Fforwm Rhieni Cenedlaethol
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Fforwm Rhieni Cenedlaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n rhiant sydd ddim yn siarad Cymraeg? Hoffech chi helpu i lunio dyfodol gwasanaethau Cymraeg i blant a theuluoedd?
Mae Mudiad Meithrin yn chwilio am rieni o amrywiaeth o gefndiroedd i ymuno â'n Fforwm Rhieni Cenedlaethol. Dyma gyfle unigryw i sicrhau bod llais rhieni o bob cymuned yn cael ei glywed a'i werthfawrogi.
Pwy ydym ni'n chwilio amdanynt?
Efallai eich bod chi:
Wedi siarad Cymraeg yn y gorffennol ond yn defnyddio Saesneg neu iaith arall fel eich prif iaith erbyn hyn.
Heb gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn ystod eich addysg.
Yn angerddol am helpu'r genhedlaeth nesaf i gael y cyfle i ddefnyddio a mwynhau'r Gymraeg.
Yn deall pa mor bwysig yw gofal plant ac addysg i blant a theuluoedd.
Pam ymuno?
Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol i waith Mudiad Meithrin.
Sicrhewch fod lleisiau rhieni o bob cefndir yn cael eu cynrychioli.
Helpwch ni i greu mwy o gyfleoedd i blant a theuluoedd elwa o'r Gymraeg.
Mae eich profiadau a'ch safbwynt chi yn bwysig. Dewch i helpu ni siapio'r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am y swydd ac i wneud cais, gweler y swydd ddisgrifiad isod.
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau.
Rydym yn chwilio am unigolion ar gyfer y fforwm sy’n rhannu rhai o’r nodweddion isod.
Rhiant i blant/blentyn ifanc
Ddim yn gallu siarad Cymraeg
Rydym angen i’r fforwm gael cynrychiolaeth o’r canlynol
Teuluoedd amrywiol (un rhiant, dau riant, wedi mabwysiadu plant a.y.b.)
Cefndiroedd ethnig / hil amrywiol
Rhan o’r gymuned LHDTC+
Yn magu plentyn / plant sydd ag anableddau neu gydag anabledd eu hunain
Ddim o anghenraid wedi mynychu un o wasanaethau Mudiad Meithrin.
Yn cefnogi egwyddorion a nod Mudiad Meithrin
Cyflog
💰 Tâl o £100 y cyfarfod (gyda chostau rhesymol)
Lleoliad
📍 Ar draws Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Clwb ar ol Ysgol
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Arweinydd Clwb ar ol Ysgol
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am Arweinydd Clwb ar ol ysgol sydd gyda ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad gwerthfawr wrth weithio tuag at eich cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae, gyda chefnogaeth lawn drwy eich swydd.
Am ragor o fanylion am y swydd cysylltwch à Buddug Hughes ar [email protected] neu 07484 061392
Cyflog
💰 £13.11 yr awr
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ieuenctid Caerdydd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Ieuenctid Caerdydd
Swydd penodol, hyd at 31 Mawrth 2027
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 3: £26,204 – £28,566 y flwyddyn
Lleoliad: Gwersyll Caerdydd / Glantaf
Dyddiad ac amser cau: 27 Medi 2026
Cyflog
💰 Gweithredol 3: £26,204 - £28,566 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gwersyll Caerdydd / Glantaf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ieuenctid Merthyr
Nid yw’r hysbyseb hon ar gael bellach.
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Cylchoedd (De Cymru)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Cylchoedd (De Cymru)
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Dorian Evans - Pennaeth Adnoddau a Chyllid
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Bydd y swydd yn cwmpasu De Orllewin a De Ddwyrain Cymru.
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at [email protected]
Byddwn yn fodlon ystyried rhywun ar secondiad neu sy'n bwriadu cyflawni'r rol fel ail swydd
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM33: £41,472 pro rata
Lleoliad
📍 Ar draws Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ieuenctid Caerdydd
Nid yw’r hysbyseb hon ar gael bellach.
Swyddog Ieuenctid Ynys Môn
Nid yw’r hysbyseb hon ar gael bellach.
Cynorthwyydd Canolfan Deulu y Bala
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Gynorthwyydd Canolfan Deulu y Bala
Lleoliad - Canolfan Deulu y Bala, Hen Ysgol Bueno Sant, Heol y Castell, Bala, LL23 7UU.
Mae Canolfan Deulu y Bala yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Fydd disgwyl ir cynorthwyydd weithio gyda staff i:
trefnu amgylchedd y Cylch.
trefnu amrywiaith o weithgareddau y tu fewn a thu allan.
sicrhau bod croeso, sylw a gofal i bob plentyn.
sicrhau bod yr offer yn cael ei gadw’n daclus ar ôl pob sesiwn a bod yr ystafell yn lân.
cadw cofnod o ddatblygiad y plant gan gynnwys esiamplau o’u gwaith.
Am fanylion llawn cysylltwch â Lisa Jones, [email protected], 01678 528571
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Arlwyo – Ysgol Gyfun Aberaeron
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gynorthwyydd Arlwyo – Ysgol Gyfun Aberaeron
Oriau gwaith yw 18 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10.50am a 3.00pm, yn ystod y tymor yn unig.
Rydym yn ceisio penodi Cynorthwyydd Arlwyo phrofiadol sy’n ymroddedig ac yn gweithio’n galed i ymuno â’r tîm yn “Nyth yr Wylan” Ysgol Gyfun Aberaeron. Dylech allu gweithio yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt, cydymffurfio â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch a gweithio i safon uchel.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Unrhyw wybodaeth ychwanegol cysylltwch ar ysgol ar 01545 570217.
Dyddiad Cyfweliad: 05/10/2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £25,614 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Athro/Athrawes (Mathemateg) – Ysgol Bro Teifi
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Athro/Athrawes (Mathemateg) – Ysgol Bro Teifi
Dyddiad Dechrau: Ionawr 1af 2027
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a’n cyfadran Fathemateg fel Athro/Athrawes Mathemateg ar gytundeb parhaol. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda’n tîm ymroddgar o athrawon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Addysgu gwersi Mathemateg ar draws yr ystod oed uwchradd.
- Angerddol dros eu pwnc ac at ddysgu
- Yn barod i wneud yn siŵr fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu cyffrous, hwylus a gwerthfawr er mwyn cyflawni 4 diben y cwricwlwm.
- Addysgwr rhagorol
- Ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial.
O weithio yn ein hysgol, cewch fynediad at yr adnoddau dysgu modern, diweddaraf wedi eu darparu mewn ystafelloedd dysgu pwrpasol. I gefnogi lles ein staff, mae’r ysgol hefyd yn darparu mynediad rhad ac am ddim i ystafell ffitrwydd yr ysgol o 7.30 y bore hyd at 21.00 yr hwyr i aelodau staff.
Pecyn Gwybodaeth
Os hoffech wybodaeth pellach am y swydd neu os hoffech drefnu ymweliad i’r safle, mae yna groeso i chi gysylltu gyda mi am sgwrs ar unrhyw adeg drwy ffonio’r ysgol ar 01559 362503 neu drwy e-bostio [email protected].
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £33,731 - £51,942 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Ymarferydd – Tîm Camddefnyddio Sylweddau
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Uwch Ymarferydd – Tîm Camddefnyddio Sylweddau
Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2027.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected]. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.
Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch cefnogi pobl y mae defnyddio sylweddau yn effeithio arnynt a gwneud gwahaniaeth parhaol yn eu bywydau? Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am Uwch Ymarferydd brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â’n Tîm Sylweddau Gofal Cymdeithasol dynamig a blaengar.
Am y rôl
Fel Uwch Ymarferydd Gradd 11 o fewn y Tîm Sylweddau, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Rheolwr y Tîm, cydlynu swyddogaethau dyddiol y gwasanaeth, hyrwyddo arfer o ansawdd uchel, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y gwasanaeth.
Cyfrifoldebau allweddol
- cefnogi’r rheolwyr wrth gydlynu swyddogaethau dyddiol y Tîm Sylweddau
- cyfrannu at ddatblygu’r gwasanaeth a gwelliant parhaus
- rheoli llwyth achosion amrywiol, gan gynnwys asesu, cynllunio, adolygu a rheoli risg
- darparu rheolaeth llinell, cymorth a goruchwyliaeth i weithwyr ymyrraeth
- hyrwyddo ansawdd arfer, cofnodi effeithiol ac ymyrraeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- gweithio ar y cyd ag asiantaethau partner i gefnogi canlyniadau cadarnhaol i unigolion a theuluoedd
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol, creadigol a brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i unigolion a’u teuluoedd.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth dda o arfer gwrth-wahaniaethol, egwyddorion lleihau niwed a dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar gryfderau. Bydd gennych hefyd wybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a strategaethau cenedlaethol perthnasol ar gamddefnyddio sylweddau, ynghyd â sgiliau cyfathrebu, asesu, rheoli risg a gweithio mewn tîm cryf.
Pam ymuno â ni?
Mae ymuno â Thîm Sylweddau Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig cyfle i fod yn rhan o wasanaeth cefnogol ac arloesol sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, cydweithio a datblygiad proffesiynol. Byddwch yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ac asiantaethau partner ymroddedig.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle hwn a’r hyn sydd gan Gyngor Sir Ceredigion i’w gynnig, cysylltwch â: Lara Robson, Rheolwr Tîm 07794 081362 neu fel arall, anfonwch e-bost at: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £44,253 - £46,579 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 – Ysgol Gynradd Llanfarian
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 4 – Ysgol Gynradd Llanfarian
Ydych chi’n weithiwr proffesiynol profiadol a brwdfrydig sy’n angerddol am helpu plant i ddysgu, tyfu, a chyflawni eu potensial llawn? Mae Ysgol Gymunedol Llanfarian yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 4 medrus i ymuno â’r tîm am gyfnod o flwyddyn i gychwyn.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgu ar draws yr ysgol, gan weithio’n agos gyda’r athrawon, arwain sesiynau grŵp bach, ac o bryd i’w gilydd gymryd cyfrifoldeb am ddosbarthiadau cyfan. Byddwch hefyd yn helpu i reoli a datblygu cynorthwywyr addysgu eraill, gan sicrhau safon uchel o gefnogaeth i bob disgybl.
Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4, byddwch yn:
- Cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu o dan system oruchwyliaeth gytunedig.
- Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth arbenigol i gefnogi dysgu a chynnydd.
- Datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol (IEPs).
- Darparu adborth ar gynnydd disgyblion a chyfrannu at asesiadau a chadw cofnodion.
- Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth, hunan-barch ac ymddygiad cadarnhaol.
- Defnyddio TGCh yn effeithiol i wella addysgu a dysgu.
- Gweithio gyda’r athrawon i gynllunio a gwerthuso gwersi, gan sicrhau bod gweithgareddau’n diwallu anghenion disgyblion.
- Rheoli a chefnogi cynorthwywyr addysgu eraill, gan gynnwys mentora, arfarnu a hyfforddi.
- Cyfrannu at gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu y tu allan i’r ysgol a chyfleoedd cyfoethogi.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n:
- Yn meddu ar brofiad o weithio gyda phlant o’r oedran priodol mewn amgylchedd dysgu.
- Yn bodloni safonau Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (HLTA) neu’n meddu ar gymhwyster/profiad cyfatebol.
- Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol (sy’n cyfateb i NVQ Lefel 2 neu uwch).
- Yn meddu ar hyfforddiant arbenigol neu sgiliau mewn meysydd perthnasol o’r cwricwlwm, megis llythrennedd, rhifedd, TGCh, cefnogaeth ddwyieithog, neu iaith arwyddion.
- Yn deall datblygiad plant, prosesau dysgu, a fframweithiau statudol.
- Yn gallu defnyddio TGCh a thechnoleg yn effeithiol i gefnogi dysgu.
- Yn hyderus wrth arwain ac ysgogi eraill, gyda sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm cryf.
- Yn deall pwysigrwydd diogelu, cynhwysiant, a datblygiad proffesiynol parhaus.
Yn gyfnewid, byddwch yn:
Ymuno ag ysgol groesawgar a blaengar sy’n gwerthfawrogi gwaith tîm, datblygiad proffesiynol, a chefnogaeth o safon uchel i bob disgybl. Byddwch yn cael mynediad at hyfforddiant parhaus a chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau arwain ac addysgu ymhellach.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Davies ar [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.
Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £32,578 - £34,811 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Arlwyo – Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gynorthwyydd Arlwyo – Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun
Ymunwch â’n Tîm fel Cynorthwyydd Arlwyo yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan y Waun, Aberystwyth!
Ydych chi’n angerddol am fwyd ac yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol? Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo brwdfrydig i ymuno â’n tîm yng Nghartref Preswyl Hafan y Waun. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth gynnal y safonau uchaf o wasanaeth, gan sicrhau profiad bwyta cadarnhaol i’n preswylwyr.
Cyfrifoldebau allweddol:
- cynorthwyo i baratoi a gweini prydau a diodydd, gan gynnwys gosod a chlirio byrddau lle bo angen
- cofnodi tymheredd bwyd yn y man gweini
- cynnal glanweithdra a hylendid yn y gegin a’r ardaloedd bwyta, gan gynnwys golchi offer a llestri
- cydweithio â’r tîm arlwyo i ddarparu gwasanaeth eithriadol
- sicrhau cydymffurfiaeth gaeth â safonau trin bwyd a hylendid cyfredol, wedi’u harwain gan ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd a Safonau Iechyd yr Amgylchedd
- cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, sy’n cwmpasu codi a chario, COSHH, a defnydd diogel o offer peryglus
- Oriau gwaith:
- 35 awr yr wythnos ar rota dreigl pythefnos, i gynnwys sifftiau cynnar/hwyr a gweithio ar benwythnosau
- Ein hymgeisydd delfrydol
- profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd cegin
- yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o arferion diogelwch a hylendid bwyd
- meddu ar sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu rhagorol
- dangos parodrwydd i ddysgu ac ymgymryd â chyrsiau perthnasol yn ôl yr angen
- Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi
I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, rydym yn darparu ystod gynhwysfawr o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:
- lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol (o 27 i 34 diwrnod y flwyddyn pro rata)
- cynllun cyfraniadau pensiwn hael (cyfraniad cyflogwr o 14.6%)
- cymorth i deuluoedd a gofalwyr gan gynnwys. tâl mamolaeth uwch, pasbort gofalwyr ac ati
- cynllun gostyngiadau Ffordd o Fyw a Siopa
- cefnogaeth Iechyd a Lles gan gynnwys cwnsela cyfrinachol am ddim, aelodaeth gampfa am bris gostyngol
- cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys cyfraniadau pensiwn gwirfoddol ychwanegol, beicio i’r gwaith, prydlesu ceir
Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod o fuddion gweithwyr ar gael yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl hon, cysylltwch â William Ainsworth ar [email protected] / 01970 633001
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £25,614 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Rheoli Adeiladu
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Swyddog Rheoli Adeiladu
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn brwdfrydig sydd â chymhelliant uchel i fod yn rhan o’r tîm Rheoli Adeiladu ar sail barhaol, llawn amser.
Fel rhan o’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach, sy’n ymdrin â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig arall, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ledled y sir.
O ddydd i ddydd, byddwch yn:
- Asesu ceisiadau Rheoliadau Adeiladu a’r wybodaeth ategol.
- Cynnal archwiliadau safle i asesu cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig.
- Darparu cyngor technegol proffesiynol, diduedd ac ymarferol i ymgeiswyr, asiantau, contractwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
- Cefnogi ymateb statudol y Cyngor i adeiladau peryglus.
- Cyfrannu at Wasanaeth Rheoli Adeiladu effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o ansawdd uchel.
- Cyfrannu at weithredu newidiadau deddfwriaethol sy’n deillio o Reoliadau Adeiladu (Cymru) 2024 a 2025.
- Darparu cymorth i’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach pan fo angen.
Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn sydd:
 gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu gyfuniad cyfatebol o wybodaeth a phrofiad ym maes Rheoli Adeiladu.
Yn Arolygydd Adeiladu Cofrestredig ar Ddosbarth 2(a–f) neu uwch.
Yn gallu cyfathrebu’n ddiduedd, yn broffesiynol ac yn effeithiol ag ystod eang o bobl ar wahanol lefelau.
Yn gallu gweithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig a rheoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a therfynau amser tynn.
 ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel ac i sicrhau boddhad cwsmeriaid.
Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Sylwer y bydd ymgeisydd llwyddiannus nad oes ganddo’r sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael ei gefnogi’n llawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i’w benodi.
I gael gwybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan gyrfaoedd y Cyngor, gan gynnwys manylion am yr hyn y gallwn ei gynnig a’r ffordd o fyw y gallwch ei disgwyl. Mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi, gyda diwylliant bywiog, ysgolion rhagorol, arfordiroedd hardd a chefn gwlad tonnog.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Jeremy Holmes, Prif Swyddog Rheoli Adeiladu / Geraint Williams, Rheolwr Gwasanaeth, ar 01545 572482.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £39,152 - £40,777 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Iaith Clebran
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Iaith Clebran
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Noder: Croesawir ceisiadau gan unigolion sy’n dymuno gweithio mewn un neu ragor o’r siroedd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Lou Stevens Jones, Rheolwr Cynlluniau Iaith Camfa / Croesi’r Bont & Clebran
01970 639639 / 07966 313609
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at [email protected]
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM 15 £25,175 – MM20 £28,531 pro rata.
Lleoliad
📍 Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd
Mae Cylch Meithrin Blodau Bach yn edrych am Gynorthwyydd
Lleoliad: Cylch Meithrin Blodau Bach, Llyfrgell Pengam, Heol Ifor, Fleur-De-Lis, Coed Duon, NP12 3AB
Mae’r cylch meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Cytundeb dros dro, gyda'r posibilrwydd o ymestyn y cytundeb neu ei wneud yn swydd barhaol ar ddiwedd y cytundeb.
Person cyswllt am ragor o fanylion:
Andrea – [email protected]
Cyflog
💰 Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyyd
Mae Cylch Meithrin Y Borth yn edrych am Cynorthwyyd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Cylch Meithrin Y Borth, Ysgol Y Borth, Tyddyn T o, Porthaethwy, LL59 5DS
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg
Fysa cael cymhwyster mewn Gofal a Datblygiad Plant yn fanteisiol ond ddim yn angenrheidiol. Bydd posib trafod y posibilrwydd o gwblhau y cymhwyster petai yr ymgeisydd yn cael eu gwahodd i gael cyfweliad.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Enw: Nia Evans
Swydd: Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd
Ebost : [email protected]
Cyflog
💰 £12.71 yn gychwynnol
Lleoliad
📍 Sir Fôn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor / Asesydd Cynllun Ysgolion – Ysgolion Gwynllyw a Chwm Rhymni (Cyfnod mamolaeth)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Tiwtor / Asesydd Cynllun Ysgolion – Ysgolion Gwynllyw a Chwm Rhymni (Cyfnod mamolaeth)
Ydych chi’n aseswr cymwys sy’n angerddol dros hyfforddi a datblygu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg?
Rydym yn chwilio am aseswr profiadol a chymhellol i gyflwyno hyfforddiant o safon uchel ac i asesu dysgwyr yn unol â’r Safonau Cenedlaethol a Fframwaith Prentisiaethau (lle bo’n berthnasol).
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, hoffem glywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol, neu
Amy Sefton, Prif Swyddog Cynllun Cam Wrth Gam De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 07791 519144 / 07977 641517
E-bost: [email protected] / [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at [email protected]
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM18 – MM22 - £26,926 - £30,350 y flwyddyn. Gwir gyflog ar sail gweithio 15 awr yr wythnos £10,770 - £12,140
Lleoliad
📍 Caerffili, Torfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu (Cyfryngau Cymdeithasol a Digidol)
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu (Cyfryngau Cymdeithasol a Digidol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau
Band 3: £29,691 - £34,272 pro rata
Hyd y Swydd: swydd tymor penodol tan 31 Mawrth 2027 gyda phosibilrwydd o estyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol
Oriau: 3 diwrnod yr wythnos (22.2 awr)
Dyddiad Cau: 11yb, 07 September 2026
Cyflog
💰 £29,691 - £34,272 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc)
Mae Meithrinfa Medra / Medra Gofal Y Graig yn edrych am Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Cyfeiriad: Canolfan Plant Llangefni, Ffordd y Coleg, Lon Talwrn, Llangefni LL77 7LP
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Enw: Delyth Evans, Rheolwr Meithrinfeydd
Rhif Ffôn: 01970 639657
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Dychwelwch y ffurflenni yma: [email protected]
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd.
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Sir Fôn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dirprwy Bennaeth – Ysgol Gynradd Penparc
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Dirprwy Bennaeth – Ysgol Gynradd Penparc
Yn eisiau o Ionawr 2027 neu cyn gynted â phosib – Swydd Llawn Amser, Parhaol.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig, angerddol a blaengar sydd yn barod i gefnogi a hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o dîm brwdfrydig a gweithgar, yn cydweithio’n agos i ddarparu cefnogaeth a chymorth i’r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli’r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon yn absenoldeb y Pennaeth. Yn ogystal, bydd gan y Dirprwy Bennaeth ymrwymiad addysgu, a byddai arbenigedd ym maes ADY yn fanteisiol.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol ac ysgogol, ac arweinydd effeithiol, sy’n hyrwyddo addysgeg o’r radd flaenaf. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ynghyd â sgiliau rheolaethol cadarn a phersonoliaeth gynnes a hawddgar.
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle euraidd i unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol weithio mewn ysgol gymunedol lwyddiannus sydd o fewn tafliad carreg i dref Aberteifi. Bydd yn cynnig profiad gwerthfawr i unigolyn sy’n awyddus i arwain, arloesi a chyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus yr ysgol.
Fe fydd yr unigolyn yn:
dylanwadu ar gydweithwyr drwy osod esiampl fel model rôl trefnus a chydwybodol;
bod yn barod i weithio fel rhan o uwch dîm rheoli cadarn;
hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;
ymgynghori â’r Pennaeth a chynnig cyngor adeiladol mewn meysydd a fyddai’n fanteisiol i’r ysgol;
cydweithio â staff, disgyblion a rhieni i hyrwyddo awyrgylch gynhwysol ac ethos gwaith effeithiol;
bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy’n codi o ganlyniad i absenoldebau neu gyfrifoldebau eraill y Pennaeth;
arwain ar faes arbenigedd o fewn cynlluniau strategol a phrosesau gwerthuso a gwella’r ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant a datblygiad parhaus yr ysgol, gan wreiddio ei rôl ganolog o fewn y gymuned leol;
dealltwriaeth o arferion dysgu ac addysgu effeithiol, ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu ar draws yr ysgol gyfan;
medrau cyfathrebu, rhyngbersonol, rheoli a threfnu cadarn;
angerdd dros hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd a gwaith yr ysgol;
gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol sy’n seiliedig ar ymchwil;
ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm effeithiol;
ymrwymiad cryf i gryfhau’r cysylltiadau â’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol a phartneriaid ehangach.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Dyddiad cau: Canol nos Sul, 27 Medi 2026 am 11:59yh
Dyddiad cyfweld: Dydd Llun 5 Hydref 2026
Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i gysylltu â’r Pennaeth, Bethan Morgan-Jenkins, am drafodaeth anffurfiol ar [email protected] neu drwy ffonio 01239 810586.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £52,680 - £58,136 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Adnoddau – Buddsoddi a Thrawsnewid Strategol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Rheolwr Adnoddau – Buddsoddi a Thrawsnewid Strategol
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
A ydych yn angerddol am drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, sicrhau buddsoddiad a chyflawni newid ystyrlon?
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am unigolyn eithriadol i arwain y gwaith strategol o gynllunio, dyrannu a llywodraethu’r buddsoddiad ym maes gofal cymdeithasol ar draws Ceredigion a rhanbarth gorllewin Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio rhaglenni trawsnewid mawr, dylanwadu ar bolisi ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, a sicrhau bod buddsoddiad yn cyflawni manteision parhaol i’n cymunedau.
Ynglŷn â’r Rôl
Fel Rheolwr Adnoddau – Buddsoddi a Thrawsnewid Strategol, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaethau buddsoddi ar draws rhaglenni cyfalaf a refeniw, gan gefnogi agenda Llesiant Gydol Oes (TAW). Byddwch yn gweithio’n agos gydag uwch arweinwyr, Llywodraeth Cymru, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac ystod eang o bartneriaid strategol er mwyn sicrhau, rheoli a gwneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi.
Byddwch yn gwneud y canlynol:
Arwain y gwaith o baratoi cynlluniau buddsoddi strategol a rhaglenni trawsnewid.
Sicrhau a goruchwylio cyfleoedd sylweddol o ran cyllid grant.
Dylanwadu ar ddatblygiad polisi ar lefel ranbarthol a chenedlaethol
Datblygu achosion busnes a threfniadau llywodraethu ar gyfer rhaglenni cymhleth
Darparu cyngor arbenigol i uwch arweinwyr ar flaenoriaethau buddsoddi a thrawsnewid
Sicrhau rheolaeth effeithiol o ran risgiau, cydymffurfiaeth a chyflawni rhaglenni.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd:
Yn meddu ar radd berthnasol neu gymhwyster cyfatebol.
 phrofiad sylweddol o arwain rhaglenni newid trawsnewidiol.
Yn Ymarferydd Prince2
Yn gallu ymgysylltu’n hyderus ag uwch randdeiliaid ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Yn meddu ar sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu, negodi ac arwain.
Pam Ymuno â Ni?
Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar gyfeiriad gofal cymdeithasol, llesiant a buddsoddiad ar draws gorllewin Cymru yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar flaen y gad o ran trawsnewid, gan helpu i lunio gwasanaethau, sicrhau cyllid a gwella canlyniadau i drigolion ledled y rhanbarth.
Rydym yn credu bod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn hynod bwysig. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion canlynol:
Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni amodau penodol, gallwch ddewis gweithio o gartref neu o un o swyddfeydd y Cyngor.
Amser Hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn patrwm hyblyg diffiniedig rhwng dydd Llun a dydd Gwener, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â Ni
Am ragor o wybodaeth ac am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Greg Jones: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £46,142 - £48,226 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Technolegydd Bwyd Cynorthwyol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Technolegydd Bwyd Cynorthwyol
Mae Canolfan Bwyd Cymru yn chwilio am unigolion brwdfrydig, hyblyg a chryf eu cymhelliant i ymuno â’n tîm a’i gryfhau, gan gynnig gwasanaeth rhagorol er mwyn hwyluso twf ar draws y sector bwyd a diod.
Rydym wedi creu sawl swydd newydd ar draws ein disgyblaethau datblygu busnes a thechnoleg bwyd i ddatblygu ein hamrediad o gymorth ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ymhellach.
Rydym yn chwilio am unigolion i fod yn rhan o’r tîm, gan gynnig gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, adeiladol a gwerthfawr wedi’u gweithredu ar draws yr holl agweddau ar ddisgyblaethau gweithredol a thechnegol bwyd a diod.
Mae cyfleoedd i bobl ar bob lefel o ran gallu a phrofiad, a chynigir y cyfle i unigolion weithio mewn amgylchedd arloesol a chydweithredol, sy’n canolbwyntio ar sicrhau twf.
Byddwch yn ymwneud ag ystod amrywiol o brosiectau ysbrydoledig ac yn cael cyfleoedd lluosog i ymgymryd â datblygiad personol gwerthfawr.
Rydym yn awyddus i recriwtio Technolegydd Bwyd Cynorthwyol i roi cyngor technegol i gleientiaid a chynorthwyo’r tîm Technegol presennol i gyflawni prosiectau wedi’u hariannu. Bydd prosiectau’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch newydd, achrediadau allanol a chynaliadwyedd gyda chleientiaid ledled de orllewin a chanolbarth Cymru.
Wedi’ch addysgu hyd at safon gradd mewn Technoleg Bwyd neu bwnc cysylltiedig bydd gennych ddiddordeb gwirioneddol yn y modd y caiff gwyddoniaeth ei chymhwyso i brosesu bwyd a diod. Rhaid i chi feddu ar sgiliau rhyngbersonol da a bod â gogwydd tîm gyda’r gallu i ddelio â blaenoriaethau sy’n newid
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Mae hwn yn gontract cyfnod penodol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2027.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected].
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £32,578 - £34,811 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Presenoldeb a Chymorth 6ed Dosbarth – Ysgol Gyfun Penglais
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Swyddog Presenoldeb a Chymorth 6ed Dosbarth – Ysgol Gyfun Penglais
Rydym yn ceisio penodi Swyddog Presenoldeb a Chymorth 6ed Dosbarth a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod myfyrwyr y chweched dosbarth yn cael eu cefnogi yn y ffordd orau bosibl drwy gydol eu taith ym mlynyddoedd 12 a 13, ac i sicrhau bod lefelau presenoldeb yn cael eu monitro’n agos.
Byddwch yn mwynhau gweithio gyda staff a myfyrwyr a byddwch yn hynod drefnus, yn effeithlon ac yn gyfathrebwr rhagorol.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i ymgeisydd uchelgeisiol chwarae rhan allweddol wrth gynyddu dyheadau a llwyddiant ein myfyrwyr, a thrwy hynny gyfrannu at daith Ysgol Penglais i fod yn ysgol ardderchog.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:
ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion
ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth
agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth
wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol
Pecyn Gwybodaeth
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i’r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost [email protected]
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £27,274 - £28,608 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!