Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Dadansoddydd Cymorth TG

Urdd Gobaith Cymru

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Ddadansoddydd Cymorth TG

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Y Swydd

Rydym yn chwilio am Ddadansoddwr Cymorth TG medrus a llawn brwdfrydedd i ymuno â'n tîm! Os oes gennych chi brofiad sylweddol yn darparu cymorth TG, angerdd am ddatrys problemau, a chefndir mewn cefnogi rhwydweithiau a systemau data, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Fel ein Dadansoddwr Cymorth TG, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth technegol i staff yr Urdd yn ogystal a rhanddeiliaid allanol megis athrawon, aelodau a rhieni / gwarcheidwaid. 

Disgwylir i chi ddatrys problemau caledwedd a meddalwedd, a sicrhau gweithrediad llyfn ein systemau TG. Byddwch yn gallu gwneud diagnosis cyflym, datrys problemau, a chyfathrebu'n effeithiol gyda rhanddeiliaid a chydweithwyr.

O bryd i’w gilydd, byddwn angen i chi weithio oriau hir yn ein digwyddiadau cyffrous, gan gynnwys Eisteddfod Yr Urdd a Twrnament Rygbi 7 pob ochr yr Urdd. Bydd yr amser dros ben oriau cyffredin yn cael eu had dalu ar adegau eraill.   Am fwy o fanylion cysylltwch â Dafydd Lewis (Pennaeth Technoleg Gwybodaeth) ar 07976003341 neu [email protected]    Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau – 13eg o Fawrth     Dyddiad Cyfweld – I’w drefnu efo’r ymgeiswyr.   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.

Cyflog

💰 £28,505 - £31,757

Lleoliad

📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Sefydliad Dysgu a Gwaith

💰 £55,000 – £70,000 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £53,353 - £61,82 📍 Bangor Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £25,000 📍 Bethesda Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £32,348 - £36,386 📍 Campws Hyblyg Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £23,088 pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £30,000 pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 Costau teithio a chynhaliaeth rhesymol 📍 Ar-lein Ar gau

Undeb Rygbi Cymru

💰 £30,000 – £35,000 📍 Caerdydd Ar gau

CFfI Cymru

💰 £40,000 - £45,000 📍 Llanelwedd📍 O gartref Ar gau

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

💰 £27,801 - £33,727 📍 Aberhonddu Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £30,142 📍 Caerfyrddin📍 Bae Colwyn +2 Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £25,662 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £53,353 - £61,823 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Sir Ddinbych

💰 £27,514 - £30,095 📍 O gartref📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £32,960 📍 Rhondda Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £25,927 - £30,095 📍 Caerdydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £27,433 - £30,205 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Iechyd Cyhoeddus Cymru

💰 £27,055 - £32,934 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30,095 - £33,486 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £20,043 - £21,269 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

💰 £26,038 - £30,908 📍 Caerffili Ar gau