth er mwyn gwerthuso’r hyfforddiant.
7. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu i sicrhau bod aelodau’r Bwrdd a’i Phwyllgorau yn cwblhau’r datganiadau blynyddol a’r ffurflenni perthnasol, megis Cytundebau Lefel Gwasanaeth, Cod Ymddygiad, Datgan Diddordeb ayb.
8. Casglu ystadegau blynyddol fel bo’r gofyn (megis proffil cydraddoldeb ac amrywiaeth aelodau Byrddau’r Grŵp) a drafftio adroddiadau clir a chryno.
9. Gweinyddu’r broses Datgan Lletygarwch a Budd (staff ac aelodau Bwrdd) a sicrhau fod y Cofrestrau perthnasol yn gyfredol.
10. Gweinyddu cyfarfodydd y Tîm Arweinyddiaeth yn absenoldeb Cynorthwy-ydd y Prif Weithredwr.
11. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Llywodraethu gyda unrhyw dasgau perthnasol arall.
Arall
Cynorthwyo’r Tîm Llywodraethu a Chydymffurfio gyda thasgau cyffredinol eraill
Cyflog
💰 £25,667 - £28,887
Lleoliad
📍 Hyblyg, O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Odgers Berndtson yn edrych am Ymchwilydd – Practis Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Ymchwilydd i ymuno â’n Practis Cymru llwyddiannus, gan weithio ar aseiniadau chwilio gweithredol ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector nid-er-elw.
Odgers Berndtson yw cwmni chwilio gweithredol blaenaf y Deyrnas Unedig (DU), gyda’r tîm mwyaf o ymchwilwyr arbenigol yn y DU ar draws ein rhwydwaith o 8 swyddfa ranbarthol. Ni yw’r unig gwmni chwilio gweithredol rhyngwladol o’r radd flaenaf sy’n gweithredu yng Nghymru ac rydym yn ffodus i gyflawni aseiniadau â’r proffil uchaf. Mae hwn yn gyfle go unigryw i wneud cyfraniad gwych i ddyfodol Cymru wrth benodi gweithwyr proffesiynol dawnus. Mae ein penodiadau yn cynnwys rhai o’r rolau uchaf yn Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Dŵr Cymru, Gwasanaethau Ariannol Admiral a Chanolfan Mileniwm Cymru.
**Y rôl **
Rôl Ymchwilydd yw adnabod, cysylltu ac ymgysylltu â gweithwyr newydd posibl ar gyfer ein cleientiaid. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rydym yn ennill dealltwriaeth o anghenion y sefydliad cleient cyn nodi unigolion mewn cwmnïau perthnasol a mynd atynt, gan asesu eu diddordeb a’u haddasrwydd ar gyfer y rôl. Mae’n rôl heriol sy’n gofyn am ddyfalbarhad, atebolrwydd personol a chreadigrwydd. Mae’n cynnig profiad o weithio o fewn cwmni chwilio gweithredol blaenaf y DU, ond mae hefyd yn golygu bod mewn cysylltiad ag amrywiaeth enfawr o sefydliadau, sectorau a swyddogaethau, a dysgu oddi wrthynt. Mae’r gofynion hanfodol fel a ganlyn:
- Gweithio’n dda dan bwysau a chyflawni gwaith ymchwil o ansawdd uchel
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Ymagwedd drefnus a rhoi sylw rhagorol i fanylion
- Bod yn gadarn ac yn greadigol ac arddangos atebolrwydd personol
- Angerdd gwirioneddol dros faterion cyfoes sy’n ymwneud â busnes
**Cais **
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam y byddech yn addas ar gyfer y rôl, drwy e-bost at Jemma Terry, Partner Rheoli, Practis Cymru, drwy [email protected], neu ffoniwch 02920 783 050.
Cyflog
💰 Cyflog cystadleuol
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae National Theatre Wales yn edrych am Gydlynydd Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a hawdd mynd ato sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur i fod yn Gydlynydd Gweithrediadau newydd i ni.
Cyflog: £28,000 y flwyddyn
Dyddiad cau: 5pm ddydd Sul 23 Hydref
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 31 Hydref
Cyflog
💰 £28,000
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Cefnogol Clwyf Gwywiad yr Onnen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd
• Cynnal bas-data archwiliadau coed onnen Gwynedd yn ogystal â rheoli'r llifoedd data a gwaith sy’n deillio o archwiliadau allan yn y maes.
•Cymryd camau gorfodi yn erbyn tirfeddianwyr preifat.
•Cynorthwyo i gydgordio gweithgareddau torri a thocio coed heintiedig.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud. Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Meirion Williams ar 01286 679 422 neu Richard Roberts ar 07826 541 384
Rhagwelir cynnal cyfweliadau, dyddiadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 13.10.2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £22,571 - £24,920
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cwmpas yn edrych am Hyfforddwr Sgiliau Digidol a Chynhwysiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Crynodeb o’r Prosiect: Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yn rhaglen gynhwysiant digidol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cefnogi sefydliadau a grwpiau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd yng Nghymru i ystyried sut i gynyddu cynhwysiant digidol i sicrhau bod pawb sy’n byw yng Nghymru yn gallu elwa o fod ar-lein. Fel rhaglen, rydym ni’n gweithio er mwyn sicrhau bod gan bawb y sgiliau, mynediad a’r cymhelliant i ddefnyddio’r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn hyderus. Byddwch yn rhan o dîm Cymru gyfan, gan weithio gyda chydweithwyr sy’n cyflawni ystod o gyfrifoldebau fel rhan o dîm darparu ehangach sy’n gweithio tuag at ddeilliannau penodol.
Crynodeb o’r swydd: Datblygu a darparu hyfforddiant a chymorth gyda’r nod o wella sgiliau, hyder a chymhelliant staff rheng flaen a gwirfoddolwyr ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, er mwyn gwella lefelau sgiliau Digidol a Chynhwysiant yng Nghymru.
Cyflog cychwynnol: £25,013 - £29,793 y flwyddyn
Contract: Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025
Oriau: 35 awr yr wythnos
Lleoliad: Bydd y swydd hon yn golygu teithio ledled Cymru a gweithio gartref. Bydd milltiroedd busnes yn cael eu had-dalu
Dyddiad cau: 22:00, Dydd Sul, 9 Hydref 2022
Gwybodaeth/ Profiad
-Bydd gennych wybodaeth fanwl am ystod o dechnegau hyfforddi er mwyn gallu ymgysylltu ag amrywiaeth o wahanol arddulliau dysgu.
-Bydd gennych ymwybyddiaeth dda o dechnoleg ddigidol a’i defnydd fel adnodd hyfforddi.
-Bydd angen i chi feddu ar wybodaeth am yr agenda cynhwysiant digidol a’r gallu i gefnogi cymunedau, sefydliadau a dinasyddion i ymgysylltu’n llawn ar-lein. Gellir darparu hyfforddiant ar hyn.
-Bydd angen i chi hefyd fod yn ymwybodol o fframwaith sgiliau sylfaenol digidol y DU.
Sgiliau:
-Byddwch wedi datblygu sgiliau ymgysylltu a gweithio gyda phobl. Mae hyn yn cynnwys siarad yn gyhoeddus, darparu hyfforddiant a gweithdai i gefnogi grwpiau ac unigolion, yn rhithiol ac wyneb yn wyneb.
-Byddwch wedi datblygu sgiliau cyfathrebu a sgiliau datrys problemau sylfaenol.
-Yn ddelfrydol, byddwch wedi datblygu sgiliau i ddefnyddio MS PowerPoint, ond gellir darparu hyfforddiant ar hyn os oes angen.
-Byddwch wedi datblygu sgiliau i greu deunyddiau hyfforddiant, gan gynnwys amlinellu sesiynau, creu cyflwyniadau a chynhyrchu’r holl ddeilliannau hyfforddi eraill.
-Byddwch yn meddu ar sgiliau sylfaenol a’r gallu amlwg i addasu i newid ac yn fodlon datblygu sgiliau a gwybodaeth bersonol.
-Byddwch wedi datblygu sgiliau TGCh ynghyd â’r gallu i ddefnyddio gwahanol adnoddau digidol i ddangos budd technoleg i’n cleientiaid, er y byddai modd darparu hyfforddiant ar gyfer hyn.
-Disgwylir i staff allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm a threfnu gwaith o fewn nifer o derfynau amser, adeiladu perthnasau effeithiol a defnyddio MS Office ac adnoddau cyfarfod ar-lein.
-Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyflog
💰 £25,013 - £29,793
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Archifydd Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ac mae’n ceisio penodi staff brwdfrydig i weithio o fewn gwasanaethau’r Llyfrgell. Gwahoddir ceisiadau am y swydd ganlynol:
Archifydd Cynorthwyol
Band 3: £24,899 – £28,740
Swydd tymor penodol am flwyddyn. 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 2.00 o’r gloch 5 Hydref 2022
Dyddiad cyfweliadau: I’w cadarnhau
Pwrpas: Creu mynediad ar lein i’r cyhoedd i Bapurau Ann Clwyd sydd ar gadw yn y Llyfrgell a chynghori sefydliadau ar reoli cofnodion.
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Am becyn gwybodaeth a manylion am sut i wneud cais cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol y Llyfrgell ar 01970 632530/1; neu Ebost: [email protected]
Cyflog
💰 £24,899 – £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Coleg y Cymoedd
Mae Coleg y Cymoedd yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel Hwylusydd y Gymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol byddwch darparu cymorth unigol ac mewn grwpiau bach i ddysgwyr Cymraeg i’w galluogi i gwblhau rhywfaint o’u hastudiaethau yn Gymraeg ar gyrsiau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus.
Dyletswyddau Allweddol
- Hyrwyddo a chyflawni gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiadau corfforaethol y Coleg.
- Hyrwyddo cynllun strategol y Coleg a’i werthoedd a bod yn sbardun ar gyfer newid a menter.
- Bod yn falch o Goleg y Cymoedd a chwarae rhan weithredol mewn diwylliant “Un Coleg” sy’n canolbwyntio ar gryfhau’r cymoedd drwy addysg, sgiliau a hyfforddiant rhagorol.
- Gweithio gyda Thîm y Gymraeg a Phennaeth yr Ysgol i nodi dysgwyr sy’n gallu siarad Cymraeg a fyddai’n elwa o hyfforddiant / cymorth ychwanegol i gwblhau elfennau o’u hastudiaethau yn Gymraeg.
- Gweithio gyda Thîm y Gymraeg, Pennaeth yr Ysgol a staff addysgu i gynllunio cymorth un i un a sesiynau grwpiau bach a fydd yn helpu dysgwyr i gwblhau elfennau o’u cyrsiau yn Gymraeg.
- Monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr drwy gofnodi cyflawniadau yn erbyn amcanion dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
- Cynllunio a chyflwyno sesiynau adolygu ar gyfer grwpiau bach o ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer asesiadau cyfrwng Cymraeg a sefyll arholiadau yn hyderus.
- Cydgysylltu â dysgwyr sy’n siarad Cymraeg a darparu sesiynau mentora / cymorth i’w helpu i ailgysylltu a deall pam mae’r Gymraeg yn bwysig ar gyfer dilyniant, addysg uwch a chyflogaeth.
- Cadw cofnodion cywir o bresenoldeb mewn sesiynau mentora / cymorth. - Cefnogi darlithwyr i ymgorffori'r Gymraeg yn eu harfer.
- Cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau personol a fydd yn eu gwneud yn ddysgwr gwell ac yn fwy abl i gadw'r wybodaeth, y cysyniadau a'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau eu gwaith yn llwyddiannus.
- Hyrwyddo gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad cadarnhaol dysgwyr yn unol ag arferion a pholisïau sefydliadol.
Cyflog
💰 £27,975 - £29,868
Lleoliad
📍 Campws Nantgarw
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Portal yn edrych am Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Asesydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Dwyieithog ar gyfer de-ddwyrain, canolbarth a gorllewin Cymru.
Ydych chi'n arweinydd / rheolwr profiadol sy'n angerddol am ddatblygiad eraill? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnig cymwysterau rheoli i unigolion gan reoli eich dyddiadur eich hun? Os felly, rydym am glywed wrthych!
Rydym yn recriwtio ar gyfer asesydd wedi ei l(l)eoli yn ne ddwyrain a de orllewin Cymru I gynnal grwp o ddysgwyr.
Mae rôl yr Asesydd yn cynnwys asesu a hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer Brentisiaeth Uwch Lefel 4/5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy'n cynnwys cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio o fewn rôl arwain a / neu reoli, bydd ganddynt agwedd wych a bydd ganddynt y parodrwydd i addasu a datblygu eu hunain ymhellach. Nid yw cymhwyster mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu ymarfer asesu (cymhwyster Asesydd) yn hanfodol, fodd bynnag, mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi ei seilio adref (yn y maes) ond gellir disgwyl rhywfaint o deithio ar brydiau, mae'r gallu i deithio yn hanfodol.
Cyflog Cychwyn Sylfaenol: Rhwng £27,000 i £ 32,000 y flwyddyn yn seiliedig ar brofiad a chymwysterau a chynigir £ 500 ychwanegol ar gyfer siaradwyr y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: Cliniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael a chynllun pensiwn cyfrannol.
Gweithle: Allan yn y maes / Cartref
Oriau: Llawn amser. Fe ystyrir oriau rhan amser
Dyddiad Cau: 21 Hydref 2022.
Y broses ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais isod ac anfonwch gyda’ch CV i [email protected]
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os derbynnir llawer iawn o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cyfathrebiad yn mynd ymlaen â'u cais i'r cam nesaf o fewn 2 wythnos yn dilyn y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr gymryd yn ganiataol nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn.
Cyflog
💰 £27,000 - £32,000
Lleoliad
📍 Allan yn y maes, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch-swyddog Gweinyddol
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Uwch-swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni’n awr yn edrych am Uwch-swyddog Gweinyddol i ymuno â’n campws yn Llambed ar sail llawn amser, barhaol, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Byddwch yn gefnogi’r Profost yn ei waith o ddydd i ddydd gan sicrhau bod cynlluniau a phrosiectau penodol yn cael eu gwireddu’n rheolaidd. Byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau a fydd yn cynnwys trefnu dyddiadur y Profost, trefnu a chefnogi cyfarfodydd ar y campws ac yn y gymuned, trefnu digwyddiadau ar y campws gan gynnwys y rheini a drefnir ar y cyd ag asiantaethau a grwpiau allanol, ymgysylltu ag ystod o bartneriaid allanol, ymgymryd â thasgau ymchwil priodol, cymryd cofnodion yn ôl y gofyn ynghyd â gweinyddiaeth ariannol. Byddwch yn ddarparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer Cyfarwyddwr Bwyd ac Economi Wledig Canolfan Tir Glas a phrosiectau cysylltiedig megis Yr Arsyllfa Wledig.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried fel Uwch-swyddog Gweinyddol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- Gradd israddedig neu brofiad amlwg cyfatebol
- Profiad perthnasol o ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel a thrwy bob cyfrwng
- Y gallu i amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys y gallu i fodloni terfynau amser tynn
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Profiad o weinyddu pwyllgorau ar lefel sefydliadol
- Hyfedredd da yn y defnydd o Microsoft a phecynnau meddalwedd eraill
- Y gallu i gyfathrebu’n hyderus a chywir trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig*
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch
- Profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid
- BUDDION –
Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Uwch-swyddog Gweinyddol, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 10 Hydref 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Academaidd: Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn dymuno penodi unigolyn cymwys, trefnus, a chreadigol i reoli’r tîm Addysg Bellach a Phrentisiaethau a rheoli’r prosiectau sy’n ymwneud â chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd y prosiectau yn gysylltiedig â’r gwahanol elfennau sef dysgwyr, staffio, darpariaeth, adnoddau, cymwysterau a chyflogwyr er mwyn gweithredu’r strategaeth ‘Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’.
Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu’r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau fel ran o waith cynllunio academaidd y Coleg a chynlluniau ehangach dan arweiniad Llywodraeth Cymru i geisio cynyddu’r niferoedd sy’n astudio yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y colegau addysg bellach a gyda darparwyr prentisiaethau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o’r sector addysg bellach a phrentisiaethau a phrofiad o reoli tîm a phrosiectau amrywiol.
Cyflog
💰 £44,737 – £51,805
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cronfa Mullany yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y rôl yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu e-Fentora Cronfa Mullany yn ne Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfathrebu o fewn y prosiect (ar-lein ac wyneb yn wyneb). Bydd hyn yn cynnwys paratoi ac anfon negeseuon wythnosol i gyfranogwyr y prosiect, ymateb i ymholiadau, a hefyd cyflwyno'r prosiect i ysgolion uwchradd. Bydd disgwyl hefyd i ddeiliad y swydd gadw cofnodion cywir o'r holl ddata sydd ei angen ar gyfer cyflawni a monitro'r prosiect. Bydd gan ddeiliad y swydd dasgau gweinyddol sy'n ymwneud â rhedeg y rhaglen e-Fentora o ddydd i ddydd i'w cwblhau ond bydd hefyd yn ofynnol iddo fod yn arbenigwr data'r prosiect, o safbwynt diogelwch plant, ond hefyd o safbwynt y rhediad llyfn systemau a ddatblygwyd gan y prosiect.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd:
* Ymgymryd â gweinyddiaeth prosiect cyffredinol gan gynnwys negeseuon wythnosol i fentoriaid a mentoreion; bydd hyn yn cynnwys paratoi a chynnal gwybodaeth a dogfennau ategol sydd eu hangen i gynnal gweithrediad y prosiect e-Fentora a chyflwyno'r wybodaeth hon i fuddiolwyr a mentoriaid yn wythnosol.
* Diweddaru'r wefan yn gyson.
* Paru cyfranogwyr ifanc y prosiect â mentoriaid priodol mewn cydweithrediad â'u rheolwr llinell, gan ddefnyddio system ar-lein awtomatig.
* Coladu ymatebion o holiaduron ymadael.
* Cymryd cyfrifoldeb am y broses cyfle profiad gwaith (rheoli ymgeiswyr) mewn cydweithrediad â'u rheolwr llinell.
* Mynd gyda myfyrwyr profiad gwaith ar leoliadau yn ôl yr angen.
* Cynnal data prosiect y gellir ei ddefnyddio at ddibenion adrodd gan y rheolwr llinell.
* Cyfrannu syniadau ar gyfer gweithgareddau i gefnogi perthnasoedd mentor a mentoreion.
* Cyfrannu at gyfathrebu/marchnata'r prosiect/cyfryngau cymdeithasol.
* Gweithio'n agos gydag aelodau eraill o dîm cyflawni'r prosiect i rannu arfer gorau, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm prosiect rheolaidd.
* Nodi meysydd lle gallai fod angen diweddaru systemau.
* Gyda staff eraill, sicrhau bod partneriaid yn cefnogi'r prosiect trwy gyfathrebu rheolaidd gan gynnwys gwefan, cylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol ac ati.
* Cyflawni cyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i Bolisïau Cyfle Cyfartal ac Iechyd a Diogelwch yr elusen.
* Ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r swydd ag y gellir yn rhesymol eu disgwyl.
Cyflog
💰 £23000 - £25000
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Brif Swyddog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-
• Ymateb a cydymffurfio ag anghenion corff rheoleiddio y Comisiwn Elusennol ac adrodd yn ôl fel yr angen. • Ymateb i anghenion a gweithdrefnau adrodd i Fwrdd Ymddiriedolwyr gan sicrhau bod gweithdrefnau’r Fenter yn cydfynd ac yn unol â Chyfansoddiad/Dogfen Lywoidraethu’r sefydliad. • Rheoli cyllideb a chyllid y Fenter ar y cyd â chwmni cyfrifon allanol i gadw cyfrifon cyfredol a chywir • Sicrhau arweinyddiaeth mewn cyflawni marc ansawdd Elusen Ddibynadwy i’r Fenter a'i wreiddio yng ngwaith ac ethos y Fenter. • Cydlynu a datblygu gwaith y Fenter drwy adnabod ffyrdd o hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn yr ardal trwy gynllunio gweithgareddau gyda phartneriaid lleol. • Codi proffil yr Iaith Gymraeg yn ardal y fenter a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sectorau. • Mewn cydweithrediad â Bwrdd Ymddiriedolwyr, datblygu Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer cyfnod 2023-2026 a Cynlluniau Gweithredu blynyddol Fenter er mwyn gosod cyfeiriad pendant, a sicrhau bod y Fenter yn cyrraedd nodau a thargedau’r Llywodraeth. • Rheoli a monitro staff y Fenter (staff cyflogedig, staff achlysurol ein clybiau plant a gwirfoddolwyr). • Cydweithio â Thrysorydd y Fenter er mwyn rheoli cyllideb a chyllid y Fenter a sicrhau taliadau tryloyw a phrydlon gan gynnwys cyflogau staff parhaol ac achlysurol • Rheoli gwaith marchnata y Fenter. • Llunio a chyflwyno ceisiadau ariannol blynyddol y Fenter i Lywodraeth Cymru ynghyd â pharatoi adroddiadau cynnydd chwarterol a chyflwyno’r wybodaeth fel bo’r galw i’r Llywodraeth. • Llunio a chyflwyno ceisiadau ariannol er mwyn denu nawdd o ffynonellau amrywiol • Creu partneriaethau cryf gyda chyrff eraill yn ardal y Fenter a chynrychioli’r Fenter ar bwyllgorau’r Partneriaid. • Cydlynu a sicrhau adroddiadau ar gynnyd amserol a chynhwysfawr I’r Llywodraeth yn ol y galw • Cydweithio ag asiantaethau perthnasol ynglyn a’i chynlluniau Iaith a’r Safonau.
Manyleb person
• Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol • Dealltwriaeth o ddiwylliant, demograffeg ac anghenion ieithyddol y De ddwyrain a thair sir y Fenter yn benodol. • Profiad o arwain tîm bychan i ddatblygu sefydliad cynhaliol gyda systemau llywodraethu clir a chadarn. • Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau • Dealltwriaeth o sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio a Chynlluniau Grant yr Iaith Gymraeg. • Profiad o wella busnes parhaol • Profiad o gynllunio gwariant a rheoli cyllid sylweddol • Dealltwriaeth o’r maes gofal plant a phrosesau diogelu ac amddiffyn plant • Profiad o drefnu amryw o weithgareddau gan ystyried materion diogelu a casesiadau risg. • DBS cyfredol
• Trwydded yrru gyfredol a char
Telerau’r Swydd
Cyflog: £31,152 - £33,000 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)
Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol
Costau Teithio
Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM
Oriau Gwaith
37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser. Bydd cyfle i weithio o gartref yn achlysurol.
Gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)
Hyd y Cytundeb
Parhaol
Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.
**Strwythur Rheoli **
Byddwch yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i’r Cadeirydd/Ymddiriedolwr o ran rheolwr llinell.
Lleoliad swyddfa’r Fenter
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C Llawr Cyntaf Gogledd Ystad Parc Mamhilad Park Pontypŵl NP4 0HZ
Dyddiad Cau: 17 Hydref 2022
Cyswllt: Thomas Hughes
Dychwelwch y ffurflen drwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 9am, Dydd Llun, 17 Hydref 2022
Cyflog
💰 £31,512 - £33,000
Lleoliad
📍 Pont-y-pŵl
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!