Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Brif Swyddog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-
• Ymateb a cydymffurfio ag anghenion corff rheoleiddio y Comisiwn Elusennol ac adrodd yn ôl fel yr angen. • Ymateb i anghenion a gweithdrefnau adrodd i Fwrdd Ymddiriedolwyr gan sicrhau bod gweithdrefnau’r Fenter yn cydfynd ac yn unol â Chyfansoddiad/Dogfen Lywoidraethu’r sefydliad. • Rheoli cyllideb a chyllid y Fenter ar y cyd â chwmni cyfrifon allanol i gadw cyfrifon cyfredol a chywir • Sicrhau arweinyddiaeth mewn cyflawni marc ansawdd Elusen Ddibynadwy i’r Fenter a'i wreiddio yng ngwaith ac ethos y Fenter. • Cydlynu a datblygu gwaith y Fenter drwy adnabod ffyrdd o hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn yr ardal trwy gynllunio gweithgareddau gyda phartneriaid lleol. • Codi proffil yr Iaith Gymraeg yn ardal y fenter a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sectorau. • Mewn cydweithrediad â Bwrdd Ymddiriedolwyr, datblygu Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer cyfnod 2023-2026 a Cynlluniau Gweithredu blynyddol Fenter er mwyn gosod cyfeiriad pendant, a sicrhau bod y Fenter yn cyrraedd nodau a thargedau’r Llywodraeth. • Rheoli a monitro staff y Fenter (staff cyflogedig, staff achlysurol ein clybiau plant a gwirfoddolwyr). • Cydweithio â Thrysorydd y Fenter er mwyn rheoli cyllideb a chyllid y Fenter a sicrhau taliadau tryloyw a phrydlon gan gynnwys cyflogau staff parhaol ac achlysurol • Rheoli gwaith marchnata y Fenter. • Llunio a chyflwyno ceisiadau ariannol blynyddol y Fenter i Lywodraeth Cymru ynghyd â pharatoi adroddiadau cynnydd chwarterol a chyflwyno’r wybodaeth fel bo’r galw i’r Llywodraeth. • Llunio a chyflwyno ceisiadau ariannol er mwyn denu nawdd o ffynonellau amrywiol • Creu partneriaethau cryf gyda chyrff eraill yn ardal y Fenter a chynrychioli’r Fenter ar bwyllgorau’r Partneriaid. • Cydlynu a sicrhau adroddiadau ar gynnyd amserol a chynhwysfawr I’r Llywodraeth yn ol y galw • Cydweithio ag asiantaethau perthnasol ynglyn a’i chynlluniau Iaith a’r Safonau.
Manyleb person
• Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol • Dealltwriaeth o ddiwylliant, demograffeg ac anghenion ieithyddol y De ddwyrain a thair sir y Fenter yn benodol. • Profiad o arwain tîm bychan i ddatblygu sefydliad cynhaliol gyda systemau llywodraethu clir a chadarn. • Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau • Dealltwriaeth o sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio a Chynlluniau Grant yr Iaith Gymraeg. • Profiad o wella busnes parhaol • Profiad o gynllunio gwariant a rheoli cyllid sylweddol • Dealltwriaeth o’r maes gofal plant a phrosesau diogelu ac amddiffyn plant • Profiad o drefnu amryw o weithgareddau gan ystyried materion diogelu a casesiadau risg. • DBS cyfredol
• Trwydded yrru gyfredol a char
Telerau’r Swydd
Cyflog: £31,152 - £33,000 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)
Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol
Costau Teithio
Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM
Oriau Gwaith
37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser. Bydd cyfle i weithio o gartref yn achlysurol.
Gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)
Hyd y Cytundeb
Parhaol
Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.
**Strwythur Rheoli **
Byddwch yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i’r Cadeirydd/Ymddiriedolwr o ran rheolwr llinell.
Lleoliad swyddfa’r Fenter
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C Llawr Cyntaf Gogledd Ystad Parc Mamhilad Park Pontypŵl NP4 0HZ
Dyddiad Cau: 17 Hydref 2022
Cyswllt: Thomas Hughes
Dychwelwch y ffurflen drwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 9am, Dydd Llun, 17 Hydref 2022
Cyflog
💰 £31,512 - £33,000
Lleoliad
📍 Pont-y-pŵl
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith yn edrych am Gyfarwyddwr Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) yn sefydliad polisi, ymchwil a datblygiad annibynnol sy’n ymrwymedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant. Rydym yn canolbwyntio ar y cwestiynau mawr, gan gynnwys sut gallwn ni helpu i wella safonau byw a mynd i’r afael â chostau byw? Sut gallwn ni helpu mwy o bobl i ddod o hyd i swyddi safonol? Sut gallwn ni helpu mwy o bobl i ddatblygu eu sgiliau mewn marchnad swyddi sy’n newid?
Mae hon yn rôl weithredol sy’n arwain gwaith y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, gan adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredol a gweithio gyda nhw i bennu a llywio gweledigaeth uchelgeisiol. Rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bolisïau ac arfer dysgu gydol oes a chyflogaeth ac rydym yn awyddus i barhau i wneud hynny, gan gynyddu ein heffaith ymhellach.
Bydd angen i ddeiliad y rôl arwain y broses o adnabod y blaenoriaethau y dylem fod yn canolbwyntio arnynt yng Nghymru, sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau, sicrhau ein bod yn cyflawni gwaith o safon uchel a gwneud yn siŵr bod hyn yn cael effaith, trwy gynnal perthynas gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys gwleidyddion, llunwyr polisïau, y cyfryngau ac ymarferwyr. Drwy wneud hynny, byddwch yn arwain tîm bach yng Nghymru a gweithio gyda’r sefydliad drwyddo draw.
Mae deiliad y swydd hon yn aelod pwysig hefyd o’r Uwch Dîm Rheoli, felly mae sgiliau arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gydweithio ar draws y sefydliad yn hollbwysig. Mae hyn yn debygol o gynnwys arwain mentrau traws-sefydliad yn ogystal â helpu i arwain y sefydliad cyfan a gweithio gyda’n Bwrdd a Grŵp Strategaeth Cymru.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn Fuddsoddwr mewn Pobl (arian) ac mae’n ymfalchïo yn hynny. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad staff, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth mewnol ac allanol. Rydym yn cynnwys staff wrth wneud penderfyniadau mewn llawer o wahanol ffyrdd, yn ogystal â nifer o fentrau sy’n cael eu harwain gan staff sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant yn y gwaith.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gyflogwr cefnogol a hyblyg. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i’n staff, a byddwn yn ystyried trefniadau gweithio rhan-amser a hyblyg, gan gynnwys gweithio gartref.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth, y rhain yw sylfaen ein gwerthoedd a’n cenhadaeth sefydliadol, ac rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau gan bob grŵp sy’n cael eu tangynrychioli mewn cymdeithas.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnig buddiannau hael gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniad o 18% gan y cyflogwr, hawl hael i 25 diwrnod o wyliau (sy’n cynyddu i 27 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), yn ogystal ag 8 gŵyl y banc a 6 diwrnod braint (gan gynnwys cau dros y Nadolig) y flwyddyn. Rydym yn cynnal adolygiad blynyddol o gyflogau, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer cynnydd cyflog a bonws.
Cyflog
💰 £55,000 – £70,000
Lleoliad
📍 Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaethau Llywodraethu ym Mhrifysgol Bangor yn awyddus i benodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ar sail barhaol, llawn amser a fydd yn gweithio fel rhan o dîm y Gwasanaethau Llywodraethu. Mae hon yn swydd uwch arweinydd sy'n darparu cyngor cyfreithiol i'r Brifysgol a'i his-gwmnïau a rheoli cyfarwyddiadau i gynghorwyr cyfreithiol allanol y Brifysgol. Gan weithio'n agos gyda Gwasanaethau Proffesiynol eraill, yn enwedig y Gwasanaeth Cymorth Effaith ac Ymchwil Integredig (IRIS), byddai deiliad y swydd yn rheoli tîm o arbenigwyr contractau ac arbenigwyr cydymffurfio cyfreithiol.
Bydd y swydd cyfreithiwr masnachol fewnol hon yn gweld deiliad y swydd yn ymdrin ag amrywiaeth ddiddorol o waith, gan gynnwys contractau masnachol, materion myfyrwyr, eiddo a llywodraethu ar gyfer y Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn chwilio am gyfreithiwr masnachol sefydledig sy'n gallu darparu cyngor cyflawn. Mae sefydlu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid allweddol yn y Brifysgol yn ogystal ag ymgynghorwyr allanol yn hanfodol, ac mae peth profiad o weithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch yn ddymunol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Gyfreithiwr cymwysedig yng Nghymru a Lloegr gyda thystysgrif ymarfer gyfredol gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, gydag o leiaf 4/5 mlynedd brofiad PQE. Bydd gan ddeiliad y rôl brofiad o ddarparu cyngor arbenigol ar ystod o faterion. Bydd yn ddarparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol effeithlon a phragmatig, sy'n seiliedig ar risg, i'r Pwyllgor Gweithredu, uwch reolwyr a staff ar draws y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain a datblygu’r maes gwasanaethau cyfreithiol gan sicrhau bod partneriaethau cryf yn cael eu sefydlu a’u cynnal gyda Cholegau ac adrannau Gwasanaethau Proffesiynol, a chreu cysylltiadau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol. Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyfarwyddo ymgynghorwyr cyfreithiol allanol fel y bo'n briodol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted ag sydd yn rhesymol bosib. Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy fframwaith Gweithio Deinamig y brifysgol, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu swydd.
I gael manylion pellach a sgwrs anffurfiol am y swydd, anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu â Gwenan Hine, Dirprwy Ysgrifennydd a Phennaeth y Gwasanaethau Llywodraethu, (01248 382413, [email protected])
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865
Dyddiad cau ceisiadau: 4 Hydref 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £53,353 - £61,82
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Reolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai ac yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, siopau ac unedau preswyl. Ers ein sefydlu, rydym wedi arwain ar ddatblygiad nifer o brosiectau amgylcheddol yn cynnwys datblygiad cynllun hydro Ynni Ogwen a datblygiad prosiectDyffryn Gwyrdd i atal tlodi trwy weithredu amgylcheddol. Mae tîm Dyffryn Gwyrdd yn cefnogi Pantri Pesda sy’n gynllun rhannu bwyd yn lleol a chynlluniau cludiant cymunedol sy’n atal tlodi trafnidiaeth.
Rydym wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd i sefydlu Hwb Cymunedol fydd yn darparu cefnogaeth i drigolion Dyffryn Ogwen. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n dod a nifer o bartneriaid cymunedol a strategol ynghyd i gynorthwyo’n cymunedaui fyw eu bywyd gorau posib.Bydd Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn:
1. Darparu gwasanaethau i wella a grymuso iechyd, llesiant a chymuned ein ardal
2. Creu gofodau cymunedol diogel a chynnes i drigolion Dyffryn Ogwen fanteisio ar wasanaethau yn eu cynefin
3. Cyd-weithio gyda Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid strategol eraill i ddarparu gwasanaethau, cyngor a chefnogaeth ar faterion o bwys i drigolion Dyffryn Ogwen
4. Creu cyfleoedd ar gyfer grymuso cymunedol trwy ddod â’n cymuned at ei gilydd i gydweithredu er lles cymunedol acamgylcheddol
5. Atal Unigedd Gwledig a chynyddu cyfranogiad a mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli cymunedol acamgylcheddol.
6. Lleihau effeithiau tlodi trafnidiaeth trwy gydweithio gyda chynllun cludiant cymunedol trydan Partneriaeth Ogwen.
7. Lleihau effeithiau tlodi tanwydd a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni trwy weithio mewn partneriaeth gyda Prosiect Sero Net Gwynedd a chyrff eraill i addysgu a hyrwyddo dulliau arbed ynni yn ein cymuned.
Bydd Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn cael ei redeg o adeiladau cymunedol Partneriaeth Ogwen a bydd y Rheolwr yn cydweithio’n agos gyda Rheolwr Dyffryn Gwyrdd, tim rheoli Partneriaeth Ogwen,Prif Swyddog y Bartneriaeth a staff craidd eraill Partneriaeth Ogwen.Bydd yr Rheolwr yn gweithio’n agos gyda asiantaethau sy’n darparu cymorth i’r cyhoedd.
Rydym yn awr yn chwilio am Reolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen fydd yn gyfrifol am redeg Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen er mwyn gwella iechyd, llesiant a chymuned yn Nyffryn Ogwen.
Oriau Gwaith
Cyflogir y Rheolwr 37 o oriau’r wythnos.
Lleoliad Swydd
Canolfan Dyffryn Gwyrdd, 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE.
Prif Ddyletswyddau
Bydd Rheolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth o adeiladau Partneriaeth Ogwen fydd yn darparu cymorth a chefnogaeth o’r radd flaenaf i drigolion Dyffryn Ogwen ym maesydd iechyd, llesiant a chymuned. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys;
1. Rheoli’r holl weithgareddau yn, ac yn gysylltiedig gyda Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwen.
2. Cydweithio gyda Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen a thîm y Dyffryn Gwyrdd er mwyn cynnwys gymaint o’r gymuned a sydd bosib yng ngwaith yr Hwb.
3. Sicrhau cyfartaledd a hygyrchedd gwasanaethau’r Hwb o fewn y grwp targed/trigolion Dyffryn Ogwen.
4. Cydweithio gyda asiantaethau a grwpiau perthnasol i sicrhau ystod eang o wasanaethau yn yr Hwb i gyfarfod anghenion trigolion Dyffryn Ogwen.
5. Goruchwylio a chefnogi datblygiad gwasanaethau newydd yn yr Hwb ee cymorth ar fynediad i waith, budd-daliadau, rheoli dyled etc.
6. Cyd-weithio gyda Hybiau Cymunedol yng Ngwynedd a thu hwnt i efelychu eu llwyddiant a rhannu arfer da o Ddyffryn Ogwen.
7. Hyrwyddo a marchnata cyfleoedd a gwaith yr Hwb drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy gyfryngau traddodiadol.
8. Mynychu cyfarfodydd llywio misol gyda Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd i adrodd ar gynnydd y prosiect.
9. Rheoli a chofnodi perfformiad yr Hwb, monitro ac adrodd ar ddatblygiadau a darparu adroddiadau i’r partneriaid a Phwyllgor Rheoli Partneriaeth Ogwen.
10. Delio yn gwrtais gyda ymholiadau gan aelodau o’r gymuned sy’n ymweld â Hwb y Dyffryn Gwyrddgan helpu i’w cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth neu gynlluniau a allai fod o gymorth iddynt.
11. Sicrhau fod bas-data eang a diogel o holl fuddiolwyr y gwaith yn cael ei gadw a’i ddiweddaru yn reolaidd a chyson yn unol â gofynion GDPR.
12. Mynychucyfarfodyddtîm Dyffryn Gwyrdd a Partneriaeth Ogwen yn ôl y galw a chyfrannu’n adeiladol i waith y sefydliad. Mynychu unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn lleol a rhanbarthol sy’n berthnasol i ofynion y swydd.Cydweithio â gweddill y tîm a staff Partneriaeth Ogwen i ddatblygu cyfleoedd newydd.
13. CynrychioliPartneriaeth Ogwen mewn cyfarfodydd neu bwyllgorau sydd yn berthnasol i waith y sefydliad.
14. Cynorthwyo gyda unrhyw ofynion eraill yn ymwneud â gwaith Phartneriaeth Ogwen yn ôl y galw.
15. Cefnogi staff a gwirfoddolwyr Pantri Pesda i leihau tlodi bwyd yn yr ardal a chefnogi Cydlynydd Pantri Pesda gyda chynlluniau atal tlodi bwyd. **Nodweddion Personol a Sgiliau Angenrheidiol **
Nodir y nodweddion personol gofynnol yn y Fanyleb Person ond byddwn yn chwilio am berson sydd â phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a pherson sydd efo’r argyhoeddiad a’r awydd i weithredu er budd yr amgylchedd a’n cymuned.
**Cefnogaeth Weinyddol **
Darperir offer cyfrifiadurol addas i alluogi’r swyddog i weithredu gofynion y swydd yn llawn. Rheolwr Gweinyddol Partneriaeth Ogwen yn cynorthwyo gyda goruchwylio gwariant yr Hwb. Atebolrwydd a Rheoli Staff
Bydd Rheolwr Hwb Cymunedol Dyffryn Ogwenyn atebol i Brif Swyddog Partneriaeth Ogwen a bydd yn rheoli Cydlynydd Pantri Pesda.
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 Bethesda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Asesu Sgiliau Cymraeg
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gydlynydd Asesu Sgiliau Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Cydlynydd Asesu Sgiliau Cymraeg i ymuno â ni ar sail llawn amser, cyfnod penodol o 12 mis, yn gweithio am 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL -
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n cynllunio a monitro pob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg i oedolion – o lunio cyrsiau ac adnoddau i hyfforddiant tiwtoriaid, ymchwil a data, marchnata a chyfathrebu.
Erfyn Diagnostig y Ganolfan yw’r Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg. Nod y Gwiriwr yw darparu diagnostig cynhwysfawr, hawdd i’w ddefnyddio, er mwyn rhoi dangosydd o lefel Cymraeg cyfredol. Bydd y Gwiriwr yn galluogi dysgwyr i ddeall eu lefel Cymraeg cyfredol, gan ganiatáu iddynt chwilio am gwrs Dysgu Cymraeg ar y lefel gywir. Mae’r Gwiriwr hefyd yn galluogi cyflogwyr i gael trosolwg cywir o’u gweithlu yn nhermau eu sgiliau Cymraeg, a all eu cynorthwyo wrth adnabod anghenion hyfforddi.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)
- Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn a fel rhan o dîm
- Dealltwriaeth o egwyddorion dysgu iaith
- Gwybodaeth am y CEFR a Chwricwlwm Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion
- Profiad o asesu a dadansoddi cyrhaeddiad ar gyfer y pedair sgìl iaith
- Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau TG da gan gynnwys defnyddio pecynnau MS
- Y gallu i gyflawni gwaith yn annibynnol, yn erbyn terfynau amser tynn
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd gyda’r gallu i argyhoeddi a dwyn perswâd
- Barod a gallu deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
Cymhwyster neu hyfforddiant benodol mewn rheoli prosiectau
Profiad o:
- weithio yn y sector Dysgu Cymraeg,
- ddarparu cyngor ar ddysgu Cymraeg,
- ddarparu hyfforddiant a/neu gefnogaeth o fewn maes cysylltiol,
- ddefnyddio dadansoddiadau data i wneud newidiadau
- BUDDION –
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Cydlynydd Asesu Sgiliau Cymraeg, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 7 Hydref 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £32,348 - £36,386
Lleoliad
📍 Campws Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant Dyffryn Gwyrdd
Partneriaeth Ogwen
Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Gydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant Dyffryn Gwyrdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai ac yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, siopau ac unedau preswyl. Ers ein sefydlu, rydym wedi arwain ar ddatblygiad nifer o brosiectau amgylcheddol yn cynnwys datblygiad cynllun hydro Ynni Ogwen a datblygiad Canolfan Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda.
Ariennir prosiect y Dyffryn Gwyrdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n dod a nifer o bartneriaid cymunedol a strategol ynghyd i daclo tlodi gwledig trwy weithredu amgylcheddol arloesol. Mae prosiect y Dyffryn Gwyrdd yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:
· Atal tlodi trafnidiaeth trwy gynllun cludiant cymunedol trydan a datblygu cynllun beiciau trydan cymunedol.
· Atal Unigedd Gwledig a chynyddu cyfranogiad a mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol.
· Grymuso Cymunedol trwy ddod â’n cymuned at ei gilydd i gydweithredu er lles amgylcheddol a chymunedol.
· Atal tlodi tanwydd a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni trwy addysgu a hyrwyddo dulliau arbed ynni yn ein cymuned.
· Atal tlodi bwyd trwy gynllun rhannu bwyd cymunedol Pantri Pesda.
Bydd prosiect y Dyffryn Gwyrdd yn cael ei redeg o ganolfan Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda a bydd tîm o weithwyr yn cydweithio’n agos gyda Prif Swyddog a staff craidd eraill Partneriaeth Ogwen i wireddu’r cynllun.
Rydym yn awr yn chwilio am Gydlynydd Gwirfoddolwyra Llesiant fydd yn cydweithio â mudiadau amgylcheddol yr ardal i ddatlbygu ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol sy’n dod a buddion lles ac amgylcheddol ac yn atal tlodi yn ein cymuned.
Oriau Gwaith
Cyflogir y Cydlynydd 37 o oriau’r wythnos.
Lleoliad Swydd
Canolfan Dyffryn Gwyrdd, 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE.
Prif Ddyletswyddau
Bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd gwirfoddolia datblygu prosiectau sy’n gwella iechyd a lles ein cymuned mewn partneriaeth â thîm Dyffryn Gwyrdd a Grwp Llywio’r Dyffryn Gwyrdd. Bydd y dyletswyddau yn cynnwys:
1. Cydweithio gyda staff y prosiect a Grwp Llywio’r Dyffryn Gwyrdd i adnabod cyfleon gwirfoddoli sy’n dod a buddion lles ac amgylchedd i’n cymuned a sefydlu rhaglen o weithgareddau prescripsiynau cymdeithasol mewn cydweithrediaid a mudiadau a sefydliadau eraill yn lleol.
2. Datblygu cysylltiadau a phartneriaethau newydd i greu rhaglen o gyfleoedd gwirfoddoli a gweithgareddau amgylcheddol sy’n hybu llesiant ac sy’n taclo tlodi ac unigedd gwledig (yn cynnwys tlodi trafnidiaeth, tlodi bwyd, a thlodi tanwydd).
3. Cydweithio gyda asiantaethau a grwpiau perthnasol yn lleol i adnabod unigolion a grwpiau fyddai’n elwa o gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol a/neu gyngor ar faterion tlodi trafnidiaeth neu dlodi tanwydd.
4. Cydlynu gweithdrefnau ac asesiadau risg i ddiogelu gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â phrosiectau Dyffryn Gwyrdd.
5. Arwain ar ymgyrch recriwtio gyrrwyr gwirfoddol i’r car trydan cymunedol a chefnogi’r gwirfoddolwyr hynny.
6. Arwain ar ymgyrch recriwtio gwirfoddolwyr i ddatblygu gerddi’r Bartneriaeth a mannau gwyrdd eraill yn ein cymuned.
7. Datblygu cyfres o ddigwyddiadau llesiant traws genhedlaeth yn Nyffryn Ogwen.
8. Delio yn gwrtais gyda ymholiadau gan aelodau o’r gymuned sy’n ymweld â Hwb y Dyffryn Gwyrddgan helpu i’w cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth neu gynlluniau a allai fod o gymorth iddynt.
9. Sicrhau fod bas-data eang a diogel o holl fuddiolwyr y gwaith yn cael ei gadw a’i ddiweddaru yn reolaidd a chyson yn unol â gofynion GDPR.
10. Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli yn lleol trwy gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau traddodiadol megis y papur bro a Radio Cymru.
11. Mynychu cyfarfodydd tîm Dyffryn Gwyrdd a Partneriaeth Ogwen yn ôl y galw a chyfrannu’n adeiladol i waith y sefydliad. Mynychu unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn lleol a rhanbarthol sy’n berthnasol i ofynion y swydd.Cydweithio â gweddill y tîm a staff Partneriaeth Ogwen i ddatblygu cyfleoedd newydd.
12. CynrychioliPartneriaeth Ogwen a phrosiect Dyffryn Gwyrdd mewn cyfarfodydd neu bwyllgorau sydd yn berthnasol i waith prosiect Dyffryn Gwyrdd.
13. Cynorthwyo gyda unrhyw ofynion eraill yn ymwneud â gwaith prosiect Dyffryn Gwyrdd a Phartneriaeth Ogwen yn ôl y galw.
**Nodweddion Personol a Sgiliau Angenrheidiol **
Nodir y nodweddion personol gofynnol yn y Fanyleb Person ond byddwn yn chwilio am berson sydd â phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a pherson sydd efo’r argyhoeddiad a’r awydd i weithredu er budd yr amgylchedd a’n cymuned.
**Cefnogaeth Weinyddol **
Darperir offer cyfrifiadurol addas i alluogi’r swyddog i weithredu gofynion y swydd yn llawn. Bydd Gweinyddwr Rhan Amser yn cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y prosiect a bydd Rheolwr Gweinyddol Partneriaeth Ogwen yn cynorthwyo gyda goruchwylio gwariant y prosiect.
**Atebolrwydd **
Bydd y Cydlynydd Gwirfoddoli yn atebol i Reolwr Prosiect Dyffryn Gwyrdd.
Cyflog
💰 £23,088 pro rata
Lleoliad
📍 Bethesda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Reolwr Prosiectau Cefnogi Economi Leol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai. Mae’r Bartneriaeth yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Canolfan Cefnfaes, siopau ac unedau preswyl. Mae’r Bartneriaeth hefyd yn datblygu prosiectau adfywio cymunedol ac amgylcheddol ac mae ystod ein gwaith yn eang – o ddatblygu cynlluniau cludiant cymunedol, cynlluniau atal tlodi a chynlluniau i gefnogi’r economi leol.
Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect profiadol i ymuno a thîm rheoli’r Bartneriaeth i ddatblygu prosiectau sy’n cefnogi’r economi sylfaenol, cylchol a lleol yn ein cymuned. Bydd y prosiectau hyn yn cynnwys –
- Datblygu cynlluniau i gefnogi’r economi fwyd a diod yn Nyffryn Ogwen
- Datblygu defnydd o adnoddau cymunedol newydd Canolfan Cefnfaes yn cynnwys y cyfleusterau cydweithio (co-working a Gofod Gwneud a Thrwsio)
- Cefnogi datblygiad Siop Ogwen
Bydd y Rheolwr yn gweithio o swyddfeydd y Bartneriaeth a Chanolfan Cefnfaes Bethesda. Oriau Gwaith
Cyflogir y Rheolwr Prosiectau am 15 awr yr wythnos.
Lleoliad Swydd
Swyddfa Partneriaeth Ogwen, 26- 27 Stryd Fawr a Chanolfan Cefnfaes Bethesda.
Prif Ddyletswyddau
Bwyd a Diod
1. Arwain datblgiadau sy’n cefnogi’r economi fwyd a diod yn Nyffryn Ogwen gyda ffocws ar ddatblygu hwb bwyd Cadwyn Ogwen yn Llaethdy Gwyn, Bethesda.
2. Sefydlu a goruchwylio trefn staffio i hwb bwyd Cadwyn Ogwen yn Llaethdy Gwyn a systemau effeithiol i redeg siop o’r safle a sefydlu digwyddiadau i farchnata cynnyrch lleol yn Nyffryn Ogwen.
3. Rheoli staff a gwirfoddolwyr Cadwyn Ogwen a darparu cefnogaeth.
4. Ymgeisio am grantiau i ddatblygu cynllun Cadwyn Ogwen, cefnogi’r gadwyn gyflenwi leol a helpu i feithrin busnesau bwyd a diod newydd yn Nyffryn Ogwen.
5. Gweithio gyda busnesau bwyd a diod ac asiantaethau cefnogi perthnasol i helpu’r sector bwyd a diod i dyfu yn lleol.
Cefnfaes
1. Arwain ar hyrwyddo defnydd o ofod cymunedol Canolfan Cefnfaes gan gydweithio gyda staff prosiect perthnasol Partneriaeth Ogwen.
2. Datblygu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau yng Nghanolfan Cefnfaes.
3. Mewn cydweithrediad a thîm gweinyddol Partneriaeth Ogwen, sicrhau systemau cynnal a chadw a llogi i Ganolfan Cefnfaes.
4. Sefydlu gofod cyd-weithio (co-working) yn un o ystafelloedd Canolfan Cefnfaes gan arwain ar farchnata a hyrwyddo’r adnodd newydd.
5. Arwain ar hyrwyddo cyfleusterau Gofod Gwneud a thrwsio gan greu cysylltiadau gyda rhwydweithiau o ddefnyddwyr newydd gan hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd lleol.
6. Cydweithio efo crefftwyr lleol a’u helpu i ddatblygu cynnyrch i’w werthu yn Siop Ogwen ac ar blatfform Cadwyn Ogwen.
7. Paratoi ceisiadau grant perthnasol i ddatblygu Canolfan Cefnfaes.
Prosiectau Eraill
Adnabod ffynonellau cyllid ac ymgeisio am grantiau ar gyfer prosiectau sy’n datblygu a chefnogi’r economi leol.
Cyffredinol
1. Cefnogi’r Prif Swyddog a staff eraill Partneriaeth Ogwen gyda gweithredu prosiectau Partneriaeth Ogwen.
2. Rheoli staff a gwirfoddolwyr yn deg ac effeithiol.
3. Ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu prosiectau.
4. Goruchwylio gwariant a gweinyddiaeth grantiau perthnasol gyda chefnogaeth Tîm Gweinyddol Partneriaeth Ogwen.
5. Paratoi adroddiadau cynnydd er sylw’r Prif Swyddog a/neu gyllidwyr yn ôl y galw.
**Nodweddion Personol a Sgiliau Angenrheidiol **
Nodir y nodweddion personol gofynnol yn y Fanyleb Person ond byddwn yn chwilio am berson gyda sgiliau a phrofiad o reoli prosiectau a phrofiad o baratoi ceisiadau grant. Byddwn yn chwilio am unigolyn sy’n gallu gweithio’n annibynnol i ddatblygu prosiectau ond sy’n gwneud hynny mewn cydweithrediad â staff Partneriaeth Ogwen a holl randdeiliaid allweddol Dyffryn Ogwen.
**Cefnogaeth Weinyddol **
Darperir offer cyfrifiadurol addas i alluogi’r swyddog i weithredu gofynion y swydd yn llawn. Mae rhywfaint o gefnogaeth weinyddol ar gyfer agweddau o’r swydd yn cynnwys amser gofalwr eiddo a swyddog eiddo Partneriaeth Ogwen.
**Staffio ac Atebolrwydd **
Bydd y Rheolwr yn atebol i Brif Swyddog Partneriaeth Ogwen ac yn aelod o dîm rheolwyr Partneriaeth Ogwen. Bydd y Rheolwr yn reolwr llinell ar Gydlynydd Cadwyn Ogwen.
Cyflog
💰 £30,000 pro rata
Lleoliad
📍 Bethesda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Y Pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol – Aelodau Annibynnol
Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Y Pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol – Aelodau Annibynnol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (Cyngor y Celfyddydau) yn cydnabod taw ei staff yw ei ased pwysicaf. Mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol i’w gynorthwyo i gyflawni ei gyfrifoldebau mewn perthynas â staff, ac yn benodol ar faterion recriwtio, cadw a rheoli staff; am dâl ac amodau gwasanaeth wrth ddiwallu anghenion llywodraethu’r Cyngor a’r Swyddog Cyfrifo ar gyfer y sefydliad; ac er mwyn sicrhau ei fod yn cyfrannu’n effeithiol at gyflawni nod strategol ac anghenion busnes y Cyngor.
Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol hefyd am bennu a monitro targedau perfformiad blynyddol y Prif Weithredwr, ac am gyflwyno argymhellion i’r Cyngor am gydnabyddiaeth ariannol flynyddol y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd yn amodol ar gyfyngiadau a sêl bendith Llywodraeth Cymru. Mae manylion pellach am ein gwaith yn y maes yma, gan gynnwys Cylch Gorchwyl llawn y Pwyllgor, ar ein gwefan.
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn fel rheol, er y gellir gofyn i aelodau fynychu cyfarfodydd ychwanegol os oes angen. Am resymau amgylcheddol, cynhelir y cyfarfodydd ar lein fel rheol. Cynhelir cyfarfodydd yn ystod oriau swyddfa arferol fel rheol. Nid oes tâl am gyflawni’r rôl, ond telir costau teithio a chynhaliaeth rhesymol.
Amdanoch chi
Mae diddordeb gennym glywed gennych os:
- ydych chi’n gweithio ym maes AD neu â chefndir ym maes AD
- ydych chi’n gweithio ym maes y gyfraith gyflogaeth neu â chefndir yn y maes gwaith yma
- oes gennych brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus a’ch bod yn deall y materion sy’n wynebu sefydliadau’r sector cyhoeddus
- oes gennych brofiad o ddatblygu a chyflawni cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- oes gennych brofiad o weithio mewn lleoliad dwyieithog
Byddai dealltwriaeth am fyd celfyddydol a diwylliannol unigryw Cymru’n fanteisiol.
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at y ddogfen ‘Y Pwyllgor AD a Chydnabyddiaeth Ariannol - Gwybodaeth Bellach’.
Sut i ymgeisio
I ymgeisio, dylid cyflwyno CV a llythyr esboniadol byr (dim mwy na dwy ochr A4) sy’n ymdrin â gofynion y rôl, ynghyd â manylion cyswllt dau eiriolwr a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. I gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel ar ffurf nodyn llais neu fideo Iaith Arwyddion Prydeinig, cysylltwch â ni am gyfarwyddiadau.
Anfonwch eich cais erbyn 12:00pm (canol dydd) ar ddydd Mercher, 12 Hydref 2022.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n gyflogwr cynhwysol sydd am adlewyrchu’r cymunedau amrywiol a wasanaethwn. Anogir ceisiadau gan bobl o amrywiaeth o ddiwylliannau a chefndiroedd ethnig a grwpiau a dangynrychiolir, ac fe’u croesewir yn wresog. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg a byddwn ni’n gohebu â chi yn iaith eich dewis. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn cael eu dethol ar gyfer swyddi’n llwyr seiliedig ar eu haddasrwydd ar gyfer y rôl.
Cyflog
💰 Costau teithio a chynhaliaeth rhesymol
Lleoliad
📍 Ar-lein
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Undeb Rygbi Cymru yn edrych am Reolwr Datblygu’r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Grŵp URC am glywed gennych os oes gyda chi’r angerdd, yr egni a’r weledigaeth i helpu llunio ac arwain ar ddatblygu a gweithredu strategaeth iaith a diwylliant newydd.
Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr brwdfrydig ar draws y busnes i hyrwyddo gwerth a manteision cynyddu defnydd y Gymraeg a hyrwyddo diwylliant Cymreig i rygbi Cymru.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 30 Medi 2022.
Bydd cyfweliadau yn dechrau yr wythnos o 17 Hydref 2022
Cyflog
💰 £30,000 – £35,000
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae CFfI Cymru yn edrych am Brif Weithredwr C.Ff.I Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle unigryw i arwain un o fudiadau gorau ieuenctid cefn gwlad Cymru.
Mewn cydweithrediad a’r Bwrdd Rheoli, mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am ddatblygiad strategol Mudiad CFfI Cymru, gan gynnwys datblygu statws a phroffil y CFfI yng Nghymru drwyddi draw trwy gefnogi’r aelodau a gweithio mewn partneriaeth ag unigolion a sefydliadau allweddol.
Mae’r Prif Weithredwr hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod amrywiaeth o raglenni a mentrau cyfoes yn cael eu darparu yn unol ag anghenion a dyhead yr aelodau, a bod hynny yn digwydd mewn modd ymgysylltiol ac effeithiol. Mae rheolaeth ariannol gadarn, ynghyd ag arweiniad a datblygiad tîm o staff canolog hefyd yn gyfrifoldebau allweddol y swydd.
Dylid cyflwyno C.V a llythyr eglurhaol yn tynnu sylw at eich diddordeb yn y rôl i CFfI Cymru, [email protected] erbyn Dydd Llun, 26 Medi am 12.00yp fan bellaf.
Cyflog: £40,000 – £45,000
Lleoliad: Llanelwedd gyda’r hyblygrwydd o weithio gartref
Cyfweliadau: 4 Hydref 2022
Disgrifiad Swydd llawn ar y wefan.
Cyflog
💰 £40,000 - £45,000
Lleoliad
📍 Llanelwedd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn edrych am Uwch Swyddog Cynllunio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cynllunio i ymuno â ni yn barhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £27,801-£33,727 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad
- 22 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau cyhoeddus a dau ddiwrnod statudol ychwanegol
- Cynllun pensiwn
Y Rôl
Fel Uwch Swyddog Cynllunio, byddwch yn goruchwylio ceisiadau cynllunio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Byddwch yn cynnal archwiliadau safle ac yn cyflwyno adroddiadau i'r Pwyllgor Cynllunio, yn monitro perfformiad sefydliadol, yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ac yn negodi gydag ymgeiswyr.
Yn ogystal ag ymchwilio i achosion o dorri rheolau cynllunio, byddwch yn paratoi ar gyfer apeliadau ac ymchwiliadau cyhoeddus ar ein rhan ac yn eu mynychu.
Yn ogystal, byddwch yn
- Cydgysylltu ag awdurdodau priodol ynghylch ceisiadau “ymylol” a chynlluniau priffyrdd
- Mynychu cyfarfodydd Cyngor Cymuned a grwpiau sefydliadol/addysgol eraill
- Prosesu hysbysiadau ar gyfer adeiladau fferm a choedwigaeth, ffyrdd ac ardaloedd cadwraeth
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Uwch Swyddog Cynllunio, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cymhwyster mewn Cynllunio Gwlad a Thref neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth polisi cynllunio
- Y gallu i drefnu cyfarfodydd gyda gwaith dilynol priodol
- Profiad teipio a chronfa ddata cyflym, hyfedr a chywir
Byddai aelodaeth o'r RTPI o fudd i'ch cais, yn ogystal â bod yn gyfarwydd ag Arfarniadau Cynaliadwyedd.
Byddai trwydded yrru lawn, ddilys yn fanteisiol, yn ogystal â pheth gwybodaeth o’r Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Medi 2022.
Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Swyddog Cynllunio Gwlad a Thref, Cynlluniwr, Swyddog Cynllunio, Cydymaith Cynllunio, Uwch Gynlluniwr, Swyddog Polisi Cynllunio, Swyddog Cynllunio’r Parc Cenedlaethol, neu Swyddog Cynllunio Gwledig.
Felly, os ydych chi’n barod i gamu i rôl newydd fel Uwch Swyddog Cynllunio, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £27,801 - £33,727
Lleoliad
📍 Aberhonddu
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol i ymuno a’i dîm AD bach ond prysur. Mae’r Swyddog AD yn cefnogi gweithgareddau AD Cyngor y Celfyddydau trwy gynorthwyo’r Pennaeth AD i gyflawni amcanion strategol allweddol. Mae rôl y Swyddog AD yn amrywiol ac yn cynnwys gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau AD mewnol ac allanol, cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau a mentrau AD, arwain ar ymgyrchoedd penodol recriwtio a phenodi, a chynhyrchu data ac adroddiadau ar gyfer ystod o Bwyllgorau mewnol.
Amdanoch chi
Rydych yn gymwys hyd at lefel 5 CIPD neu mae gennych brofiad proffesiynol perthnasol mewn rôl AD o fewn tîm AD prysur, gyda dealltwriaeth dda o brosesau a gweithdrefnau AD. Rydych yn deall deddfwriaeth cyflogaeth, mae gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac mae gennych ymwybyddiaeth o’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chefnogi staff mewn perthynas â materion cyfrinachol a sensitif. Rydych hefyd yn deall yn drylwyr gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac wedi ymrwymo iddynt.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd) dydd Mercher, 28 Medi 2022
Cyfweliadau: Dydd Iau, 13 Hydref 2022
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd cyflenwi gwasanaethau – y Gymraeg
Cyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Arweinydd cyflenwi gwasanaethau – y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg a fydd yn gweithio’n hybrid ac o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, am gyfran o’u hamser a gartref.
Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y Cyngor ac i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.
Yn y rôl hon:
Byddwch yn darparu cyrsiau a chyrsiau hyfforddiant a chyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg ac yn y Gymraeg, i staff mewnol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gan gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion a chydweithwyr Tîm Cyfieithu Cymraeg y Cyngor (Caerdydd Ddwyieithog) i sicrhau bod yr hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion pob maes gwasanaeth ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu'n gywir Safonau'r Gymraeg a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.
Bydd cyfran o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n rhithiol fodd bynnag bydd angen cyflwyno rhai cyrsiau ar y safle yn Neuadd y Ddinas. Byddwch yn cael y ddyfais/offer gofynnol i alluogi gweithio gartref.
Nodiadau Ychwanegol – Oriau gwaith safonol 9:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener fodd bynnag bydd angen hyblygrwydd pan fo angen gweithio y tu allan i'r oriau hyn.
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Coleg Gwent
Mae Coleg Gwent yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Byddwch yn darparu cefnogaeth unigol a grŵp bach i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn eu galluogi i gwblhau rhai o'u hastudiaethau yn Gymraeg, ar gyrsiau, chwaraeon a gofal anifeliaid.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Byddwch hefyd yn datblygu adnoddau dwyieithog; gan gynnwys termau technegol dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr astudiaethau galwedigaethol.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl,.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £23,337 - £25,311
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gweithgareddau Cymraeg - Campws Pont-y-cymer
Coleg Gwent
Mae Coleg Gwent yn edrych am Gydlynydd Gweithgareddau Cymraeg - Campws Pont-y-cymer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelod brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Rhan o'ch rôl fydd cynllunio ac arwain ar weithgareddau allgyrsiol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr Addysg Bellach ar draws pob campws.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £23,337 - £25,311
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol - Castell Penrhyn
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymunedol - Castell Penrhyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Am gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Penrhyn, ac am rôl bwysig yn ein portffolio; rôl a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n dyfodol. Yn gyfrifol am hyrwyddo gwirfoddoli a chreu cyfleoedd i gyd-greu gyda chymunedau, byddwch yn gweithio gydag eraill i gyflwyno cyfleoedd cyfranogi perthnasol a chyffrous.
Bydd y rôl yn ceisio rhannu stori lawn Penrhyn ac yn dygymod â gwirionedd hanes sy’n seiliedig ar ecsbloetiaeth ddynol yn Jamaica, yn ogystal ag yma ar garreg y drws y castell ym Methesda.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog, a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho gyda’ch CV. Ar gyfer y swydd hon mae angen cymhwysedd Gwrando a Deall, Siarad, Darllen ac Ysgrifennu ar o leiaf lefel 3-4. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg wneud cais, a gellir darparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau Cymraeg.
Dylech hefyd gynnwys llythyr eglurhaol yn nodi pam eich bod yn gwneud cais a pha sgiliau unigryw y credwch y gallwch eu cyflwyno i'r rôl.
Dyddiadau cyfweld: 22 a 23 Medi. Sut brofiad yw gweithio yma?
Wrth gyflwyno profiad yr ymwelwyr, byddwch yn ymuno â thîm gweithredol brwdfrydig ac ymroddgar o staff a gwirfoddolwyr, yn gweithio ochr yn ochr â thîm arwain yr eiddo.
Mae Penrhyn yn dŷ Fictoraidd wedi'i guddio fel castell neo-Sioraidd anferth ger Bangor, gyda gardd restredig Gradd II ffurfiol, a thir parc gyda golygfeydd anhygoel o Eryri ac arfordir gogledd Cymru. Mae'n lle cymhleth; mae ymdeimlad hwyliog, rhydd a thawel yr ardd yn gyferbyniad llwyr i'r cefndir gothig o orthrwm ac ecsbloetiaeth sydd wedi talu am fawredd a godidowgrwydd Fictoraidd ar raddfa mor eang.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cynllun strategol y portffolio hwn ar gyfer gwirfoddoli a chymunedau, ochr yn ochr â thîm arwain yr eiddo. Yn rheoli ac ymgorffori newid wrth ehangu ac ymestyn ein perthynas â chynulleidfaoedd hen a newydd. Cydweithio â phartneriaid er mwyn rhannu stori lawn Castell Penrhyn mewn modd gonest ac agored, wrth ddygymod â'r hyn yr oedd yn ei gynrychioli ar un adeg, a'i effaith a'i ddylanwad, yn lleol ac yn fyd-eang. Ynghyd â'n rheolwyr gwirfoddolwyr, byddwch yn gyfrifol am greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer ein gwirfoddolwyr a chymunedau, wrth gadw amcan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bod Croeso i Bawb, yn y cof. Byddwch hefyd yn magu hyder a gallu eraill wrth gyd-greu amgylchedd cydweithredol, hyblyg a chynhwysol ar gyfer partneriaid, cymunedau a gwirfoddolwyr hen a newydd.
Am bwy ydym yn chwilio?
Rhywun sy'n meddu ar y canlynol:
- dealltwriaeth o arfer da mewn perthynas â chyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol, yn ogystal â gwaith partner a chyfranogiad ehangach
- y gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol o fewn cymuned
- dealltwriaeth o arfer da o safbwynt rheoli gwirfoddolwyr
- profiad llwyddiannus ac ymarferol o ddatblygu a gweithredu agweddau a chynnyrch newydd sy'n ymwneud â gwirfoddoli
- sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol
- y gallu i hyfforddi a chefnogi rheolwyr gwirfoddolwyr
- sgiliau cyfathrebu cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Y Pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £25,662
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn cael llwyddiant wrth godi arian? Os felly, dewch i ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor yn y swydd newydd gyffrous hon fel Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Mae hwn yn gyfle i godwr arian proffesiynol profiadol ymuno â’n tîm sy’n gyfrifol am roddion dyngarol mawr, a cheisio rhoddion gan ymddiriedolaethau a sefydliadau sy’n rhoi grantiau a hybu ein cysylltiadau â 100,000 o gyn-fyfyrwyr ledled y byd. Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig a dawnus sydd â hanes o lwyddiant mewn cysylltiadau gyda rhoddwyr a rhanddeiliaid i arwain ar gynnydd mewn incwm dyngarol a chysylltiadau â chyn-fyfyrwyr.
Sefydlwyd y brifysgol ym 1884 gyda rhoddion gan chwarelwyr gogledd Cymru, ac mae gan y brifysgol hanes cyfoethog i ddeiliad y swydd fanteisio arno. Gyda chynlluniau i ddatblygu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac un o’r grwpiau mwyaf o wyddonwyr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig, mae hwn yn gyfle gwych i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud gwahaniaeth mewn prifysgol a roddwyd yn y 30 uchaf am effaith gymdeithasol ac economaidd ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf. Byddwch yn cael bod yn rhan o’r cyffro o helpu i lunio strategaeth godi arian newydd a chyfle i ddatblygu eich profiad codi arian proffesiynol a'ch gyrfa ar yr un pryd â chael boddhad personol wrth gyfrannu at ddatblygiadau cymdeithasol a gwyddonol trwy weithio gyda'n cymuned ymchwil.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc cysylltiedig, neu fod â phrofiad sylweddol mewn meysydd perthnasol.
Mae hon yn swydd barhaol, lawn-amser a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Medi 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £53,353 - £61,823
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Cyngor Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn edrych am Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â’n tîm cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu i’n helpu i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata arloesol a chreadigol gan hyrwyddo gwasanaethau allweddol a ddarperir gan y cyngor. Gan weithio gyda thîm blaenllaw o arbenigwyr cyfathrebu, a chyda’u cefnogaeth, byddwch yn dod â sgiliau creadigol, digidol a marchnata ynghyd i’n helpu i hyrwyddo prosiectau a gwasanaethau’n effeithiol i’r cyhoedd. Rydym yn chwilio am rywun na fydd ofn rhoi cynnig ar dechnegau newydd o fewn tîm cefnogol sydd yn annog dysgu a newid. Rhywun a fydd yn gwthio’r ffiniau gydag egni.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Sian Owen ar 01824 706125.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.
Dyddiad Cau: 22 Medi 2022
Cyflog
💰 £27,514 - £30,095
Lleoliad
📍 O gartref, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol yn edrych am Gatalydd Mentrau-Micro Cymunedol (Rhondda)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n gefnogol o'ch cymuned?
Yn dda am wneud cysylltiadau?
Mae'r Cwmni Buddiannau Cymunedol Community Catalysts yn fenter gymdeithasol brysur sy'n ymdrechu'n galed i adlewyrchu ei enw. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda ac rydym angen person egnïol a llawn dychymyg i gydlynu pethau i ni.
Catalydd Mentrau-Micro Cymunedol
Cyflog £32,960 y flwyddyn
37.5 awr yr wythnos
Contract tymor penodol o 2 flynedd
Byddwch yn arwain Prosiect Mentrau-Micro Cymunedol Rhondda fydd yn cefnogi pobl entrepreneuraidd lleol a sefydliadau lleol i gynnig dewisiadau gofal a chymorth newydd a chreadigol i bobl sydd angen cymorth yn y cartref neu yn eu cymunedau. Fel hyn byddwn yn helpu pobl i gael y gefnogaeth maent ei hangen i fyw'r bywyd maent ei eisiau.
I wneud hyn rhaid i chi:
· Ddeall y byd gofal - ond efallai eich bod yn teimlo ei fod angen ychydig o weddnewidiad!
· Gallu ymwneud yn rhwydd â phobl - gallu gweithio'n dda gyda phob math o bobl yn hyderus.
· Gwneud cysylltiadau'n reddfol - ac ymuno'r dotiau sydd weithiau'n llai amlwg.
· Gallu gweld cryfderau pobl a'u meithrin.
Edrychwch ar ein gwefan a'r swydd-ddisgrifiad a manylion y person i gael mwy o wybodaeth amdanom ni a'r swydd. Byddwch yn cael eich cyflogi gan Community Catalysts ac wedi eich lleoli yn ardal Rhondda.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â: Jill Wighton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Busnes, drwy ddefnyddio'r manylion cysylltu uchod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar 14 Medi 2022 a bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal yng Aberdâr ar 21 Medi 2022. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £32,960
Lleoliad
📍 Rhondda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Darllenwch fwy amdanom ni yma
Am Y Swydd
Bydd y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cynorthwyol yn cynorthwyo i gyflawni strategaeth farchnata gyffredinol Rhentu Doeth Cymru er mwyn sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yng Nghymru yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Gan weithio'n agos gyda'r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, bydd y rôl hon yn cynnwys datblygu cyfathrebiadau a marchnata, cynllunio a chyflawni effeithiol, yn ogystal â chynnal perthnasoedd gwaith da â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant i gefnogi ymgyrchoedd a phrosiectau Rhentu Doeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a chyflawni prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau rheolaeth dros enw da’r brand.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2+ mlynedd) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol Yn siaradwr Cymraeg Rhugl (i Lefel Uwch 4)
Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol.
Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio a geir o fewn y Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator (dymunol)
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar newid i'r sector rhentu preifat yng Nghymru; gan weithio'n agos gyda phartneriaid o lywodraeth leol ar draws 22 o awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, landlordiaid a sefydliadau asiantau a chwmnïau hyfforddi i sicrhau ei lwyddiant.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch gyda Rhiannon Williams - [email protected].
Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg hyd at Lefel 4 - Uwch.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Rhiannon Williams - [email protected].
Cyflog
💰 £25,927 - £30,095
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Menter a Busnes
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd Yn ei hanfod, mae clwstwr yn cael ei arwain gan y busnesau lle mae grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu yn yr un sector ac mewn ardaloedd sy’n agos i’w gilydd yn ddaearyddol yn gweld bod ganddynt yr un math o gyfleoedd a phroblemau. Mae’r ffocws ar gynyddu gallu cystadleuol cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu a thyfu, a bydd aelodau o grŵp clwstwr yn dod ynghyd i gydweithio ar brosiect penodol. Mae’r prosiectau y maent yn gweithio arnynt yn amrywiol, o ymdrin â phroblemau sy’n bodoli o fewn y busnes sy’n effeithio ar dyfiant neu allu cystadleuol, i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a chynyddu’r marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli. Mae Menter a Busnes wedi bod yn defnyddio’r fethodoleg glystyru ers 2015 fel cynllun peilot mewn partneriaeth ag Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi’r Clwstwr Bwydydd Da a Bwyd Môr. **Nod y Rôl **
Nod y rôl hon yw cefnogi Rheolwr y Clwstwr i:
● sicrhau bod prosiectau’r clwstwr yn cael eu gweithredu o fewn yr amser gofynnol ac o fewn y gyllideb
● cynllunio digwyddiadau a gweithdai, gan sicrhau eu bod yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol a bod digonedd o bobl o’r gynulleidfa darged yn dod iddynt
● gwneud gwaith ymchwil sylfaenol i’r farchnad ac ymateb i ymholiadau busnes cyffredinol
● sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â systemau a pholisïau prosiect perthnasol
● rhyngweithio a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth Prif Gyfrifoldebau
● Sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu hateb ar sail dealltwriaeth glir o anghenion busnesau
● Ymdrin ag ymholiadau o nifer o ffynonellau yn cynnwys buddiolwyr presennol a newydd, rhanddeiliaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, prynwyr a rhaglenni/sefydliadau cefnogi busnes eraill
● Gweithio’n agos â Rheolwr y Clwstwr i ganfod, sefydlu, adolygu/aildrefnu amseriadau darparu prosiectau unigol y Clwstwr, a chadw ffocws y darparwyr cefnogaeth ar ganlyniadau’r ymyriad. Gall y rhain gynnwys cefnogaeth a brynwyd yn allanol a chefnogaeth y sector cyhoeddus a phreifat
● Cefnogi dyheadau cwmnïau bwyd a diod ynghylch tyfiant drwy ddatblygu dealltwriaeth o elfennau allweddol cynllun tyfu’r busnes yn arbennig mewn datblygu masnach a busnes
● Darparu gwybodaeth ragorol am y tirlun cefnogi busnes lleol/rhanbarthol - yn cynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a thrydydd sector/sector preifat
● Trefnu gweithdai a digwyddiadau yn ôl yr angen gan gynnwys mynychu rhai lle bo angen a gwneud gwaith dilynol wedyn
● Gweithio’n agos â’r Swyddog Marchnata i ddarparu cynnwys wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwefan y prosiect a sianelau cyfryngau cymdeithasol
● Casglu tystiolaeth o foddhad y cleient yn unol â’n System Rheoli Ansawdd
● Monitro cynnydd yn fanwl gywir yn erbyn deilliannau ansoddol a meintiol, darparu adroddiad am gynnydd i’r Rheolwr Clwstwr
● Sicrhau cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth ddiogelu data briodol
● Cadw cofnodion yn effeithiol mewn fframwaith y cytunwyd arno i fodloni gofynion ariannu Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd y cynnyrch
● Mynd i gyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect fel y bo’r gofyn **Ymchwilio a Monitro ** ** ** ● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth y cleient.
● Mewnbynnu data’n gywir
● Monitro, adolygu ac adrodd yn gywir am weithgareddau prosiect, a sicrhau bod unrhyw waith a brynir gan gontractwyr trydydd parti’n cael eu cwblhau a’u hanfonebu’n brydlon
● Dadansoddi llwyddiant y prosiect i gyflawni ei dargedau drwy sicrhau bod y data’n gyfredol
● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr drwy fynd i gyfarfodydd gyda chleientiaid fel y bo’r gofyn i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
● Sicrhau bod systemau CRM a rheoli’r prosiect yn cael eu cynnal ac yn gyfredol, effeithiol ac yn cydymffurfio gyda gofynion yr Archwiliad perthnasol
● Cysylltu â chleientiaid, darparwyr allanol a phartneriaid i gydlynu gweithgareddau/digwyddiadau
● Casglu a darparu cefnogaeth fusnes ranbarthol a gwybodaeth berthnasol gysylltiedig i gynnwys data lleol sy’n cynnwys argaeledd cyllido preifat a chyhoeddus **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd mewn perthynas ag ansawdd, gwasanaeth y cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’r gofyn
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’r gofyn Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, a/neu brofiad gwaith y gellir dangos tystiolaeth ohono mewn maes perthnasol
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb yn wyneb, ar yr e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad da o’r sector amaeth / gwledig / bwyd yng Nghymru
● Profiad o drefnu arddangosiadau a digwyddiadau
● Gallu asesu a deall yn glir anghenion busnesau, eu cefnogaeth a’u gofynion mentora
● Deall cyfrifon cwmnïau a chynlluniau busnes
● Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau rhagorol ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o bobl a allai ddod yn fuddiolwyr i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partner
● Person hunanysgogol a rhagweithiol, yn derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau ac amcanion, gan ystyried anghenion y cwsmer
● Gallu gweithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm
● Gallu dadansoddi a defnyddio tystiolaeth; meddwl yn ddargyfeiriol, mynegi manteision ac anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau
● Profiad o weithio tuag at dargedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu rhagorol, yn cynnwys sgiliau cyflwyno, llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau Technoleg Gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Cronfeydd Data, E-bost a’r We
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio (noder: os lleolir yn un o swyddfeydd eraill Menter a Busnes, disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio i swyddfa Meifod o leiaf un diwrnod yr wythnos yn ystod y chwe mis cyntaf)
● Ar gael i weithio yn ystod y penwythnosau a gyda’r nos yn achlysurol **Manteisiol **
● Profiad o weithredu ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata
● Profiad o reoli prosiectau **Gwneud Cais **
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd yma, cysylltwch â Jayne Jones ar 07957 191 887. Cyfweliadau Bydd y cyfweliadau ar gyfer y swydd yn cymryd lle yn rithiol ar ddydd Iau, 15 Medi 2022. Os na fydd y dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00 yb, Dydd Llun, 12 Medi 2022. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan os gwelwch yn dda i ddarllen ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych am Gydlynydd Marchnata Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyfrannu at weithredu a gwerthuso prosiectau marchnata cymdeithasol cenedlaethol integredig, gyda'r bwriad o hyrwyddo ymddygiadau iach ymhlith y cyhoedd yng Nghymru.
Mae'r rôl yn gyfle cyffrous i fod yn gyfrannwr gweithgar o fewn maes pwnc pwysig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant grwpiau poblogaeth ledled Cymru.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol ym maes marchnata, hysbysebu neu gyfathrebu gyda phrofiad o weithredu ymgyrchoedd a chreu cynnwys atyniadol sydd â'r nod o hyrwyddo effaith gadarnhaol. Bydd gennych brofiad o weithio ar draws amrywiaeth o sianeli a phlatfformau digidol.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol megis Tîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Timau Iechyd Cyhoeddus Lleol, Byrddau Iechyd, y trydydd sector ac wrth gwrs, y cyhoedd.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i weithio o fewn strwythur staff pwrpasol ar gyfer dulliau gwaith systemau ac amlasiantaethol o ran gwella iechyd. Mae’r Is-adran yn rhoi pwyslais mawr ar ymarfer, ymchwil a gwerthuso sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â chymhwyso gwyddor ymddygiad.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig am gyfnod penodol o 2 flynedd.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweler y Swydd Ddisgrifiad am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Atodir isod y Disgrifiad Swydd/Manyleb Person fel ffeil PDF.
Rydym yn eich cynghori i arbed y Swydd Ddisgrifiad a’r Manyleb Person i’ch cyfrifiadur, neu go-bach, gan unwaith y bydd y swydd yn cau, bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg neu yn Saesneg pob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Cyflog
💰 £30,095 - £33,486
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Cymorth Grantiau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad:
1. Cefnogi’r gwaith o gynllunio, rheoli a chyflawni cynlluniau grant adfywio / cymorth busnes / buddsoddi yn effeithiol.
2. Cynorthwyo i baratoi a chynnal dogfennau priodol i gefnogi’r broses grantiau.
3. Cynorthwyo i gydlynu ffrydiau gwaith, cynlluniau, dibyniaethau, effeithiau a rhyngwynebau yn ddyddiol.
4. Datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith effeithiol, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid niferus (mewnol ac allanol).
5. Sicrhau bod llywodraethiant, systemau rheoli, prosesau a dulliau cydnabyddedig yn cael eu cymhwyso i gynlluniau grant (un unol â gweithdrefnau’r Cyngor).
6. Cynorthwyo i gofnodi data grantiau gan sicrhau ei fod yn cael ei gofnodi a’i adrodd yn gywir.
7. Ymgymryd â thasgau yn unol â chyfarwyddyd y prif swyddog ar gyfer y grant hwnnw.
8. Sicrhau cydweithio effeithiol â chydweithwyr yn y gwasanaeth Cyllid sy’n gyfrifol am drefnu taliadau grant a materion trethi busnes.
9. Datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith effeithiol â swyddogion perthnasol eraill yn CSYM ac mewn sefydliadau eraill megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Busnes Cymru.
10. Cefnogi’r gwaith o gynllunio a gwireddu portffolio o grantiau ar amser ac yn unol â’r gyllideb.
11. Cynorthwyo gyda’r gwaith o dderbyn, ystyried ac ymateb i ymholiadau grantiau busnes.
12. Cynorthwyo i gynnal cofnodion a dogfennau cysylltiedig i sicrhau bod yr holl bolisïau, protocolau a gofynion Archwilio yn y dyfodol yn cael eu bodloni.
13. Cynorthwyo i ddarparu a gweithredu cyfathrebiadau a gweithgareddau cyhoeddusrwydd yn effeithiol (defnyddio dulliau traddodiadol ac arferion modern trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol).
14. Sicrhau bod grantiau’n cael eu rheoli a’u dyfarnu yn unol â meini prawf grant Llywodraeth Cymru a’r rheoliadau ar gyfer y cynllun hwnnw.
15. Dirprwyo ar gyfer y rheolwr llinell neu uwch swyddogion eraill y fel bo'r angen.
16. Efallai y bydd gofyn i ddeilydd y swydd gyflawni unrhyw gyfrifioldebau eraill fel sy'n gydnaws â natur y swydd a'i graddfa.
Cyflog
💰 £20,043 - £21,269
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!