Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Golygydd Cynnwys Digidol

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Hybrid Ar gau

Mae S4C yn edrych am Olygydd Cynnwys Digidol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Olygydd Cynnwys Digidol i ymuno a’r Adran Cyhoeddi. Gyda phlatfformau digidol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C. 

Mae’r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi’n ymateb i’r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C. 

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi wrth lunio a gweithredu strategaeth S4C ar blatfformau digidol. Byddwch yn gyfrifol am ddadansoddi, cwestiynu ac addasu strategaethau cynnwys digidol, a llif gwaith digidol (organig a phartneriaethau), yn fewnol yn S4C ac yn allanol ar draws yr holl gwmnïau cynhyrchu annibynnol yr ydym yn comisiynu cynnwys ganddynt. 

Byddwch yn arwain tîm digidol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith ac allbwn creadigol y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon digidol cyfresi S4C, yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i’r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.

Gan weithio’n agos gyda’r tîm digidol, yn ogystal ag aelodau allweddol eraill o fewn S4C (y Prif Swyddog Cynnwys, y timau comisiynu, y wasg, newyddion a marchnata) a’r cwmnïau cynhyrchu, byddwch yn arwain, datblygu a sefydlu llais S4C ar y platfformau digidol - yn perchnogi’r cyfrifon trwy fod yn chwareus, creu sŵn, a neidio ar “trends” ehangach (o fewn Cymru, Prydain ac yn fyd-eang).

Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, goruchwylio a hwyluso ffrydio cynnwys byw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen, a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform. 

Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform. 

Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon uchel gyda staff ag eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i’r rôl yma.

Manylion eraill

Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin/S4C Caerdydd/S4C Caernarfon. Mae S4C yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid.

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod prawf:  6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:  Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 16.45 ar ddydd Gwener 27 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cymdeithas yr Iaith

💰 £21k - £24k 📍 Aberystwyth Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £19k 📍 Wrecsam Ar gau

Portal

💰 £26k - £27k+ 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £20k pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £20k - £25k pro rata 📍 Casnewydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £37k - £46k pro rata 📍 O gartref📍 Swyddfeydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Hyblyg Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Adra

💰 £36k - £39k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Senedd Cymru

💰 £23k - £34k pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Gŵyr Abertawe

💰 £9.90 - £10.97 yr awr 📍 Abertawe Ar gau

CCW

💰 £45k 📍 Caerdydd📍 Birmingham +2 Ar gau

CCW

💰 £22k 📍 Caerdydd📍 Birmingham Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Bangor Ar gau

Dyfodol i'r Iaith

💰 £28k - £33k pro rata 📍 Talybont Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £23k - £24k 📍 Nantgarw Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £9k - £18k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Gwynedd Ar gau